Defnyddiwch yr opsiynau chwilio isod ar waelod y dudalen i
ddarganfod y gwybodaeth diweddaraf yng nghyswllt penderfyniadau
Pwyllgorau'r Cyngor sydd yn gwneud penderfyniadau.
Neu fe allwch ymweld â tudalen penderfyniadau
swyddogion i weld gwybodaeth yng nghyswllt penderfyniadau
dirprwyedig swyddogion.
Cyhoeddwyd y penderfyniadau
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Cynllunio
Gwnaed yn y cyfarfod: 05/09/2022 - Pwyllgor Cynllunio
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 05/09/2022
Effective from: 05/09/2022
Penderfyniad:
PENDERFYNIAD:
Dirprwyo’r hawl
i’r Rheolwr Cynllunio i ganiatáu’r cais yn ddarostyngedig i’r amodau canlynol:
- Amser
- Yn unol â’r cynlluniau.
- Cyfyngu nifer o unedau teithiol i 10 uned
deithiol, 6 pod a 50 pabell.
- Defnydd gwyliau yn unig a chadw cofrestr.
- Tymor gwyliau - 1af Mawrth i 31 Hydref
- Symud y podiau i
safle storio a ddangosir yn y cynllun rhwng 1 Tachwedd a 29 Chwefror.
- Cwblhau’r gwaith tirweddu yn y tymor plannu
cyntaf.
- Unol ac argymhellion Adroddiad Ecolegol
- Nodiadau: Tynnu sylw at sylwadau Swyddog
Trwyddedu Carafanau
- Nodiadau: Tynnu sylw at sylwadau Cyfoeth
Naturiol Cymru ynglŷn â chael cynllun llifogydd mewn lle.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Cynllunio
Gwnaed yn y cyfarfod: 05/09/2022 - Pwyllgor Cynllunio
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 05/09/2022
Effective from: 05/09/2022
Penderfyniad:
PENDERFYNIAD: Gwrthod
Rhesymau
- Mae’r bwriad, oherwydd ei faint a gosodiad yn
groes i ofynion Polisïau PCYFF3, TAI 4, o’r CDLL. Ystyrir byddai’r bwriad
yn groes i’r patrwm datblygu oherwydd diffyg cwrtil / man agored o gwmpas
y tŷ. Ni ystyrir byddai’r bwriad yn ychwanegu at nac yn gwella
cymeriad ac ymddangosiad y safle a byddai colled o wagle agored rhwng
anheddau presennol yn niweidio edrychiad a chymeriad y strydlun a’r ardal
cadwraeth.
- Ystyrir bod y bwriad yn groes i ofynion
polisïau PS19, PS20, AT 1 a AMG 1 o’r CDLL gan na fyddai’r bwriad,
oherwydd y golled o lecyn agored ynghyd a maint ac edrychiad y tŷ, yn
diogelu nac yn gwella’r gosodiad ac edrychiad yr ardal cadwraeth a’r Ardal
o Harddwch Naturiol Eithriadol a golygfeydd pwysig i mewn ac allan o’r
ardal.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Cynllunio
Gwnaed yn y cyfarfod: 05/09/2022 - Pwyllgor Cynllunio
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 05/09/2022
Effective from: 05/09/2022
Penderfyniad:
PENDERFYNIAD:
Dirprwyo’r hawl i’r Uwch Reolwr Cynllunio i
ganiatáu’r cais yn ddarostyngedig i’r amodau isod:
- 5 mlynedd.
- Yn unol â’r
cynlluniau/manylion a gyflwynwyd gyda’r cais.
- Cydymffurfio a’r
cynllun tirweddu ynghyd a gwaith cynnal a chadw i’r dyfodol.
- Sicrhau
cynllun/trefniadau ar gyfer darparu’r anheddau fforddiadwy e.e. meini
prawf meddiannaeth, amserlen a threfniadau i sicrhau bydd yr unedau yn
fforddiadwy yn bresennol ac am byth.
- Cydymffurfiaeth
gydag argymhellion y dogfennau Arolwg Ecolegol ac Asesiad Effaith
Coedyddiaeth.
- Cytuno manylion enw
Cymraeg ar gyfer y datblygiad ac ar gyfer yr anheddau oddi fewn y
datblygiad cyn i’r anheddau preswyl cael eu meddiannu at unrhyw ddiben
ynghyd ac arwyddion sy'n hysbysu ac yn hyrwyddo'r datblygiad.
- Cyfyngu ar oriau
gweithio i 08:00-18:00 Llun i Wener; 08:00-13:00 Sadwrn a dim o gwbl ar y
Sul a Gŵyl y Banc.
- Cyflwyno Datganiad
Dull Adeiladu i’r ACLL i gynnwys mesurau lleihau sŵn, llwch a
dirgryniad, parcio cerbydau gweithredwyr y datblygiad, llwytho/dadlwytho
nwyddau, storio cyfarpar offer ar y safle, ffensys diogelwch, cyfleusterau
golchi olwynion a chynllun ail-gylchu/gwaredu sbwriel.
- Amodau perthnasol
gan yr Uned Drafnidiaeth gan gynnwys sicrhau gwelededd o 33m i’r
de-orllewin o’r brif fynedfa.
- Cytuno gyda
gorffeniadau allanol yr anheddau.
- Llechi naturiol i’r
toeau.
- Cytuno ar ffens acwstig
- Cytuno ar gyfarpar
chwarae i plant.
Nodyn: Angen cyflwyno cais system ddraenio
cynaliadwy i’w gytuno gyda’r Cyngor.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Cynllunio
Gwnaed yn y cyfarfod: 05/09/2022 - Pwyllgor Cynllunio
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 05/09/2022
Effective from: 05/09/2022
Penderfyniad:
PENDERFYNIAD: Gwrthod
Rheswm
- Byddai’r datblygiad arfaethedig yn achosi effeithiau gor-edrych sylweddol a fyddai’n niweidiol i fwynderau
trigolion eiddo preifat cyfagos yn ogystal â chreu elfen ddominyddol a
fyddai'n ffynhonnell posib sŵn ac aflonyddwch. Mae'r cais felly'n
groes i bolisi PCYFF 2 Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn fel y
mae’n ymwneud ag amddiffyn mwynderau trigolion lleol.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Cynllunio
Gwnaed yn y cyfarfod: 05/09/2022 - Pwyllgor Cynllunio
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 05/09/2022
Effective from: 05/09/2022
Penderfyniad:
PENDERFYNIAD: Caniatáu gydag amodau:
1. Cychwyn o fewn 5 mlynedd.
2. Unol a’r cynlluniau
3. To llechi
4. Deunyddiau i weddu
5. Amod Dŵr Cymru
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Cynllunio
Gwnaed yn y cyfarfod: 05/09/2022 - Pwyllgor Cynllunio
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 05/09/2022
Effective from: 05/09/2022
Penderfyniad:
PENDERFYNIAD: Caniatáu gydag amodau
- 5 mlynedd.
- Unol â chynlluniau a gyflwynwyd.
- Defnydd atodol i’r prif ganolfan garddio.
- Cwblhau'r parcio ychwanegol cyn defnyddio’r
adeilad.
- Yr holl arwyddion mewnol ac allanol i fod yn
Gymraeg yn unig neu yn ddwyieithog gyda’r flaenoriaeth i’r iaith Gymraeg.
- Amodau bioamrywiaeth (golau, gwelliannau
bioamrywiaeth.
- Tirweddu.
- Cytuno cynllun draenio tir.
- Cyfyngu i werthiant o nwyddau cymharol yn
unig, dim gwerthiant o nwyddau cyfleus (bwyd)