Lleoliad: Parlwr Mawr, Theatr y Ddraig, Barmouth Community Centre, Jubilee Road, Barmouth, Gwynedd. LL42 1EF
Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679878
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU I dderbyn unrhyw
ymddiheuriadau am absenoldeb Cofnod: Derbyniwyd ymddiheuriadau gan Cyng. Louise Hughes
(Cyngor Gwynedd), Y Cynghorydd Ioan Ceredig Thomas
(Aelod Cabinet - Economi) ac Arthur Francis Jones (Uwch Swyddog Harbyrau) |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL I dderbyn unrhyw
ddatganiad o fuddiant personol Cofnod: Ni dderbyniwyd datganiad o fuddiant personol
gan unrhyw aelod oedd yn bresennol. |
|
Bydd y Cadeirydd yn
cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd
23.10.2019 fel rhai cywir Cofnod: Llofnododd y
Cadeirydd gofnodion cyfarfod y Pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 23 Hydref, 2019 yn
ddarostyngedig i gywiro nodyn (d) clirio tywod tud 5 o ‘symud tywod’ i ‘symud
twyni tywod’ a hefyd cywiro nodyn 5 diogelwch harbwr tud 6 o ‘cewyll ac offer
pysgota yn Aberdyfi’ i ‘cewyll ac offer pysgota yn Abermaw’. Cynnig ac eiliwyd
bod ‘materion yn codi o’r cofnodion’ yn eitem benodol ar y rhaglen. Materion yn codi o’r cofnodion: (a)
Digwyddiadau Dyddiadau Motorcross wedi
ei cadarnhau (b)
Ffonau Gwasanaeth Brys Y Friog Yn dilyn adolygiad ar draws yr arfordir,
amlygwyd bod y defnydd o’r ffonau brys yn isel. Amlygodd cynrychiolydd Cyngor
Cymuned Arthog y byddai’r Cyngor Cymuned yn dymuno i’r ffonau gael eu cynnal.
Awgrymwyd cynnal trafodaethau gyda’r Cyngor Cymuned ynglŷn â’r
posibilrwydd o drosglwyddo’r cyfrifoldeb am y ffonau iddynt. (c)
Difrod i reiliau tu allan i Adeilad Dora Adroddwyd bod
difrod pellach wedi ei wneud i’r rheiliau tu allan i Adeilad Dora ac er mai
Cyngor Gwynedd sydd yn ysgwyddo’r baich am dalu am y difrod nodwyd bod y costau
wedi eu hadennill yn llawn. (ch) Ffordd y Compownd Yn dilyn awgrym yn
y cyfarfod diwethaf i osod gorchymyn traffig ar dir
Ffordd y Compownd, amlygodd Uwch Reolwr Economi a Chymuned bod trefniadau
gorchmynion tir yn cael eu hadolygu ar draws Gwynedd gyda’r darn yma yn rhan o
gynllun ehangach. Ategodd bod bwriad dechrau proses o ymgynghori yn ystod Haf 2019.
Mewn ymateb, amlygwyd y posibilrwydd o logi neu lesu’r tir yn hytrach na chreu
maes parcio swyddogol. Cynigiwyd yr
angen i sefydlu rheolaeth addas ar gyfer y safle. |
|
DIWEDDARIAD AR FATERION RHEOLI'R HARBWR PDF 66 KB I ysytried adroddiad yr Uwch Swyddog Harbyrau Dogfennau ychwanegol:
Cofnod: (a)
Adroddiad yr Uwch Swyddog Harbwr Cyflwynwyd adroddiad gan yr Uwch
Swyddog Harbyrau yn rhoi diweddariad byr i’r Pwyllgor
ar faterion yr harbwr am y cyfnod mis Hydref 2018 - Mawrth 2019. Yn dilyn adolygiad o gyfrifoldebau’r Aelodau Cabinet ym
Mawrth 2019, adroddwyd mai'r Cynghorydd Gareth Thomas oedd â chyfrifoldeb dros faes Datblygu'r
Economi a Chymuned. Diolchwyd i’r Cynghorydd
Ioan Thomas, cyn aelod
Cabinet dros Ddatblygu’r Economi a Chymuned, am ei gefnogaeth a’i
ymrwymiad i’r gwasanaeth morwrol. Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn
ag aelodaeth a phresenoldeb
rhai aelodau o’r Pwyllgor, amlygwyd
mai cyfrifoldeb yr Aelod Cabinet yw aelodaeth y Pwyllgor ac y byddai unrhyw newid i
aelodaeth neu gyfansoddiad y Pwyllgor yn cael ei benderfynu gan yr Aelod
Cabinet. Awgrymwyd gohebu gyda’r holl gymdeithasau
presennol i geisio cynrychiolaeth cyn ymateb i
geisiadau newydd. Mewn ymateb i aelodaeth
y cylch gorchwyl lle nodi’r y gellid
cael ‘hyd at 4 aelod lleol o Gyngor
Gwynedd’, awgrymwyd rhoi gwahoddiad i’r aelod sydd yn
cynrychioli Penmaen-pwl. Angorfeydd Yn ymateb i gofnod
mis Hydref ynglŷn â lleihad yn y nifer angorfeydd,
adroddwyd bod bwriad ar y pryd i
adolygu pam bod perchnogion
angorfeydd wedi ymadael. Cyfaddefwyd nad oedd hyn
wedi ei weithredu
ond bod dymuniad i ymgysylltu i
geisio barn defnyddwyr. Gwnaed cais i’r swyddogion holi’r defnyddwyr am y sefyllfa ar hyd
yr arfordir, Awgrymwyd bod angen ymateb i’r
newid mewn ymddygiad gan ystyried
marchnata angorfeydd ar gyfer beiciau
dŵr (jet-skis). Amlygwyd
y byddai defnyddwyr, yn debygol o ddefnyddio
angoriad sefydlog petai un ar gael,
ond yn y cyfamser yn angori
dros dro gyda chychod eraill.
Gyda digwyddiadau sydd yn cael
eu trefnu gyda mewnbwn y Swyddfa Harbwr e.e., The Blackrock Blast, nodwyd
bod modd hwyluso’r ddarpariaeth, ond nad oedd modd
rheoli unigolion. Os nad yw
pobl yn ymweld
â’r swyddfa, anodd iawn yw
rheoli sefyllfa. I gyfarch hyn, awgrymwyd
yr angen i ystyried dulliau
o reoli hyn yn well a darparu cyfleuster penodol ar gyfer beiciau
dŵr. Anogwyd aelodau i drafod
eu syniadau gyda’r Swyddog Harbwr. Archwiliad Cod Diogelwch
Morol. Adroddwyd bod archwilwyr yr Asiantaeth Morwrol a Gwylwyr y Glannau wedi
cynnal archwiliad (17-19.09.19) ar drefniadau diogelwch penodol a systemau Harbyrau Bwrdeistrefol Gwynedd er mwyn sicrhau
cydymffurfiaeth a’r Côd Diogelwch Morol. Amlygwyd bod
cyfrifoldeb ar bob aelod o’r Pwyllgor i ymateb i faterion y côd
ac i’r gwasanaeth dderbyn sylwadau a barn yr aelodau am addasrwydd y côd. Yn dilyn yr adolygiad derbyniwyd adroddiad oedd yn awgrymu gwelliannau a
gafodd ei gylchredeg i aelodau’r Pwyllgor. Cafwyd dilyniant i’r ymweliad
cychwynnol yn ystod mis Mawrth 2019 ac fe ddisgwylir adroddiad ysgrifenedig ar
gasgliadau’r ail ymweliad. Un mater a godwyd oedd yr angen am gytundeb i reoli’r glanfeydd ar gyfer yr ysgraff. Nodwyd yr angen i lunio cynllun drafft erbyn Hydref 2019 gyda bwriad o gael cytundeb terfynol yn ei le erbyn Hydref 2020 yn dilyn cyfnod ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 4. |
|
DYDDIAD CYFARFOD NESAF I nodi
cynhelir cyfarfod nesaf Pwyllgor Ymgynghorol Harbwr Abermaw ar 22ain o Hydref
2019 Cofnod: Nodwyd y bydd
y cyfarfod nesaf yn cael ei gynnal ar 22ain Hydref, 2019. Atgoffwyd yr Aelodau y gellid cyfeirio neu adrodd ar
unrhyw faterion yn uniongyrchol i’r Harbwr feistr gydag anogaeth i unrhyw
broblem gael ei gyfeirio drwy e-bost. |