Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679878
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Cofnod: Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorydd Arwyn
Herald Roberts a’r Cynghorydd Angela Russell |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Cofnod: Dim i’w
nodi |
|
MATERION BRYS Cofnod: Dim i’w
nodi |
|
Cofnod: Derbyniodd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod
blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd 12 Hydref 2023 fel rhai cywir. |
|
GWEITHREDU PENDERFYNIADAU'R PWYLLGOR PDF 661 KB I ystyried yr adroddiad a chynnig sylwadau Penderfyniad: Derbyn yr adroddiad Nodyn:
Cyflwyno
i gyfarfod 8fed o Chwefror 2024
Cofnod: Cyflwynwyd adroddiad oedd yn rhoi amlinelliad o sut mae adrannau’r
Cyngor wedi ymateb i benderfyniadau’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio fel
bod modd i’r Aelodau gael sicrwydd bod eu penderfyniadau yn cael sylw. Nodwyd
bod yr adroddiad yn rhoi cyfle i’r Aelodau ystyried y penderfyniad a wnaed gyda
bwriad o ddileu’r eitem / penderfyniad pan fydd y weithred wedi cwblhau. Diolchwyd am yr
adroddiad PENDERFYNWYD: Derbyn yr adroddiad Nodyn:
Cyflwyno
i gyfarfod 8fed o Chwefror 2024 ·
Datganiad Llywodraethu (adroddiad canol blwyddyn) ·
Cyflwyno diweddariad ar drosglwyddo swyddogaethau Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru i Is-bwyllgor grymusol Cydbwyllgor Corfforedig y Gogledd |
|
ADRODDIADAU ARCHWILIO CYMRU PDF 95 KB I ystyried a derbyn adroddiad(au) sydd wedi eu
cyhoeddi yn ddiweddar gan Archwilio Cymru ·
Adolygiad o Strategaeth Ddigidol – Cyngor Gwynedd ·
Diweddariad Rhaglen Waith ac Amserlen Ch2 Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Derbyn yr adroddiadau a nodi’r wybodaeth
Cofnod: Croesawyd Alan
Hughes, Yvonne Thomas a Lora Williams (Archwilio Cymru), Geraint Owen
(Cyfarwyddwr Corfforaethol) a Dewi Wyn Jones (Rheolwr Gwasanaeth Cefnogi Busnes
y Cyngor) i’r cyfarfod. Adolygiad o Strategaeth Ddigidol –
Cyngor Gwynedd Adroddodd yr Aelod Cabinet Cyllid bod yr
archwiliad wedi cael ei gynnal ar amser anffodus (Mai 2023) oedd yn gwrthdaro
gyda gwaith Bwrdd Trawsnewid Digidol y Cyngor wrth iddynt arwain ar lunio strategaeth newydd. Cyflwynwyd y
Strategaeth Ddigidol newydd i’r Pwyllgor Craffu Addysg ac Economi ym Medi 2023
lle derbyniwyd sylwadau defnyddiol am y cynllun cyn cyflwyno i’r Cabinet. Yn y
cyfamser, cyhoeddwyd canfyddiadau archwiliad Archwilio Cymru i ddefnydd digidol
yn y Cyngor yn mis Hydref 2023, ac oherwydd y gwrthdaro, nid oedd yr adroddiad
yn amlygu’r gwaith da roedd y Bwrdd Trawsnewid Digidol wedi ei wneud i
ddatblygu’r Strategaeth Ddigidiol. Cymeradwywyd y Strategaeth newydd gan y
Cabinet yn Tachwedd 2023. Ategodd bod tystiolaeth yn cyfiawnhau bod y
Strategaeth yn un safonol a bod trigolion Gwynedd wedi cael cyfle i gyflwyno
sylwadau yn ystod y cyfnod ymgynghori. Adroddodd Swyddog Archwilio Cymru ar
gyd-destun yr archwiliad gan nodi’r rheswm pam y cynhaliwyd yr archwiliad,
ffocws yr archwiliad a’r canfyddiadau. Cyfeiriwyd at y darganfyddiadau, y tri
argymhelliad a gynigwyd gan Archwilio Cymru ac ymateb
y Cyngor i’r argymhellion hynny.
Cydnabuwyd bod ffenest amser yr archwiliad wedi bod yn dynn a bod yr
adroddiad wedi canolbwyntio ar dystiolaeth a ddatgelwyd ar y pryd. Nid oedd gan y Cyngor gynllun ffurfiol
cyfredol ar gyfer datblygu ei wasanaethau digidol ar adeg cynnal yr archwiliad,
gan fod cyfnod y “Strategaeth Ddigidol” flaenorol wedi dod i ben yn 2018. Cyflwynwyd ymateb y Cyngor i’r archwiliad gan y Cyfarwyddwr
Corfforaethol. Fel Cadeirydd y Bwrdd Trawsnewid Digidol y Cyngor, diolchodd i’r
Bwrdd am eu gwaith clodwiw ac amlygodd fod ymateb ysgrifenedig yn arddangos bod
yr holl argymhellion eisoes wedi eu gweithredu neu yn dasg barhaus. Fodd
bynnag, ategodd ei siom gyda chynnwys cyffredinol yr ymchwiliad. Nododd, ym
Mawrth 2023 bod creu Strategaeth Ddigidol newydd wedi ei gynnwys fel un o
flaenoriaethau Cynllun Corfforaethol y Cyngor 2023 - 2028 ac eglurwyd y
sefyllfa wrth Archwilio Cymru yn y gobaith y byddair archwiliad yn ychwanegu
gwerth i’r Strategaeth derfynol. Amlygodd ei fod yn gwrthod sylw Archwilio
Cymru o benderfyniad y Cyngor i beidio ag ymgynghori â’r cyhoedd i ddatblygu
Strategaeth Ddigidol - nododd bod cyfnod ymgynghori wedi bod ar Gynllun y
Cyngor a bod sefydlu Strategaeth yn rhan o’r Cynllun hwnnw. Amlygodd ei farn bod yr adroddiad yn creu cam argraff o ddatblygiadau
yn y maes a bod angen osgoi hyn i’r dyfodol. Rhoddwyd cyfle i Archwilio Cymru ymateb i sylwadau’r Cyfarwyddwr
Corfforaethol. Nodwyd; ·
Er ymgynghori ar Gynllun
y Cyngor, y cynllun aymgynghorwyd
arno yn eang
ac felly dim ffocws digonol
ar y maes digidol ·
Diffyg tystiolaeth
o ddadansoddi data, creu cyfleoedd gyda phartneriaid a monitro gwerth am arian - dim beirniadaeth yma ond cyfleoedd i
wella ar gyfer y dyfodol. Angen sicrhau bod y Strategaeth newydd yn mabwysiadu’r elfennau hyn. Yn ystod y drafodaeth ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6. |
|
CYNNYRCH ARCHWILIO MEWNOL PDF 267 KB Derbyn yr adroddiad, sylwebu ar y cynnwys a chefnogi’r gweithrediadau sydd eisoes wedi’u cytuno gyda’r gwasanaethau perthnasol Penderfyniad: Derbyn yr adroddiad a chefnogi’r gweithrediadau cytunedig sydd
eisoes wedi’u cyflwyno i reolwyr y gwasanaethau perthnasol. Cofnod: Cyflwynwyd, er gwybodaeth, adroddiad gan y Rheolwr Archwilio
yn diweddaru’r Pwyllgor ar waith archwilio mewnol am y cyfnod o 1 Hydref 2023
hyd 30 Tachwedd 2023. Amlygwyd bod 6 o archwiliadau o Gynllun Gweithredol
2023/24 wedi eu cwblhau gyda phump ohonynt wedi derbyn lefel sicrwydd digonol
ac un wedi derbyn lefel sicrwydd uchel. Cyfeiriwyd at y gwaith sydd ar y gweill
a rhoddwyd cyfle i’r Aelodau holi / gynnig sylwadau am yr Archwiliadau a
gwblhawyd. Cymerodd y Rheolwr Archwilio'r cyfle i ddiolch i
Bleddyn Rhys ac Eva Williams am arwain y gwasanaeth yn ystod ei habsenoldeb o’r
gwaith. Diolchwyd am yr
adroddiad Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â briff y pum archwiliad oedd yn
ymwneud â chartrefi Gofal a chartrefi preswyl yn y Sir, ac os mai pwrpas yr
archwiliad oedd gwirio llywodraethiant a strwythur y
gofal, a oedd archwiliad pellach yn edrych ar feddyginiaethau a llesiant y
trigolion, nodwyd bod yr archwiliadau hyn yn eang ac yn canolbwyntio yn bennaf
ar risgiau i’r preswylwyr. Nodwyd bod yr asesiadau yn gwirio pecynnau gofal pob
preswylydd, yn gwirio arbenigedd y gofal o ran cynnwys y pecyn gofal a sicrhau
bod yr asesiadau risg wedi eu cwblhau. Ategwyd y byddai’r feddygfa leol a Bwrdd
Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIBPC) yn cadw golwg ar yr elfennau meddygol
ac addasrwydd y gofal, ac Arolygaeth Gofal Cymru yn cadw golwg ar yr elfennau
gofal a diogelwch. Mewn ymateb i sylw y byddai’r Uned Archwilio yn edrych ar adroddiadau
proffesiynol os bydd pryder yn codi wrth weithredu archwiliad yn y maes yma,
nodwyd bod edrych ac ymateb i argymhellion adroddiadau diweddar yn rhan o’r
gwaith maes. PENDERFYNWYD: Derbyn
yr adroddiad a chefnogi’r gweithrediadau cytunedig sydd eisoes wedi’u cyflwyno
i reolwyr y gwasanaethau perthnasol. |
|
CYNLLUN ARCHWILIO MEWNOL 2023/24 PDF 187 KB I nodi cynnwys yr adroddiad fel diweddariad o gynnydd yn
erbyn cynllun archwilio 2023/24, cynnig sylwadau a derbyn yr adroddiad. Penderfyniad: Cofnod: Cyflwynwyd, er gwybodaeth,
adroddiad gan y Rheolwr Archwilio yn diweddaru’r Pwyllgor ar y sefyllfa
gyfredol o ran cwblhau Cynllun Archwilio Mewnol 2023/24.
Cyfeiriwyd at statws y gwaith ynghyd â’r
amser a dreuliwyd ar bob archwiliad. Amlygwyd, hyd at 30 Tachwedd 2023 bod 47% o’r 30 archwiliad unigol sydd yn y cynllun,
bod 14 wedi eu rhyddhau yn derfynol
neu wedi cau. Cyfeiriwyd at addasiadau â wnaed
i’r Cynllun a hynny oherwydd cyfnod salwch hirdymor,
gwyliau, salwch arall, hyfforddiant a chyfarfodydd, gan egluro ei bod yn
anochel na ellid cynnal rhai
archwiliadau oherwydd y rhesymau hyn. Penderfynwyd
felly canslo 12 archwiliad
ac addasu 3 hyd paratoi Cynllun Archwilio Mewnol 2024/25. Diolchwyd am yr adroddiad Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn a sut fydd penderfynu
canslo archwiliadau ac os yw hyn
yn cael ei
wneud yn seiliedig ar risg
gyda bwriad o adolygu’r archwiliad yn y cylch nesaf
o archwiliadau, cadarnhawyd
bod y penderfyniad yn seiliedig gyda risg. Ategwyd y byddai archwiliadau sydd yn llithro
yn cael eu
cynnwys ar Gynllun 2024/25 ac os bydd eraill angen
eu blaenoriaethau, bydd trafodaethau yn cael eu
cynnal gyda phenaethiaid. I’r dyfodol, nodwyd bod bwriad i’r Cynllun
fod yn fwy
hyblyg a hyn oherwydd bod cynlluniau yn y gorffennol wedi bod yn rhwystredig
a rhy sefydlog. Mewn ymateb i’r sylwadau, awgrymwyd nodi mwy o wybodaeth / rhesymeg dros ganslo,
ar yr adroddiad i’r dyfodol. Ategwyd
y byddai modd i’r Pwyllgor roi
mewnbwn ar yr agwedd ‘seiliedig ar risg’ pan fydd
Cynllun 2024/25 yn cael ei gyflwyno
i gyfarfod mis Chwefror. Mewn ymateb i bryder mai 47% o’r 30 archwiliad unigol sydd wedi eu
cwblhau, amlygwyd bod proffil y dangosydd fesul chwarter yn nodi targed diwedd
chwarter 3 yn 50%, felly 47% yn berfformiad cadarnhaol. Ategodd y Pennaeth
Cyllid bod ganddo gyfrifoldeb fel Swyddog 151 i sicrhau ansawdd, ac er gwaethaf
y flwyddyn heriol a gorfod canslo archwiliadau, roedd yn hyderus bod y tîm wedi
cyflawni eu gwaith i’r safon gofynnol. Petai’r gwaith heb ei gwblhau i’r safon
ddisgwyliedig, byddai dyletswydd arno i amlygu hynny. PENDERFYNWYD: Derbyn yr
adroddiad a nodi’r cynnydd yn erbyn Cynllun Archwilio 2023/24 |
|
HUNANASESIAD O EFFEITHIOLRWYDD Y PWYLLGOR ARCHWILIO A LLYWODRAETHU PDF 176 KB I ystyried y cynnwys, cynnig sylwadau ar yr
adroddiad, a phenderfynu os am gynnal hunanasesiad Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Derbyn yr adroddiad a phenderfynu cynnal hunanasesiad
effeithlonrwydd, wyneb yn wyneb cyn Mai 2024 Cofnod: Cyflwynwyd adroddiad gan y
Pennaeth Cyllid yn amlinellu’r angen i’r Pwyllgor fel
un sydd wedi ei ddynodi fel
‘y rhai sy’n gyfrifol am lywodraethu’ gynnal hunanasesiad cyfnodol o’i effeithiolrwydd.
Adroddwyd nad oedd y Pwyllgor wedi cynnal hunanasesiad
ers Tachwedd 2018 a gan fod y Cyngor cyfredol bellach yn ei le ers
blwyddyn a hanner ac aelodau newydd ar y Pwyllgor, mai amserol fyddai
cynnal ymarferiad hunanasesiad. Yng Nghanllawiau Statudol Llywodraeth Cymru a wnaed o dan Fesur Llywodraeth Leol 2011 (Mehefin 2012), nodir fod y Llywodraeth
eisoes wedi cymeradwyo cyhoeddiad CIPFA,
“Audit Committees: Practical Guidance for Local Authorities”, ac yn cynghori awdurdodau
lleol i fwrw
golwg ar y dogfennau hyn fel
rhai atodol i’r canllawiau statudol. Amlygwyd bod canllawiau CIPFA yn cynnwys arfau
er mwyn cynorthwyo aelodau pwyllgorau archwilio i gynnal
hunanasesiad ac y byddai canlyniad yr asesiad yma yn dystiolaeth
ar gyfer cofrestr risg y Cyngor (risg L18, Trefniadau rheolaeth fewnol anaddas, sy'n golygu
un ai nad ydym yn gwarchod rhag
risgiau, neu yn gwastraffu adnoddau ar or-reoli) ac i’r Datganiad Llywodraethu
Blynyddol. Awgrymwyd trefnu gweithdy (cyn cyhoeddi Datganiad
Llywodraethu Blynyddol) fel cyfle i
adolygu’r gwaith, bod yn agored a gwireddu
potensial y Pwyllgor yn llawn. Gofynnwyd
hefyd i’r Aelodau ystyried hwylusydd allanol i gynnal
y cyfarfod. Diolchwyd am yr adroddiad Yn ystod y drafodaeth ddilynol, amlygwyd y sylwadau canlynol: ·
Amserol cynnal
hunanasesiad ·
Bod angen cynnal y cyfarfod wyneb yn wyneb cyn
mis Mai 2024 ·
Cytuno, os oes adnoddau digonol,
i gael hwylusydd
allanol i arwain y cyfarfod fel bod modd i’r
swyddogion gynnig mewnbwn ·
Bod angen ystyried adborth o waith y Pwyllgor gan Wleidyddion
ac Archwilio Cymru i’w gynnwys yn yr hunanasesiad
PENDERFYNWYD: Derbyn yr adroddiad a chynnal hunanasesiad effeithlonrwydd, wyneb yn wyneb cyn
Mai 2024 |
|
RHEOLAETH TRYSORLYS 2023-24 ADOLYGIAD CANOL BLWYDDYN PDF 326 KB I dderbyn yr adroddiad er gwybodaeth. Penderfyniad: Cofnod: Cyflwynwyd, er gwybodaeth adroddiad
yn amlygu gwir weithgarwch Rheolaeth Trysorlys y Cyngor yn ystod y flwyddyn
ariannol gyfredol. Yng nghyfarfod y Cyngor Llawn ym Mawrth 2023 cymeradwywyd y Strategaeth Rheolaeth Trysorlys ar gyfer y flwyddyn
2023/24. Amlygwyd, yn ystod y chwe mis rhwng y 1af o Ebrill a 30 Medi
2023 bod gweithgarwch benthyca’r
Cyngor wedi aros o fewn cyfyngiadau a osodwyd yn
wreiddiol. Ategwyd yr amcangyfrifir bod gwir incwm buddsoddi’r Cyngor yn uwch na’r
incwm disgwyliedig yng nghyllideb 2023/24. Eglurwyd, yn y cyd-destun allanol,
bod y cyfnod wedi bod yn un prysur a llewyrchus iawn i weithgaredd rheolaeth
trysorlys y Cyngor. Ni wnaeth
unrhyw sefydliad lle'r oedd y Cyngor wedi buddsoddi arian gyda hwy
wedi methu â thalu nôl, ac roedd
cyfraddau llog uchel wedi cynhyrchu
incwm llog sylweddol. Cyfeiriwyd at y cefndir economaidd a nodwyd, yn y cyd-destun
lleol, bod sefyllfa ar 30 Medi 2023 yn gryf iawn gyda’r
Cyngor mewn sefyllfa buddsoddiadau net a hynny oherwydd lefel uchel o fuddsoddiadau a chyfalaf gweithredol sydd gan y Cyngor sy’n cynnwys arian
y Bwrdd Uchelgais a’r Gronfa Bensiwn. Yng nghyd-destun sefyllfa benthyca'r Cyngor, adroddwyd nad oedd unrhyw
symud wedi bod yn lefel y benthyciadau
yn ystod y 6 mis diwethaf gyda’r Cyngor yn parhau gyda’i
strategaeth o ddefnyddio adnoddau mewnol cyn benthyca. Ategwyd
bod cost benthyca wedi codi yn sylweddol
yn ddiweddar oherwydd amodau’r farchnad ac felly bod y Cyngor mewn
sefyllfa ffodus. Yn nhermau gweithgareddau buddsoddi, cyfeiriwyd at y mathau o fuddsoddiadau y buddsoddir ynddynt sydd, yn unol
â’r arfer, yn cynnwys banciau
a chymdeithasau adeiladu, awdurdodau lleol, cronfeydd marchnad arian, swyddfa rheoli dyledion a chronfeydd wedi’i pwlio. Adroddwyd bod y gyfradd banc sylfaenol
wedi codi i 5.25% yn y cyfnod
a’r dychweliadau wedi bod yn uchel.
Ategwyd bod y Cyngor wedi buddsoddi £13m mewn cronfeydd cyfun, sydd yn £3m yn
ychwanegol ers cyflwyno’r wybodaeth ddiwethaf. Nodwyd bod y cronfeydd wedi’i pwlio yn fuddsoddiadau
tymor canolig / tymor hir sydd yn cynnig lefel
incwm da iawn, a gyda lefelau arian
y Cyngor yn iach, amlygwyd bod penderfyniad wedi ei wneud
i fuddsoddi ymhellach ynddynt, ar gyngor Arlingclose. Cadarnhawyd bod gweithgareddau
rheoli trysorlys a gynhaliwyd yn ystod y cyfnod yn cydymffurfio gyda Chod Ymarfer
CIPFA a Strategaeth Rheoli Trysorlys sy’n amlygu rheolaeth gadarn
dros yr arian, er nad oedd cydymffurfiaeth
â dangosydd Datguddiad Cyfraddau llog. Eglurwyd bod y dangosydd wedi ei osod
yn amodau llog is mis Chwefror 2023 ac felly’n rhesymol bod y symiau mor wahanol. Bydd trafodaethau yn cael eu
cynnal gydag Arlingclose i osod
dangosydd gwahanol ar gyfer 2024/25. Tynnwyd sylw at
gyflwyniad Meincnod Atebolrwydd (liability benchmark), sy’n arf pwysig
i sefydlu os yw'r Cyngor yn debygol o fod yn fenthyciwr hirdymor neu'n
fuddsoddwr hirdymor yn y dyfodol, ac felly’n siapio’r ffocws strategol a’r
penderfyniadau. Diolchwyd am yr adroddiad. PENDERFYNWYD: Derbyn
yr adroddiad er gwybodaeth |
|
CYNGOR GWYNEDD - CYNLLUN ARCHWILIO MEWNOL 2023 PDF 794 KB I ysytried
yr adroddiad Penderfyniad: PENDERFYNIAD Derbyn yr adroddiad, er gwybodaeth Cofnod: Adroddwyd gan y
Rheolwr Archwilio o Archwilio Cymru bod y Cynllun Archwilio Manwl bellach wedi
ei gyhoeddi. Eglurwyd bod y Cynllun yn amlinellu’r gwaith fydd yr archwilwyr yn
ei wneud er mwyn cyflawni eu dyletswydd statudol sy’n cynnwys cadw llygad ar y
risgiau sylweddol i ddatganiadau ariannol Cyngor Gwynedd, sicrhau bod
trefniadau gwerth am arian ar waith a chydymffurfio a’r egwyddor datblygu
gynaliadwy wrth osod a chymryd camau i gyflawni amcanion llesiant gyda
pherthnasedd lefel sicrwydd wedi ei osod ar £5.387m. Cyfeiriwyd at y risgiau i’r datganiadau sylweddol (Gwrthwneud gan y
Rheolwyr) sydd yn berthnasol i bob Awdurdod Lleol ynghyd a tri risg generig,
oedd eto wedi eu cynnwys ymhob cynllun archwilio ac nid yn risg penodol i
Wynedd. Tynnwyd sylw at y gwaith archwilio perfformiad arfaethedig ac nad oedd
addasiadau i’r wybodaeth y cyflwynwyd yn y cynllun amlinellol. Ategwyd bod y
cynllun manwl hefyd yn cynnwys amserlen (bwriad cyflwyno adroddiad ar y gwaith
o archwilio’r Datganiadau Ariannol i’r Pwyllgor, er nodi Tachwedd 2023,
llithriad i Ionawr 2024), manylion y tîm archwilio a’r ffi archwilio o
£381,197. Pwysleiswyd
na all Archwilio Cymru wneud elw ar y gwaith a bydd rhan o’r ffi, os bydd cost
cynnal yr archwiliad yn llai na’r hyn a amcangyfrifid, yn cael ei ad-dalu. Diolchwyd am yr adroddiad. Mewn ymateb i sylw bod archwiliadau generig yn creu lot o waith
ychwanegol ac er derbyn bod posib rhoi ffocws ar y materion sy’n cael eu
harchwilio, nid yw’r atebion yn generig, nodwyd, o fewn archwiliadau
cenedlaethol nid yw’r ffocws lleol i Wynedd mor amlwg ond wrth weithredu’r archwiliadau
thematig bydd tystiolaeth leol yn bwydo i mewn i’r adroddiad cenedlaethol fydd
yn crynhoi’r wybodaeth a gasglwyd. PENDERFYNWYD Derbyn yr adroddiad er gwybodaeth |