Defnyddiwch yr opsiynau chwilio isod ar waelod y dudalen i ddarganfod y gwybodaeth diweddaraf yng nghyswllt penderfyniadau Pwyllgorau'r Cyngor sydd yn gwneud penderfyniadau.
Neu fe allwch ymweld â tudalen penderfyniadau swyddogion i weld gwybodaeth yng nghyswllt penderfyniadau dirprwyedig swyddogion.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyngor
Gwnaed yn y cyfarfod: 23/04/2021 - Y Cyngor
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 23/04/2021
Effective from: 23/04/2021
Penderfyniad:
Penodi Mr Dafydd Gibbard i’r
swydd Prif Weithredwr, yn unol ag argymhelliad y Pwyllgor Penodi Prif
Swyddogion.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Craffu Cymunedau
Gwnaed yn y cyfarfod: 22/04/2021 - Pwyllgor Craffu Cymunedau
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 22/04/2021
Effective from: 22/04/2021
Penderfyniad:
(a) Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a wnaed yn ystod y
cyfarfod.
(b) Argymell i’r Cabinet ystyried edrych ar raddau cyflogau staff
ar draws y Cyngor a sut maent yn cymharu â chyflogau cynghorau cyfagos.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Craffu Cymunedau
Gwnaed yn y cyfarfod: 22/04/2021 - Pwyllgor Craffu Cymunedau
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 22/04/2021
Effective from: 22/04/2021
Penderfyniad:
Derbyn yr adroddiad gan
nodi’r sylwadau a wnaed yn ystod y cyfarfod.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Craffu Cymunedau
Gwnaed yn y cyfarfod: 22/04/2021 - Pwyllgor Craffu Cymunedau
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 22/04/2021
Effective from: 22/04/2021
Penderfyniad:
Derbyn yr adroddiad gan
nodi’r sylwadau a wnaed yn ystod y cyfarfod.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cabinet
Gwnaed yn y cyfarfod: 20/04/2021 - Y Cabinet
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 20/04/2021
Effective from: 20/04/2021
Penderfyniad:
a)
Gefnogwyd
blaenoriaethu'r defnydd o’r Grant Cymorth Tai fel yr amlinellwyd ym mharagraff
36 o’r adroddiad.
b)
Gefnogwyd yr egwyddor i barhau i gydweithio gyda
darparwyr allanol er mwyn cynnig gwasanaethau cefnogol arbenigol ychwanegol i’r
hyn y gellir ei ddarparu’n fewnol.
c)
Nodwyd y risg ynghlwm i’r grant refeniw yn y
dyfodol (fel pob grant refeniw arall) a’r mesur lliniaru a nodwyd ym mharagraff
39 o’r adroddiad hwn.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Craffu Addysg ac Economi
Gwnaed yn y cyfarfod: 15/04/2021 - Pwyllgor Craffu Addysg ac Economi
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 15/04/2021
Effective from: 15/04/2021
Penderfyniad:
Derbyn yr
adroddiad, gan nodi’r sylwadau a gyflwynwyd yn ystod y cyfarfod, ac argymell
i’r Cabinet fabwysiadu Opsiwn 1 yn yr adroddiad fel y model darparu a
gweithredu gorau ar gyfer y Gwasanaeth Teithiol Llyfrgelloedd i’r dyfodol, sef:
Cam 1
Gwasanaeth
Cartref (misol) a Chludo Eitemau i’r Cartref yn cael ei ddarparu gan 3 cerbyd
llai (faniau trydan / hybrid) a gyrrwr yr un ar gyfer:-
1. Arfon
2. Dwyfor
3.
Meirionnydd
Cam 2
Yn dilyn
ymddeoliad gyrrwr yn y 1-2 flynedd nesaf, Gwasanaeth Cartref (misol) a Chludo
Eitemau i’r Cartref yn cael ei ddarparu gan 2 gerbyd llai (faniau trydan /
hybrid) a gyrrwr yr un ar gyfer:-
1. Arfon /
Dwyfor
2.
Meirionnydd
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Craffu Addysg ac Economi
Gwnaed yn y cyfarfod: 15/04/2021 - Pwyllgor Craffu Addysg ac Economi
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 15/04/2021
Effective from: 15/04/2021
Penderfyniad:
Derbyn yr
adroddiad, gan nodi’r sylwadau a gyflwynwyd - yn arbennig ynghylch addasrwydd
trefniadau y Fframwaith, yr angen i gynnig cynhaliaeth llawn i bobl ifanc sydd
mewn peryg’ o / wedi dadrithio o fyd addysg, hyfforddiant neu waith, gan
sicrhau fod yr elfennau hyn yn cael sylw wrth adolygu ein darpariaethau i’r
dyfodol. Dylid hefyd ystyried craffu’r
maes ymhellach, gan drafod yr amserlen ar gyfer hynny yng Ngweithdy Blynyddol y
pwyllgor hwn ym mis Mai.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Cynllunio
Gwnaed yn y cyfarfod: 12/04/2021 - Pwyllgor Cynllunio
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 12/04/2021
Effective from: 12/04/2021
Penderfyniad:
Ddirprwyo’r hawl i ganiatáu’r cais
er mwyn cytuno
ar y manylion terfynol y cylfat a derbyn sylwadau ffafriol gan yr Uned
Draenio Tir
Amodau priffyrdd
Nodyn fod amodau
7 a 10 o’r caniatâd amlinellol sy’n ymwneud â materion draenio a datblygu gam wrth gam wedi eu
rhyddhau fel rhan o’r caniatâd
yma.
Nodyn SUDS
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Cynllunio
Gwnaed yn y cyfarfod: 12/04/2021 - Pwyllgor Cynllunio
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 12/04/2021
Effective from: 12/04/2021
Penderfyniad:
PENDERFYNIAD:
Caniatáu gydag amodau
1. Amser
2. Unol a’r cynllun diwygiedig
3. Cyfyngu niferoedd
a defnydd a dim pebyll i’w gosod o fewn
safle’r cais
4. Cynllun arwyddion
dwyieithog
Nodyn:
Angen sicrhau trwydded
briodol
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Cynllunio
Gwnaed yn y cyfarfod: 12/04/2021 - Pwyllgor Cynllunio
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 12/04/2021
Effective from: 12/04/2021
Penderfyniad:
Dirprwyo'r hawl i Bennaeth Cynorthwyol yr Adran i
gymeradwyo'r cais, yn ddarostyngedig i'r newid isod
i Amod 1 ar ganiatâd cynllunio
C10D/0487/34/MW i ymestyn oes y gweithrediadau mwynau sy'n ymwneud
â gweithrediad tair lagŵn dyddodion ategol a'r gwaith
cysylltiedig am gyfnod o 4 blynedd ychwanegol:
Bydd y gwaith o echdynnu,
prosesu a dosbarthu mwynau yn dod
i ben erbyn 31 Rhagfyr 2024 ac erbyn hynny bydd yr
holl weithfeydd a pheiriannau wedi'u gwaredu o'r safle;
bydd y gwaith adfer wedi'i gwblhau
erbyn 31 Rhagfyr 2025.
Ymateb ymgynghoriad Cyfoeth
Naturiol Cymru a Dŵr Cymru i'w atodi i'r
daflen penderfyniad, yn cynghori y dylid
cysylltu â hwy yn uniongyrchol mewn perthynas â'r rheolaethau amgylcheddol a gweithredol penodol o fewn eu cylch gwaith.
Amodau cynllunio fel
y presennol mewn perthynas â'r rheolaethau
rheoli a ganlyn;
·
Hyd y cyfnod gweithio,
·
Cyfyngu ar yr hawliau datblygu a ganiateir, adeiladau, strwythurau, ffyrdd preifat, llifoleuadau a ffensys,
·
Gweithgareddau a ganiateir a Chydymffurfiaeth
â’r Manylion/Cynlluniau a Gyflwynwyd;
·
Oriau Gweithio,
·
Diogelu hawliau tramwy
cyhoeddus,
·
Ymdrin â phridd a hwsmonaeth,
·
Draenio, mesurau i atal llygru cyrsiau
dŵr lleol,
·
Adfer i ddefnydd cymysg amaethyddol a chadwraeth natur,
·
Ail-adfer
ffiniau caeau,
·
Lliniaru a chofnodi archeolegol,
·
Mesurau ôl-ofal a chyfarfodydd
blynyddol ar gyfer defnyddiau amaethyddol,
rheoli bioamrywiaeth
a rheoli rhywogaethau planhigion anfrodorol,
·
Rheolaethau llwch a chyfyngu
ar sŵn yn yr un modd
ag y gwneir eisoes, ond hefyd, gosod
larymau sŵn gwyn i'w gosod
ar beiriannau'r gwaith yn y wyneb
gweithio.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Cynllunio
Gwnaed yn y cyfarfod: 12/04/2021 - Pwyllgor Cynllunio
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 12/04/2021
Effective from: 12/04/2021
Penderfyniad:
Caniatau yn groes
i’r argymhelliad
Amodau
5 mlynedd, yn unol â’r cynlluniau, deunyddiau, tynnu hawliau a ganiateir, cynllun draenio, cwblhau parcio, dim mwy o ffenestri heb ganiatâd
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Cynllunio
Gwnaed yn y cyfarfod: 12/04/2021 - Pwyllgor Cynllunio
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 12/04/2021
Effective from: 12/04/2021
Penderfyniad:
Dirprwyo’r hawl i
ganiatáu’r cais er mwyn cytuno
ar y manylion terfynol
y cylfat a derbyn sylwadau ffafriol gan yr Uned
Draenio Tir
Amodau priffyrdd
Nodyn fod amodau
7 a 10 o’r caniatâd amlinellol sy’n ymwneud â materion draenio a datblygu gam wrth gam wedi eu
rhyddhau fel rhan o’r caniatâd
yma.
Nodyn SUDS
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Cynllunio
Gwnaed yn y cyfarfod: 12/04/2021 - Pwyllgor Cynllunio
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 12/04/2021
Effective from: 12/04/2021
Penderfyniad:
Dirprwyo'r hawl i Bennaeth
Cynorthwyol yr Adran i gymeradwyo'r
cais, yn ddarostyngedig i'r newid isod i
Amod 2 ar ganiatâd cynllunio C15/0299/34/MW
i ymestyn oes y gweithrediadau mwynau sy'n ymwneud
â gweithrediad tair lagŵn dyddodion ategol a'r gwaith
cysylltiedig am gyfnod o 4 blynedd ychwanegol:
Daw'r defnydd a ganiateir o'r safle fel
lagŵn siltio ategol i ben erbyn
31 Rhagfyr 2024; cwblheir y
gwaith adfer wedyn erbyn 30 Mehefin 2025 neu pan fydd y gwaith yn
dod i
ben, pa bynnag un ddaw gyntaf.
Ymateb ymgynghoriad Cyfoeth Naturiol Cymru i'w atodi i'r
daflen penderfyniad, yn cynghori y dylid
cysylltu â hwy yn uniongyrchol mewn perthynas â'r rheolaethau amgylcheddol a gweithredol penodol a'r ddarpariaeth
o wasanaeth o fewn eu cylch gwaith.
Amodau cynllunio
fel y presennol mewn perthynas â'r rheolaethau rheoli a ganlyn;
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Cynllunio
Gwnaed yn y cyfarfod: 12/04/2021 - Pwyllgor Cynllunio
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 12/04/2021
Effective from: 12/04/2021
Penderfyniad:
Dirprwyo'r hawl i
Bennaeth Cynorthwyol yr Adran i gymeradwyo'r cais, yn ddarostyngedig i'r newid
isod i Amod 1 ar ganiatâd cynllunio C16/0816/34/MW i ymestyn oes y
gweithrediadau mwynau sy'n ymwneud â gweithrediad tair lagŵn dyddodion
ategol a'r gwaith cysylltiedig am gyfnod o 4 blynedd ychwanegol:
Daw'r gwaith o
echdynnu mwynau i ben erbyn 31 Rhagfyr 2024 ac erbyn hynny bydd yr holl
weithfeydd a pheiriannau wedi'u gwaredu o'r safle; bydd y gwaith adfer wedi'i
gwblhau erbyn 31 Rhagfyr 2025.
Ymateb ymgynghoriad
Cyfoeth Naturiol Cymru i'w atodi i'r daflen penderfyniad, yn cynghori y dylid
cysylltu â hwy yn uniongyrchol mewn perthynas â'r rheolaethau amgylcheddol a
gweithredol penodol a'r ddarpariaeth o wasanaeth o fewn eu cylch gwaith.
Amodau cynllunio fel
y presennol mewn perthynas â'r rheolaethau rheoli a ganlyn;
• Hyd y cyfnod gweithio,
• Cyfyngu
ar yr Hawliau Datblygu a Ganiateir, adeiladau, strwythurau, rhai a godir,
ffyrdd preifat, llifoleuadau a ffensys,
• Mesurau
lliniaru ar gyfer effeithiau posib ar ffynhonnau i'r gogledd o'r ardal
echdynnu,
• Mesurau
lliniaru ar gyfer bioamrywiaeth leol, Moch Daear, adar bridio ac ymlusgiaid,
• Gweithgareddau
a ganiateir a Chydymffurfiaeth â’r Manylion/Cynlluniau a Gyflwynwyd,
• Oriau Gweithio,
• Diogelu hawliau tramwy cyhoeddus,
• Ymdrin â phridd a hwsmonaeth
• Draenio, mesurau i atal llygru
cyrsiau dŵr lleol,
• Adfer i ddefnydd amaethyddol cymysg a
chadwraeth natur
• Ail-adfer terfynau caeau
• Micro-addasu
lefelau adfer i sicrhau llif dŵr wyneb i'r gwlypdir tua'r gogledd o ardal
y cais,
• Lliniaru a chofnodi archeolegol,
• Mesurau
ôl-ofal ar gyfer defnyddiau amaethyddol a rheoli bioamrywiaeth,
• Rheolaethau
llwch a chyfyngu ar sŵn yn yr un modd ag y gwneir eisoes, ond hefyd, gosod
larymau sŵn gwyn ar beiriannau'r gwaith yn yr wyneb gweithio.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Cynllunio
Gwnaed yn y cyfarfod: 12/04/2021 - Pwyllgor Cynllunio
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 12/04/2021
Effective from: 12/04/2021
Penderfyniad:
Cadarnhau’r gorchymyn heb newidiadau.