PENDERFYNIAD:
·
Nodi a derbyn Cyfrif Incwm a
Gwariant Refeniw Cydbwyllgor GwE am y flwyddyn 2024/25, sef sefyllfa o
orwariant o £523,065, sydd i’w gyllido drwy gyfraniadau gan yr awdurdodau.
·
Cymeradwyo trosglwyddiadau ariannol
o £221,310 o’r gronfa tanwariant, a £312,547 o’r gronfa Athrawon Newydd
Gymhwyso (ANG) i leihau gorwariant GwE yn 2024/25.
·
Cymeradwyo sefyllfa ariannol
derfynol 2024/25, fydd yn sail i’r datganiadau ariannol statudol GwE am y
flwyddyn. Fydd yn cael eu cynhyrchu, eu hardystio a’u cyhoeddi gan yr Adran
Gyllid yr awdurdod lletya o fewn yr amserlen statudol.