Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol - Zoom

Cyswllt: Einir Rh Davies  01286 679868

Eitemau
Rhif eitem

1.

ETHOL CADEIRYDD

Ethol Cadeirydd ar gyfer 2023/24

Penderfyniad:

Ethol y Cynghorydd Rob Triggs fel Cadeirydd y Pwyllgor Ymgynghorol Harbwr Abermaw ar gyfer 2023/24.

 

Cofnod:

PENDERFYNWYD ethol y Cynghorydd Rob Triggs yn Gadeirydd y Pwyllgor ar gyfer y flwyddyn 2023/24.

 

2.

ETHOL IS-GADEIRYDD

Ethol Is-Gadeirydd ar gyfer 2023/24

Penderfyniad:

Ethol y Cynghorydd Eryl Jones-Williams fel Is-gadeirydd y Pwyllgor Ymgynghorol Harbwr Abermaw ar gyfer 2023/24.

 

Cofnod:

PENDERFYNWYD ethol y Cynghorydd Eryl Jones-Williams yn Is-Gadeirydd y Pwyllgor ar gyfer y flwyddyn 2023/24.

 

3.

YMDDIHEURIADAU

I dderbyn unrhyw ymddiheuriad am absenoldeb

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan Robert Aeron Williams

 

 

4.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

I dderbyn unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol.

Cofnod:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o fuddiant personol ond hysbysodd y Cadeirydd fod ei fab, Kane Triggs, yn Gymhorthydd Harbwr Abermaw, er gwybodaeth.

 

5.

COFNODION Y CYFARFOD BLAENOROL pdf eicon PDF 214 KB

I gadarnhau cofnodion Pwyllgor Ymgynghorol Harbwr Abermaw a gynhaliwyd ar 28ain Mawrth, 2023

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod blaenorol o’r cyfarfod hwn a gynhaliwyd ar 28 Mawrth, 2023 fel rhai cywir.

 

6.

DIWEDDARIAD AR FATERION RHEOLAETHOL YR HARBWR pdf eicon PDF 202 KB

I ystyried adroddiad gan yr Uwch Swyddog Harbyrau

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Nodi a derbyn yr adroddiad.

Cofnod:

Adroddiad yr Uwch Swyddog Harbyrau a’r Harbwrfeistr

 

Croesawyd pawb i’r cyfarfod, gan ddiolch i’r Aelod Cabinet am allu bod yn bresennol hefyd, a cychwynnwyd gydag Adroddiad yr Uwch Swyddog Harbyrau

 

 

Angorfeydd Abermaw a Chofrestru Cychod

Cadarnhawyd bod 71 cwch  wedi eu cofrestru yn 2023 o’i gymharu  â 64 yn 2022, a’i bod yn braf adrodd ar y cynnydd.  Tybiwyd mai y costau is sydd yn denu cwsmeriaid i Harbwr Abermaw a gobeithio y bydd y ffigwr yn hyd yn oed uwch flwyddyn nesaf a’r tueddiad yn parhau.  Adroddwyd bod y rhan fwyaf wedi eu cofrestru ar-lein, sef 1,269 o gychod pŵer a 1,240 o gychod dŵr personol.

 

Côd Diogelwch Morol Porthladdoedd

Cadarnhawyd bod Harbwr Abermaw yn cydymffurfio a’r Gofynion, a petai gan unrhyw un sylwadau ar y Côd, bod modd iddynt hysbysu’r Uwch Swyddog Harbyrau.

 

Materion Staffio

Cadarnhawyd nad oedd unrhyw newid wedi bod yn y sefyllfa staffio, ond bod yr  Harbwrfeistr a’r Harbwrfeistr Cynorthwyol wedi bod yn helpu yn Harbyrau Porthmadog ac Aberdyfi.  Cymerwyd y cyfle hefyd i ddiolch i’r staff tymhorol am eu holl waith.  

 

Materion Ariannol : Sefyllfa Ariannol Harbwr Abermaw

Adroddodd y Rheolwr Gwasanaeth Morwrol ar y gyllideb gan grynhoi o dan y prif benawdau.  Adroddodd bod y wybodaeth wedi ei selio ar gyfarfod gyda y Swyddogion Cyllid yn ystod mis Awst, oedd yn dangos gwir-wariant am bum mis ac yna yn proffwydo gwariant ar gyfer Medi 2023 i Fawrth 2024.  Adroddodd ei fod yn anodd iawn proffwydo a bod materion megis gaeaf trwm am effeithio ar y ffigyrau.

 

Gweithwyr - £65k - gorwariant £800 oherwydd costau goramser gan fod staff wedi bod yn rhoi cymorth ym Mhorthmadog ac Aberdyfi.  Nid yw’r gyllideb hon yn adlewyrchu costau staff tymhorol

Eiddo - £12k - gorwariant £650 - oherwydd y byrddau picnic ar arwyddion, a chadarnhawyd bod hyn i’w ddisgwyl

Trafnidiaeth - £1000 - tan wariant £700 – mae’r  ffigwr yn cynnwys tanwydd/petrol i’r cwch (ond ddim yn cynnwys costau cynnal a chadw).  Nodwyd bod y ffigwr oherwydd bod y cwch wedi bod allan llai oherwydd yr haf gwael a bod y peiriannau newydd yn gwneud y gwaith yn fwy economaidd.

Gwasanaethau a Chyflenwadau - £11k - gorwariant o £6k - mae hyn yn cynnwys y cadwyni, shaclau, goleuadau, ynghyd a phris y cymhorthydd mordwyo newydd (oedd dros £3k).  Adroddwyd eu bod wedi gorfod talu i gontractwyr osod y bwi ynghyd a chostau gwasanaethu peiriannau’r cwch.

 

O ran yr Incwm, adroddwyd ei fod yn dod o’r ffioedd angori, ffioedd aros dros dro, a’r maes parcio ac mai y targed oedd £38,500 ond eu bod yn proffwydo £40,500.  Cyfeiriwyd at y gwaith ar y Bont a’r incwm gan Gwmni Network Rail, ond nad oedd llawer mwy o incwm.  Cadarnhawyd, heb yr incwm Network Rail, na fyddai y targed wedi ei gyrraedd.

 

O ran y ffigyrau penodol nodwyd £50,924 o wariant, £55,524 wedi ei broffwydo a gorwariant o £4,601, a’r ymdeimlad oedd nad oedd hyn yn peri pryder, er y  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6.

7.

MATERION I'W HYSTYRIED AR GAIS AELODAU'R PWYLLGOR YMGYNGHOROL

I ystyried materion ar gais yr Aelodau

Cofnod:

8.

DYDDIAD Y CYFARFOD NESAF

I nodi y cynhelir cyfarfod nesaf o’r Pwyllgor Ymgynghorol Harbwr Abermaw ar y 19eg o Fawrth, 2024

Cofnod: