Penderfyniadau

Defnyddiwch yr opsiynau chwilio isod ar waelod y dudalen i ddarganfod y gwybodaeth diweddaraf yng nghyswllt penderfyniadau Pwyllgorau'r Cyngor sydd yn gwneud penderfyniadau.

Neu fe allwch ymweld â tudalen penderfyniadau swyddogion i weld gwybodaeth yng nghyswllt penderfyniadau dirprwyedig swyddogion.

Cyhoeddwyd y penderfyniadau

09/11/2020 - ADRODDIAD BLYNYDDOL Y PWYLLGOR SAFONAU 2019/20 ref: 614    Caniatawyd

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Safonau

Gwnaed yn y cyfarfod: 09/11/2020 - Pwyllgor Safonau

Cyhoeddwyd y penderfyniad: 09/11/2020

Effective from: 09/11/2020

Penderfyniad:

Cymeradwyo’r adroddiad blynyddol i’w gyflwyno i’r Cyngor llawn ar 3 Rhagfyr, yn ddarostyngedig i ychwanegu:-

·         paragraff yn nodi bod rôl gan bob cyngor, a phob aelod o bob cyngor, i arddel a hyrwyddo safon uchel o ymddygiad yn llygaid y cyhoedd, ac i herio ymddygiad amhriodol, boed yr Ombwdsmon yn ymwneud â’r mater ai peidio.

·         cyflwyniad a rhagair gan y Cadeirydd a’r Swyddog Monitro.

 


05/11/2020 - TWF ECONOMAIDD GOGLEDD CYMRU ref: 604    Caniatawyd

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Craffu Addysg ac Economi

Gwnaed yn y cyfarfod: 05/11/2020 - Pwyllgor Craffu Addysg ac Economi

Cyhoeddwyd y penderfyniad: 05/11/2020

Effective from: 05/11/2020

Penderfyniad:

Bod y pwyllgor craffu o’r farn bod y Cynllun Busnes; Cytundeb Llywodraethu 2; y model ariannu a’r trefniadau gweithredu yn glir a chadarn fel sail i gyflawni amcanion y Cytundeb Twf er budd busnesau a thrigolion Gwynedd.

 


03/11/2020 - APPOINT THREE COMMUNITY ENGAGEMENT OFFICER TO ASSIST WITH WORKING DERIVING FROM THE PANDEMIC ref: 609    Caniatawyd

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cabinet

Gwnaed yn y cyfarfod: 03/11/2020 - Y Cabinet

Cyhoeddwyd y penderfyniad: 03/11/2020

Effective from: 03/11/2020

Penderfyniad:

Cytunwyd i danysgrifennu’r gost o gyflogi 3 Swyddog Ymgysylltu Cymunedol ar gyfer yr Adran Amgylchedd am gyfnod dros dro, hyd ar 31 Mawrth 2022, gan alluogi’r Pennaeth Adran Amgylchedd i recriwtio cyn gynted ag y bo modd.

 


03/11/2020 - CODE OF CONDUCT FOR STAFF ref: 608    Caniatawyd

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cabinet

Gwnaed yn y cyfarfod: 03/11/2020 - Y Cabinet

Cyhoeddwyd y penderfyniad: 03/11/2020

Effective from: 03/11/2020

Penderfyniad:

Mabwysiadwyd y Cod Ymddygiad Staff ar ran y Cyngor fel cyflogwr.

 


03/11/2020 - ANNUAL EQUALITY REPORT 2019/20 ref: 607    Caniatawyd

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cabinet

Gwnaed yn y cyfarfod: 03/11/2020 - Y Cabinet

Cyhoeddwyd y penderfyniad: 03/11/2020

Effective from: 03/11/2020

Penderfyniad:

Derbyniwyd y wybodaeth yn yr adroddiad.

 


03/11/2020 - MATERION YN CODI O DROSOLWG A CHRAFFU ref: 606    Caniatawyd

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cabinet

Gwnaed yn y cyfarfod: 03/11/2020 - Y Cabinet

Cyhoeddwyd y penderfyniad: 03/11/2020

Effective from: 03/11/2020

Penderfyniad:

Penderfynwyd na ddylid addasu penderfyniad gwreiddiol  y Cabinet a wnaethpwyd ar y 15 Medi 2020 i gynnal ymgynghoriad statudol ar y cynnig arfaethedig i gau Ysgol Abersoch yn unol â gofynion adran 48 o Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013, ar y cynnig arfaethedig i gau Ysgol Abersoch ar 31 Awst 2021 a darparu lle i ddisgyblion yn Ysgol Sarn  Bach o 1 Medi 2021 ymlaena mabwysiadu hyn fel penderfyniad terfynol.