Mater - penderfyniadau

05/12/2025 - ALBERT GUBAY BUSINESS SCHOOL, BANGOR UNIVERSITY, OUTLINE BUSINESS CASE

Cymeradwywyd Achos Busnes Amlinellol (OBC) ar gyfer Ysgol Fusnes Albert Gubay yn amodol ar gymeradwyaeth Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i'r broses sicrwydd a

gynhaliwyd, a bod Prifysgol Bangor yn mynd i'r afael â'r materion a nodir yn yr adroddiad, fel y disgrifir yn Adran 7, ac yn gofyn i Achos Busnes Llawn gael ei baratoi i'r Is-bwyllgor ei ystyried.

 

Awdurdodi’r Cyfarwyddwr Portffolio mewn ymgynghoriad â'r Cadeirydd, yr Is-gadeirydd, y Swyddog Adran 151 a'r Swyddog Monitro i gytuno ar delerau drafft yn unol â'r adroddiad hwn fel sail i'r trefniadau ariannu terfynol i’r prosiect gael eu hymrwymo yn amodol ar gymeradwyo'r Achos Busnes Llawn.

 

Cadarnhau fod  cymeradwyaeth yr Is-bwyllgor yn ddilys am gyfnod o chwe mis ac os na fydd y prosiect yn mynd ymlaen i Achos Busnes Llawn gymeradwy yn ystod y cyfnod hwn, bydd gofyn dychwelyd a chynrychioli'r achos busnes i'r Is-bwyllgor i'w gymeradwyo