Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Eirian Roberts  01286 679018

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

Cofnod:

 

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan:-

 

·         Y Cynghorydd Mark Pritchard (Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam);

·         Y Cynghorydd Llinos Medi Huws (Cyngor Sir Ynys Môn) gyda’r Cynghorydd Gary Pritchard yn dirprwyo;

·         Yana Williams (Coleg Cambria);

·         Yr Athro Edmund Burke (Prifysgol Bangor) gyda’r Athro Paul Spencer yn dirprwyo;

·         Neal Cockerton (Cyngor Sir y Fflint) gydag Andrew Farrow yn dirprwyo;

·         Dafydd Gibbard (Cyngor Gwynedd) gyda Sioned Williams yn dirprwyo.

 

Croesawodd y Cadeirydd y dirprwyon i’r cyfarfod.

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Derbyn unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol.

Cofnod:

Datganodd Alwen Williams, Cyfarwyddwr Portffolio, fuddiant personol yn eitem 7 gan fod yr adroddiad yn ymwneud â’i secondiad fel Prif Weithredwr Dros Dro'r Cyd-bwyllgor Corfforedig.  Roedd o’r farn bod y buddiant yn rhagfarnu, a gadawodd y cyfarfod yn ystod y drafodaeth.

 

Datganodd Dafydd Evans fuddiant personol yn eitem 9 gan fod Grŵp Llandrillo Menai yn noddwr y prosiect Rhwydwaith Talent Twristiaeth.  Roedd o’r farn bod y buddiant yn rhagfarnu, a gadawodd y cyfarfod yn ystod y drafodaeth.

 

3.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

Cofnod:

Ni chodwyd unrhyw faterion brys.

4.

COFNODION Y CYFARFOD BLAENOROL pdf eicon PDF 379 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 22 Medi, 2023 fel rhai cywir.

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar 22 Medi, 2023 fel rhai cywir.

 

5.

CYD-BWYLLGOR BWRDD UCHELGAIS ECONOMAIDD GOGLEDD CYMRU - CYNLLUN ARCHWILIO MANWL 2023 pdf eicon PDF 749 KB

Sioned Owen, Archwilio Cymru, i gyflwyno’r adroddiad.

Penderfyniad:

Derbyn adroddiad Archwilio Cymru a oedd yn amlygu cynllun Archwilio’r Bwrdd Uchelgais ar gyfer 2023.

 

Cofnod:

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Sioned Owen (Archwilio Cymru).

 

Nodwyd:-

 

·         Bod newidiadau i Safon Ryngwladol ar Archwilio 315 yn weithredol ar gyfer archwiliadau cyfrifon o 2022/23 ymlaen.  Golygai hynny ei bod yn ofynnol i’r Swyddfa Archwilio wneud llawer iawn mwy o waith i ystyried y risgiau, ac yna pwyso a mesur y risgiau hynny o ran yr archwiliad, cyn adrodd i’r Cyd-bwyllgor.

·         Bod y Cynllun Manwl yn amlygu’r risgiau a adnabuwyd, y ffi, y tîm archwilio ac amserlen yr archwiliad.

·         Y gosodwyd lefel perthnasedd o £73,000 eleni, gyda lefel is ar gyfer meysydd a ystyrir sy’n bwysicach i’r darllenwr, megis cydnabyddiaeth uwch-swyddogion a Datgeliadau Partïon Cysylltiedig.

·         Bod Arddangosyn 1 ar dudalen 10 o’r Cyfrifon yn nodi’r risgiau o ganlyniad i asesiad risg yr archwilwyr o’r Cyfrifon.  Roedd un risg sylweddol wedi’i nodi (Gwrth-wneud gan y Rheolwyr), sef y risg y gallai rheolwyr ddiystyru rheolaethau.  Fodd bynnag, roedd y risg yma’n berthnasol ymhob corff ac ymhob cynllun archwilio yng Nghymru, ond roedd yn ofynnol i’r archwilwyr ymateb i’r risg honno fel rhan o’r gweithdrefnau archwilio.

·         Bod y ddwy risg yn Arddangosyn 2 ar dudalen 11 o’r Cyfrifon yn rhai generig eu natur hefyd ac yn cael eu cynnwys yn y mwyafrif o gynlluniau archwilio eto eleni.

·         Na nodwyd unrhyw risgiau sy’n benodol i Gyd-bwyllgor Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru yn unig eleni.

·         Bod Arddangosyn 3 ar dudalen 12 o’r Cyfrifon yn nodi amserlen y gwaith archwilio.  Roedd yr archwilwyr yn amcanu i gwblhau’r gwaith o archwilio’r cyfrifon erbyn dechrau mis Tachwedd a chyflwyno’r adroddiad i’r Bwrdd ganol y mis, ond yn cadw’r amserlen honno dan olwg gyda’r swyddogion.

·         Bod y ffi arfaethedig ar gyfer 2023 wedi cynyddu tua 15%, sef tua 5% o ganlyniad i chwyddiant a 10.2% ar gyfer effaith safon archwilio ddiwygiedig Safon Ryngwladol ar Archwilio 315 ar y dull archwilio ariannol.  Pe byddai’r gwir ffi yn is na hynny, byddai ad-daliad yn cael ei wneud i’r Bwrdd Uchelgais.

 

Diolchodd y Cadeirydd i gynrychiolydd Archwilio Cymru am y cyflwyniad.

 

PENDERFYNWYD derbyn adroddiad Archwilio Cymru a oedd yn amlygu cynllun Archwilio’r Bwrdd Uchelgais ar gyfer 2023.

 

RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD

 

Er mwyn cyflawni eu cyfrifoldebau statudol fel archwilydd allanol ac i gyflawni eu rhwymedigaethau dan y Cod Ymarfer Archwilio, mae Archwilio Cymru yn cwblhau gwaith bob blwyddyn er mwyn cyflawni’r dyletswyddau canlynol:-

 

·         Archwilio datganiadau ariannol Cyd-bwyllgor Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru i sicrhau y rhoddir cyfrif priodol am arian cyhoeddus;

·         Rhaid i’r Cyd-bwyllgor roi trefniadau ar waith i gael gwerth am arian am yr adnoddau y mae’n eu defnyddio, a rhaid i’r Archwilydd Cyffredinol fod wedi’i fodloni ei fod yn gwneud hyn.

 

6.

CYNLLUN TWF GOGLEDD CYMRU - ADRODDIAD PERFFORMIAD A RISGIAU CHWARTER 2 pdf eicon PDF 248 KB

Hedd Vaughan-Evans, Pennaeth Gweithrediadau, i gyflwyno’r adroddiad.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

 

1.       Nodi Adroddiad Perfformiad Chwarter 2 a Chofrestr Risg y Portffolio wedi'i diweddaru.

 

2.       Cymeradwyo cyflwyno Adroddiad Perfformiad Chwarter 2 i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, ynghyd â phwyllgorau craffu'r awdurdodau lleol.

 

Cofnod:

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Hedd Vaughan-Evans, Pennaeth Gweithrediadau.

 

PENDERFYNWYD

1.         Nodi Adroddiad Perfformiad Chwarter 2 a Chofrestr Risg y Portffolio wedi'u diweddaru.

2.         Cymeradwyo cyflwyno Adroddiad Perfformiad Chwarter 2 i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, ynghyd â phwyllgorau craffu'r awdurdodau lleol.

 

RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD

 

Mae adrodd chwarterol ar gynnydd yn erbyn Cynllun Twf Gogledd Cymru yn un o ofynion Cytundeb Terfynol y Cynllun Twf.  Yn dilyn ystyriaeth gan y BUEGC, caiff yr adroddiadau eu rhannu gyda Llywodraeth Cymru, Llywodraeth y DU a phwyllgorau craffu'r awdurdodau lleol.

 

TRAFODAETH

 

Mynegwyd pryder ynglŷn â’r oedi i amserlen prosiect Cysylltu yr Ychydig % Olaf o ganlyniad i’r ffaith bod gweithgaredd caffael ar y prosiect wedi’i atal nes bod Llywodraeth y DU yn cadarnhau dyddiad lansio eu hymyrraeth newydd.  Nodwyd bod Prosiect Gigabit £5bn y Llywodraeth wedi’i gyhoeddi yn 2019, ond nad oedd Cymru wedi derbyn unrhyw fudd ohono.  Awgrymwyd bod gan Lywodraeth y DU record wael o ran cyflenwi cysylltedd digidol yng Nghymru a chredid ein bod yn peryglu ein prosiect ein hunain tra’n aros iddynt ymateb.  Awgrymwyd y dylai’r Bwrdd osod terfyn amser ar hyn, gan ystyried symud yn ein blaenau ein hunain os nad yw’r Llywodraeth yn ymateb.

 

Mewn ymateb, nodwyd:-

 

·         Y cytunid yn llwyr â’r pryderon a bod y swyddogion mewn cyswllt rheolaidd â’u cydweithwyr yn Llywodraeth y DU er mwyn amlygu arwyddocâd y risg.

·         Yn ôl dealltwriaeth y swyddogion, bod Llywodraeth y DU yn bwriadu lansio’r gweithgaredd caffael ar gyfer yr ymyrraeth yma yn Ionawr 2024.

·         O ran yr awgrym y dylem symud ymlaen ein hunain os nad yw’r Llywodraeth yn ymateb, bod angen cadw mewn cof mai’r nod yn y pen draw yw sicrhau’r cysylltedd gorau ar gyfer ein cymunedau.  Pe byddem yn symud ymlaen i weithredu’r prosiect sydd wedi’i ddatblygu a’i ddylunio gennym, byddai’n rhaid cael sicrwydd na fyddai hynny’n peryglu cysylltedd Gigabit yn y dyfodol i’r llefydd hynny y gallai ein hymyrraeth ni eu cyrraedd.

·         Er ein bod yn barod i symud ymlaen i gaffael ar ein prosiect ein hunain, byddai’n rhaid i ni ddal ein hunain yn atebol am sicrhau ein bod yn dewis y llwybr gorau i gael y cysylltedd gorau ar gyfer ein cymunedau.  Y cysylltedd gorau fyddai cysylltedd Gigabit, na fyddai ein prosiect ni, o reidrwydd, yn gallu ei ddarparu.

·         Bod y drafodaeth yn un sensitif, yn amlwg, ond ein bod yn pryderu bod gwerth ein buddsoddiad yn gostwng wrth i ni aros am ragor o eglurder.

 

Cytunwyd i anfon llythyr at Lywodraeth y DU, ar ran y Bwrdd, yn amlygu’r pryderon uchod.

 

Gofynnwyd am ragor o fanylion ynglŷn â’r bwlch hyfywedd ar brosiect Cyn Ysbyty Gogledd Cymru. 

 

Mewn ymateb, nodwyd:-

 

·         Y cytunwyd i roi £3m tybiannol ychwanegol i’r prosiect hwn yn gynharach eleni gyda’r bwlch hyfywedd gwreiddiol.

·         Bod y bwlch wedi cynyddu, a hynny’n mae’n debyg o ganlyniad i’r ffaith bod y costau’n cynyddu a’r farchnad dai yn  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6.

7.

CYD-BWYLLGOR CORFFOREDIG Y GOGLEDD (CBC) - YMESTYN SECONDIAD RHAN-AMSER CYFARWYDDWR PORTFFOLIO UCHELGAIS GOGLEDD CYMRU FEL PRIF WEITHREDWR DROS DRO Y CBC pdf eicon PDF 217 KB

Dylan Williams, Prif Weithredwr Arweiniol Cynghorau Gogledd Cymru ar gyfer y Bwrdd Uchelgais, i gyflwyno’r adroddiad.

 

Penderfyniad:

 

1.                Bod y Bwrdd Uchelgais yn cefnogi ymestyn y trefniant i ryddhau amser y Cyfarwyddwr Portffolio am ddau ddiwrnod yr wythnos tan 31 Mawrth, 2024 er mwyn parhau i ymgymryd â rôl y Prif Weithredwr ar sail dros dro.

 

2.       Bod yr holl gyflogaeth a'r costau cysylltiedig yn parhau i gael eu hysgwyddo gan CBC y Gogledd

Cofnod:

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Dylan Williams, Prif Weithredwr Arweiniol Cynghorau Gogledd Cymru ar gyfer y Bwrdd Uchelgais.

 

PENDERFYNWYD

1.         Bod y Bwrdd Uchelgais yn cefnogi ymestyn y trefniant i ryddhau amser y Cyfarwyddwr Portffolio am ddau ddiwrnod yr wythnos tan 31 Mawrth, 2024 er mwyn parhau i ymgymryd â rôl y Prif Weithredwr ar sail dros dro.

2.         Bod yr holl gyflogaeth a'r costau cysylltiedig yn parhau i gael eu hysgwyddo gan CBC y Gogledd.

 

RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD

 

Gan ystyried penderfyniad mewn egwyddor y cynghorau i drosglwyddo swyddogaethau Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru i gynorthwyo rhanbarth y Gogledd i sefydlu'r CBC, a sicrhau bod buddiannau'r Bwrdd Uchelgais yn cael eu diogelu wrth i'r CBC symud ymlaen.

 

 

8.

CAU ALLAN Y WASG A'R CYHOEDD

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitemau canlynol gan ei bod yn debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraff 14 o Atodiad 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 Gwybodaeth ynglŷn â thrafodion ariannol neu fusnes unrhyw berson penodol (yn cynnwys yr awdurdod sydd yn dal y wybodaeth hynny).

 

Mae budd cyhoeddus cydnabyddedig mewn bod yn agored ynglŷn â defnydd adnoddau cyhoeddus a materion ariannol cysylltiedig. Cydnabyddir fodd bynnag fod adegau, er gwarchod buddiannau ariannol a masnachol cyhoeddus fod angen trafod gwybodaeth o’r fath heb ei chyhoeddi. Mae’r adroddiad yn benodol ynglŷn a materion ariannol a busnes ynghyd â thrafodaethau cysylltiedig. Byddai cyhoeddi gwybodaeth fasnachol sensitif o’r math yma yn gallu bod yn niweidiol i fuddiannau’r cyrff a’r Cynghorau ac yn tanseilio hyder rhai eraill sydd yn ymwneud a’r Gytundeb Twf i rannu gwybodaeth sensitif ar gyfer ystyriaeth. Byddai hyn yn groes i’r budd cyhoeddus ehangach o sicrhau yr allbwn cyfansawdd gorau.

 

Cofnod:

 

PENDERFYNWYD cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitemau canlynol gan ei bod yn debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraff 14 o Atodiad 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 - Gwybodaeth ynglŷn â thrafodion ariannol neu fusnes unrhyw berson penodol (yn cynnwys yr awdurdod sydd yn dal y wybodaeth hynny).

 

Mae budd cyhoeddus cydnabyddedig mewn bod yn agored ynglŷn â defnydd adnoddau cyhoeddus a materion ariannol cysylltiedig.  Cydnabyddir, fodd bynnag, fod adegau, er gwarchod buddiannau ariannol a masnachol cyhoeddus, fod angen trafod gwybodaeth o’r fath heb ei chyhoeddi.  Mae’r adroddiadau yn benodol ynglŷn â materion ariannol a busnes ynghyd â thrafodaethau cysylltiedig.  Byddai cyhoeddi gwybodaeth fasnachol sensitif o’r math yma yn gallu bod yn niweidiol i fuddiannau’r cyrff a’r Cynghorau ac yn tanseilio hyder rhai eraill sydd yn ymwneud â’r Cytundeb Twf i rannu gwybodaeth sensitif ar gyfer ystyriaeth.  Byddai hyn yn groes i’r budd cyhoeddus ehangach o sicrhau'r allbwn cyfansawdd gorau.

 

9.

RHWYDWAITH TALENT TWRISTIAETH - ACHOS BUSNES AMLINELLOL

Robyn Lovelock, Rheolwr Rhaglen Bwyd-amaeth a Thwristiaeth, i gyflwyno’r adroddiad (sydd wedi’i gylchredeg i Aelodau’r Bwrdd yn unig).

Penderfyniad:

 

1.     Bod y Bwrdd yn cymeradwyo'r Achos Busnes Amlinellol ar gyfer y prosiect Rhwydwaith Talent Twristiaeth, yn amodol ar Grŵp Llandrillo Menai (GLlM) yn ymdrin â'r materion a amlinellir yn yr adroddiad a gyflwynwyd i aelodau’r Bwrdd, fel y'u disgrifir yn Adran 7, ac yn argymell i'r Bwrdd Uchelgais Economaidd fod Achos Busnes Llawn yn cael ei baratoi i'r Bwrdd ei ystyried yn dilyn cwblhau'r broses gaffael a'r broses ganiatâd.

 

2.     Bod y Bwrdd yn dirprwyo’r gymeradwyaeth derfynol o’r fanyleb gaffael a’r meini prawf gwerth cymdeithasol sydd i’w gynnwys gan Grŵp Llandrillo Menai yn eu caffael i'r Cyfarwyddwr Portffolio, mewn ymgynghoriad â'r Cadeirydd a'r Is-gadeirydd.

 

3.     Bod y Bwrdd yn awdurdodi'r Cyfarwyddwr Portffolio mewn ymgynghoriad â Swyddog Adran 151 ac Swyddog Monitro yr Awdurdod Lletya i gytuno ar delerau drafft yn unol â'r adroddiad hwn i'w cymeradwyo gan y Bwrdd Uchelgais Economaidd fel sail i'r trefniadau ariannu terfynol ar gyfer y prosiect, fydd yn sail i’r Llythyr Cynnig Grant a gytunir gan y Bwrdd yn ystod y cam Achos Busnes Llawn.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Robyn Lovelock, Rheolwr Rhaglen Bwyd-amaeth a Thwristiaeth.

 

PENDERFYNWYD

1.    Bod y Bwrdd yn cymeradwyo'r Achos Busnes Amlinellol ar gyfer y prosiect Rhwydwaith Talent Twristiaeth, yn amodol ar Grŵp Llandrillo Menai (GLlM) yn ymdrin â'r materion a amlinellir yn yr adroddiad a gyflwynwyd i aelodau’r Bwrdd, fel y'u disgrifir yn Adran 7, ac yn argymell i'r Bwrdd Uchelgais Economaidd fod Achos Busnes Llawn yn cael ei baratoi i'r Bwrdd ei ystyried yn dilyn cwblhau'r broses gaffael a'r broses ganiatâd.

2.    Bod y Bwrdd yn dirprwyo’r gymeradwyaeth derfynol o’r fanyleb gaffael a’r meini prawf gwerth cymdeithasol sydd i’w gynnwys gan Grŵp Llandrillo Menai yn eu caffael i'r Cyfarwyddwr Portffolio, mewn ymgynghoriad â'r Cadeirydd a'r Is-gadeirydd.

3.    Bod y Bwrdd yn awdurdodi'r Cyfarwyddwr Portffolio mewn ymgynghoriad â Swyddog Adran 151 a Swyddog Monitro'r Awdurdod Lletya i gytuno ar delerau drafft yn unol â'r adroddiad hwn i'w cymeradwyo gan y Bwrdd Uchelgais Economaidd fel sail i'r trefniadau ariannu terfynol ar gyfer y prosiect, fydd yn sail i’r Llythyr Cynnig Grant a gytunir gan y Bwrdd yn ystod y cam Achos Busnes Llawn.

 

RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD

 

Ceisio cymeradwyaeth y Bwrdd Portffolio i Achos Busnes Amlinellol ar gyfer y prosiect Rhwydwaith Talent Twristiaeth.

 

10.

DIWEDDARIAD I ACHOS BUSNES Y PORTFFOLIO

Alwen Williams, Cyfarwyddwr Portffolio a Hedd Vaughan-Evans, Pennaeth Gweithrediadau, i gyflwyno’r adroddiad (sydd wedi’i gylchredeg i Aelodau’r Bwrdd yn unig).

Penderfyniad:

 

1.         Bod y Bwrdd yn cymeradwyo diweddariad 2023 Achos Busnes y Portffolio yn ogystal â’r cais am newid cysylltiedig ac yn ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU fel rhan o'r broses dyfarnu cyllid flynyddol.

 

2.         Bod y Bwrdd yn gofyn i'r Cyfarwyddwr Portffolio gyflwyno'r holl ddogfennaeth ofynnol a'r ffurflen gais i newid i Lywodraethau Cymru a'r DU fel rhan o'r broses dyfarnu cyllid flynyddol a dirprwyo hawl i'r Cyfarwyddwr Portffolio mewn ymgynghoriad â Chadeirydd ac Is-gadeirydd Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru, y Swyddog Monitro a'r Swyddog a151 i negodi gyda Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ar amseriad y trosglwyddiad arian ac i wneud unrhyw fân addasiadau ar gais y naill lywodraeth neu’r llall.

 

3.         Bod y Bwrdd yn nodi bod angen cyflwyno adroddiad Adolygiad Porth i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU fel rhan o’r Achos Busnes Portffolio ac yn gofyn i’r Cyfarwyddwr Portffolio ddatblygu cynllun gweithredu i’r Bwrdd ei ystyried i fynd i’r afael â'r argymhellion unwaith y bydd yr adroddiad terfynol wedi'i dderbyn.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Hedd Vaughan-Evans, Pennaeth Gweithrediadau.

 

PENDERFYNWYD

1.    Bod y Bwrdd yn cymeradwyo diweddariad 2023 Achos Busnes y Portffolio yn ogystal â’r cais am newid cysylltiedig ac yn ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU fel rhan o'r broses dyfarnu cyllid flynyddol.

2.    Bod y Bwrdd yn gofyn i'r Cyfarwyddwr Portffolio gyflwyno'r holl ddogfennaeth ofynnol a'r ffurflen gais i newid i Lywodraethau Cymru a'r DU fel rhan o'r broses dyfarnu cyllid flynyddol a dirprwyo hawl i'r Cyfarwyddwr Portffolio mewn ymgynghoriad â Chadeirydd ac Is-gadeirydd Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru, y Swyddog Monitro a'r Swyddog a151 i negodi gyda Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ar amseriad y trosglwyddiad arian ac i wneud unrhyw fân addasiadau ar gais y naill lywodraeth neu’r llall.

3.    Bod y Bwrdd yn nodi bod angen cyflwyno adroddiad Adolygiad Porth i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU fel rhan o’r Achos Busnes Portffolio ac yn gofyn i’r Cyfarwyddwr Portffolio ddatblygu cynllun gweithredu i’r Bwrdd ei ystyried i fynd i’r afael â'r argymhellion unwaith y bydd yr adroddiad terfynol wedi'i dderbyn.

 

RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD

 

Mae'n ofynnol dan Gytundeb Terfynol y Cynllun Twf bod Achos Busnes y Portffolio yn cael ei ddiweddaru'n flynyddol a'i gyflwyno i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU fel rhan o'r broses dyfarnu cyllid flynyddol.