Lleoliad: Neuadd Dyfi, Aberdyfi, LL35 0NR
Cyswllt: Glynda O'Brien 01341 424301
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb. Cofnod: Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb oddi wrth Mr Nigel Willis (Clwb
Cychod Aberdyfi), Mr James Bradbury-Willis (Siambr Fasnach Aberdyfi) |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol. Cofnod: Ni dderbyniwyd datganiad o gysylltiad personol gan unrhyw aelod oedd yn bresennol. |
|
I gadarnhau cofnodion y cyfarfod diwethaf a gynhaliwyd ar 15 Tachwedd 2016. (Copi’n amgaeedig) Cofnod: Cyflwynwyd:
Cofno Penderfynwyd: Derbyn a chymeradwyo’r cofno |
|
ADRODDIAD GAN Y SWYDDOG MORWROL A PHARCIAU GWLEDIG PDF 149 KB I ystyried adroddiad gan y Swyddog Morwrol
a Pharciau Gwledig. (Copi’n amgaeedig) Dogfennau ychwanegol:
Cofnod: Cyflwynwyd: Adroddiad y Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig, Mr Barry Davies, yn diweddaru’r pwyllgor ar faterion rheolaethol
yr Harbwr gyda chyfeiriad penodol at y canlynol:- (a)
Cod Diogelwch
Morwrol Nodwyd bod y cod diogelwch yn ddogfen fyw a phwysigrwydd i dderbyn
sylwadau yn rheolaidd ar y cynnwys fel y gall gael ei adolygu ac bod y ddogfen
yn berthnasol i weithgareddau’r Harbwr. Tynnwyd sylw bod y Gwasanaeth yn
disgwyl adolygiad gan arbenigwr allanol Asiantaeth Gwylwyr y Glannau ond
oherwydd diffyg capasiti staffio nid oedd hyn wedi
digwydd ac fe fyddir yn ail-drefnu maes o law. Cyfeiriwyd
at lansiad Ymgyrch Neifion a oedd wedi ei gynnal
yn ddiweddar yn Ysgol Tywyn yn dilyn adroddiadau
fod beicwyr môr yn aflonyddu
a phoeni dolffiniaid oddi ar arfordir
Abersoch a Thywyn. Mewn
ymateb i’r uchod, nododd Aelod
bryder nad oedd swyddogion ac Aelodau yn ymwybodol o ddigwyddiadau lleol ac y dylid sicrhau gwell
cyfathrebu rhwng Adrannau i’r dyfodol. Penderfynwyd: Derbyn
a nodi’r uchod ac y byddai’r Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig yn dilyn
y pryder i fyny gyda’r Adran berthnasol. (b) Mordwyo Adroddwyd bod bwi'r “Fairway” wedi dod oddi ar
ei safle yn dilyn storm “Doris” yn ddiweddar a
sicrhawyd y byddir yn anfon Rhybudd i Forwyr yn
ddi-oed ac y byddai trefniadau i’w
gwneud gyda’r contractwr lleol i’w osod yn ôl ar y safle. Ychwanegwyd bod cymhorthydd ar y morglawdd yn ardal Tywyn i’w roi yn ôl
ar safle ond y byddai’n ofynnol sicrhau bod y llanw a’r tywydd yn dderbyniol i
gyflawni’r gwaith. Yn
gyffredinol, er gwaethaf y tywydd garw yn ystod
storm “Doris” ‘roedd y cymhorthyddion
eraill yr harbwr ar eu
safleoedd priodol, er hynny, byddir
yn sicrhau bod pob cymhorthydd sydd allan o safle
yn cael eu
ail leoli cyn 1 Ebrill 2017. Penderfynwyd: Derbyn
a nodi’r uchod. (c) Cynnal a Chadw Amlinellodd yr Harbwr Feistr ar y gwaith
a gyflawnwyd dros y gaeaf sef: ·
Pont
y Brics ·
Atgyweirio o gwmpas yr Harbwr ·
Atgyweirio ochr y Gerddi wrth ymyl
Swyddfa’r Harbwr ·
Gosod bariau / rhwystrau
ar ochr y promenâd i atal y tywod ddod drosodd Gobeithir
glanhau’r llithrfa’r Bad Achub cyn dechrau’r
tymor ynghyd â manion eraill gan
sicrhau bod popeth yn barod erbyn
Gwyliau’r Pasg. Apeliwyd
ar Aelodau’r Pwyllgor hwn i gysylltu gyda’r Harbwr Feistr
ar faterion gweithredol fel bod llif y gwaith yn
rhedeg yn esmwyth. Derbyniodd
y Gwasanaeth air o ddiolch gan gynrychiolydd ar ran Clwb Cychod
Aberdyfi am y gwasanaeth a dderbynir
gan swyddogion yr Harbwr. (ch) Materion Staff (i) Adroddwyd bod cytundeb Cymhorthydd Harbwr Aberdyfi (tymhorol) wedi ei ymestyn ar drefniant tri diwrnod yr wythnos hyd at ddiwedd Mawrth 2017 yn hytrach na symud staff ac sydd wedi profi’n gost effeithiol. Bwriedir cyflogi dau Gymhorthydd Harbwr (1 ym Mhorthmadog ac 1 ar gyfer Aberdyfi / Tywyn) yn llawn amser o’r 1 Ebrill ymlaen a fydd yn cael ei gyllido o gyllideb ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 4. |
|
MATERION I'W HYSTYRIED AR GAIS AELODAU'R PWYLLGOR YMGYNGHOROL ·
Arwyddion Traeth y Bad Achub Cofnod: Trafodwyd
y materion fel rhan o adroddiad y Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig. |
|
DYDDIAD CYFARFOD NESAF I nodi y cynhelir cyfarfod nesaf Pwyllgor Ymgynghorol Harbwr Aberdyfi at 10 Hydref 2017. Cofnod: Penderfynwyd: Er bod y
cyfarfod nesaf wedi ei bennu ar gyfer 10 Hydref 2017, gofynnwyd i’r Swyddog
Cefnogi Aelodau ail-drefnu dyddiad ar ddyddiad cyfleus ym mis Tachwedd gan y
byddai’n amserol o ran cyflwyno adroddiadau cyllidol |