Mater - penderfyniadau

18/11/2024 - Application No C24/0385/18/AC Rhes Fictoria Stryd Fawr, Deiniolen, Gwynedd, LL55 3LT

PENDERFYNWYD: Caniatáu’r cais yn ddarostyngedig i’r amodau canlynol :-

1.         Cyfnod dechrau’r gwaith.

2.         Cyflwyno materion a gadwyd yn ôl.

3.         Deunyddiau a gorffeniadau (gan gynnwys llechi naturiol i’r toeau).

4.         Mynediad a pharcio.

5.         Tirweddu a thirlunio.

6.         Tynnu hawliau a ganiateir oddi ar y tai fforddiadwy.

7.         Amodau Dwr Cymru sy’n ymwneud a diogelu’r carthffosydd.

8.         Amodau Cyfoeth Naturiol Cymru parthed draenio tir a dŵr wyneb.

9.         Diweddaru’r amodau parthed mesuriadau lliniaru'r asesiad ecolegol.

10.       Cytuno manylion enwau Cymraeg ar gyfer y datblygiad ynghyd ac arwyddion sy'n hysbysu ac yn hyrwyddo 'r datblygiad

11.       Cyfyngu’r defnydd i anheddau o fewn dosbarth defnydd C3

 

Nodiadau: Angen cyflwyno cais system ddraenio gynaliadwy i’w gytuno gyda’r Cyngor.