Penderfyniadau

Defnyddiwch yr opsiynau chwilio isod ar waelod y dudalen i ddarganfod y gwybodaeth diweddaraf yng nghyswllt penderfyniadau Pwyllgorau'r Cyngor sydd yn gwneud penderfyniadau.

Neu fe allwch ymweld â tudalen penderfyniadau swyddogion i weld gwybodaeth yng nghyswllt penderfyniadau dirprwyedig swyddogion.

Cyhoeddwyd y penderfyniadau

19/10/2021 - CYNLLUN HYBU'R GYMRAEG: CYLLID ref: 500000014    Caniatawyd

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Iaith

Gwnaed yn y cyfarfod: 19/10/2021 - Pwyllgor Iaith

Cyhoeddwyd y penderfyniad: 26/10/2021

Effective from: 19/10/2021

Penderfyniad:

Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a dderbyniwyd. 


19/10/2021 - CYNLLUN HYBU'R GYMRAEG: AMGYCLHEDD ref: 500000013    Caniatawyd

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Iaith

Gwnaed yn y cyfarfod: 19/10/2021 - Pwyllgor Iaith

Cyhoeddwyd y penderfyniad: 26/10/2021

Effective from: 19/10/2021

Penderfyniad:

Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a dderbyniwyd. 


19/10/2021 - PROSIECT GWARCHOD ENWAU LLEOEDD CYNHENID ref: 500000016    Caniatawyd

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Iaith

Gwnaed yn y cyfarfod: 19/10/2021 - Pwyllgor Iaith

Cyhoeddwyd y penderfyniad: 26/10/2021

Effective from: 19/10/2021

Penderfyniad:

Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a dderbyniwyd. 


19/10/2021 - CAMU YMLAEN: ADRODDIAD SICRWYDD COMISIYNYDD Y GYMRAEG ref: 500000015    Caniatawyd

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Iaith

Gwnaed yn y cyfarfod: 19/10/2021 - Pwyllgor Iaith

Cyhoeddwyd y penderfyniad: 26/10/2021

Effective from: 19/10/2021

Penderfyniad:

Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a dderbyniwyd. 


26/10/2021 - CAIS AM INDEMNIAD GAN GYNGHORYDD O DAN BOLISI'R CYNGOR ref: 2117    Caniatawyd

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Safonau

Gwnaed yn y cyfarfod: 26/10/2021 - Pwyllgor Safonau

Cyhoeddwyd y penderfyniad: 26/10/2021

Effective from: 26/10/2021

Penderfyniad:

Wedi edrych ar y cais yn ofalus iawn, a gan ystyried Polisi Indemniad Cyngor Gwynedd, a gynhwyswyd yn Atodiad 1 i’r adroddiad a gyflwynwyd i’r pwyllgor, bod y Cadeirydd yn ysgrifennu at yr aelod i’w hysbysu nad yw’r Pwyllgor Safonau mewn sefyllfa i gynnig indemniad iddo mewn perthynas â chynrychiolaeth gyfreithiol yng ngwrandawiad y Pwyllgor Safonau. Mae’r achos mae’r cynghorydd yn amddiffyn yn ymwneud yn llwyr â’i rôl fel Cynghorydd Cyngor Tref. Byddai unrhyw benderfyniad yn effeithio ar y rôl honno’n unig, ac ni fyddai’n cael unrhyw effaith ar rôl y cynghorydd fel aelod o Gyngor Gwynedd.


22/10/2021 - CHANGE CONTROL - HOLYHEAD GATEWAY ref: 2116    Caniatawyd

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru

Gwnaed yn y cyfarfod: 22/10/2021 - Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru

Cyhoeddwyd y penderfyniad: 22/10/2021

Effective from: 22/10/2021

Penderfyniad:

Cymeradwywyd y cais i newid ar gyfer Porth Caergybi ac yn hysbysu Llywodraeth Cymru a’r DU fel newid i sgôp prosiect Cynllun Twf.  


22/10/2021 - NORTH WALES GROWTH DEAL - QUARTER 2 PERFORMANCE REPORT ref: 2115    Caniatawyd

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru

Gwnaed yn y cyfarfod: 22/10/2021 - Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru

Cyhoeddwyd y penderfyniad: 22/10/2021

Effective from: 22/10/2021

Penderfyniad:

Nodwyd Adroddiad Perfformiad Chwarter 2 a Chofrestr Risg y Portffolio wedi’i ddiweddaru.  

 

Cymeradwywyd cyflwyno’r Adroddiad Perfformiad Chwarter 2 i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, ynghyd â phwyllgorau craffu’r awdurdodau lleol.

 


22/10/2021 - CYLLIDEB REFENIW A CHYFALAF 2021/22 - ADOLYGIAD AIL CHWARTER (MEDI 2021) ref: 2114    Caniatawyd

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru

Gwnaed yn y cyfarfod: 22/10/2021 - Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru

Cyhoeddwyd y penderfyniad: 22/10/2021

Effective from: 22/10/2021

Penderfyniad:

1.     Derbyn a nodi adolygiad ail chwarter refeniw a chyfalaf Cyd-bwyllgor y Bwrdd Uchelgais ar gyfer 2021/22. 

 

2.     Cydnabod derbyn a defnydd arfaethedig y £500,000 ar gyfer y grant Arloesi ar gyfer Datgarboneiddio drwy Ymchwil Busnesau i'r System Gyfan (WBRID), yn unol â'r llythyr dyfarnu cyllid a dderbyniwyd gan Lywodraeth Cymru ym mis Mehefin 2021. 

 

3.     Cymeradwyo'r defnydd o gronfa wrth gefn benodol wedi'i chlustnodi i ddal cyfraniadau llog a dderbynnir gan y partneriaid, i'w gosod yn erbyn y gost fenthyca sydd ei hangen i ariannu'r llif arian negyddol yn y dyfodol. 


22/10/2021 - ADRODDIAD ADOLYGU CYNLLUN DATBLYGU LLEOL AR Y CYD ref: 2113    Caniatawyd

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Polisi Cynllunio ar y Cyd

Gwnaed yn y cyfarfod: 22/10/2021 - Pwyllgor Polisi Cynllunio ar y Cyd

Cyhoeddwyd y penderfyniad: 22/10/2021

Effective from: 22/10/2021

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD:

 

  • Cymeradwyo'r Adroddiad Adolygu drafft am gyfnod o ymgynghoriad cyhoeddus o 6 wythnos
  • Dirprwyo’r hawliau i Bennaeth Cynorthwyol yr Adran Amgylchedd, wneud unrhyw newidiadau ansylweddol a allai fod yn angenrheidiol cyn yr ymgynghoriad cyhoeddus

 


21/10/2021 - THE ECONOMY AND BUSINESS SUPPORT ref: 2107    Caniatawyd

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Craffu Addysg ac Economi

Gwnaed yn y cyfarfod: 21/10/2021 - Pwyllgor Craffu Addysg ac Economi

Cyhoeddwyd y penderfyniad: 21/10/2021

Effective from: 21/10/2021

Penderfyniad:

Derbyn yr adroddiad gan edrych ymlaen at gael mwy o wybodaeth ynglŷn â grantiau i fusnesau maes o law.

 


21/10/2021 - WELL-BEING AND ACHIEVEMENT GAP ref: 2108    Caniatawyd

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Craffu Addysg ac Economi

Gwnaed yn y cyfarfod: 21/10/2021 - Pwyllgor Craffu Addysg ac Economi

Cyhoeddwyd y penderfyniad: 21/10/2021

Effective from: 21/10/2021

Penderfyniad:

Derbyn yr adroddiad a chofnodi ein diolchiadau i’r gweithlu am eu cyfraniad yn ystod y 18 mis diwethaf.

 


21/10/2021 - PENDERFYNIAD Y CABINET - 28-09-21 - EITEM 8 - YSGOL ABERSOCH ref: 2106    Caniatawyd

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Craffu Addysg ac Economi

Gwnaed yn y cyfarfod: 21/10/2021 - Pwyllgor Craffu Addysg ac Economi

Cyhoeddwyd y penderfyniad: 21/10/2021

Effective from: 21/10/2021

Penderfyniad:

 

Bod y pwyllgor craffu yn cyfeirio’r mater yn ôl i’r Cabinet i’w ail-ystyried ar y sail na chafwyd ymateb digonol i’r ail reswm dros alw i mewn, sef:-

 

2.Nid yw’r Adroddiad yn cymryd i ystyriaeth ddyfodol Tai a Gwaith fydd yn dod i rym yn y Pentref .

 

(a) Mae Datblygiad Newydd o godi Gwesty Newydd fydd yn creu beth bynnag 40 o swyddi llawn amser yn yr ardal - mi fydd y Gweithwyr a’u Teulu angen adnoddau yn cynnwys Addysg i ein plant. 

 

(b) Mae Llywodraeth Cymru, yr Adran Tai ac Eiddo Cyngor Gwynedd a Chymdeithas Tai (sydd yn berchen tir yn y pentref) ar hyn o bryd yn edrych i godi mwy o dai - mae Llywodraeth Cymru wedi dweud fod grant ar gael i ddatblygu y tir yma i godi o bosib 15 o dai. 

 

Mae’r Gymdeithas tai wedi cadarnhau fod cynlluniau wedi gwneud yn barod ar safle Bryn Garmon. 

 

Nid yw’r adroddiad yn sôn dim am y cynllun newydd gan yr Adran Tai ac Eiddo a dim am y datblygiadau sydd yn mynd ymlaen yn y Pentref ac felly nid yw’r Adran Addysg wedi ymateb i ofynion Ddeddf Lles Cenedlaethau’r Dyfodol wrth beidio gwneud hyn.”

 


21/10/2021 - REVISED SCRUTINY WORK PROGRAMME 2021-22 ref: 2109    Caniatawyd

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Craffu Addysg ac Economi

Gwnaed yn y cyfarfod: 21/10/2021 - Pwyllgor Craffu Addysg ac Economi

Cyhoeddwyd y penderfyniad: 21/10/2021

Effective from: 21/10/2021

Penderfyniad:

Cymeradwyo’r rhaglen waith ar gyfer cyfarfod 9 Rhagfyr, a thrafod gweddill y rhaglen yn y cyfarfod anffurfiol i ddilyn y pwyllgor.

 


19/10/2021 - DIWEDDARIAD AR FATERION RHEOLAETHOL YR HARBWR ref: 2105    Caniatawyd

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Ymgynghorol Harbwr Abermaw

Gwnaed yn y cyfarfod: 19/10/2021 - Pwyllgor Ymgynghorol Harbwr Abermaw

Cyhoeddwyd y penderfyniad: 19/10/2021

Effective from: 19/10/2021

Penderfyniad:

  • Nodi a derbyn yr adroddiad.
  • Ymateb fel a ganlyn i bapur ymgynghori’r Adran Drafnidiaeth “Strengthening enforcement of the dangerous use of recreational and personal watercraft”:-

 

1.    Bod y pwyllgor hwn yn cefnogi opsiwn 3, sef llunio deddfwriaeth dan adran 112 o Ddeddf Diogelwch Rheilffyrdd a Thrafnidiaeth 2003 i ymestyn darpariaethau perthnasol Deddf Llongau Masnach 1995, a rheoliadau perthnasol, i gynnwys badau dŵr hamdden a Badau Dwr Personol.

2.    Pwysleisio pwysigrwydd sicrhau hyfforddiant i ddefnyddwyr a galw am godi’r terfyn oedran ar gyfer gyrru badau dŵr hamdden a Badau Dwr Personol

 


19/10/2021 - CYNLLUN HYBU'R GYMRAEG: PRIFFYRDD A BWRDEISTREFOL ref: 500000012    Caniatawyd

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Iaith

Gwnaed yn y cyfarfod: 19/10/2021 - Pwyllgor Iaith

Cyhoeddwyd y penderfyniad: 19/10/2021

Effective from: 19/10/2021

Penderfyniad:

Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a dderbyniwyd.