Mater - penderfyniadau
- Cytuno i’r cais am
newid ar gyfer y prosiect Canolbwynt Economi Wledig Glynllifon ac yn
ddarostyngedig i’r materion sy’n weddill, gofyn i Grŵp Llandrillo
Menai ymgymryd â’r gweithgaredd angenrheidiol i gyflwyno’r achosion busnes
perthnasol i’w hystyried.
- Cadarnhau y bydd sgôp
diwygiedig y prosiect yn cael ei gyflawni o fewn y dyraniad cyllid
presennol ar gyfer y prosiect ac na fydd unrhyw gyllid pellach ar gyfer y
prosiect yn cael ei ddarparu o’r Cynllun Twf o ganlyniad i’r newid hwn.
- Cefnogi’r egwyddor o
ystyried prosiect ar wahân yn y dyfodol ar gyfer cyflawni’r deoryddion a
gofyn i’r Swyddfa Rheoli Portffolio barhau i drafod gyda phartïon sydd â
diddordeb i archwilio’r opsiwn hwn.