Defnyddiwch yr opsiynau chwilio isod ar waelod y dudalen i ddarganfod y gwybodaeth diweddaraf yng nghyswllt penderfyniadau Pwyllgorau'r Cyngor sydd yn gwneud penderfyniadau.
Neu fe allwch ymweld â tudalen penderfyniadau swyddogion i weld gwybodaeth yng nghyswllt penderfyniadau dirprwyedig swyddogion.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyngor
Gwnaed yn y cyfarfod: 03/10/2024 - Y Cyngor
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 03/10/2024
Effective from: 03/10/2024
Penderfyniad:
Mae Cyngor Gwynedd yn galw ar Lywodraeth San Steffan i drosglwyddo’r
hawl i Lywodraeth Cymru yng Nghaerdydd i ddynodi Mawrth y 1af o bob blwyddyn yn
wyliau cenedlaethol swyddogol yng Nghymru gan gydnabod Dewi Sant yn Nawddsant
Cymru. Fe wneir hyn gyda Seintiau Yr Alban a Gogledd Iwerddon. Hefyd mae’r
Cyngor yn gofyn am gefnogaeth Llywodraeth Cymru i hyn (mae wedi datgan ei
chefnogaeth o’r blaen) yn ogystal â holl gynghorau Sir, Tref a Bro yng Nghymru.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyngor
Gwnaed yn y cyfarfod: 03/10/2024 - Y Cyngor
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 03/10/2024
Effective from: 03/10/2024
Penderfyniad:
Mae Cyngor Gwynedd yn gwrthwynebu’n llwyr
doriadau haerllug a chreulon y Llywodraeth yn San Steffan i ddiddymu taliadau gwresogi
cartrefi pensiynwyr Gwynedd y gaeaf hwn. Bydd y toriadau yma yn golygu bod o
leiaf 85%, sef dros 20,000 o bensiynwyr Gwynedd yn colli allan ar y taliadau
tanwydd. I’r perwyl hwn, rydym yn anfon gohebiaeth gre at Keir
Starmer, fel prif weinidog y Deyrnas Gyfunol, yn
beirniadu ei bolisi creulon ac yn holi iddo ei wyrdroi.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyngor
Gwnaed yn y cyfarfod: 03/10/2024 - Y Cyngor
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 03/10/2024
Effective from: 03/10/2024
Penderfyniad:
1.
Mae
Cyngor Gwynedd yn datgan ein bod yn credu y dylai'r cyfrifoldeb dros Stad y
Goron gael ei ddatganoli i Lywodraeth Cymru. Dylai unrhyw elw a gynhyrchir gan
Stad y Goron, yma ar diroedd a dyfroedd Cymru, aros yng Nghymru, er budd ein
trigolion a’n cymunedau. Mae cyfrifoldeb dros Stad y Goron eisoes wedi ei
ddatganoli i Lywodraeth Yr Alban.
2.
Mae'r
Cyngor hwn hefyd yn datgan ein hanfodlonrwydd bod rheidrwydd arnom i dalu
ffioedd blynyddol (ar ffurf prydlesi) er mwyn sicrhau bod trigolion Gwynedd ac
ymwelwyr yn cael mynediad i wahanol safleoedd, gan gynnwys ein traethau a
chyfleusterau eraill. Yn 2023, talodd Cyngor Gwynedd gyfanswm o dros £161,000 i
Stad y Goron. Roedd ffioedd y prydlesi yn 2023 yn amrywio o £35 ar gyfer 'blaen
draeth Bangor', i £8,500 ar gyfer 'blaen draeth Dwyfor', i £144,000 ar gyfer
'Hafan Pwllheli'. Mewn cyfnod o gynni ariannol difrifol i wasanaethau
cyhoeddus, credwn ei fod yn anfoesol bod ffioedd o'r fath yn mynd tuag at
gynnal y Frenhiniaeth Brydeinig ac i goffrau'r Trysorlys yn Llundain. Dylai'r
arian hwn aros yng Ngwynedd er mwyn cefnogi pobl Gwynedd.
3.
Rydym
yn galw ar y Prif Weithredwr i drefnu i agor trafodaethau gyda Stad Y Goron
ynghylch y ffioedd sy'n cael eu talu gan Gyngor Gwynedd. Byddwn yn annog y Prif
Weithredwr i geisio dwyn perswâd ar Stad Y Goron i beidio codi rhent ar y
Cyngor nes bydd sefyllfa gyllidol y Cyngor wedi gwella. Nodwn fod elw Stad Y
Goron wedi mwy na dyblu o £443 miliwn yn 2022/23 i £1.1biliwn yn 2023/24, yn yr
un cyfnod mae Cyngor Gwynedd wedi gweld eu cyllideb yn cael ei dorri mewn
termau real.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyngor
Gwnaed yn y cyfarfod: 03/10/2024 - Y Cyngor
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 03/10/2024
Effective from: 03/10/2024
Penderfyniad:
A hithau bellach yn dynesu at flwyddyn ers i’r rhyfel yn Gaza gychwyn
mae Cyngor Gwynedd yn nodi bod:
Dros 40,000 o drigolion Gaza wedi eu lladd gan luoedd diogelwch Israel
- y mwyafrif llethol yn sifiliaid.
Tua 10,000 o bobl - sifiliaid yn bennaf - heb eu darganfod ond sydd
bron yn sicr yn farw.
Dros 90,000 wedi eu hanafu - eto gyda’r mwyafrif yn sifiliaid.
Yn agos i 200,000 wedi marw oherwydd effeithiau anuniongyrchol ymgyrch
byddin Israel.
Bod mwyafrif llethol y 2.2m o bobl sy’n byw yno wedi colli eu cartrefi,
neu wedi gorfod symud o’u cartrefi.
Bod pobl sydd â’u teuluoedd yn byw yn Gaza ymysg trigolion Gwynedd.
O ystyried hyn, ac o ystyried nifer o
sefyllfaoedd erchyll cyfredol eraill megis Wcráin, Yemen a Maymar, geilw’r
Cyngor Llawn, fel rhan o’r broses o adolygiad blynyddol y Strategaeth
Fuddsoddi, fod ystyriaeth yn cael ei rhoi i ychwanegu darpariaeth sydd yn
cyfarch egwyddorion gwarchod iawnderau dynol a pharchu cyfraith ryngwladol.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyngor
Gwnaed yn y cyfarfod: 03/10/2024 - Y Cyngor
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 03/10/2024
Effective from: 03/10/2024
Penderfyniad:
Cymeradwyo a mabwysiadu Adroddiad Perfformiad Blynyddol a Hunanasesiad
Cyngor Gwynedd 2023/24.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Is-bwyllgor Trafnidiaeth Strategol CBC y Gogledd
Gwnaed yn y cyfarfod: 01/10/2024 - Is-bwyllgor Trafnidiaeth Strategol CBC y Gogledd
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 01/10/2024
Effective from: 01/10/2024
Penderfyniad:
Argymell bod yr Adroddiad
Cwmpasu Arfarniad Lles Integredig (IWBA) gan gynnwys ei Atodiadau’n cael eu
mabwysiadu gan yr Is-bwyllgor gan fod yn rhaid
eu paratoi i gefnogi’r Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Is-bwyllgor Trafnidiaeth Strategol CBC y Gogledd
Gwnaed yn y cyfarfod: 01/10/2024 - Is-bwyllgor Trafnidiaeth Strategol CBC y Gogledd
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 01/10/2024
Effective from: 01/10/2024
Penderfyniad:
1. Argymhellwyd cyflwyno ‘Datganiad gweledigaeth Cynllun
Trafnidiaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru’, ‘Amcanion SMART’ ac ‘Themâu
trawsbynciol’ i CBC y Gogledd er mwyn eu mabwysiadu a’u cynnwys yn ‘Achos Dros
Newid y Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol’ a ‘Chynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol
drafft Gogledd Cymru’.
2. Nodwyd prif ddyddiadau cerrig milltir ar gyfer cyflawni’r
Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol a chyfarwyddo gwaith pellach i gyflawni’r prif
gerrig milltir yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru.
3. Nodwyd Cynllun Ymgysylltu â Rhanddeiliaid drafft y mae’n
rhaid ei baratoi i gefnogi’r Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol, ac i argymell
unrhyw ystyriaethau ychwanegol y dylid eu cynnwys.
4. Nodwyd bydd y swyddog arweiniol yn uwch swyddog â
chyfrifoldeb am drafnidiaeth ym mha bynnag Awdurdod a gynrychiolir trwy’r
Cadeirydd etholedig. Cadarnhawyd bydd y swyddog arweiniol hwn yn gweithredu fel
cyswllt rhwng y Grŵp Trafnidiaeth Ymgynghorol a’r Is-bwyllgor hwn.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Is-bwyllgor Trafnidiaeth Strategol CBC y Gogledd
Gwnaed yn y cyfarfod: 01/10/2024 - Is-bwyllgor Trafnidiaeth Strategol CBC y Gogledd
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 01/10/2024
Effective from: 01/10/2024
Penderfyniad:
·
Cyfethol Aelodau (heb
bleidlais) ar yr Is-bwyllgor i gefnogi ei swyddogaethau a’i gyfrifoldebau.
·
Gofyn i’r isod am gynrychiolydd
fel yr Aelodau Cyfethol:
o
Parc Cenedlaethol Eryri
(unigolyn sydd â chyfrifoldeb am y portffolio trafnidiaeth)
o
Trafnidiaeth Cymru ( unigolyn
sydd âchyfrfoldeb dros ranbarth y Gogledd)
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Is-bwyllgor Trafnidiaeth Strategol CBC y Gogledd
Gwnaed yn y cyfarfod: 01/10/2024 - Is-bwyllgor Trafnidiaeth Strategol CBC y Gogledd
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 01/10/2024
Effective from: 01/10/2024
Penderfyniad:
Mabwysiadwyd y Cylch
Gorchwyl.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Is-bwyllgor Trafnidiaeth Strategol CBC y Gogledd
Gwnaed yn y cyfarfod: 01/10/2024 - Is-bwyllgor Trafnidiaeth Strategol CBC y Gogledd
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 01/10/2024
Effective from: 01/10/2024
Penderfyniad:
Ethol y Cynghorydd Dave
Hughes yn Is-gadeirydd yr Is-bwyllgor ar gyfer 2024/25.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Is-bwyllgor Trafnidiaeth Strategol CBC y Gogledd
Gwnaed yn y cyfarfod: 01/10/2024 - Is-bwyllgor Trafnidiaeth Strategol CBC y Gogledd
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 01/10/2024
Effective from: 01/10/2024
Penderfyniad:
Ethol y Cynghorydd Goronwy
Edwards yn Gadeirydd yr Is-bwyllgor ar gyfer 2024/25.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Craffu Gofal
Gwnaed yn y cyfarfod: 26/09/2024 - Pwyllgor Craffu Gofal
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 26/09/2024
Effective from: 26/09/2024
Penderfyniad:
1. Cytuno
i’r egwyddor o ymchwil pellach i addasu’r polisi codi tâl am ofal.
2. Gofynnwyd am adroddiad manylach yn cynnwys
union ffioedd i’w codi a’r fframwaith codi tâl
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Craffu Gofal
Gwnaed yn y cyfarfod: 26/09/2024 - Pwyllgor Craffu Gofal
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 26/09/2024
Effective from: 26/09/2024
Penderfyniad:
Derbyn yr adroddiad gan
nodi’r sylwadau a gyflwynwyd yn ystod y
drafodaeth.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Craffu Gofal
Gwnaed yn y cyfarfod: 26/09/2024 - Pwyllgor Craffu Gofal
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 26/09/2024
Effective from: 26/09/2024
Penderfyniad:
1.
Derbyn yr adroddiad
gan nodi’r sylwadau a gyflwynwyd yn ystod
y drafodaeth.
2.
Datgan pryder nad yw’r ddarpariaeth yn gyson ar
draws y Sir a phwysleisio pwysigrwydd rhoi egwyl i ofalwyr di-dâl.
3.
Gofynnwyd
am adroddiad pellach am yr adolygiad Polisi Trafnidiaeth ac adolygiad Gofal
Dydd er mwyn i’r Aelodau roi mewnbwn amserol.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Craffu Gofal
Gwnaed yn y cyfarfod: 26/09/2024 - Pwyllgor Craffu Gofal
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 26/09/2024
Effective from: 26/09/2024
Penderfyniad:
Derbyn yr adroddiad gan:
1.
Nodi pryder am y rhestrau aros am ofal cartref
mewn rhai ardaloedd y Sir.
2.
Ofyn am ddata am y rhestrau aros ar draws y Sir er
mwyn gallu cymharu ardaloedd yn rhwyddach.
3.
Ofyn i’r Aelod Cabinet ddiweddaru’r Pwyllgor ar
waith y Prosiect Gofal Cartref gan gynnwys gwybodaeth am leihau costau a gwella
ansawdd data.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru
Gwnaed yn y cyfarfod: 20/09/2024 - Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 20/09/2024
Effective from: 20/09/2024
Penderfyniad:
1.
Cymeradwywyd
Achos Busnes Llawn ar gyfer y prosiect Rhwydwaith Talent Twristiaeth.
2.
Awdurdodwyd
i’r Cyfarwyddwr Portffolio, mewn ymgynghoriad â’r Cadeirydd, yr Is-gadeirydd, y
Swyddog Adran 151 a’r Swyddog Monitro i gytuno a llunio cytundeb ariannu gyda
Grŵp Llandrillo Menai ar gyfer cyflawni’r prosiect, ar y sail bod
Grŵp Llandrillo Menai yn mynd i’r afael yn foddhaol â’r ‘materion sy’n
weddill’ a nodir yn adran 7.1 yr adroddiad.
3.
Dirprwywyd
cymeradwyaeth derfynol y caffaeliad sy’n weddill yng Ngham 1 i’r Cyfarwyddwr
Portffolio, mewn ymgynghoriad â’r Cadeirydd, yr Is-gadeirydd, y Swyddog Adran
151 a’r Swyddog Monitro lle mae gwariant a buddion o fewn paramedrau'r Achos
Busnes Llawn a gyflwynwyd.
4.
Dirprwywyd
awdurdod i’r Cyfarwyddwr Portffolio, mewn ymgynghoriad â’r Cadeirydd, yr
Is-gadeirydd, y Swyddog Adran 151 a’r Swyddog Monitro i gymeradwyo’r Achos
Cyfiawnhad Busnes dilynol ar gyfer Cam 2 y prosiect, y bedwaredd is-ganolfan
lle mae gwariant a buddion o fewn paramedrau’r Achos Busnes Llawn a gyflwynwyd.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru
Gwnaed yn y cyfarfod: 20/09/2024 - Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 20/09/2024
Effective from: 20/09/2024
Penderfyniad:
1.
Cymeradwywyd
Achos Busnes Amlinellol ar gyfer y prosiect Di-wifr Uwch, yn amodol ar
gymeradwyaeth Llywodraethau Cymru a’r DU o’r broses sicrwydd yr ymgymerwyd â
hi, a bod y Swyddfa Rheoli Portffolio yn rhoi sylw i’r materion sy’n parhau a
nodir yn Adran 7 yr adroddiad, ac yn gwneud cais bod Achos Busnes Llawn yn cael
ei baratoi er mwyn i’r Bwrdd ei ystyried.
2.
Dirprwywyd
hawl i’r Cyfarwyddwr Portffolio, mewn ymgynghoriad â’r Cadeirydd a’r
Is-gadeirydd, roi cymeradwyaeth terfynol o’r fanyleb caffael a’r meini prawf
gwerth cymdeithasol cyn i ariannwr y prosiect ddechrau caffael.
3.
Awdurdodwyd
i’r Cyfarwyddwr Portffolio, mewn ymgynghoriad â Swyddog Adran 151 a Swyddog
Monitro’r Awdurdod Lletya, i gytuno ar delerau drafft yn unol â’r adroddiad hwn
i’w cymeradwyo gan y Bwrdd Uchelgais fel sail ar gyfer y trefniadau ariannu
terfynol ar gyfer y prosiect a fydd yn ffurfio sail y Llythyr Cynnig Grant a
gaiff ei gytuno gan y Bwrdd ar y cam Achos Busnes Llawn.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru
Gwnaed yn y cyfarfod: 20/09/2024 - Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 20/09/2024
Effective from: 20/09/2024
Penderfyniad:
Derbyniwyd
adroddiad Archwilio Cymru a oedd yn amlygu cynllun archwilio’r Bwrdd Uchelgais
ar gyfer 2024.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru
Gwnaed yn y cyfarfod: 20/09/2024 - Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 20/09/2024
Effective from: 20/09/2024
Penderfyniad:
1.
Nodi
a derbyn adolygiad refeniw diwedd Awst 2024 y Bwrdd Uchelgais.
2.
Nodi
a derbyn diweddariad cronfeydd wrth gefn y Bwrdd Uchelgais.
3.
Cytuno ar
broffil gwariant cyfalaf diwygiedig y Bwrdd Uchelgais.