Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Lowri Haf Evans  01286 679878

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

COFNODION:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorydd John Brynmor Hughes, Wendy Lloyd Jones a John Gwilym Jones (preswylwyr lleol) ar gyfer eitem 4, a’r Cynghorydd Gwynfor Owen (Aelod Lleol) ar gyfer eitem 5

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol

 

COFNODION:

Dim i’w nodi

 

3.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

 

 

COFNODION:

Dim i’w nodi

 

4.

CAIS AM DRWYDDED EIDDO pdf eicon PDF 286 KB

Land and Seafood Bar, Abersoch Land and Sea, Royal Garage, Abersoch, LL53 7AH

 

I ystyried y cais

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

COFNODION:

1.            CAIS AM DRWYDDED EIDDO – Land and Seafood Bar, Abersoch Land and Sea, Royal Garage, Abersoch

 

Ar ran yr eiddo:          Mr Stephen Cliff (Ymgeisydd), Diane Robertson ( Gweithiwr Land and Sea a Phreswylydd Lleol)

 

Ymatebwyr:                Elizabeth Williams (Heddlu Gogledd Cymru)

 Swyddogion Cyngor Gwynedd: Keira Sweeney (Rheolwr Cynllunio), Alun Evans (Rheolwr Gwarchod y Cyhoedd (Lles, Iechyd a Diogelwch) a Ffion Muscroft (Swyddog Gwarchod y Cyhoedd)

Einir Wyn (Clerc Cyngor Cymuned Llanengan)

Preswylwyr Lleol: Mr Wyn Williams, Mr Robert Kennedy, Mrs Margot Jones a Mr Martin Turtle

 

           

Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Amlygodd y Cadeirydd y byddai gan bob parti hawl i hyd at 5 munud i gyflwyno eu sylwadau

 

a)                    Adroddiad yr Adran Trwyddedu

 

Cyflwynwyd adroddiad y Rheolwr Trwyddedu yn manylu ar gais am drwydded eiddo ar gyfer bwyty gyda hawl i werthu alcohol a gweini bwyd o fan arlwyo ar lecyn tu allan i adeilad busnes gwerthu a thrwsio cychod rhwng 11:00 hyd at 21:20, saith diwrnod yr wythnos ynghyd a hanner awr yn ychwanegol er mwyn rhoi cyfle i gwsmeriaid orffen a gadael. Adroddwyd na wnaed cais am yr hawl i gynnal adloniant, ond petai'r drwydded yn cael ei chaniatáu bydda’r ymgeisydd yn gallu manteisio ar eithriadau Deddf Cerddoriaeth Fyw 2012 i chwarae cerddoriaeth chwyddedig tan 22:00

 

Nodwyd bod gan Swyddogion yr Awdurdod Trwyddedu tystiolaeth ddigonol bod y cais wedi ei gyflwyno yn unol â gofynion Deddf Trwyddedu 2003 a’r rheoliadau perthnasol. Cyfeiriwyd at y mesurau yr oedd yr ymgeisydd yn ei argymell i hyrwyddo’r amcanion trwyddedu ac amlygwyd y byddai’r mesurau hyn yn cael eu cynnwys ar y drwydded.

 

Tynnwyd sylw at yr ymatebion a dderbyniwyd yn ystod y cyfnod ymgynghori. Nodwyd bod amryw o wrthwynebiadau wedi eu derbyn i’r cais mewn perthynas â'r pedwar amcan trwyddedu - Atal trosedd ac anhrefn, atal niwsans cyhoeddus, sicrhau diogelwch cyhoeddus a gwarchod plant rhag niwed.

 

Argymhellwyd i’r Pwyllgor wrthod y cais yn unol â gofynion Deddf Drwyddedu 2003 ac am y rhesymau isod yn benodol:

·         Bod y safle agored mewn lleoliad peryglus ar bwys priffordd a chyffordd brysur, ac ar gwrtil busnes cychod prysur

·         Na fyddai’n bosib i’r ymgeisydd atal y peryglon i gwsmeriaid ac eraill oherwydd trafnidiaeth ceir a thractorau hefo trelars a chychod drwy fesurau rheoli oherwydd nad yw'r safle yn ddiogel nac yn addas fel eiddo trwyddedig.

·         Na fyddai’n bosib rheoli sŵn o’r lleoliad agored hwn; er gwaethaf y mesurau sydd yn cael eu cynnig gan yr ymgeisydd.  

 

Wrth ystyried y cais dilynwyd y drefn ganlynol-:

·      Rhoi cyfle i aelodau’r Is-bwyllgor a’r ymgeisydd ofyn cwestiynau i’r Rheolwr  Trwyddedu

·      Gwahodd yr ymgeisydd i ymhelaethu ar y cais

·      Rhoi cyfle i aelodau’r Is-bwyllgor ofyn cwestiynau i ddeilydd y drwydded.

·      Rhoi cyfle i'r Rheolwr Trwyddedu ofyn cwestiynau i ddeilydd y drwydded

·      Rhoi cyfle i’r ymgynghorai gefnogi unrhyw sylwadau ysgrifenedig

·      Gwahodd y Rheolwr Trwyddedu a’r ymgeisydd i ymateb i’r sylwadau a chrynhoi eu hachos

Wrth ymhelaethu ar y cais, nododd yr ymgeisydd:

·         Bod blaen yr adeilad yn wag ac yn lleoliad addas ar gyfer cynnig  ...  view the full COFNODION text for item 4.

5.

CAIS AM DRWYDDED EIDDO pdf eicon PDF 251 KB

Caffi Llew Glas, 3, Plas y Goits, Stryd Fawr, Harlech,  LL46 2YA.

 

I ystyried y cais

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD:

 

Bod y Pwyllgor yn caniatau cais yn unol â'r amodau a osodwyd gan gais cynllunio Parc Cenedlaethol Eryri NP5/61/T2E

 

COFNODION:

  1. Caffi Llew Glas, 3, Plas y Goits, Stryd Fawr, Harlech

 

Ar ran yr eiddo:          Ms Harriet Brown (ymgeisydd)         

 

Ymatebwyr:                Mr Dafydd Thomas (Swyddog Cynllunio Parc Cenedlaethol Eryri)

 

Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Amlygodd y Cadeirydd y byddai gan bob parti hawl i hyd at 5 munud i gyflwyno eu sylwadau

 

a)                    Adroddiad yr Adran Trwyddedu

 

Cyflwynwyd adroddiad y Rheolwr Trwyddedu yn manylu ar gais am drwydded eiddo ar gyfer caffi / bar lluniaeth ysgafn gyda lle i fwyta tu mewn a thu allan i’r eiddo.

 

Nodwyd bod gan Swyddogion yr Awdurdod Trwyddedu tystiolaeth ddigonol bod y cais wedi ei gyflwyno yn unol â gofynion Deddf Trwyddedu 2003 a’r rheoliadau perthnasol. Cyfeiriwyd at y mesurau yr oedd yr ymgeisydd yn ei argymell i hyrwyddo’r amcanion trwyddedu ac amlygwyd y byddai’r mesurau hyn yn cael eu cynnwys ar y drwydded.

 

Tynnwyd sylw at yr ymatebion a dderbyniwyd yn ystod y cyfnod ymgynghori. Nodwyd bod Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri yn gwrthwynebu’r cais oherwydd ei fod yn groes i hawliau cynllunio cais rhif NP5-61-T2E-DN ond petai’r ymgeisydd yn addasu oriau i gydymffurfio gydag amodau’r cais byddai’n dderbyniol

 

Argymhellwyd i’r Pwyllgor ganiatáu y cais yn unol â sylwadau Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri a gofynion Deddf Drwyddedu 2003 ac am y rhesymau isod yn benodol:

 

Wrth ystyried y cais dilynwyd y drefn ganlynol-:

·      Rhoi cyfle i aelodau’r Is-bwyllgor a’r ymgeisydd ofyn cwestiynau i’r Rheolwr  Trwyddedu

·      Gwahodd yr ymgeisydd i ymhelaethu ar y cais

·      Rhoi cyfle i aelodau’r Is-bwyllgor ofyn cwestiynau i ddeilydd y drwydded.

·      Rhoi cyfle i'r Rheolwr Trwyddedu ofyn cwestiynau i ddeilydd y drwydded

·      Rhoi cyfle i’r ymgynghorai gefnogi unrhyw sylwadau ysgrifenedig

·      Gwahodd y Rheolwr Trwyddedu a’r ymgeisydd i ymateb i’r sylwadau a chrynhoi eu hachos

Nodwyd siom nad oedd barn wedi ei dderbyn gan Cyngor Cymuned Harlech ac y byddai cynnwys lluniau o’r eiddo a / neu luniau o’r sgwâr / stryd wedi bod yn fanteisiol.

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn ag argymhelliad yr Uned Trwyddedu, cadarnhawyd mai yn unol â sylwadau Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri yr oeddynt yn argymell caniatáu y cais ac nid yn unol â sylwadau Gwarchod y Cyhoedd fel y nodwyd yn yr adroddiad.

Wrth ymhelaethu ar y cais, nododd yr ymgeisydd:

·         Mai menter fechan, ysgafn oedd ganddi dan sylw

·         Nad oedd am fentro gyda rhywbeth mwy oherwydd anodd recriwtio staff

·         Yn hapus i addasu’r oriau agor i gyd-fynd a’r cais cynllunio

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â sut roedd yr ymgeisydd yn bwriadu tawelu pryderon sŵn i’r dyfodol, nododd nad oedd bwriad ganddi gynnal adloniant na nosweithiau hwyr. Ategodd bod ei thad yn byw yn y fflat uwchben ac yn feirniadol o unrhyw sŵn! Nododd  hefyd bod y staff wedi eu hyfforddi i ddelio gyda chwsmeriaid annymunol.

 

Manteisiodd yr ymgynghorai oedd yn bresennol ar y cyfle i ymhelaethu ar sylwadau a gyflwynwyd ganddynt drwy lythyr.

 

Mr Dafydd Thomas (Swyddog Cynllunio Parc Cenedlaethol Eryri)

·         Bod y cais wedi ei wrthod oherwydd yn groes i amodau cais cynllunio

·         Yn derbyn bod yr ymgeisydd wedi  ...  view the full COFNODION text for item 5.