Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol - Zoom
Cyswllt: Eirian Roberts 01286 679018
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb. Cofnod: Derbyniwyd
ymddiheuriadau gan y Cynghorydd Llinos Medi Huws (Cyngor Sir Ynys Môn), yr
Athro Edmund Burke (Prifysgol Bangor), Dafydd Gibbard (Cyngor Gwynedd), Ian
Bancroft (Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam) a Jane Richardson (Cadeirydd
Grŵp Swyddogion Gweithredol). |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Derbyn unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol. Cofnod: Datganodd Dafydd Evans a Maria Hinfelaar fuddiant personol yn eitem 5
oherwydd bod yr adroddiad yn crybwyll dyrannu adnoddau penodol i brosiectau
Grŵp Llandrillo Menai a Phrifysgol Glyndŵr, ac oherwydd natur ariannu
uniongyrchol yr eitem. Roedd y cynrychiolwyr o’r farn bod y buddiant yn rhagfarnu a gadawsant y
cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem. |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Cofnod: Dim i’w nodi. |
|
COFNODION Y CYFARFOD BLAENOROL PDF 244 KB Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar 28 Hydref, 2022 fel rhai cywir Cofnod: Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod
blaenorol a gynhaliwyd ar 28 Hydref 2022 fel rhai cywir. |
|
CRONFA CYFLAWNI'R PORTFFOLIO PDF 425 KB Alwen Williams, Cyfarwyddwr Portffolio a Hedd Vaughan-Evans, Pennaeth Gweithrediadau i gyflwyno’r adroddiad. Penderfyniad: Bod y Bwrdd yn
cytuno i sefydlu Cronfa Cyflawni Portffolio ar gyfer 2023-24 a chlustnodi hyd
at £7m o’r £20m o gyllid y Cynllun Twf nad yw wedi’i glustnodi a ryddhawyd i’r
gronfa hon yn sgil y ffaith bod prosiectau Safle Strategol Allweddol
Bodelwyddan a Fferm Sero Net Llysfasi wedi’u tynnu’n ôl. Cofnod: Cyflwynwyd yr
adroddiad gan Hedd Vaughan-Evans (Pennaeth Gweithrediadau). PENDERFYNWYD
bod y Bwrdd yn cytuno i sefydlu Cronfa Cyflawni Portffolio ar gyfer 2023-24 a
chlustnodi hyd at £7m o’r £20m o gyllid y Cynllun Twf nad yw wedi’i glustnodi a
ryddhawyd i’r gronfa hon yn sgil y ffaith bod prosiectau Safle Strategol
Allweddol Bodelwyddan a Fferm Sero Net Llysfasi wedi’u tynnu’n ôl. RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD Mae
gan Gynllun Twf Gogledd Cymru broses rheoli newid yn ei lle
i sicrhau bod newidiadau posib i sgôp y Cynllun
Twf a’r prosiectau
yn cael eu dal, eu hasesu a lle
bo hynny’n berthnasol, eu hystyried gan y Bwrdd. Mae’r Cytundeb Twf Terfynol yn nodi sefyllfa'r bwrdd mewn perthynas
â phrosiectau amgen posib: "Rhaid i unrhyw brosiectau newydd neu amgen sydd i'w cyflwyno
am ystyriaeth, ddangos eu bod yn cyflawni yn erbyn yr achos
busnes rhaglen perthnasol ac amcanion yr achos busnes
portffolio. Lle mae'r prosiectau hyn o fewn yr
amlen ariannol gytûn bresennol ar gyfer y bartneriaeth, byddai angen i'r
Bwrdd Uchelgais Economaidd wneud penderfyniad yn eu cylch." Ym mis Medi 2022, fe wnaeth y Bwrdd gytuno ar gyfres o egwyddorion er mwyn adnabod prosiectau
newydd yn cynnwys y bydd y Bwrdd yn ystyried, i ddechrau
ac ar sail achos wrth achos, geisiadau gan brosiectau presennol ar gyfer cyllid ychwanegol sy'n bodloni cyfres
o feini prawf. Gan
adeiladu ar yr egwyddor a fabwysiadwyd gan y Bwrdd ym
mis Medi, gofynnwyd i’r Bwrdd ystyried clustnodi cyfran o'r cyllid a gaiff
ei ryddhau o brosiectau Bodelwyddan a Llysfasi i Gronfa
Cyflawni’r Portffolio i gefnogi prosiectau
aeddfed o fewn y portffolio sy'n gorfod ymdopi â chynnydd mewn costau
neu faterion hyfywedd er mwyn gallu
symud i gyflawni
yn ystod 2023-24 (yn amodol
ar benderfyniadau ar wahân gan y Bwrdd). TRAFODAETH Manylwyd ar y
cefndir ac ystyriaethau perthnasol a’r ymgynghoriadau a gynhaliwyd. Mewn ymateb i
gwestiwn, nododd y Pennaeth Gweithrediadau y credai fod neilltuo £7m o’r £20m o
gyllid y Cynllun Twf nad oedd wedi’i glustnodi i Gronfa Cyflawni’r Portffolio
yn gymesur ac yn ddigonol i sicrhau bod tri o’r prosiectau a restrwyd ym
mharagraff 4.8 o’r adroddiad yn symud ymlaen, a hynny o fewn yr amserlen a
nodwyd. Nodwyd ymhellach y
byddai’r Bwrdd yn gweld manylion y ceisiadau ffurfiol gan yr amrywiol
brosiectau yn ei gyfarfod nesaf, ac awgrymwyd hefyd y byddai’n fuddiol cyflwyno
adroddiad manwl ar hyn i gyfarfod mis Ionawr o’r Bwrdd Cyflawni Busnes. |
|
PROSES NEWID PROSIECT PDF 610 KB Alwen Williams, Cyfarwyddwr Portffolio a Hedd Vaughan-Evans, Pennaeth Gweithrediadau i gyflwyno’r adroddiad. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: 1.
Cytuno ar y sgôp a'r lleiafswm
gofynnol fel y nodir yn yr adroddiad i’r Bwrdd, yn amodol ar ddiwygio’r geiriad
‘Rhaid i gynigion gyflawni ar gyfer
cymunedau gwledig’ (Atodiad A – Gofynion Sylfaenol – Ffit Strategol –
Rhaglen Bwyd-Amaeth a Thwristiaeth) i ddarllen ‘Dylai cynigion bwysleisio cyflawni ar gyfer cymunedau gwledig’. 2. Cytuno
i'r amserlen a nodir yn yr adroddiad gan gynnwys lansio'n ffurfiol ym mis
Ionawr 2023. 3. Dirprwyo’r
awdurdod i'r Cyfarwyddwr Portffolio i weithredu'r Broses Newid Prosiectau fel y
nodir yn yr adroddiad ac i gymryd yr holl gamau angenrheidiol i gwblhau'r
dogfennau sydd eu hangen i gychwyn y broses. Cofnod: Cyflwynwyd yr
adroddiad gan Hedd Vaughan-Evans (Pennaeth Gweithrediadau) ac ategodd Alwen
Williams (Cyfarwyddwr Portffolio) y sylw mai’r dyhead oedd adnabod pecyn
uchelgeisiol iawn o brosiectau y gellir eu cyflawni, yn hytrach na phrosiectau
sy’n cyfarfod â’r lleiafswm gofynnol yn unig. PENDERFYNIAD
RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD Mae
gan Gynllun Twf Gogledd Cymru broses rheoli newid yn ei lle
i sicrhau bod newidiadau posib i sgôp y Cynllun
Twf a’r prosiectau
yn cael eu dal, eu hasesu a lle
bo hynny’n berthnasol, eu hystyried gan y Bwrdd. Mae’r Cytundeb Twf Terfynol yn nodi sefyllfa'r bwrdd mewn perthynas
â phrosiectau amgen posib: "Rhaid i unrhyw brosiectau newydd neu amgen sydd i'w cyflwyno
am ystyriaeth, ddangos eu bod yn cyflawni yn erbyn yr achos
busnes rhaglen perthnasol ac amcanion yr achos busnes
portffolio. Lle mae'r prosiectau hyn o fewn yr
amlen ariannol gytûn bresennol ar gyfer y bartneriaeth, byddai angen i'r
Bwrdd Uchelgais Economaidd wneud penderfyniad yn eu cylch." Ym mis Medi 2022, fe wnaeth y Bwrdd gytuno ar
gyfres o egwyddorion er mwyn adnabod prosiectau newydd a phroses tri cham, sef
Cam 1: Sganio’r Gorwel, Cam 2: Creu Rhestr Hir a Rhestr Fer a Cham 3:
Cymeradwyo a Datblygu’r Achosion Busnes.
Gofynnwyd i’r Bwrdd gytuno ar y sgôp a’r
lleiafswm gofynnol ar gyfer y cam sganio’r gorwel. TRAFODAETH Manylwyd ar y
cefndir ac ystyriaethau perthnasol a’r ymgynghoriadau a gynhaliwyd. Nodwyd yr
adroddwyd yng nghyfarfod diweddar Cyngor Busnes Gogledd Cymru bod yr £13m o
gyllid y Cynllun Twf nad oedd wedi’i glustnodi ar gael, ond na rannwyd unrhyw
fanylion ynglŷn â’r meini prawf a’r angen am gyllid cyfatebol, ac ati. Yn wyneb hynny, awgrymwyd y dylid cyfleu’r
negeseuon hynny cyn gynted â phosib’ er mwyn rheoli disgwyliadau. Mewn ymateb, nododd y Pennaeth
Gweithrediadau, yn ddarostyngedig i benderfyniad y Bwrdd ar yr eitem hon, y
byddai’r wybodaeth yn cael ei rhannu rhag blaen gyda rhai o’n rhanddeiliad allweddol, megis y Cyngor Busnes, ac na
fwriedid aros am y lansiad swyddogol ym mis Ionawr Gan gyfeirio at
Atodiad A i’r adroddiad – Gofynion Sylfaenol – Ffit Strategol – Rhaglen
Bwyd-Amaeth a Thwristiaeth, mynegwyd pryder y gallai’r datganiad ‘Rhaid i gynigion gyflawni ar gyfer cymunedau
gwledig’ eithrio prosiectau da yng nghanol trefi. Mewn ymateb, eglurodd y Pennaeth
Gweithrediadau:- · Bod y Bwrdd Rhaglen Bwyd-Amaeth a Thwristiaeth o’r farn bod y rhaglen ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6. |