Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Eirian Roberts 01286 679018
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Derbyn
unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb. Cofnod: Derbyniwyd ymddiheuriadau
gan y Cynghorydd Aled Griffith (Cyngor Tref Porthmadog), Llyr Beaumont Jones
(Pennaeth Cynorthwyol Economi a Chymuned) ac Arthur Francis Jones (Uwch Swyddog
Harbyrau). |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Derbyn
unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol. Cofnod: Ni dderbyniwyd datganiad o fuddiant personol
gan unrhyw aelod oedd yn bresennol. |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw
eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd. Cofnod: Ni dderbyniwyd unrhyw faterion brys. |
|
Bydd y
Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod o’r pwyllgor hwn a
gymhaliwyd ar 3 Hydref, 2023 fel rhai cywir. Cofnod: Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod
blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 3 Hydref, 2023 fel rhai cywir. |
|
DIWEDDARIAD AR FATERION RHEOLAETHOL YR HARBWR PDF 99 KB Cyflwyno
adroddiad yr Uwch Swyddog Harbyrau. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Nodi a derbyn yr adroddiad. Cofnod: Cyflwynwyd yr
adroddiadau isod a gwahoddwyd adborth gan yr aelodau ar faterion diogelwch a
materion gweithredol yr harbwr. (1)
Adroddiad
yr Uwch Swyddog Harbyrau yn rhoi diweddariad bras i’r pwyllgor ar faterion yr harbwr
am y cyfnod rhwng mis Hydref 2023 a Chwefror 2024. (Cyflwynwyd yr
adroddiad gan y Rheolwr Gwasanaeth Morwrol yn absenoldeb yr Uwch Swyddog
Harbyrau oherwydd salwch.) Diolchwyd i’r Uwch
Swyddog Harbyrau am baratoi’r adroddiad ysgrifenedig, a dymunwyd gwellhad buan
iddo. Llongyfarchwyd
Math Roberts ar ei benodiad i’r swydd lawn amser Swyddog Traethau. Mewn ymateb i gwestiwn, nodwyd na ragwelid ar
hyn o bryd y byddai angen i’r Swyddog Traethau fynychu cyfarfodydd y pwyllgor
harbwr gan mai traethau fyddai prif ffocws y swydd, ond eglurwyd y byddai’r
swyddog yn cynorthwyo staff yr harbwr gyda materion harbwr hefyd pan fo angen. Fel rhan o’r
adroddiad, rhoddodd y Rheolwr Gwasanaeth Morwrol grynodeb byr o gyllidebau’r
Harbwr 01/4/23 - 31/3/24 (Adolygiad Tachwedd 2023), a gynhwyswyd fel atodiad
i’r adroddiad. Manylwyd ar yr elfennau
canlynol o’r gyllideb:- Gweithwyr Eglurwyd bod y
gorwariant a ragwelid o dan y pennawd hwn yn bennaf oherwydd costau goramser
staff oedd wedi’u galw i mewn i’r gwaith yn ystod cyfnodau o wyliau / y tu
allan i oriau gwaith arferol dros y flwyddyn i ddelio â digwyddiadau, nid yn
unig yn Harbwr Porthmadog, ond ar y traethau ac yn yr harbyrau eraill yng
Ngwynedd hefyd. Diolchwyd i’r
staff, ac yn arbennig i’r Harbwrfeistr a’r Harbwrfeistr Cynorthwyol, am eu
hymrwymiad i gynorthwyo gyda’r digwyddiadau hyn. Eiddo Eglurwyd bod arian
ychwanegol wedi’i gynnwys dan y pennawd hwn rhag ofn y byddai angen gwario’n
sylweddol ar yr adeiledd, wal yr harbwr neu’r tir o gwmpas yr harbwr. Gan na chafwyd unrhyw gostau sylweddol y
tymor hwn, rhagwelid tanwariant ar y gyllideb. Gwariant Un Tro –
Ariannu o Gronfeydd yr Adran Eglurwyd:- ·
O
ganlyniad i godi ffioedd, bod gan y Gwasanaeth Morwrol a Hafan Pwllheli
gronfeydd lle mae arian wedi cronni ers blynyddoedd, a chafwyd cyfarwyddyd i
adnabod cynlluniau ar draws y Gwasanaeth lle gellid defnyddio’r arian hwnnw i
wella cyfleusterau morwrol. ·
Bod
nifer o brosiectau wedi’u rhoi ymlaen, gyda rhai yn cael eu gwireddu yn y
flwyddyn ariannol bresennol, ac eraill yn y flwyddyn ariannol nesaf. ·
Mai
un o’r prif brosiectau yn Harbwr Porthmadog oedd adnewyddu’r cadwyni angori, a
buddsoddwyd cyllid sylweddol yn hynny, yn ogystal â chynnal a chadw’r bwiau,
lleoli ysgolion newydd ar ochr wal yr harbwr a chostau contractwyr i ymgymryd
â’r holl waith. ·
Bod
oddeutu £28,000 wedi’i wario hyd yma, a rhagwelid gwariant pellach o rhwng
£7,000 ac £8,000 cyn diwedd Mawrth ar fanion eraill, gan gynnwys gwaith
gwella’r compownd, ail-leoli slabiau yn yr ardal y tu cefn i adeilad yr harbwr
ac uwchraddio system teledu cylch cyfyng. ·
Na
fyddai’r gwariant hwn yn cael unrhyw effaith ar y gyllideb gan fod £36,000
wedi’i drosglwyddo o gronfeydd yr Adran i gwrdd â’r costau. · Bod rhagor o arian yn y gyllideb i wneud gwelliannau ar dir yr harbwr hefyd, er na ragwelid y byddai modd gwario’r arian ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5. |
|
DYDDIAD Y CYFARFOD NESAF Nodi y
cynhelir cyfarfod nesaf Pwyllgor Ymgynghorol Harbwr Porthmadog ar 1 Hydref, 2024
(yn ddarostyngedig i’w gadarnhau gan y Cyngor Llawn.) Cofnod: Nodwyd y cynhelir
y cyfarfod nesaf ar 1 Hydref, 2024 (yn ddarostyngedig i’w gadarnhau gan y
Cyngor llawn ar 7 Mawrth). Nodwyd bod y 3
phwyllgor harbwr arall yn cyfarfod yn ystod y dydd bellach, a holwyd a fyddai
gan yr aelodau ddiddordeb mewn cynnal y pwyllgor hwn yn ystod oriau gwaith
hefyd. Nodwyd ei bod yn
arferol i’r pwyllgor hwn gyfarfod am 5.30yp ar ddydd Mawrth, ond na fyddai’n
ymarferol ei gynnal yn gynharach yn y dydd oherwydd gofynion eraill ar rai o’r
aelodau. Gan hynny, cytunwyd i adael yr
amseru fel y mae ar hyn o bryd. |