Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679 878
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Cofnod: Derbyniwyd
ymddiheuriadau gan y Cynghorydd Roy Owen. |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL I dderbyn unrhyw
ddatganiad o fuddiant personol Cofnod: Ni
dderbyniwyd datganiad o fuddiant personol gan unrhyw aelod oedd yn bresennol. |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau
sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Cofnod: Dim i’w nodi |
|
Cofnod: Llofnododd y
Cadeirydd gofnodion cyfarfod o’r pwyllgor a gynhaliwyd 13 Medi 2021 fel rhai
cywir. |
|
COFNODION IS-BWYLLGOR TRWYDDEDU CYFFREDINOL PDF 226 KB Cyflwyno,
er gwybodaeth, gofnodion yr Isbwyllgorau
Trwyddedu Cyffredinol a gynhaliwyd ar y dyddiadau canynol: a) 01/11/21 b) 05/10/21 Dogfennau ychwanegol: Cofnod: |
|
RHEOLI SEFYDLIADAU RHYW - DEDDF LLYWODRAETH LEOL (DARPARIAETHAU AMRYWIOL) 1982 PDF 275 KB I gymeradwyo trefn
prosesu ceisiadau, ffioedd ac amodau safonol ar gyfer trwyddedu a rheoleiddio
sefydliadau rhyw Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Cofnod: Cyflwynwyd
adroddiad gan Pennaeth yr Amgylchedd yn amlygu’r angen i’r Awdurdod Trwyddedu
sydd yn dymuno rheoleiddio sefydliadau rhyw yn ei ardal, fabwysiadu
darpariaethau Atodlen 3 o’r Ddeddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol)
1982 fel y’i diwygiwyd gan y Ddeddf Plismona a Throseddu 2009. Penderfyniad
unfrydol y Pwyllgor hwn (13 Medi 2021) oedd argymell i’r Cyngor Llawn
fabwysiadu’r grymoedd ac ar y 7fed o Hydref 2021 penderfynodd y Cyngor llawn i
gymeradwyo mabwysiadu’r drefn rheoleiddio ar gyfer sefydliadau rhyw fel a
ganlyn ·
Mabwysiadu ledled y sir Atodlen 3 o Ddeddf
Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1982, fel y’i diwygiwyd gan y Ddeddf
Plismona a Throseddu 2009, gan ddod yn weithredol ddim cynt na 1 Rhagfyr 2021. ·
Cyfarwyddo’r Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol i
gyhoeddi’r hysbysebion statudol ynghlwm â’r penderfyniad i fabwysiadu am 2 wythnos
yn olynol, gyda’r cyntaf ddim hwyrach na 28 diwrnod cyn y dyddiad y daw'r
penderfyniad i rym. ·
Dirprwyo’r materion o bennu ffioedd, gosod amodau
safonol a chynllun prosesu’r ceisiadau i’r Pwyllgor Trwyddedu Cyffredinol Yn unol â
chyfarwyddyd y Cyngor llawn a gofynion cyfreithiol cadarnhawyd bod rhybudd
statudol wedi ei gyhoeddi yn y wasg ynghlwm â’r penderfyniad i fabwysiadu am 2
wythnos yn olynol, gyda’r cyntaf wedi
ymddangos dim hwyrach na 28 diwrnod cyn y dyddiad y daeth y penderfyniad i rym. Eglurwyd bod y Cyngor yn
ystyried pob cais am drwydded yn unol â’i rinweddau ei hun er mwyn sicrhau
cysondeb, tegwch a thryloywder. Atgoffwyd yr Aelodau bod y Gwasanaeth Trwyddedu
a’r Pwyllgor Trwyddedu Cyffredinol dros y blynyddoedd wedi mabwysiadu sawl polisi
ac egwyddorion cyffredinol er pwrpas cynnig arweiniad wrth ystyried ceisiadau
am drwydded. O ganlyniad, lluniwyd dogfen bolisi, er cymeradwyaeth y Pwyllgor,
yn cwmpasu’r prosesau a fabwysiedir mewn perthynas â Sefydliadau Rhyw. Ategwyd
bod y Polisi yn manylu ar y broses o geisio am drwydded, adnewyddu, amrywio a
throsglwyddo trwyddedau sefydliad rhyw mewn perthynas ag eiddo sydd yn
gweithredu oddi fewn i ddalgylch Cyngor
Gwynedd. Cyfeiriwyd at y broses
trwyddedu ynghyd a’r amodau safonol a’r ffioedd i’w talu. Amlygwyd bod
deddfwriaeth yn gosod hawl i godi ffi am drwyddedau sefydliadau rhyw a bod y
Cyngor wedi gosod ffi sydd yn ddigonol i adennill costau yn unig. Y bwriad yw
adolygu’r ffioedd trwyddedau yn flynyddol. Diolchwyd am yr
adroddiad Ymatebion i
gwestiynau a godwyd yn y drafodaeth ddilynol: Mewn ymateb i sylw
bod angen ystyried lleoliad addas ar gyfer unrhyw sefydliad rhyw, gan osgoi
e.e. ger ysgolion, nodwyd bod y polisi
yn un grymus a chynhwysfawr oedd yn rhoi ystyriaeth i bob sefyllfa posib. Mewn ymateb i
awgrym i gynnwys y Bwrdd Iechyd Lleol yn
y rhestr ymgynghorwyr (paragraff 4.3 o’r adroddiad (3.4 o’r polisi), ystyriwyd
hyn yn rhesymol a bod modd ychwanegu’r Bwrdd Iechyd i’r rhestr os mai dyma
ddymuniad y Pwyllgor. Mewn ymateb i gwestiwn
ynglŷn â’r ffurflen gais am drwydded, nodwyd bod y ffurflen gais yn
ffurflen safonol (fel yr un ar gyfer trwydded eiddo) ac yn gyson gyda
ffurflenni awdurdodau eraill. Mewn ymateb i gwestiwn am sut roedd y ffioedd yn cymharu gyda ffioedd siroedd eraill, ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6. |