DIWEDDARIAD GAN YR YMGYNHGORYDD HER (MISS BETHAN JAMES)
I dderbyn diweddariad gan yr Ymgynghorydd
Her ar yr isod:
(i)
Safonau Addysg Grefyddol
(ii)
Adnoddau Addysg Grefyddol
(iii)
Addysg Grefyddol a’r Cwricwlwm am Oes
(iv)
Astudiaethau Crefyddol a TGAU /Safon Uwch
Dogfennau ychwanegol:
Cofnod:
(a) Addysg Grefyddol a’r Cwricwlwm am Oes
Atgoffwyd yr Aelodau o brif argymhellion Yr Athro Graham Donaldson fel
rhan o’r cwricwlwm “Dyfodol Llwyddiannus” neu Gwricwlwm am Oes, Cwricwlwm i
Gymru. Un o’r egwyddorion hynny ydoedd i’r cwricwlwm gael ei weithredu o’r
gwaelod i fyny a’i fod yn addas i’r ardal leol.
I’r perwyl hwn, roedd CYSAGau lleol yn enghraifft dda i allu dylanwadu
ar gwricwlwm lleol.
Ymhelaethwyd ymhellach o’r
pedwar diben wrth wraidd y cwricwlwm newydd arfaethedig sef cefnogi plant a
phobl ifanc i fod yn:
·
Ddysgwyr
uchelgeisiol, galluog sy’n barod i ddysgu drwy gydol eu hoes
·
Cyfranwyr
mentrus, creadigol sy’n barod i chwarae eu rhan yn llawn yn eu bywyd a’u gwaith
·
Dinasyddion
egwyddorol, gwybodus yng Nghymru a’r byd
·
Unigolion
iach, hyderus sy’n barod i fyw bywyd gan wireddu eu dyheadau fel aelodau
gwerthfawr o gymdeithas
Un o’r tasgau i’w
wynebu ydoedd sicrhau bod y cwricwlwm yn cael ei ddatblygu i ymateb i’r
dibenion uchod.
Ymhelaethodd Ymgynghorydd
Her GwE ei bod yn rhan o Banel Ymgynghorol a’u bod wedi cwrdd i geisio llunio
arweiniad ar “beth yw addysg grefyddol”.
Yn sgil y gwaith hwn, cyflwynwyd i’r Aelodau ddatganiadau ar “beth yw
Addysg Grefyddol dda” a gofynnwyd iddynt mewn parau drafod os oedd y
datganiadau yn cyfrannu at y pedwar diben a chonsensws yr Aelodau ar y cyfan
ydoedd bod y datganiadau yn ddigon clir ac yn gymwys i’r pedwar diben.
O ran y camau
nesaf, anogwyd yr athrawon a oedd yn bresennol i brofi’r uchod yn eu hysgolion
i weld os ydynt yn gyfforddus gyda’r datganiadau, a.y.b. ac anfon unrhyw
sylwadau o ran adborth yn ôl i Ymgynghorydd Her GwE.
(b)
TGAU / Safon Uwch
Esboniodd yr
Ymgynghorydd Her bod dirprwyaeth o’r Panel Ymgynghorol Cenedlaethol Addysg
Grefyddol wedi cwrdd gyda Mr Gareth Pierce, CBAC, a oedd wedi derbyn neges glir
bod pryder ynglyn a chyflwyno manyleb TGAU Medi diwethaf a rhoddwyd pwysau
arnynt i’w ohirio am flwyddyn. Erbyn hyn
nodwyd bod y fanyleb wedi cyrraedd.
Nodwyd bod athrawes arweiniol GwE (Mefys Jones) yn gweithredu’n
effeithiol mewn ymgynghoriad gydag athrawon Gwynedd a Môn ac y byddai deunydd
ar gael erbyn Mehefin / Gorffennaf.
Mewn ymateb i’r uchod
mynegwyd bryder ymhlith yr athrawon ynglyn a’r newidiadau i’r fanyleb TGAU a’r
ffaith bod ysgolion angen dechrau’r gwaith cwrs yn fuan a ddim deunyddiau
Cymraeg ar gael, ac y byddai canlyniadau ysgolion yn dioddef.
Deallir bod llawer
o ysgolion yn Ne Cymru yn cynnig Manyleb A fel cwrs dewisol, a Manyleb B fel un
statudol. Pwysleisiwyd bod Addysg
Grefyddol yn ofyniad statudol ar gyfer pob disgybl a bod angen i ysgolion ddehongli’r gofynion yn
drylwyr yn unol â’r ddeddf. Yn ogystal,
gellir darparu rhaglen astudio sy’n cyfeirio at y gofynion ac yn cynnig
gymwysterau priodol eraill e.e. Bagloriaeth Cymru.
(c)
Adnoddau Addysg Grefyddol
Cyfeiriwyd at y
cyhoeddiadau canlynol ar gyfer adnoddau:
·
Dau
rifyn o E-gylchgrawn Addysg Grefyddol wedi eu cyhoeddi ar gyfer Cyfnod
Allweddol 3
·
Podlediadau
– pytiau o raglenni’r BBC “Bwrw Golwg”
· Erthyglau gan dri awdur (Noel Dyer, Huw Dylan a Catrin ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7
DIWEDDARIAD GAN YR YMGYNGHORYDD HER (Miss Bethan James)
I dderbyn diweddariad gan yr Ymgynghorydd
Her ar yr isod:
(i)
Safonau Addysg Grefyddol
(ii)
Adnoddau Addysg Grefyddol
(iii)
Addysg Grefyddol a’r Cwricwlwm am Oes
(iv)
Astudiaethau Crefyddol a TGAU / Safon Uwch
Dogfennau ychwanegol: