5 CYNLLUN HYBU'R GYMRAEG : ADRAN ADDYSG PDF 490 KB
Cyflwyno gwybodaeth am gyfraniad yr Adran Addysg i
weithrediad y Polisi Iaith a Chynllun Hybu’r Gymraeg yng Ngwynedd
Penderfyniad:
Derbyn yr adroddiad
gan nodi’r sylwadau a dderbyniwyd.
Cofnod:
Cyflwynwyd adroddiad gan yr Aelod Cabinet
Addysg, y Cynghorydd Cemlyn Williams yn manylu ar gyfraniad yr Adran Addysg i
weithrediad y Polisi Iaith a Chynllun Hybu’r Gymraeg yng Ngwynedd. Manteisiodd
ar y cyfle i amlygu rhai o uchafbwyntiau'r Adran Addysg ynghyd a rhai heriau
maent yn wynebu i’r dyfodol.
Tynnwyd sylw at ‘Cyfundrefn Addysg Drochi
tuag at 2032 a thu hwnt’ a'r buddsoddiad o £1.1 miliwn o arian cyfalaf addysg
Gymraeg Llywodraeth Cymru i sefydlu safleoedd addysg drochi o’r newydd yn Tywyn
a Bangor, ynghyd â gwella’r cyfleusterau presennol ym Mhorthmadog. Cyfeiriwyd
at y strategaeth ddysgu digidol arloesol ac uchelgeisiol sydd yn anelu i
ddarparu gliniaduron a/neu ddyfeisiadau digidol i holl ddisgyblion ac athrawon
y sir gan sicrhau mynediad didrafferth at waith yn yr ysgol ac yn y cartref.
Ategodd y Pennaeth Addysg mai’r gobaith yw ffurfweddu’r dyfeisiadau yn y
Gymraeg fyddai’n galluogi’r plant i gyfathrebu gyda’u teuluoedd a’u ffrindiau
yn y Gymraeg a’u hannog i ddefnyddio’r Gymraeg ar y cyfryngau cymdeithasol.
Yng nghyd-destun rhai o’r heriau, amlygwyd
pryder bod safon yr iaith a sgiliau iaith cymdeithasol wedi dirywio mewn rhai
ardaloedd yn ystod y pandemig. Ystyriwyd hynny yn
anochel efallai, oherwydd bod llai o gyswllt rhwng disgyblion a’u hathrawon /cymorthyddion, er ymgais cyson gan ysgolion i gadw
cysylltiad gyda disgyblion i geisio adennill tir. Cyfeiriwyd at yr her o
recriwtio staff gyda chymwysterau addas i alluogi darparu gwasanaeth a/neu
ddysgu drwy’r Gymraeg, a hefyd at brinder therapyddion iaith a seicolegwyr
addysg sydd, er yn bryder cenedlaethol, i’w weld yn waeth yng Ngwynedd oherwydd
yr angen am wasanaeth dwyieithog. Ategwyd bod trafodaethau cyson gyda
Llywodraeth Cymru i geisio lliniaru’r broblem.
Diolchwyd am
yr adroddiad
Rhoddwyd cyfle
i aelodau’r pwyllgor holi cwestiynau a derbyniwyd ymatebion i‘r cwestiynnau hynny gan y Swyddogion
Addysg
A fyddai modd gweithredu yn rhyngweithiol
drwy geisio newid trywydd gyrfa staff dysgu, (drwy ariannu cynlluniau hyfforddi
perthnasol) i fod yn seicolegwyr addysg?
Yr Adran Addysg wedi bod yn rhyngweithiol yn
lleol mewn ymgais i recriwtio seicolegwyr addysg. Cynigion bwrsariaeth wedi bod
yn llwyddiannus. Cynnig arall yw ceisio ennyn diddordeb drwy ddarpariaeth ôl 16
gan dargedu agweddau o brentisiaethau yn y maes.
Cyfeiriwyd at
y ffaith bod canran defnydd o’r Gymraeg fel iaith gyntaf yn y cyfnod sylfaen
yng Ngwynedd yn uwch nag unrhyw sir arall yng Nghymru, ond bod cwymp i’w weld
ar ddiwedd bl 9. Holwyd a yw’r cwymp yn un
cyffredinol ar draws y Sir neu a yw’n benodol i rai lleoliadau yn unig?
Ymddengys pan fydd disgyblion yn dewis eu pynciau TGAU a llwybr gyrfa ar ddiwedd Bl9 bod nifer helaeth yn dewis pynciau drwy’r Saesneg. Er nad oedd tystiolaeth i roi sylwedd i’r farn, bod y sefyllfa er hynny yn bodoli. Nodwyd bod ysgolion, gyda chefnogaeth yr Adran Addysg, yn hyrwyddo’r Gymraeg ac yn annog disgyblion i barhau gydag addysg Gymraeg. Nodwyd bod yr Adran Addysg yn cydweithio gyda Chanolfan Bedwyr ym Mangor i geisio sicrhau bod hyfforddiant ac adnoddau digidol Cymraeg ar gael i hwyluso mynediad i athrawon a disgyblion ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5