Mater - penderfyniadau

05/12/2025 - PADESWOOD RAIL ENHANCEMENT PROJECT - OUTLINE BUSINESS CASE

Cymeradwyo’r Achos Busnes Amlinellol ar gyfer Padeswood yn amodol ar gymeradwyaeth Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i’r broses sicrwydd a gynhaliwyd, a bod Cyngor Trafnidiaeth Cymru yn mynd i’r afael â’r materion a nodwyd yn ystod y drafodaeth, a gofyn i Achos Busnes Lawn gael ei baratoi i’r Is-bwyllgor ei ystyried.

 

Awdurdodi’r Cyfarwyddwr Portffolio mewn ymgynghoriad â’r Cadeirydd, yr Is-gadeirydd, y Swyddog Adran 151 a’r Swyddog Monitro i gytuno ar delerau drafft yn unol â’r adroddiad hwn fel sail i’r trefniadau cyllido terfynol ar gyfer y prosiect yn amodol ar gymeradwyaeth Achos Busnes Llawn.

 

Cadarnhau bod cymeradwyaeth yr Is-bwyllgor yn ddilys am gyfnod o chwe mis ac os na fydd y prosiect yn sicrhau caniatâd cynllunio ac yn mynd ymlaen i Achos Busnes Lawn gymeradwy yn ystod y cyfnod hwn, bydd yn ofynnol iddo ddychwelyd ac ailgyflwyno’r achos busnes i’r Is-bwyllgor i’w gymeradwyo.