Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion drafft

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol - Zoom

Cyswllt: Eirian Roberts  01286 679018

Eitemau
Rhif eitem

1.

CADEIRYDD

Penodi Cadeirydd ar gyfer 2024/25.

Penderfyniad:

Penodi’r Cynghorydd Julie Fallon yn Gadeirydd ar gyfer 2024/25. 

Cofnod:

PENDERFYNWYD penodi’r Cynghorydd Julie Fallon yn Gadeirydd ar gyfer 2024/25.

 

2.

IS-GADEIRYDD

Penodi Is-gadeirydd ar gyfer 2024/25.

Penderfyniad:

Penodi’r Cynghorydd Gill German yn Is-gadeirydd ar gyfer 2024-25. 

Cofnod:

PENDERFYNWYD Penodi’r Cynghorydd Gill German yn Is-gadeirydd ar gyfer 2024/25.

 

3.

YMDDIHEURIADAU

Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan Y Cynghorydd Gill German (Cyngor Sir Ddinbych), Y Cynghorydd Beca Brown (Cyngor Gwynedd), Paul Smith (Cynrychiolydd Ysgolion Uwchradd), Marc Berw Hughes (Cyngor Sir Ynys Môn), Dr Lowri Brown (Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy) a Karen Evans (Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam).

 

4.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Derbyn unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol.

Cofnod:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o fuddiant personol gan unrhyw aelod oedd yn bresennol.

 

5.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

Cofnod:

Ni chodwyd unrhyw faterion brys.

 

6.

COFNODION Y CYFARFOD BLAENOROL pdf eicon PDF 160 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 20 Mawrth, 2024 fel rhai cywir.

Cofnod:

Cadarnhawyd bod cofnodion cyfarfod blaenorol y pwyllgor hwn, a gynhaliwyd ar 20 Mawrth, 2024, yn gywir.

 

Mater yn codi o’r Cofnodion

Eitem 7 – Dyfodol Gwella Ysgolion yng Ngogledd Cymru

 

Cyfeiriodd Rheolwr Gyfarwyddwr GwE at y penderfyniad i gyflwyno adroddiad i’r cyfarfod hwn o’r Cydbwyllgor ar y ffordd ymlaen fydd yn ymdrin ag amserlen a materion llywodraethu, yn ogystal â goblygiadau cyllidebol, gan nodi:-

 

·         Y paratowyd drafft cynnar o bapur i’w drafod gyda’r Bwrdd Rheoli, a bod y papur eisoes wedi’i rannu gyda Phrif Weithredwr Cyngor Gwynedd, fel y Prif Weithredwr Arweiniol.

·         Bod y papur drafft yn cynnwys rhai o’r cwestiynau a godwyd gan aelodau’r Cydbwyllgor, megis beth yw cost cau lawr y gwasanaeth, oes yna arbedion y gellir eu gwneud o fewn y flwyddyn, beth yw’r modelau newydd wrth i ni ail-siapio’r gwasanaeth a beth yn union fydd rôl y Cydbwyllgor a’r Bwrdd Rheoli wrth  symud ymlaen.

·         Y gobeithir rhannu’r papur gyda’r Bwrdd Rheoli am sylwadau a’i gyflwyno i’r Cydbwyllgor yng nghyfarfod Gorffennaf, neu o bosib’ bydd angen cynnal cyfarfod brys rywle yn y canol petai’r sefyllfa yn newid yn weddol sydyn.

·         Ei bod yn eithaf clir o ddatganiad cychwynnol y Gweinidog Addysg newydd fod y broses o ail-drefnu’r gwasanaethau gwella ysgolion am barhau ac roedd cwmni Isos, dan arweiniad Simon Day, wedi cael cytundeb 6 mis gan y Llywodraeth i fwrw ymlaen ag ail ran y gwaith. 

·         Y deellid bod y gweision sifil yn disgwyl i’r awdurdodau lleol ddatgan beth yw eu partneriaethau i’r Llywodraeth yn fuan ar ôl yr hanner tymor i ddechrau Gorffennaf, a’u bod yn parhau i lynu at yr amserlen hyd at 31 Mawrth, 2025.  Yn amlwg, nid oedd unrhyw beth wedi’i gyhoeddi nac yn ysgrifenedig o ran hynny, ond o bersbectif rhoi gobaith a thawelwch meddwl i staff GwE, gorau po gyntaf bod y modelau, a beth yn union yw’r swyddi o fewn y modelau hynny, yn cael eu rhannu.

·         Y byddai cyhoeddi’r modelau hefyd yn rhoi gwybodaeth i aelodau’r Cydbwyllgor yn eu hawdurdodau unigol ac fel awdurdodau ar y cyd ynglŷn â chost cau i lawr y gwasanaeth a beth fydd y costau yn lleol o ran gweithio gyda phartneriaid i gychwyn gosod y gwasanaeth newydd i fyny.

·         Gan hynny, roedd yna ffactorau sydd angen eu penderfynu yn gynt, yn hytrach nag yn hwyrach, os yw’r Llywodraeth am wireddu’r dyddiad o 31 Mawrth, 2025.

 

Mewn ymateb, nodwyd bod y Prif Swyddogion yn llwyr ymwybodol o’r heriau a’r ansicrwydd sy’n wynebu staff GwE, ac y dymunid sicrhau’r Cydbwyllgor bod pawb yn gweithio mor gyflym â phosib’, yn unigol ac ar y cyd, i gyrraedd sefyllfa o sicrwydd ynglŷn â’r trefniadau i’r dyfodol.  Fodd bynnag, pwysleisiwyd bod y dasg yn enfawr ac yn hynod o gymhleth i’r awdurdodau lleol, yn enwedig o ystyried yr heriau ariannol sy’n eu hwynebu ar hyn o bryd.  Nodwyd ymhellach:-

 

·         Bod un o’r gweision sifil arweiniol wedi datgan eu bod yn gwrando ar awdurdodau lleol sy’n dweud wrthynt bod amserlen wreiddiol y Llywodraeth o safbwynt datgan partneriaethau  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6.

7.

CYFRIFON TERFYNOL GWE 2023-24 - ALLDRO REFENIW pdf eicon PDF 202 KB

Diweddaru aelodau’r Cydbwyllgor ar adolygiad ariannol terfynol cyllideb GwE am y flwyddyn gyllidol 2023/24.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

 

1.    Nodi a derbyn Cyfrif Incwm a Gwariant Refeniw Cydbwyllgor GwE am 2023/24. 

2.    Cymeradwyo trosglwyddiad ariannol o gronfa wrth gefn GwE i ariannu gorwariant o £77,323 yn 2023/24, ar ôl ystyried y prif wahaniaethau rhwng y gyllideb a’r gwir wariant. 

3.    Cymeradwyo sefyllfa ariannol derfynol 2023/24 fydd yn sail i’r datganiadau ariannol statudol GwE am y flwyddyn sydd i’w cynhyrchu, eu hardystio a’u cyhoeddi gan Adran Gyllid yr awdurdod lletya o fewn yr amserlen statudo

 

Cofnod:

Cyflwynwyd – adroddiad Pennaeth Cyllid Cyngor Gwynedd yn diweddaru aelodau’r Cydbwyllgor ar adolygiad ariannol terfynol cyllideb GwE am y flwyddyn gyllidol 2023/24.

 

Diolchwyd i’r Pennaeth Cyllid a’r Tîm am yr adroddiad.

 

Nododd Rheolwr Gyfarwyddwr GwE:-

 

·         Gyda’r newid sylweddol yn y ffordd mae grantiau wedi symud o’r rhanbarth i’r awdurdodau lleol unigol, y byddai GwE yn sicr o fyw o fewn y gyllideb a osodwyd arnynt am y flwyddyn ariannol bresennol.

·         Bod y defnydd o’r arian wrth gefn yn drafodaeth i’w chael gyda’r prif weithredwyr cyn cyflwyno argymhellion i’r Cydbwyllgor o ran y defnydd gorau o’r gyllideb honno a’r arian sydd wedi cronni dros gyfnod o amser, gan gynnwys y gyllideb ar gyfer athrawon sydd newydd gymhwyso.

 

          PENDERFYNWYD

1.         Nodi a derbyn Cyfrif Incwm a Gwariant Refeniw Cydbwyllgor GwE am 2023/24.

2.         Cymeradwyo trosglwyddiad ariannol o gronfa wrth gefn GwE i ariannu gorwariant o £77,323 yn 2023/24, ar ôl ystyried y prif wahaniaethau rhwng y gyllideb a’r gwir wariant.

3.         Cymeradwyo sefyllfa ariannol derfynol 2023/24 fydd yn sail i’r datganiadau ariannol statudol GwE am y flwyddyn sydd i’w cynhyrchu, eu hardystio a’u cyhoeddi gan Adran Gyllid yr awdurdod lletya o fewn yr amserlen statudol.

 

8.

ADRODDIAD BLYNYDDOL 2023-2024 GWE pdf eicon PDF 173 KB

Cyflwyno Adroddiad Blynyddol GwE 2023-2024 i'r Cyd-Bwyllgor. 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cymeradwyo a derbyn yr Adroddiad Blynyddol ar gyfer 2023-2024. 

Cofnod:

Cyflwynodd Cyfarwyddwr Cynorthwyol GwE Adroddiad Blynyddol GwE 2023-24 i’r Cydbwyllgor.

 

Diolchodd y Cyfarwyddwr Cynorthwyol i’r Rheolwr Rheoli Perfformiad am dynnu’r adroddiad at ei gilydd ac i holl aelodau’r Tîm sydd wedi cyfrannu at yr adroddiad.

 

Eglurwyd:-

 

·         Ei bod yn debygol mai dyma’r adroddiad olaf o’r math hwn y byddai’r Cydbwyllgor yn ei dderbyn wrth i’r gwasanaeth newid o fod yn wasanaeth ar y cyd i un sy’n cael ei gomisiynu gan bob awdurdod ar wahân.

·         Gan fod yna wahaniaeth rhwng y 6 awdurdod o ran yr hyn sy’n cael ei gomisiynu, mai’r awdurdodau lleol unigol fyddai’n adrodd ar y gwasanaeth gwella ysgolion yn eu prosesau democrataidd eu hunain yn ystod y flwyddyn ariannol bresennol.

·         Y byddai’r drafodaeth yn digwydd gyda’r Bwrdd Rheoli / Awdurdodau Lleol unigol, yn hytrach na bod y cwbl yn cael ei gyflwyno fel un adroddiad cyfansawdd.

 

Nodwyd y cytunid â’r sylw yn y rhagair i’r adroddiad bod GwE yn adnabod eu hysgolion a’u lleoliadau yn dda, ac yn darparu her gadarn a phriodol yn ogystal â chefnogaeth ac ymyrraeth effeithiol ar eu cyfer, a diolchwyd i’r staff am y gwaith caled, y gefnogaeth a’r cydweithio, a hynny ar adeg anodd iawn.

 

          PENDERFYNWYD cymeradwyo a derbyn yr Adroddiad Blynyddol ar gyfer 2023-2024.

 

9.

COFRESTR RISG GWE pdf eicon PDF 191 KB

Cyflwyno Cofrestr Risg ddiweddaraf GwE i'r Cyd-Bwyllgor.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

 

1.         Cymeradwyo cynnwys y gofrestr. 

2.         Y dylai Bwrdd Rheoli GwE wahodd y Cydbwyllgor i un o’u cyfarfodydd fel bod modd briffio’r aelodau ar yr adroddiad sy’n cael ei ddrafftio, a hynny mewn da bryd cyn cyfarfod Gorffennaf o’r Cydbwyllgor, fel bod modd i’r aelodau adlewyrchu ar hynny a chael trafodaeth agored mewn gweithdy cyn cytuno ar y ffordd ymlaen yn y Cydbwyllgor ym mis Gorffennaf. 

 

Cofnod:

Cyflwynwyd – adroddiad Rheolwr Gyfarwyddwr GwE yn cyflwyno Cofrestr Risg ddiweddaraf GwE i’r Cydbwyllgor.

 

Cyn manylu ar y gwahanol risgiau, eglurodd y Rheolwr Gyfarwyddwr:-

 

·         Ei bod yn debygol y byddai angen i’r awdurdodau lleol unigol edrych ar yr hen risgiau oedd yn weithredol i GwE, ac ystyried faint ohonynt sy’n berthnasol iddynt hwy.

·         Gan ein bod mewn cyfnod o newid, y byddai’n rhaid dod at y gofrestr risg yn eithaf rheolaidd i ychwanegu a thynnu i ffwrdd fel sy’n briodol gan fod y risgiau yn siŵr o fod yn newid yn amlach nag yn y gorffennol.

 

Nodwyd bod gan y Cydbwyllgor ddyletswydd tuag at staff GwE i roi ystyriaeth frys i’r ffordd ymlaen, ac awgrymwyd y dylai’r Bwrdd Rheoli wahodd y Cydbwyllgor i un o’u cyfarfodydd fel bod modd briffio’r aelodau ar yr adroddiad sy’n cael ei ddrafftio, a hynny mewn da bryd cyn cyfarfod Gorffennaf o’r Cydbwyllgor, fel bod modd i’r aelodau adlewyrchu ar hynny a chael trafodaeth agored mewn gweithdy cyn cytuno ar y ffordd ymlaen yn y Cydbwyllgor ym mis Gorffennaf.

 

          PENDERFYNWYD

 

1.         Cymeradwyo cynnwys y gofrestr.

2.         Y dylai Bwrdd Rheoli GwE wahodd y Cydbwyllgor i un o’u cyfarfodydd fel bod modd briffio’r aelodau ar yr adroddiad sy’n cael ei ddrafftio, a hynny mewn da bryd cyn cyfarfod Gorffennaf o’r Cydbwyllgor, fel bod modd i’r aelodau adlewyrchu ar hynny a chael trafodaeth agored mewn gweithdy cyn cytuno ar y ffordd ymlaen yn y Cydbwyllgor ym mis Gorffennaf.

 

10.

CEFNOGAETH DYSGU PROFFESIYNOL GWE 04-2024 - 03-2025 pdf eicon PDF 168 KB

Rhannu gwybodaeth gydag Aelodau Cyd-bwyllgor GwE am ein Cynnig Dysgu Proffesiynol ar gyfer y flwyddyn ariannol bresennol.

 

Penderfyniad:

Cymeradwyo cynnwys yr adroddiad a’r Cynllun Dysgu Proffesiynol newydd. 

Cofnod:

Cyflwynodd yr Uwch Arweinydd Strategol Partneriaethau adroddiad yn rhannu gwybodaeth gydag aelodau’r Cydbwyllgor am y Cynnig Dysgu Proffesiynol ar gyfer y flwyddyn ariannol bresennol.

 

Diolchwyd i bawb am y gwaith.

 

          PENDERFYNWYD cymeradwyo cynnwys yr adroddiad a’r Cynllun Dysgu Proffesiynol newydd.