Penderfyniadau

Defnyddiwch yr opsiynau chwilio isod ar waelod y dudalen i ddarganfod y gwybodaeth diweddaraf yng nghyswllt penderfyniadau Pwyllgorau'r Cyngor sydd yn gwneud penderfyniadau.

Neu fe allwch ymweld â tudalen penderfyniadau swyddogion i weld gwybodaeth yng nghyswllt penderfyniadau dirprwyedig swyddogion.

Cyhoeddwyd y penderfyniadau

14/09/2021 - CYNLLUN BUSNES I GEFNOGI'R OPSIWN O GYNGOR GWYNEDD YN PARHAU I REDEG AMGUEDDFA LLOYD GEORGE ref: 2045    Caniatawyd

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cabinet

Gwnaed yn y cyfarfod: 14/09/2021 - Y Cabinet

Cyhoeddwyd y penderfyniad: 14/09/2021

Effective from: 14/09/2021

Penderfyniad:

Cefnogwyd  y cynnig i wneud gwaith pellach i finiogi'r diffyg ariannol tebygol ac i wneud cais i Gyngor Gwynedd i asesu'r risgiau ynghlwm a’r cynllun busnes ac yn sgil hynny eu gallu i ymrwymo i gyfraniadau ariannol pellach i'r dyfodol.

 


13/09/2021 - CAIS AM DRWYDDED HACNI/HURIO PREIFAT ref: 2044    Caniatawyd

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Is-Bwyllgor Trwyddedu Cyffredinol

Gwnaed yn y cyfarfod: 13/09/2021 - Is-Bwyllgor Trwyddedu Cyffredinol

Cyhoeddwyd y penderfyniad: 13/09/2021

Effective from: 13/09/2021

Penderfyniad:

Gohirio penderfyniad ac aildrefnu i ddyddiad arall gan fod problemau technolegol yn parhau i’r graddau nad oedd yr ymgeisydd ar is-bwyllgor yn gallu cymryd rhan yn llawn.

 


07/09/2021 - PERFORMANCE REPORT OF THE CABINET MEMBER FOR THE ENVIRONMENT ref: 2041    Caniatawyd

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cabinet

Gwnaed yn y cyfarfod: 07/09/2021 - Y Cabinet

Cyhoeddwyd y penderfyniad: 07/09/2021

Effective from: 07/09/2021

Penderfyniad:

Nodi a derbyn y wybodaeth yn yr adroddiad.  


07/09/2021 - ADRODDIAD PERFFORMIAD AELOD CABINET DROS YR ADRAN BRIFFYRDD A BWRDEISTREFOL AC YMGYNGHORIAETH GWYNEDD ref: 2040    Caniatawyd

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cabinet

Gwnaed yn y cyfarfod: 07/09/2021 - Y Cabinet

Cyhoeddwyd y penderfyniad: 07/09/2021

Effective from: 07/09/2021

Penderfyniad:

Nodi a derbyn y wybodaeth yn yr adroddiad.  


07/09/2021 - FORWARD WORK PROGRAM ref: 2042    Caniatawyd

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cabinet

Gwnaed yn y cyfarfod: 07/09/2021 - Y Cabinet

Cyhoeddwyd y penderfyniad: 07/09/2021

Effective from: 07/09/2021

Penderfyniad:

Cymeradwywyd y Flaen raglen a gynhwyswyd yn y papurau i’r cyfarfod. 


06/09/2021 - Application No C20/1056/25/LL Ty Menai, Ffordd Penlan, Parc Menai, Bangor, Gwynedd, LL57 4HJ ref: 2039    Caniatawyd

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Cynllunio

Gwnaed yn y cyfarfod: 06/09/2021 - Pwyllgor Cynllunio

Cyhoeddwyd y penderfyniad: 06/09/2021

Effective from: 06/09/2021

Penderfyniad:

 

PENDERFYNIAD

 

Argymell fod yr apêl yn cael ei wrthod ar sail:-

 

  1. Mae’r bwriad yn groes i ofynion Polisi ISA3 o’r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn (2017) sy’n datgan dylid defnyddio’r prawf dilyniannol wrth bennu lleoliad datblygiadau addysg bellach ac uwch gyda blaenoriaeth yn gyntaf i safleoedd addysg bellach ac uwch bresennol neu, yn ail, i safleoedd a chanddynt gysylltiad agos gyda champws presennol. Ar y sail yma ni ystyrir fod y bwriad yn cydymffurfio gyda meini prawf 1 a 2 o Bolisi ISA3 o’r CDLL nac ychwaith gyda polisiau cenedlaethol ar sail gofynion y dogfennau ‘Cymru’r Dyfodol: Y Cynllun Cenedlaethol 2040 (2021)’ ac ‘Adeiladu Lleoedd Gwell: Y System Gynllunio yn Sicrhau Dyfodol Cydnerth a Mwy Disglair’ (Gorffennaf 2020).

 

  1. Mae’r bwriad arfaethedig yn groes i ofynion Polisi PS13 a CYF1 o’r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn (2017) sy’n datgan gwarchodir tir ac unedau ar safleoedd cyflogaeth presennol (mae Parc Menai wedi ei restru yn y Polisi) ar gyfer mentrau cyflogaeth/busnes.

 

  1. Mae'r bwriad yn groes i ofynion Polisi PCYF 5 Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn (2017) ynghyd a Chanllaw Cynllunio Atodol: Newid Defnydd Cyfleusterau a Gwasanaethau Cymunedol, Safleoedd Cyflogaeth ac Unedau Manwerthu (2021) sy'n datgan y bydd cynigion i ryddhau tir ar safleoedd cyflogaeth presennol a ddiogelir at ddefnydd Dosbarth B1, B2 neu B8 yn unol â Pholisi PCYF1 at ddefnydd amgen yn gael eu cymeradwyo mewn achosion arbennig yn unig. Yn seiliedig ar y wybodaeth a gyflwynwyd gyda'r cais (a'r rheswm ar wahân dros wrthod, yn seiliedig ar Bolisi ISA 3) nid yw'r Awdurdod Cynllunio Lleol yn ystyried fod amgylchiadau eithriadol wedi'u profi. Ymhellach, a heb weithgaredd marchnata cadarn a thystiolaeth gadarn ynglŷn â pham na all adeiladau gael eu haddasu i oresgyn y materion a adnabuwyd,

 

nid oes tystiolaeth fod y safle'n annhebygol o gael ei ddefnyddio yn y tymor byr na hir at y diben gwreiddiol neu'r diben a ddiogelwyd, na chwaith nad oes defnydd busnes neu ddiwydiannol hyfyw ar gyfer y safle. Yn ogystal, nid oes gorddarpariaeth o safleoedd cyflogaeth yn y cyffiniau; byddai defnydd addysgol yn cael effaith andwyol ar ddefnydd cyflogaeth yn y safleoedd cyfagos ac nid yw'r Awdurdod Cynllunio Lleol wedi'i ddarbwyllo nad oes safleoedd amgen addas eraill yn bodoli at y diben a gynigiwyd.

 

  1. Mae’r bwriad yn groes i ofynion Polisi PCYFF2 o’r CDLL sy’n datgan gwrthodir cynigion os ydynt:- (i) yn cael effaith andwyol sylweddol ar iechyd, diogelwch neu fwynderau meddiannwyr eiddo lleol, defnyddiau tir neu eiddo arall neu nodweddion yr ardal leol oherwydd mwy o weithgareddau, aflonyddwch swn, sbwriel neu ffurfiau eraill o lygredd neu aflonyddwch a (ii) tir sydd wedi ei ddynodi ar gyfer datblygiadau eraill.  Rhagwelir byddai natur defnydd y cyfleuster addysg bellach ac uwch yn cynyddu’r swn/aflonyddwch a symudiadau cerddwyr/myfyrwyr oddi fewn i’r safle ac o amgylch y safle e.e yn ystod oriau cinio neu ddarlithoedd rhydd

 

 


06/09/2021 - Application No C21/0277/39/DT Ty Coed, Lôn Gwydryn, Abersoch, Pwllheli,Gwynedd, LL53 7EA ref: 2038    Caniatawyd

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Cynllunio

Gwnaed yn y cyfarfod: 06/09/2021 - Pwyllgor Cynllunio

Cyhoeddwyd y penderfyniad: 06/09/2021

Effective from: 06/09/2021

Penderfyniad:

Gwrthod

Rhesymau: Gor-ddatblygiad, effaith gweledol niweidiol ac effaith niweidiol ar breifatrwydd tai cyfagos

 


06/09/2021 - Application No C19/1089/22/LL Treddafydd Stryd Fawr, Penygroes, Gwynedd, LL54 6PW ref: 2037    Caniatawyd

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Cynllunio

Gwnaed yn y cyfarfod: 06/09/2021 - Pwyllgor Cynllunio

Cyhoeddwyd y penderfyniad: 06/09/2021

Effective from: 06/09/2021

Penderfyniad:

 

Dirprwyo'r hawl i Bennaeth Cynorthwyol yr Adran i gymeradwyo'r cais, yn ddarostyngedig i gytuno ar lefel y cyfraniad ariannol addysgol ac i gwblhau Cytundeb Adran 106 i sicrhau’r cyfraniad ariannol tuag at fannau chwarae ac addysg ynghyd ag amod i ddarparu 2 dŷ fforddiadwy a’r amodau canlynol:-

 

  1. 5 mlynedd.
  2. Yn unol â’r dogfennau/cynlluniau a gyflwynwyd gyda’r cais.
  3. Llechi naturiol.
  4. Samplau o’r deunyddiau a’r lliwiau ar gyfer y tai i’w cytuno gyda’r ACLL.
  5. Amodau Priffyrdd.
  6. Tirlunio meddal a chaled.
  7. Amodau Bioamrywiaeth
  8. Cytuno manylion parthed enwau Cymraeg ar gyfer y datblygiad ynghyd ac arwyddion sy’n hysbysu ac yn hyrwyddo’r datblygiad o fewn ac oddi allan y safle.
  9. Tynnu hawliau datblygu cyffredinol.
  10. Cyflwyno Datganiad Dull Adeiladu gan gynnwys darpariaeth parcio cerbydau’r adeiladwyr, oriau gwaith, danfoniadau ayyb.
  11. Cyflwyno manylion goleuadau allanol i’w gytuno gyda’r ACLL cyn iddynt gael eu gosod.
  12. Diogelu’r llecynnau agored ar gyfer y dyfodol
  13. Darpariaeth safleoedd biniau
  14. Materion tir llygredig
  15. Amodau draenio/Dŵr Cymru

 

Nodyn: Hysbysu’r ymgeisydd o’r angen i gyflwyno cynllun strategaeth ddraenio cynaliadwy i’w gymeradwyo gan Uned Dwr ac Amgylchedd y Cyngor.

Nodyn: Hysbysu’r ymgeisydd o ymateb Dŵr Cymru a Cyfoeth Naturiol Cymru.

Nodyn: Amrywiol nodiadau Priffyrdd

 


06/09/2021 - Application No C21/0337/38/DT Derwen Deg, Llanbedrog, Pwllheli, Gwynedd, LL53 7UA ref: 2036    Caniatawyd

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Cynllunio

Gwnaed yn y cyfarfod: 06/09/2021 - Pwyllgor Cynllunio

Cyhoeddwyd y penderfyniad: 06/09/2021

Effective from: 06/09/2021

Penderfyniad:

Gwrthod

 

Rhesymau:

Gor-ddatblygiad ac effaith gweledol niweidiol

 

 


06/09/2021 - Application No C21/0376/34/LL Land near Plas Beuno, Clynnog Fawr, Clynnog LL54 5BT ref: 2035    Caniatawyd

CANLYNIAD Y BLEIDLAIS

 

O blaid

11

Yn erbyn

0

Atal

0

 

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Cynllunio

Gwnaed yn y cyfarfod: 06/09/2021 - Pwyllgor Cynllunio

Cyhoeddwyd y penderfyniad: 06/09/2021

Effective from: 06/09/2021

Penderfyniad:

Gwrthod

 

  1. Mae’r tŷ bwriedig yn groes i faen prawf 13 o bolisi PS5, maen prawf 1 o bolisi PCYFF2 a meini prawf 1 a 10 o bolisi PCYFF 3 o’r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn 2017 o ganlyniad i faint a graddfa a dyluniad yr annedd newydd yn benodol ei uchder, swmp, lefelau tir a llawr sy’n golygu nad yw’r bwriad yn cydweddu a phatrwm adeiladu’r ardal.

 

  1. Mae’r tŷ bwriedig yn groes i faen prawf 13 o bolisi PS5, maen prawf 7 o bolisi PCYFF 2 a maen prawf 10 o bolisi PCYFF 3 o’r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn 2017 o ganlyniad i faint a graddfa a dyluniad yr annedd newydd yn benodol ei uchder, swmp, lefelau tir a llawr a lleoliad y ffenestri ar yr edrychiad gogleddol sy’n golygu fod y bwriad yn achosi effaith andwyol sylweddol ar fwynderau a phreifatrwydd trigolion eiddo sydd gyfochrog y safle.

 


06/09/2021 - Application No C21/0495/34/LL Penlon, Clynnog Fawr, Caernarfon, Gwynedd, LL54 5PE ref: 2034    Caniatawyd

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Cynllunio

Gwnaed yn y cyfarfod: 06/09/2021 - Pwyllgor Cynllunio

Cyhoeddwyd y penderfyniad: 06/09/2021

Effective from: 06/09/2021

Penderfyniad:

Gohirio er mwyn cynnal trafodaethau pellach gyda’r asiant i drafod ffordd ymlaen e.e. oes bwriad diwygio’r cynlluniau?

 


06/09/2021 - Application No C21/0546/00/LL Richmond House High Street, Barmouth, Gwynedd, LL42 1DW ref: 2033    Caniatawyd

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Cynllunio

Gwnaed yn y cyfarfod: 06/09/2021 - Pwyllgor Cynllunio

Cyhoeddwyd y penderfyniad: 06/09/2021

Effective from: 06/09/2021

Penderfyniad:

Caniatáu gydag amodau

  1. Cychwyn o fewn 5 mlynedd.
  2. Unol gyda chynlluniau.
  3. Arwyddion Cymraeg a / neu ddwyieithog.

06/09/2021 - Application No C21/0367/39/DT Sandpiper, Lôn Rhoslyn, Abersoch, Pwllheli, Gwynedd, LL53 7BD ref: 2031    Caniatawyd

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Cynllunio

Gwnaed yn y cyfarfod: 06/09/2021 - Pwyllgor Cynllunio

Cyhoeddwyd y penderfyniad: 06/09/2021

Effective from: 06/09/2021

Penderfyniad:

Gwrthod y cais

 

Rhesymau:

Gor-ddatblygiad ac effaith andwyol ar eiddo cyfagos.

 


06/09/2021 - Cais Rhif C20/0805/13/LL Tir ger Gwernydd, Bethesda, LL57 3TY ref: 2030    Caniatawyd

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Cynllunio

Gwnaed yn y cyfarfod: 06/09/2021 - Pwyllgor Cynllunio

Cyhoeddwyd y penderfyniad: 06/09/2021

Effective from: 06/09/2021

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD: Dirprwyo’r hawl i Bennaeth Cynorthwyol Amgylchedd i ganiatáu’r cais yn ddarostyngedig i’r amodau canlynol;

1.    5 mlynedd

2.    Cydymffurfio a chynlluniau

3.    Darparu CEMP

4.    Darparu Cynllun Tirlunio

5.    Darparu Cynllun Traffig Adeiladu

6.    Materion archeolegol

7.    Cydymffurfio a gofynion awgrymiadau’r Asesiad Amgylcheddol Cychwynnol

8.    Dim goleuo heblaw'r hyn sydd wedi ei gytuno

9.    Triniaeth ffin i’w gwblhau cyn defnyddio’r llecynnau parcio

 

Nodiadau

  • Ordinary Watercourse Consent
  • SUDS
  • Dŵr Cymru

 


06/09/2021 - Application No C20/0485/18/AC Victoria Terrace, High Street, Deiniolen, Gwynedd LL55 3LT ref: 2032    Caniatawyd

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Cynllunio

Gwnaed yn y cyfarfod: 06/09/2021 - Pwyllgor Cynllunio

Cyhoeddwyd y penderfyniad: 06/09/2021

Effective from: 06/09/2021

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD: Dirprwyo’r hawl i Bennaeth Cynorthwyol Adran yr Amgylchedd i ganiatáu’r cais yn ddarostyngedig i’r amodau perthnasol sy’n ymwneud a:-

  1. Cyfnod dechrau’r gwaith
  2. Cyflwyno materion a gadwyd yn ôl.
  3. Deunyddiau a gorffeniadau (gan gynnwys llechi naturiol i’r toeau).
  4. Mynediad a pharcio
  5. Tirweddu a thirlunio.
  6. Tynnu hawliau a ganiateir oddi ar y tai fforddiadwy.
  7. Amodau Dwr Cymru sy’n ymwneud a diogelu’r carthffosydd.
  8. Amodau Cyfoeth Naturiol Cymru parthed draenio tir a dŵr hwyneb.
  9. Diweddaru’r amodau parthed mesuriadau lliniaru'r asesiad ecolegol.
  10. Cytuno manylion enwau Cymraeg ar gyfer y datblygiad ynghyd ac arwyddion sy'n    hysbysu ac     yn hyrwyddo 'r datblygiad

 

Nodyn: Angen cyflwyno cais system ddraenio cynaliadwy i’w gytuno gyda’r Cyngor.