Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Lowri Haf Evans  01286 679878

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Cofnod:

Dim i’w nodi

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Cofnod:

Dim i’w nodi

3.

MATERION BRYS

Cofnod:

Dim i’w nodi

4.

CAIS AM DRWYDDED EIDDO pdf eicon PDF 366 KB

Cariad Gelato Ltd, The Kiosk, Stryd Fawr, Porthmadog, Gwynedd. LL49 9LP

 

I ystyried y cais

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD 

 

Caniatáu y cais yn unol â gofynion Deddf Trwyddedu 2003. 

 

Oriau Gwerthu alcohol ar ôl 17:30 (i'w werthu gyda pwdinau / hufen ia) 

Dim gwerthiant alcohol oddi ar yr eiddo – i'w gyfyngu i'r ardal decin yn union o flaen cownter gweini’r Kiosk yn unig 

Dim alcohol i'w yfed ar fyrddau ar y palmant 

 

Ymgorffori'r materion sydd wedi eu rhagnodi yn Atodlen Weithredol (Rhan M) y cais fel amodau ar y drwydded. 

 

Cofnod:

CAIS AM DRWYDDED EIDDO – Cariad Gelato Ltd, The Kiosk, Stryd Fawr, Porthmadog, Gwynedd LL49 9LP

 

Eraill a wahoddwyd:

 

·         Elizabeth Shone – Cariad Gelato

·         Olivia O’Neill - Cariad Gelato

·         David W Lindsay – Cariad Gelato

·         Cyng Gwilym Jones – Aelod Lleol

·         Elizabeth Williams (SwyddogTrwyddedu, Heddlu Gogledd Cymru)

 

Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod.

 

a)                    Adroddiad yr Adran Trwyddedu

 

Cyflwynwyd adroddiad y Rheolwr Trwyddedu yn manylu ar gais am drwydded eiddo ar gyfer kiosg hufen ia gyda rhywfaint o fyrddau allanol. Eglurwyd bod Cariad Gelato yn fusnes teuluol sydd yn cynhyrchu a gwerthu hufen ia wedi ei wneud mewn modd Eidalaidd. Roedd yr ymgeisydd yn gofyn am ganiatáu gwerthiant alcohol ochr yn ochr ai fusnes creiddiol, gan alluogi cwsmeriaid i fwynhau diod alcohol oddi fewn i ardal eistedd allanol benodol wedi ei ddiffinio; neu i ganiatáu cwsmeriaid i brynu alcohol ar gyfer ei yfed i ffwrdd oddi ar yr eiddo.

 

Gofynnwyd am yr hawl i werthu alcohol o 12 y prynhawn hyd at 21:00 bob dydd - yr eiddo yn agored i werthu hufen ia rhwng 10 a 21:00 bob dydd.

 

Cyfeiriwyd at oriau arfaethedig safonol ar gyfer oriau agor ac oriau gwerthiant alcohol ar ac oddi ar yr eiddo.

 

Nodwyd bod gan Swyddogion yr Awdurdod Trwyddedu tystiolaeth ddigonol bod y cais wedi ei gyflwyno yn unol â gofynion Deddf Trwyddedu 2003 a’r rheoliadau perthnasol. Cyfeiriwyd at y mesurau yr oedd yr ymgeisydd yn ei argymell i hyrwyddo’r amcanion trwyddedu ac amlygwyd y byddai’r mesurau hyn yn cael eu cynnwys ar y drwydded.

 

Tynnwyd sylw at yr ymatebion a dderbyniwyd yn ystod y cyfnod ymgynghori. Nodwyd bod gwrthwynebiadau i’r cais wedi eu derbyn gan yr Aelod Lleol a Chyngor Tref Porthmadog oedd yn cyfeirio at bryderon mewn perthynas ar Amcanion Trwyddedu o Ddiogelwch y Cyhoedd a Diogelu plant rhag niwed.  Amlygwyd bod Heddlu Gogledd Cymru, yn dilyn cyfarfod gyda’r ymgeisydd, wedi cadarnhau nad oedd ganddynt unrhyw dystiolaeth i gyfiawnhau gwrthwynebiad i’r cais. Roeddynt yn fodlon fod sicrwydd wedi ei roi fod ethos y busnes yn parhau i ganolbwyntio ar gynhyrchu a gwerthu hufen ia Eidalaidd i deuluoedd, yn hytrach na phwyslais ar werthu alcohol.

 

Cynhaliwyd cyfarfod gyda’r ymgeiysdd, yr Heddlu a’r Swyddog Trwyddedu ar y 7fed o Fawrth 2023 i geisio cyfarch pryderon yr Aelod Lleol a’r Cyngor Tref. Amlygwyd bod yr ymgeisydd yn barod i gyfaddawdu gan gytuno,

·         I werthu alcohol ar ôl 17:30 yn unig, gan mai dyma’r cyfnod mae masnachu i deuluoedd a phlant yn dod i ben

·         Alcohol i’w werthu gyda phwdinau / hufen ia yn unig ar ôl 17:30

·         Dim gwerthiant alcohol oddi ar yr eiddo

·         Gweini alcohol i’w gyfyngu i’r ardal ‘decking’ yn union o flaen cownter gweini’r Kiosg yn unig. Ni fydd alcohol yn cael ei yfed ar fyrddau ar y palmant

 

Roedd yr Adran Trwyddedu yn argymell caniatau’r cais yn unol a’r Deddf Drwyddedu 2003, a’r cytundeb cyfaddawdu a dderbyniwyd gan yr ymgeisydd

 

b)                    Wrth ystyried y cais dilynwyd y drefn ganlynol-:

·         Cyfle i Aelodau’r is-bwyllgor  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 4.