Mater - penderfyniadau

04/12/2025 - COUNCIL TAX: DISCRETIONARY POWERS TO ALLOW DISCOUNTS AND/OR RAISE A PREMIUM ON SECOND HOMES AND LONG-TERM EMPTY DWELLINGS

Cytunwyd ar gyfer blwyddyn ariannol 2026/27:

  • Fod Cyngor Gwynedd yn caniatáu DIM disgownt ar ail gartrefi dosbarth A, yn unol ag Adran 12 o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 (h.y. dim newid).
  • Fod Cyngor Gwynedd yn caniatáu DIM disgownt ac yn CODI PREMIWM O 150% ar ail gartrefi dosbarth B, yn unol ag Adran 12B o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 (h.y. dim newid).
  • Fod Cyngor Gwynedd yn caniatáu DIM disgownt i gartrefi sydd wedi bod yn wag am 6 mis neu fwy ac yn CODI PREMIWM O 150% ar gartrefi sydd wedi bod yn wag am 12 mis neu fwy, yn unol ag Adran 12A o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 (h.y. yn cynyddu’r premiwm o 100% i 150%).