PENDERFYNIAD:
Dirprwyo pwerau i Bennaeth yr Adran Amgylchedd i gymeradwyo'r cais, gydag
amodau. Noder nad yw Amod 1 o ganiatâd cynllunio C12/0495/36/MW, sy'n gofyn i'r
datblygiad gychwyn ymhen pum mlynedd, yn berthnasol mwyach gan fod y datblygiad
wedi cychwyn eisoes.
- Daw'r gwaith o echdynnu gwastraff a'r
gweithrediadau ategol i ben erbyn
31/12/2030. Adfer y safle erbyn 31/12/2031
- Yn unol â'r cynlluniau a gymeradwywyd.
- Cynnal a chadw’r ffordd fynediad.
- Dim mwy na 100,000 tunnell o ddeunydd y
flwyddyn yn cael ei waredu o'r safle ar gyfradd gyfartalog o ddim mwy na
14 llwyth y dydd.
- Plannu llwyni a choed cyn echdynnu yng
Ngham 4.
- Cynnal a chadw’r llwyni a'r coed a
blannwyd (amod 5).
- Rhybudd ysgrifenedig ymlaen llaw;
cychwyn datblygiad, baeau pasio, gwaith draenio, strip pridd, gwaredu'r
gorlwythiad, echdynnu mwynau, adfer.
- Yn unol â'r manylion a'r cynlluniau
cymeradwy.
- Marcio ffin yr ardal echdynnu.
- Adfer ac ôl-ofal yn unol â'r manylion
cymeradwy.
- Cyfyngiad ar Rannau 19 a 21 y GPDO.
- Oriau Gwaith.
- Adolygiad ffurfiol blynyddol o
weithrediadau.
- Cyfyngiadau Sŵn.
- Hysbysiad am waith dros dro a allai fod
yn uwch na'r cyfyngiadau sŵn.
- Monitro sŵn blynyddol.
- Gosod larymau bagio sŵn gwyn ar
offer symudol a cherbydau.
- Yr holl gerbydau, offer a pheiriannau
i'w gweithredu yn unol â manylebau'r gweithgynhyrchwr, ac wedi'u ffitio â
sgriniau lleihau sŵn priodol, ‘caseworks’, ‘silences’, ac ati.
- Rhoi dŵr ar yr ardaloedd lle mae
cerbydau'n gyrru drostynt, neu drin yr ardaloedd i atal llwch rhag dianc.
- System ddraenio dŵr yn unol â'r
cynlluniau cymeradwy.
- System ddraenio i gasglu a gwaredu'r
holl ddŵr sy'n mynd i mewn i'r safle neu sy'n codi ynddo.
- Olew, tanwydd, iraid, paent, sylweddau
neu unrhyw gemegolion eraill ar y safle i'w storio mewn ardal wedi'i
bwndio'n addas er mwyn atal halogiad.
- Arfarniad Effaith Hydrolegol i'w
gyflwyno os bydd dŵr daear yn codi.
- Cynnal arolwg o'r Rhywogaethau Ymledol
a'u trin.
- Gwaith yng Nghamau 3 a 4 i'w gynnal yn
unol â'r Fanyleb Archeolegol.
- Mynediad yn cael ei roi i archeolegwyr
i gynnal gwaith lliniaru a chofnodi archeolegol ac adroddiad ysgrifenedig
yn cael ei gyflwyno i'r Awdurdod Cynllunio.
- Ni fydd unrhyw offer neu gerbydau yn
croesi unrhyw ardal o dir heb ei stripio ac eithrio lle mae traffig o'r
fath yn hanfodol neu lle nad oes modd ei osgoi er mwyn ymgymryd â'r
gweithrediadau a ganiateir.
- Bydd yr holl uwchbridd ac isbridd y
deuir ar ei draws yn cael ei gadw yn unol â'r cynigion datblygu sy'n cael
eu disgrifio yn y manylion cymeradwy.
- Bydd yr holl lystyfiant, uwchbridd ac
isbridd sy'n cael ei stripio o bob cam gwaith ac ardaloedd wedi'u
heffeithio gan waith echdynnu, ardaloedd storio, gwaith adeiladu, lleiniau
caled ac adeiladwaith arall yn cynnwys ffyrdd mynediad a llwybrau cludo
cerbydau dros dro, yn cael eu storio yn yr ardaloedd sy'n cael eu
clustnodi ar gyfer y diben hwnnw, fydd wedi'u cytuno yn ysgrifenedig
ymlaen llaw gan yr Awdurdod Cynllunio Mwynau.
- Bydd yr holl uwchbridd ac isbridd sydd
wedi'i stripio a'i storio yn unol â'r amod uchod yn cael ei ddefnyddio yn
y gwaith o adfer ac ni fydd deunyddiau o'r fath yn cael eu gwaredu o'r
safle heb ganiatâd ysgrifenedig ymlaen llaw gan yr Awdurdod Cynllunio Mwynau.
- Bydd yr uwchbriddoedd yn cael eu cadw
mewn sypiau storio, ddim uwch na 2m, gyda'r isbridd a'r gorlwythiadau wedi
hynny yn cael eu cadw mewn sypiau storio ar wahân ac yn cael eu cadw rhag
cymysgu.
- Bydd yr Awdurdod Cynllunio Mwynau yn
derbyn o leiaf 48 awr o rybudd ysgrifenedig o'r dyddiad pan fo unrhyw
weithrediadau stripio pridd am gychwyn ar unrhyw ran o'r tir o fewn ardal
y caniatâd. Ni fydd y pridd yn cael ei symud oni bai ei fod mewn cyflwr sych
a brau a phan fo amodau'r ddaear yn sych.
- Bydd y sypiau storio uwchbridd ac
isbridd a'r rhannau hynny o'r safle lle nad yw uwchbridd ac isbridd yn
cael ei stripio yn cael eu cadw'n rhydd o chwyn / llystyfiant sy'n
cystadlu a bydd pob cam angenrheidiol yn cael ei gymryd i ddinistrio chwyn
ar gam cynnar o'u tyfiant fel nad ydynt yn hadu.
- Bydd yr holl ffiniau caeau newydd ar
ffurf waliau cerrig sych a chloddiau pridd wedi'u creu o ddeunyddiau sy'n
tarddu neu wedi'u hadfer o'r ffiniau caeau presennol yn Llecheiddior Uchaf
a Llecheiddior Ganol.
- Gweithredir mesurau osgoi rhesymol wrth
ddymchwel ffiniau caeau a waliau cerrig er mwyn sicrhau bod ymlusgiaid yn
cael eu gwarchod.
- Dim ond gwastraff mwynau sy'n codi o'r
gwaith echdynnu yn Llecheiddior, yn cynnwys deunydd wedi'i gludo a'i
broses yn Chwarel Bryncir dan ganiatâd cynllunio C09D/0375/36/LL, fydd yn
cael ei ddyddodi yn y safle er dibenion adfer. Ni fydd unrhyw ysbwriel, gwastraff
cyffredinol neu ddeunyddiau gwastraff anadweithiol o ffynonellau allanol
yn cael eu cludo i'r safle. Gellir defnyddio priddoedd neu ddeunyddiau
sy'n ffurfio priddoedd er dibenion adfer yn unig, a dim ond lle mae eu
haddasrwydd fel cyfrwng tyfu wedi'i gytuno yn ysgrifenedig ymlaen llaw gan
yr Awdurdod Cynllunio Lleol. Ni fydd cyfanswm cyfaint y deunydd a
ddyddodir yn fwy na'r hyn sydd ei angen i gyflawni'r amlinellau adfer
cymeradwy. Bydd y gweithredwr yn cynnal cofnod manwl o'r holl wastraff
mwynau a deunydd pridd wedi'i gludo i'r safle neu oddi yno, yn cynnwys ei
darddiad, lleoliad, cyfaint a phwrpas. Bydd crynodeb o'r cofnodion hyn yn cael
ei gyflwyno i'r Awdurdod Cynllunio Lleol bob chwe mis, neu ar unrhyw
amlder sy'n cael ei gytuno yn ysgrifenedig gan yr Awdurdod.
- Oni bai y cytunir yn ysgrifenedig fel
arall, o leiaf 3 mis cyn y bwriad i amnewid priddoedd ar unrhyw ran o'r
ardal i'w hadfer i ôl-ddefnydd amaethyddol, bydd y gweithredwr yn cyflwyno
er cymeradwyaeth yr Awdurdod Cynllunio Mwynau, gynllun yn dangos yr amlinelliad
terfynol i'w cyflawni yn y cynllun adfer.
- Bydd cynnydd a hyd yn oed ail wasgaru’r
gorlwythiad yn cael ei wneud yn ystod cyfnod y gwaith mwynau.
- Pe byddai'r gwaith echdynnu mwynau yn
dod i ben yn gynnar ar unrhyw gam o'r datblygiad, bydd cynllun diwygiedig
ar gyfer adfer y safle yn cael ei gyflwyno i'w gymeradwyo gan yr Awdurdod
Cynllunio Mwynau i gynnwys cynllun yn dangos yr amlinelliad terfynol i'w
gyflawni yn y cynllun adfer.
- Ar ôl ffurfio'r tirffurf terfynol yr
amlinelliadau cymeradwy, bydd deunydd sylfaen y ddaear wreiddiol yn cael
ei rwygo yn gynhwysfawr i isafswm dyfnder o 50cm i dorri i fyny ar unrhyw
gywasgiad arwyneb cyn bod unrhyw ddeunydd pridd yn cael ei wasgaru.
- Bydd y deunydd pridd (uwchbridd ac
isbridd) sydd wedi'i glustnodi ar gyfer adfer amaethyddol yn cael ei
wasgaru yn unffurf ac yn y drefn gywir dros y deunydd sylfaen a bydd, lle
bo'r angen, wedi'i wreiddio a'i sgriffio i'r dyfnder llawn heb achosi
cymysgu rhwng haenau gwahanol o bridd. Bydd dyfnder pridd isaf o 280mm
(110mm o isbridd, 170mm o uwchbridd) uwchben y deunydd sylfaen yn cael ei
ddarparu dros yr holl ardaloedd.
- Bydd yr holl rwygo deunyddiau, gwasgaru
pridd a gweithrediadau amaethu yn cael eu gwneud yn y fath ddull er mwyn
isafu'r cywasgiad.
- Bydd unrhyw ran o'r safle sydd wedi'i
adfer er dibenion amaethyddol sy'n destun setlo lleol ac sy'n cael effaith
andwyol ar yr ôl-ddefnydd amaethyddol yn cael ei ail-raddio yn cynnwys
ail-adeiladu'r proffil pridd i'r fanyleb gymeradwy.
- Bydd y safle yn cael ei ddwyn i'r safon
ofynnol ar gyfer defnydd amaethyddol.
- Cyflwyno cynllun ôl-ofal.
- Dadansoddiad cemegol ar ôl amnewid yr
uwchbridd.
- Ail-gynnal y dadansoddiad cemegol yn y
flwyddyn gyntaf a'r pedwerydd blwyddyn o ôl-ofal.
- Bydd y tir yn cael ei reoli yn unol â
rheolau hwsmonaeth dda ac yn unol â'r canllawiau wedi'u hamlinellu yn
Atodlen B, Nodyn Cyngor Technegol Mwynau (Cymru) 1: Agregau.
- Ni chadwir unrhyw dda byw ar y tir oni
chytunir fel arall yn ysgrifenedig gan yr Awdurdod Cynllunio Mwynau.
- Bydd yr holl dir yn y safle sydd wedi'i
gloddio, wedi'i ddefnyddio i storio pridd neu ffyrdd neu sydd wedi'i
droedio gan offer trwm, yn cael ei ddarparu â chyflenwad dŵr a
chyfleusterau draenio tir digonol, yn cynnwys cyrsiau dŵr, ffosydd
caeau a system tan-ddraeniad wedi'i phibellu, os yw'n cael ei hystyried
gan yr Awdurdod Cynllunio Mwynau i fod yn hanfodol er mwyn adfer y safle
yn foddhaol.
- Sicrhau gorchudd ar
gefn loriau
Nodyn:
Sicrhau cytundeb
cynnal a chadw cyflwr ffyrdd