Cytuno i ymrwymo’r £6,317,640 o’r arian ddarparwyd i Gyngor
Gwynedd ei ddyrannu i brosiectau yn 2026/27, i’r 10 cynllun a restrir yn yr
adroddiad.
Dirprwyo’r hawl i’r Pennaeth Economi a Chymuned, mewn
ymgynghoriad â’r Pennaeth Gwasanaeth Cyfreithiol, Pennaeth Cyllid a’r Prif
Weithredwr, i gadarnhau manylion y cynlluniau a’r cyfraniad ariannol,
penderfynu ar ddarparu llythyr cynnig ac unrhyw ddogfennaeth arall ar gyfer
cytuno ariannu’r prosiectau.