7 Cais Rhif C22/0950/11/LL 340 Stryd Fawr, Bangor, Gwynedd, LL57 1YA PDF 506 KB
Newid defnydd cyn glwb nos i 9 fflat hunangynhwysol 1 ystafell wely
Aelod Lleol: Cynghorydd Nigel
Pickavance a’r Cynghorydd Dylan Fernley
Dolen
i'r dogfennau cefndir perthnasol
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
PENDERFYNIAD: GOHIRIO
ER MWYN CWBLHAU'R BROSES CYHOEDDUSRWYDD YN GYWIR
Cofnod:
Newid
defnydd cyn glwb nos i 9 fflat hunangynhwysol 1 ystafell wely
Amlygodd
y Rheolwr Cynllunio bod yr argymhelliad i ganiatáu'r cais bellach wedi ei
ddiwygio i ohirio’r drafodaeth tan y cyfarfod nesaf (17-04-23) oherwydd bod
gohebiaeth wedi ei dderbyn gan drydydd parti yn nodi nad oeddynt yn ymwybodol
o’r cais a hwythau yn denant ar lawr gwaelod adeilad y cais. Amlygwyd mai siop
wag oedd llawr gwaelod yr adeilad. Argymhellwyd gohirio fel bod modd ail
ymgynghori.
Ategodd
y Swyddog Monitro mai priodol fyddai gohirio er mwyn ymgynghori yn llawn.
a)
Cynigiwyd ac eiliwyd
gohirio y cais
PENDERFYNWYD: GOHIRIO ER MWYN
CWBLHAU'R BROSES CYHOEDDUSRWYDD YN GYWIR