Mater - penderfyniadau

12/12/2024 - Notice of Motion by Councillor Rhys Tudur

 

O ystyried

-       Bod Llywodraeth Cymru wedi gwneud ymgynghoriad ar amrywio Treth Trafodion Tir

-       Y byddai amrywio’r dreth yn rhoi’r cyfle i’r Cyngor daclo’r gyfradd y prynir ail dai yn effeithiol

-       Y byddai amrywio’r dreth yn agor y drws i’r Cyngor hwn bwyso ar y Llywodraeth i roi ei siâr theg o’r refeniw sy’n deillio o dreth tir

Mae’r Cyngor hwn yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi mwy o rôl i Wynedd fedru penderfynu ar amrywiaethau ar gyfer Treth Trafodion Tir.