PENDERFYNIAD: Gwrthod y cais
Rhesymau:
- Nid yw dyluniad modern
yr annedd arfaethedig, gyda’r balconi eang a’r drysau/ ffenestri gwydr ar
y drychiad blaen a chefn, yn parchu cymeriad tai cyfagos na’r hyn sydd yn
y cyffiniau a byddai’r nodweddion yn anghydnaws. Ni fyddai’r bwriad yn
ychwanegu at na gwella cymeriad ac ymddangosiad y safle na’r ardal. Nid
yw’r bwriad wedi rhoddi ystyriaeth lawn i’w gyd-destun hanesyddol ac
adeiledig a'i fod o ran ei osodiad, ymddangosiad, graddfa, uchder, mas a’r
driniaeth i’r drychiadau yn cynnwys nodweddion anghydweddol, dominyddol ac
estron nad ydynt yn parchu cyd-destun y strydwedd na’r safle. Ystyrir fod
y bwriad felly, yn groes i feini prawf 1, 2 a 3 o Bolisi PCYFF 3: Dylunio a siapio lle, Cynllun Datblygu
Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn (2011-2026).
- Oherwydd lleoliad,
maint ac uchder y balconi a blaen yr annedd arfaethedig sy’n wynebu’r
eiddo drws nesaf, ystyrir y byddai’r bwriad yn gor-edrych a chael effaith
ddominyddol a gormesol ac effaith andwyol ar fwynderau’r trigolion cyfagos
o ran sŵn ac aflonyddwch. Am y rheswm hwn, ystyrir fod y bwriad yn
groes i ofynion polisi PCYFF2 o'r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd
a Môn (2011-2026) sy’n ymwneud a diogelu mwynderau trigolion a’r ardal
leol.