Mater - penderfyniadau

01/05/2025 - Notice of Motion by Councillor Gwynfor Owen

 

Mae gwasanaethau cyhoeddus Cymru yn wynebu colled o hyd at £65m oherwydd y cynnydd i yswiriant gwladol a gyhoeddwyd gan y llywodraeth Lafur yn San Steffan.

 

Unwaith eto, bydd Cynghorau Cymru yn gweld colled llwyr wrth i’r llywodraeth ddefnyddio’r fformiwla Barnett i benderfynu faint o arian sy’n cael ei roi i wledydd datganoledig. Mae’r fformiwla Barnett yn seiliedig ar faint y boblogaeth yn hytrach nag angen.

 

Mae’n annheg na fydd gwasanaethau cyhoeddus Cymru yn derbyn yr arian llawn am y cynnydd. Mae hyn yn enghraifft arall o sut mae Cymru dan anfantais llwyr o ganlyniad I lywodraeth Lafur yn y Senedd yng Nghymru ac yn San Steffan.

 

Gan ein bod yn parhau i ddisgwyl am fanylion gan y ddwy lywodraeth nid oes modd cyfrifo union ffigwr ar hyn o bryd, ond mae Cyngor Gwynedd yn debygol o fod ar eu colled mewn swm oddeutu £1m, sy’n swm rydym wedi gorfod ei throsglwyddo i’n trethdalwyr.

 

Mae Cyngor Gwynedd yn galw felly ar Lywodraeth Cymru i fynnu ffodd decach o ariannu ein gwlad gan eu penaethiaid yn Llundain.