1.
Cymeradwyo’r Achos Busnes Terfynol ar
gyfer prosiect Cydnerth sy’n ddarostyngedig i Fenter Môn Morlais Ltd yn mynd
i’r afael â’r materion sydd angen gweithredu arnynt a nodir yn yr adroddiad.
2.
Awdurdodi’r Cyfarwyddwr Portffolio mewn
ymgynghoriad â’r Cadeirydd, Is-gadeirydd, Swyddog Adran 151 a’r Swyddog Monitro
i gytuno ac ymrwymo i gytundeb cyllido gyda Menter Môn Morlais Ltd er mwyn
cyflawni’r prosiect.
3.
Nodi bod y model cyllido arfaethedig ar
gyfer y prosiect yn fenthyciad masnachol 100% ac yn cymeradwyo bod y llog o’r
benthyciad, unwaith y bydd cost taliadau benthyca ar gyfer yr elfen benthyciad
wedi’i dalu, yn cael ei ddyrannu i gronfa wrth gefn i’w defnyddio i gyllido’r
Swyddfa Rheoli Portffolio yn y blynyddoedd i ddod.
4.
Gofyn am adroddiad diweddariad ar gynnydd
y prosiect ymhen 6 mis gyda manylion pellach am ffioedd, cyllidebau ac
amserlenni.