Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Rhithiol - Zoom

Cyswllt: Sioned Mai Jones  01286 679665

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriad gan Y Cynghorwyr Beca Brown, Eric M. Jones, Eirwyn Williams ac Elwyn Jones (Is-gadeirydd y Cyngor)

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol

 

Cofnod:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol.

3.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried

 

Cofnod:

Ni dderbyniwyd unrhyw faterion brys.

4.

COFNODION pdf eicon PDF 340 KB

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar y 25 Ionawr 2022 fel rhai cywir.

 

Gofynnwyd am ddiweddariad ynglŷn â faint o dai sydd bellach wedi eu prynu oddi ar y farchnad agored gan yr Adran Dai. Nodwyd fod y cofnodion yn cyfeirio at un tŷ wedi ei brynu hyd at fis Ionawr 2022; holiwyd ynglŷn â’r sefyllfa ddiweddaraf. Bydd yr Ymgynghorydd Iaith yn gwirio’r nifer.

 

5.

CYNLLUN HYBU'R GYMRAEG: TÎM ARWEINYDDIAETH A GWASANAETHAU CYFREITHIOL pdf eicon PDF 438 KB

Derbyn diweddariad ar sut mae’r Tîm Arweinyddiaeth a Gwasanaethau Cyfreithiol yn gweithredu’r Polisi Iaith a’u cynllun ar gyfer hyrwyddo’r Gymraeg yng Ngwynedd

 

Penderfyniad:

·         Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a dderbyniwyd.

·         Cytunwyd i’r Prif Weithredwr anfon llythyr at y Llywodraeth ar ran y Pwyllgor Iaith yn mynegi siom nad oes modd i swyddogion Cyngor Gwynedd ac eraill gyfrannu yn rhwydd drwy’r Gymraeg mewn cyfarfodydd a drefnir gan Lywodraeth Cymru bob amser a'u hannog i sicrhau bod darpariaeth cyfieithu ar y pryd ar gael yn ddiofyn mewn cyfarfodydd.

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Prif Weithredwr, y Cyfarwyddwr Corfforaethol a’r Pennaeth Gwasanaeth Cyfreithiol a tynnwyd sylw yn fras at y prif bwyntiau canlynol:

 

-          Adroddodd y Prif Weithredwr ar y datblygiad diweddar yn sgil newid defnydd o feddalwedd Microsoft y Cyngor fel ei fod ar gael yn gyfan gwbl drwy gyfrwng y Gymraeg. Nodwyd bod 60% o staff yn ei ddefnyddio yn wirfoddol; bydd hyn yn newid i fod yn fandadol o ddyddiad cychwyn y Cyngor newydd.

-          Nodwyd bod y Cyngor yn arwain mewn amryw o bartneriaethau rhanbarthol megis GwE, Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru, Asiantaeth Cefnffyrdd Gogledd Cymru a Cyd-bwyllgor Corfforedig y Gogledd, gyda chyfrifoldeb dros sefydlu, trefnu a chynllunio’r cyfarfodydd. Ychwanegwyd fod y Cyngor yn gwirfoddoli i arwain ar yr uchod am ei fod yn gyfle i ddylanwadu ar ddefnydd iaith y cyrff drwy sicrhau eu bod yn cael eu sefydlu drwy gyfrwng y Gymraeg o’r cychwyn cyntaf a’n gweithredu polisi iaith y Cyngor.

-          Soniwyd am y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwynedd a Môn sydd yn cael ei fynychu gan y Prif Weithredwr ac yn gyfle i ddylanwadu ar ddefnydd sefydliadau cyhoeddus eraill o’r Gymraeg.

-          Mynegwyd siom yn rhai sefydliadau ble roedd rhaid brwydro i gael cyfrannu yn y Gymraeg mewn rhai cyfarfodydd. Nodwyd fod Llywodraeth Cymru yn un sefydliad ble roedd ychydig iawn o ymdrech yn cael ei wneud i ddarparu cyfieithydd. Awgrymwyd y dylai’r Cyngor ohebu yn gyhoeddus efo’r Llywodraeth i fynegi siom.

-          Adroddodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol ar y prif feysydd yr arweiniai arnynt a nododd enghreifftiau o geisio dylanwadu ar ddefnydd yr iaith yn y meysydd hynny. Enghreifftiau o hyn oedd wastad holi am gopïau Cymraeg o adroddiadau ym mhob cyfarfod a gwneud yn siŵr fod darpariaeth cyfieithu ar gael yn enwedig mewn cyfarfodydd ar lein.

-          Credwyd fod yr enghreifftiau uchod yn ysgogi eraill i ofyn yr un cwestiynau a bod gwelliant i’w weld o gymharu â’r sefyllfa ddeg mlynedd yn ôl.

-          Cyfeiriwyd at yr Agenda Mwy na Geiriau, gwaith partneriaethau a chydweithio o fewn y meysydd gofal a diogelwch cymunedol a rôl y Cyfarwyddwr o fewn Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr fel cyswllt swyddogol. Manylwyd am y Fforwm Mwy na Geiriau gan nodi fod cymeradwyaeth cenedlaethol wedi ei dderbyn am waith y fforwm yn y Gogledd sydd yn rhannu ymarfer da a chydweithio.

-          Adroddodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol ei bod hi’n cyfrannu yn y Gymraeg ym mhob Cyfarfod o’r Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr ynghyd â nifer o aelodau eraill a bod hynny yn cael ei annog a’i werthfawrogi gan Gadeirydd a Prif Weithredwr y Bwrdd Iechyd.

-          Soniwyd am lansiad Maethu Cymru a’r gwaith ar y cyd i ddylanwadu a llwyddo i gael y logo yn Gymraeg yn gyntaf a’r Saesneg yn ail.

-          Adroddodd Pennaeth y Gwasanaeth Cyfreithiol ar y Gwasanaeth Cyfreithiol gan nodi ei fod yn wasanaeth bach o ran maint ond yn gorgyffwrdd ag Adrannau eraill drwy ddarparu cefnogaeth gyfreithiol a phriodoldeb. Soniwyd am y gefnogaeth sydd yn cael ei ddarparu i’r Crwner o fewn  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.

6.

CYNLLUN HYBU'R GYMRAEG: ADRAN YMGYNGHORIAETH GWYNEDD pdf eicon PDF 567 KB

Derbyn diweddariad ar sut mae Adran YGC yn gweithredu’r Polisi Iaith a’u cynllun ar gyfer hyrwyddo’r Gymraeg yng Ngwynedd

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a dderbyniwyd.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Bennaeth Ymgynghoriaeth Gwynedd gan nodi fod yr Adran yn delio o fewn y byd peirianyddol sydd yn cael ei ystyried yn ddiwydiant eithaf Seisnigaidd. Arweinia hyn at broblemau recriwtio staff â sgiliau ieithyddol o safon uchel. Adroddwyd bod yr Adran yn gweithio ar nifer o brosiectau a chynlluniau i helpu staff i gyrraedd dynodiadau iaith eu swyddi ac i wella sgiliau ieithyddol eu gweithlu; ceir manylion am y prosiectau hyn yn yr adroddiad. Cyfeiriwyd at y pwyntiau canlynol yn yr adroddiad:

 

-          Diolchwyd i’r Swyddogion Dysgu a Datblygu’r Iaith Gymraeg am eu gwaith yn cefnogi staff yr Adran i asesu gallu ieithyddol eu hunain ac i ddarparu hyfforddiant pellach pe bai angen.

-          Soniwyd am unigolion o fewn yr Adran sydd wedi gwneud cynnydd ac yn cael eu hannog i siarad Cymraeg o ganlyniad i gynlluniau fel y Cynllun Cyfeillion neu’r Cynllun Arfer drwy’r Brifysgol.

-          Nodwyd bod yr Adran yn annog timau i gynnal sgyrsiau drwy’r Gymraeg. Cydnabyddwyd bod y cyfnod clo wedi amharu rhywfaint ar y cynnydd hyn a bwriedir ail afael yn y gefnogaeth i’r timau i ddefnyddio’r Gymraeg fel iaith dydd i ddydd y gweithlu.

-          Pwysleisiwyd y bydd yr Adran yn ceisio ymestyn eu defnydd o’r iaith Gymraeg yn fewnol a gyda chyrff eraill fel contractwyr ac ymgynghorwyr ymhellach drwy ohebu’n Gymraeg; credwyd fod hyn yn dangos effaith ac yn cael dylanwad.

Rhoddwyd cyfle i’r aelodau ofyn cwestiynau a chynnig sylwadau.  Yn ystod y drafodaeth, codwyd y materion canlynol:

 

-          Diolchwyd am y cyflwyniad ac am holl waith yr Adran. Nodwyd bod llwyddiant y Cynllun Adfer drwy’r Brifysgol yn ddiddorol iawn a holwyd os yw Cynghorau a Sefydliadau eraill yn ymwybodol ohono ac os oedd modd ei farchnata.

-          Gofynnwyd os yw’r cyrsiau i staff dderbyn cymwysterau proffesiynol peirianwyr yn cael eu cynnig yn Gymraeg, ac os ddim, os oes lle i ofyn am gymorth y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i wneud yn siŵr fod y cyrsiau yn cael eu cynnig yn ddwyieithog. Cwestiynwyd beth mae’r sefydliadau Addysg yn ei wneud i helpu’r Adran sydd yn ceisio darparu gweithlu Gymraeg gyda’r cymwysterau perthnasol.

-          Mynegwyd sylw am eirfa dechnegol sy’n perthyn i’r maes ac awgrymwyd ei bod yn bosib parhau i gynnal sgyrsiau yn y gwaith yn Gymraeg er fod y termau yn Saesneg. Credwyd ei bod yn bwysig trafod y gwaith yn Gymraeg tra’n parhau i ddefnyddio’r eirfa dechnegol Saesneg i godi hyder staff.

Mewn ymateb, nododd y Pennaeth Ymgynghoiaeth Gwynedd:

-          Mynegwyd nad oedd gwaith yn cael ei wneud gan yr Adran i hyrwyddo’r Cynllun Adfer ond yn hytrach adrodd yn ôl rhwng y Cyngor a’r Brifysgol. Ychwanegodd yr Ymgynghorydd Iaith fod y gwasanaeth Iaith yn ran o'r Bwrdd Rheoli ar gyfer y prosiect hwn. Nodwyd ei fod yn brosiect ymchwil gan y Brifysgol gyda’r Brifysgol yn arwain arno gyda nifer o gyrff cyhoeddus eraill wedi cymryd rhan yn y gwaith ymchwil. Credwyd bod y cyfrifoldeb yn disgyn ar y Brifysgol i rannu yr ymarfer da a hyrwyddo llwyddiant  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6.

7.

CYNLLUN HYBU'R GYMRAEG: ADRAN ECONOMI A CHYMUNED pdf eicon PDF 425 KB

Derbyn diweddariad ar sut mae Adran Economi a Chymuned yn gweithredu’r Polisi Iaith a’u cynllun ar gyfer hyrwyddo’r Gymraeg yng Ngwynedd

 

Penderfyniad:

Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a dderbyniwyd.

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Bennaeth Adran Economi a Chymuned a cyfeiriodd yn fras at y prif bwyntiau canlynol:

 

-          Nodwyd bod lleihad bychan iawn i’w weld yn nifer y staff sydd wedi cyrraedd dynodiad iaith eu swyddi o gymharu â’r flwyddyn flaenorol. Credwyd bod hyn yn adlewyrchiad o’r cynnydd yn y nifer o staff dros dro a benodwyd yn ystod y flwyddyn diweddaf e.e. wardeiniaid ychwanegol er mwyn ymateb i’r sefyllfa cofid.

-          Adroddwyd bod cyfleoedd wedi codi i ddatblygu iaith y sawl sydd ddim yn cwrdd â’r gofynion. Nodwyd bod unigolion wedi manteisio ar y cyfleoedd ac wedi gwerthfawrogi’r gefnogaeth a’r anogaeth i ddatblygu eu sgiliau ieithyddol. Ychwanegwyd bod heriau yn bodoli wrth gwblhau hunan asesiad iaith oherwydd bod nifer o staff tymhorol dros dro o fewn yr Adran a rhai bellach wedi gadael.

-          Amlygwyd rhai meysydd gwasanaethau newydd gafodd eu cyflwyno yn ystod y cyfnod cofid. Yma cymerwyd y cyfle i roi pwyslais ar ddarparu gwybodaeth drwy’r Gymraeg a hyrwyddo gwasanaethau sydd ar gael yn Gymraeg.

-          Adroddwyd bod y Gwasanaeth Llyfrgelloedd ac Archifdai yn adnoddau gwerthfawr i deuluoedd sy’n galluogi plant i glywed y Gymraeg ac i gymryd rhan mewn gweithgareddau. Mynegwyd pwysigrwydd y gwasanaeth Archifau sy’n paratoi pecynnau gwybodaeth a deunyddiau Cymraeg i Ysgolion Gwynedd, bellach roedd mwy o bwyslais ar yr adnodd yma. 

-          Cyfeiriwyd at y gwaith hyrwyddo’r diwylliant Cymreig sy’n cael ei wneud gan y Gwasanaeth Twristiaeth, Marchnata a Digwyddiadau. Soniwyd am y gwaith ar effaith cynnydd ymwelwyr y Sir ar yr iaith sydd yn cael ei gynnal ar hyn o bryd. Nodwyd bod mesuryddion bellach yn eu lle i fesur yr effaith ar iaith y Sir.

-          Mynegwyd disgwyliad yr Adran i bartneriaethau sy’n cydweithio â nhw i ddarparu deunydd yn ddwyieithog. Ychwanegwyd fod yr Adran yn sicrhau bod gwefannau ac apiau ar gael yn ddwyieithog yn ogystal â sicrhau eu bod ar gael yn Gymraeg i Siroedd a phartneriaethau eraill. Adroddwyd bod yr Adran wedi cryfhau’r gofynion iaith fel amod mewn tendrau wrth rannu cytundebau.

Rhoddwyd cyfle i’r aelodau ofyn cwestiynau a chynnig sylwadau.  Yn ystod y drafodaeth, codwyd y materion canlynol:

 

-          Diolchwyd am yr adroddiad llawn a mynegwyd y byddai’n ddiddorol gweld beth fydd canlyniad y gwaith ar effaith ymwelwyr ar yr iaith gan gydnabod maint y dasg.

-          Holwyd pryd fydd y gwaith hwn yn cael ei gyhoeddi.

-          Gwnaethpwyd sylw bod lleoliad yn chwarae rhan ar ba mor niweidiol gall twristiaeth fod ar iaith mewn ardal benodol. Croesawyd y gwaith hwn a chredwyd y bydd y canlyniadau yn ddiddorol.

-          Gofynnwyd a yw’n bosib mesur faint o dwristiaeth mae hanes, iaith a diwylliant Cymru yn llwyddo i’w ddenu i Wynedd ac i Gymru sef twristiaeth fwy diwylliannol.

-          Mynegwyd siom fod y Cyngor Celfyddydau ddim yn cefnogi prosiectau sy’n hybu’r defnydd o’r Gymraeg.

Mewn ymateb, nododd y Pennaeth Economi a Chymuned:

 

-          Bod llawer o ffactorau yn cyfrannu at effaith ymwelwyr ar yr iaith ac nad yw’n hawdd dadansoddi’r effaith. Adroddwyd bod y gwaith hwn bellach  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7.

8.

DIWEDDARIAD AR WAITH HUNANIAITH - MENTER IAITH GWYNEDD pdf eicon PDF 418 KB

I ystyried yr adroddiad

Penderfyniad:

Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a dderbyniwyd.

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan yr Uwch Ymgynghorydd Iaith a Chraffu. Darparwyd trosolwg o waith a blaenoriaethau Hunaniaeth, Menter Iaith Gwynedd. Cyfeiriwyd at yr adroddiad sydd yn manylu ar brosiectau amrywiol y fenter a gynhaliwyd yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Anogwyd yr Aelodau i wylio’r fideos gan gyfeirio at y fideo ymwybyddiaeth iaith; gellir gweld y dolenni cyswllt ar gyfer y fideos yn yr adroddiad.  

 

Rhoddwyd cyfle i'r aelodau holi ymhellach:

 

-          Holwyd ynghylch y meddylfryd o symud Hunaniaeth oddi wrth y Cyngor.

 

-          Cyfeiriwyd ar y fideo ymwybyddiaeth iaith gafodd ei greu gan y tîm Hunaniaeth oedd yn cyfeirio at y saith peth pwysig am hanes Cymru; credwyd fod y fideo yn wych ac yn adnodd pwerus. Cadarnhawyd bod fersiwn efo is-deitlau Saesneg o’r fideo hefyd ar gael.

 

Eglurwyd bod y grŵp strategol yn awyddus i Hunaniaeth fod yn enbyd fwy annibynnol oddi wrth y Cyngor ac y byddai manteision i hynny, nodwyd bod llawer o Fentrau iaith eraill yn fentrau cymunedol. Ychwanegwyd y byddai’n rhaid sicrhau cynaliadwyedd y fenter i’r dyfodol. Bydd diweddariad yn cael ei ddarparu i’r Pwyllgor yn ystod y tymor newydd.

 

PENDERFYNIAD

Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a dderbyniwyd.  

9.

ADRODDIAD CANMOLIAETH A CHWYNION pdf eicon PDF 401 KB

Cyflwyno’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Pwyllgor am gwynion ac enghreifftiau o lwyddiant wrth hybu defnydd o’r Gymraeg yng ngwasanaethau’r Cyngor

Penderfyniad:

Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a dderbyniwyd.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan yr Ymgynghorydd Iaith oedd yn nodi’r cwynion yn ogystal â’r enghreifftiau o lwyddiant wrth hybu’r defnydd o’r iaith Gymraeg yn y Cyngor.

 

Soniwyd am y datblygiadau diweddar gan gyfeirio at y sesiynau ymwybyddiaeth iaith i staff y Cyngor sydd wedi ail ddechau yn rhithiol yn ddiweddar. Bydd y sesiynau hyn yn cael eu rhedeg gan yr Ymgynghorydd Iaith a’r Swyddog Dysgu a Datblygu’r Gymraeg ac wedi derbyn adborth positif iawn; bydd y sesiynau yn parhau ac yn cael eu cynnig i fwy o Adrannau ar draws y Cyngor.

 

Cyfeiriwyd at y cwynion gan sôn am y dyfarniad diweddar yn dilyn ymchwiliad gan Gomisiynydd y Gymraeg ynghylch gofynion iaith hysbyseb swydd y Prif Weithredwr. Adroddwyd bod camau gweithredu bellach wedi eu cymryd gan bwysleisio nad oedd yr achos na’r dyfarniad hwn yn adlewyrchiad o drefniadau arferol y Cyngor. Manylwyd ar yr amodau newydd sydd bellach mewn lle fel rhan o’r polisi recriwtio; bydd yr amodau hynny yn cael eu hychwanegu at y polisi iaith. Golyga hyn y bydd y gofynion iaith yn cael eu nodi yn glir bob tro.

 

Adroddwyd ar rai o ymholiadau diweddar, rhai yn rhan o ymholiadau cenedlaethol ehangach; gellir gweld manylion yn yr adroddiad. Soniwyd hefyd am y dair cwyn gafodd eu derbyn yn ymwneud â pholisi iaith y Cyngor; un o ganlyniad i faterion TG sydd yn y broses o geisio cael eu datrys a gwaith pellach ar y gweill i fynd i’r afael a’r mater. Nid oedd un cwyn yn berthnasol i’r Cyngor am nad oedd gan y Cyngor rym i orfodi ar faterion iaith busnesau yn y sector breifat. Datryswyd y gwyn olaf am bamffled uniaith Saesneg a dderbyniwyd gan y cyhoedd; trefnwyd i gyfieithu’r daflen yn sydyn yn ogystal â gwirio a diweddaru deunyddiau pellach o fewn yr Adran dan sylw.

 

Rhoddwyd cyfle i'r aelodau holi ymhellach:

 

-          Tynnwyd sylw fod yr un math o gwynion a materion yn codi eu pennau o gymharu â blynyddoedd eraill.

 

-          Diolchwyd am yr adroddiad.

 

PENDERFYNIAD

Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a dderbyniwyd.

 

 

Cymerwyd y cyfle ar ddiwedd y cyfarfod i estyn cydymdeimlad y Pwyllgor at deulu Aled Roberts, Comisiynydd yr Iaith yn dilyn ei ymadawiad diweddar.