Ystyriwyd cynnwys yr adroddiad ar ganlyniad yr ymgynghoriad
statudol (Adroddiad Ymgynghori) ar y cynnig i gau Ysgol Baladeulyn ar 31
Rhagfyr 2026 a darparu lle i ddysgwyr yn Ysgol Talysarn o 1 Ionawr 2027 ymlaen,
a chymeradwywyd cyhoeddi hysbysiad statudol ar y cynnig, yn unol â gofynion
Adran 48 o Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013.