Penderfyniadau

Defnyddiwch yr opsiynau chwilio isod ar waelod y dudalen i ddarganfod y gwybodaeth diweddaraf yng nghyswllt penderfyniadau Pwyllgorau'r Cyngor sydd yn gwneud penderfyniadau.

Neu fe allwch ymweld â tudalen penderfyniadau swyddogion i weld gwybodaeth yng nghyswllt penderfyniadau dirprwyedig swyddogion.

Cyhoeddwyd y penderfyniadau

09/07/2020 - CAIS AM DRWYDDED HACNI/HURIO PREIFAT ref: 493    Caniatawyd

CAIS AM DRWYDDED GYRRU CERBYD HACNI / HURIO PREIFAT – Mr A

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Is-Bwyllgor Trwyddedu Cyffredinol

Gwnaed yn y cyfarfod: 09/07/2020 - Is-Bwyllgor Trwyddedu Cyffredinol

Cyhoeddwyd y penderfyniad: 09/07/2020

Effective from: 09/07/2020

Penderfyniad:

Bod yr ymgeisydd yn berson addas a phriodol ar gyfer trwydded gyrrwr cerbyd hacni/hurio preifat gyda Chyngor Gwynedd.

 


02/07/2020 - APPLICATION NO C19/0903/33/LL Plas yng Ngheidio, Ceidio, Pwllheli ref: 488    Caniatawyd

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Cynllunio

Gwnaed yn y cyfarfod: 02/07/2020 - Pwyllgor Cynllunio

Cyhoeddwyd y penderfyniad: 02/07/2020

Effective from: 02/07/2020

Penderfyniad:

Gwrthod – rhesymau

 

1.         Byddai’r bwriad yn gyfystyr a chreu safle llety gwersylla amgen parhaol o fewn Ardal  Tirwedd Arbennig ac felly yn groes i faen prawf 1 o Bolisi TWR 3 CDLL.

 

2.         Ni ystyrir y byddai’r bwriad yn gwneud dim i gynnal, gwella neu adfer cymeriad cydnabyddedig yr Ardal Tirwedd Arbennig a fod y bwriad felly yn groes i ofynion Polisi PCYFF 4 ac AMG 2 CDLL.


02/07/2020 - APPLICATION NO C20/0002/11/LL Land near Ysgol Friars, Bangor ref: 491    Caniatawyd

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Cynllunio

Gwnaed yn y cyfarfod: 02/07/2020 - Pwyllgor Cynllunio

Cyhoeddwyd y penderfyniad: 02/07/2020

Effective from: 02/07/2020

Penderfyniad:

Dirprwyo’r hawl i’r Pennaeth Cynorthwyol i ganiatáu’r cais yn ddarostyngedig i’r amodau canlynol;

 

           Cychwyn y datblygiad o fewn 5 mlynedd

           Rhybudd 14 diwrnod o gychwyn a gorffen y gwaith

           Gosod pridd yn unol â chanllawiau adfer Llywodraeth Cymru yn MTAN1: Agregau 

           Darpariaeth ôl-ofal am gyfnod o 5 mlynedd wedi hadu’r safle i gynnwys darpariaeth ar gyfer  casglu cerrig, dadansoddiad cemegol, draeniad y tir, amseriad y gwaith ac unrhyw waith adferol,

           Cydymffurfio gyda chynlluniau a manylion y cais,

           Ni chaniateir defnyddio unrhyw offer ar y safle oni bai bod systemau atal llwch digonol ar eu cyfer wedi ei osod i atal llwch rhag cael ei ollwng.

           Oriau gweithredu rhwng 08.00 - 18.00, dydd Llun i ddydd Gwener, 08.00 - 13.00 ar y Sadwrn a dim gweithio ar y Sul neu wyliau Banc,

           Rhaid gohirio unrhyw waith ar y safle a hysbysu’r Gwasanaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd ar unwaith, pe deuir ar draws unrhyw achlysur o gyflwr daear anarferol yn ystod datblygiad,

           Oriau gweithredu’r offer didoli gwastraff rhwng 08.00 - 18.00, dydd Llun i ddydd Gwener, 08.00 - 13.00 ar y Sadwrn a dim gweithio ar y Sul neu wyliau Banc,

           Nodyn i’r Ymgeisydd i gynnwys sylwadau Uned Ddwr ac Amgylchedd ar y cais, i gynghori’r datblygwr i gysylltu â hwy yn sgil yr angen am Ganiatâd Cwrs Dwr Arferol ar gyfer unrhyw waith a allai effeithio ar lif cwrs dŵr yn barhaol neu dros dro,

           Nodyn i’r ymgeisydd fod y cais wedi’i asesu’n unol â saith nod cynaliadwyedd Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.

           Sicrhau fod rhaid i'r oll goed sydd wedi'u amgáu o fewn y Parth Eithrio Adeiladu gael eu gwarchod rhag gweithrediadau adeiladu trwy gydol y datblygiad yn unol â BS5837: 2012 ac o dan oruchwyliaeth arbenigwr coed y prosiect.


02/07/2020 - APPLICATION NO C19/1123/40/LL Warws Hufenfa De Arfon, Y Ffor, Pwllheli ref: 490    Caniatawyd

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Cynllunio

Gwnaed yn y cyfarfod: 02/07/2020 - Pwyllgor Cynllunio

Cyhoeddwyd y penderfyniad: 02/07/2020

Effective from: 02/07/2020

Penderfyniad:

Caniatáu.

 

Amodau

1.         Cychwyn o fewn 5 mlynedd.

2.         Unol gyda’r cynlluniau.

3.         Cyfyngu defnydd o’r uned i ddosbarth defnydd B2.


02/07/2020 - APPLICATION NO C20/0083/11/DT 33 Bryn Eithinog, Bangor, Gwynedd ref: 492    Caniatawyd

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Cynllunio

Gwnaed yn y cyfarfod: 02/07/2020 - Pwyllgor Cynllunio

Cyhoeddwyd y penderfyniad: 02/07/2020

Effective from: 02/07/2020

Penderfyniad:

Dirprwyo’r hawl i Bennaeth Cynorthwyol Adran Amgylchedd i ganiatáu’r cais yn ddarostyngedig i'r amodau isod:

 

1.         5 mlynedd.

2.         Yn unol gyda chynlluniau.

3.         Dŵr Cymru.

4.         Llechi.

5.         Deunyddiau.

6.         Diddymu hawliau Datblygiad Caniataëdig Cyffredinol ar gyfer unrhyw ffenestri/ffenestri gromen newydd.

7.         Rhaid i’r modurdy / lleoedd parcio ceir fod ar gael ar gyfer parcio cerbydau modur bob amser.