Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol
Cyswllt: Annes Siôn 01286 679490
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Croesawyd
Aelodau’r Cabinet a Swyddogion i’r cyfarfod. Ni
dderbyniwyd unrhyw ymddiheuriadau. |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Ni
dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o fuddiant personol. |
|
MATERION BRYS Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Nid oedd unrhyw
faterion brys. |
|
MATERION YN CODI O DROSOLWG A CHRAFFU Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Nid oedd
unrhyw faterion yn codi o drosolwg a chraffu. |
|
ADRODDIAD CHWE MIS CWYNION A GWELLA GWASANAETH Cyflwynwyd gan: Cyng. Nia Jeffreys Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Derbyniwyd yr adroddiad. Cofnod: Cyflwynwyd yr eitem gan
Cyng. Nia Jeffreys PENDERFYNIAD Derbyniwyd yr adroddiad. TRAFODAETH Cyflwynwyd yr adroddiad
gan nodi ei
fod yn adrodd ar y drefn gwynion o fewn y Cyngor. Eglurwyd fod gan y Cyngor
drefn bendant a ddiweddarwyd yn Ebrill 2021. Nodwyd pan ddiwygiwyd y drefn fod
addasiadau wedi ei gwneud ac fod y drefn bellach yn eistedd o dan yr Adran
Cefnogaeth Gorfforaethol. Mynegwyd fod yr adroddiad
yn adrodd ar y cwynion ffurfiol mae’r Cyngor wedi ei dderbyn ynghyd a’r cwynion
sydd wedi cyrraedd yr Ombwdsmon. Pwysleisiwyd fod y Cyngor yn defnyddio cwynion
i wella gwasanaethau ac i weld y tueddiadau ar draws adrannau. Amlygwyd fod nifer y cwynion wedi codi, ond fod hyn
i’w weld ar draws Llywodraeth Leol. Er fod y niferoedd wedi codi, nodwyd fod y
cwynion a oedd wedi cyrraedd yr Ombwdsmon wedi parhau yr un nifer. Eglurwyd fod yr Ombwdsmon wedi nodi fod
ffigyrau cwynion a gyflwynwyd gan y Cyngor yn ymddangos yn realistig, fod y
drefn yn gweithio ac fod y Cyngor yn amlwg yn barod i ddysgu gwersi o’r
cwynion. Pwysleisiwyd fod lle i wella ac fod angen sicrhau fod y meddylfryd fod
cwynion yn beth positif ac yn ffordd i wella gwasanaeth yn ganolog i waith y
gwasanaeth. Eglurwyd fod hyfforddiant yn cael ei greu ar ofal cwsmer ar hyn o
bryd ar y cyd gyda’r Ombwdsmon ac y bydd ar gynnal ym mis Hydref. Tynnwyd sylw yn ogystal i’r wal lwyddiannau
sydd yn amlygu diolchiadau gan y cyhoedd ac yn arddangos gwasanaethau ar eu
gorau. Sylwadau’n codi o’r
drafodaeth ¾ Ychwanegodd
y Pennaeth Adran fod yr adroddiad yn amlygu’r cynnydd sydd wedi’i wneud ond fod
angen parhau i adeiladau ar y cynnydd hwn. ¾ Nodwyd
fod ystadegau’r Ombwdsmon yn cynnwys cwynion swyddogol ac answyddogol ac felly
eu bod yn credu fod y nifer cwynion yn realistig. Mynegwyd drwy gyflwyno’r
ffigyrau yn llawn fod y Cyngor yn gwbl agored.
¾ Mynegwyd
fod yr adran wedi nodi 41 cwyn yn ystod pum mis cyntaf eleni, ac fod y nifer yn
ymddangos yn isel a holwyd os yw’r Cyngor yn dal pob cwyn. Eglurwyd fod y
Cyngor yn awyddus i dderbyn cwynion ac eu bod yn ceisio bod yn agored drwy
dderbyn cwynion drwy amrywiol ffyrdd, ac felly yn cyrraedd nifer uchel o
unigolion. ¾ Amlygwyd
pryderon nad yw’r Cyngor yn dal pob cwyn a holwyd os oedd cwynion Cynghorwyr yn
cael ei cynnwys yn y niferoedd yma. Nodwyd fod angen i’r Aelodau Cabinet gael eu tynnu i mewn i
gwynion fel eu bod yn ymwybodol ohonynt yn gynt yn y broses yn ogystal. ¾ Pwysleisiwyd
fod Llythyr yr Ombwdsmon yn nodi fod y flwyddyn hon wedi bod yn un cwbl wahanol
ac felly fod angen cymryd hyn i ystyriaeth pan yn trafod yr eitem hon. Awdur: Geraint Owen |
|
Cyflwynwyd gan: Cyng. Gareth Griffith Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Cymeradwywyd y Canllaw Cynllunio Atodol drafft: Tirwedd
Llechi Gogledd-Orllewin Cymru ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus a dirprwywyd yr
hawl i Bennaeth Cynorthwyol yr Adran Amgylchedd i wneud unrhyw addasiadau
ansylweddol y galli fod yn ofynnol i CCA drafft. Cofnod: Cyflwynwyd yr eitem gan
y Cyng. Gareth Griffith. PENDERFYNWYD Cymeradwywyd y Canllaw
Cynllunio Atodol drafft: Tirwedd Llechi Gogledd-Orllewin Cymru ar gyfer
ymgynghoriad cyhoeddus a dirprwywyd yr hawl i Bennaeth Cynorthwyol yr Adran
Amgylchedd i wneud unrhyw addasiadau ansylweddol y galli fod yn ofynnol i CCA
drafft. TRAFODAETH Cyflwynwyd yr adroddiad
gan nodi y penderfyniad. Nodwyd fod yr adroddiad
yn nodi eleni fod y Cyngor wedi bod yn llwyddiannus i gael dynodiad Tirwedd
Llechi Gogledd Cymru gan UNESCO o fewn y sir. Mynegwyd fod yr ardal penodol
wedi ei rhannu yn chwe cyfadran ac fod y chwe adran yn unigryw ac fod hyn wedi
ei amlygu yn y Canllaw Cynllunio Atodol. Eglurwyd fod y Canllaw wedi ei baratoi
ar y cyd gyda Parc Cenedlaethol Eryri, gan fod rhai ceisiadau cynllunio yn cael
ei penderfynu unai gan y Cyngor neu gan y Parc. Nodwyd fod y Canllaw yn rhoi
gwybodaeth manwl am yr ardaloedd ac yn rhoi arweiniad pellach ar sut y gellid
sicrhau gwarchod a gwella nodweddion y safle. Eglurwyd fod y canllaw
wedi ei dorri yn 4 adran ac amlygwyd y pedair adran. Pwysleisiwyd fod yr adran
wedi gweithio yn agos gyda’r Parc Cenedlaethol ac fod trafodaethau wedi bod
gyda rhan ddeiliaid allweddol. Nodwyd gan fod y Canllaw ar y cyd rhwng y Parc
a’r Gyngor fod angen cynnal ymgynghoriad cyhoeddus cyn gwneud unrhyw
benderfyniad. Amlygwyd y bydd y sylwadau fydd yn cael ei nodi yn y cyfnod
ymgynghori yn cael ei adrodd i’r Cabinet ac y bydd addasiadau yn cael ei wneud
iddynt. Sylwadau’n
codi o’r drafodaeth ¾
Nodwyd fod llawer o waith wedi ei wneud i ddatblygu’r
Canllaw Cynllunio Atodol ac wedi ei ddatblygu yn unol a’r dystiolaeth. Amlygwyd
cefnogaeth i fynd i ymgynghoriad ond holwyd am yr addasiadau ansylweddol all
godi ac eu haddasu fel y nodir yn yr argymhelliad, Nodwyd fod rhain yn
newidiadau ansylweddol megis sillafu a pwysleisiwyd os y bydd newid sylweddol
yn cael ei amlygu y bydd yn dod yn ôl i’r Cabinet. ¾
Mynegwyd fod y canllaw yn nodi rôl i warchod
treftadaeth yr ardaloedd ynghyd a nodweddion penodol a holwyd os oes modd mynd
cam ymhellach. Eglurwyd fod y Canllaw hwn yn un rhan o’r Cynllun Rheoli ac ei
fod ei cynnwys polisïau penodol sydd i’w gweld o fewn y Cynllun Datblygu Lleol,
ond eglurwyd fod yr Adran Economi yn brysur greu canllawiau sydd yn amlygu
arferion da ac y nodweddion arbennig sydd i’w gweld yn yr ardaloedd a fydd i’w
defnyddio pan unigolion yn addasu tai a gerddi o fewn yr ardal Tirwedd Llechi. ¾
Nodwyd fod y canllawiau yn amlygu beth sydd i’w
gweld yn y Polisi Cynllunio ar y Cyd ac felly amlinelliad sydd i’w gweld o fewn
y cynllun atodol ac o ganlyniad ddim yn ychwanegu rhwystrau i ddatblygwyr ond i
amlygu beth sydd yn bwysig. Nodwyd yr angen i daro balans rhwng hwyluso
datblygiadau a gwarchod y nodweddion arbennig o fewn yr ardaloedd. Awdur: Gareth Jones |
|
CYLLIDEB REFENIW 2021/22 - ADOLYGIAD DIWEDD AWST 2021 Cyflwynwyd gan: Cyng. Ioan Thomas Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Derbyniwyd yr adroddiad ar adolygiad diwedd Awst 2021 o’r
Gyllideb Refeniw, ac ystyried y sefyllfa ariannol ddiweddaraf parthed
cyllidebau pob adran / gwasanaeth. Nodwyd fod effaith ariannol Covid yn parhau yn 2021/22, sydd yn gyfuniad o gostau ychwanegol, colledion incwm a llithriad yn y rhaglen arbedion, gan fod y Cyngor wedi rhoi blaenoriaeth i ddiogelu iechyd a bywydau pobl Gwynedd mewn ymateb i’r argyfwng. Nodwyd fod cyfundrefn cymorth Covid Llywodraeth Cymru drwy gronfa caledi yn parhau, ond nad yw’n cyfarch gorwariant oherwydd llithriad yn y rhaglen arbedion. Nodwyd fod gorwariant sylweddol gan yr Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant a’r Adran Priffyrdd a Bwrdeistrefol eleni, tra fod gwelliant nodedig yn rhagolygon yr Adran Plant a Theuluoedd. Cymeradwywyd yr argymhellion a’r trosglwyddiadau ariannol canlynol (sydd wedi’u egluro yn Atodiad 2). • Ar gyllidebau Corfforaethol, fod: ¾ Tanwariant o (£285k) yn ymwneud â chostau cyfalaf yn cael ei neilltuo i gronfa ariannu'r rhaglen gyfalaf. ¾ Tanwariant net o (£1,957k) ar gyllidebau Corfforaethol yn mynd i Gronfa Cefnogi’r Strategaeth Ariannol i gynorthwyo i wynebu’r heriau ariannol sydd yn wynebu’r Cyngor yn arbennig felly o ganlyniad i’r argyfwng Covid. Cofnod: Cyflwynwyd yr eitem gan
y Cyng. Ioan Thomas PENDERFYNWYD Derbyniwyd yr adroddiad ar adolygiad diwedd Awst
2021 o’r Gyllideb Refeniw, ac ystyried y sefyllfa ariannol
ddiweddaraf parthed cyllidebau pob adran / gwasanaeth. Nodwyd fod effaith ariannol Covid yn
parhau yn 2021/22, sydd yn gyfuniad o gostau ychwanegol, colledion
incwm a llithriad yn y rhaglen arbedion, gan fod y Cyngor wedi rhoi
blaenoriaeth i ddiogelu iechyd a bywydau pobl Gwynedd mewn ymateb i’r argyfwng. Nodwyd fod cyfundrefn cymorth Covid Llywodraeth
Cymru drwy gronfa caledi yn parhau, ond nad yw’n cyfarch gorwariant
oherwydd llithriad yn y rhaglen arbedion. Nodwyd fod gorwariant sylweddol gan yr Adran
Oedolion, Iechyd a Llesiant a’r Adran Priffyrdd a Bwrdeistrefol
eleni, tra fod gwelliant nodedig yn rhagolygon yr Adran Plant a
Theuluoedd. Cymeradwywyd yr argymhellion a’r
trosglwyddiadau ariannol canlynol (sydd wedi’u egluro yn Atodiad 2). • Ar gyllidebau Corfforaethol, fod: ¾
Tanwariant o (£285k) yn ymwneud â chostau cyfalaf yn cael ei neilltuo i
gronfa ariannu'r rhaglen gyfalaf. ¾
Tanwariant net o (£1,957k) ar gyllidebau Corfforaethol yn mynd i
Gronfa Cefnogi’r Strategaeth Ariannol i gynorthwyo i wynebu’r heriau
ariannol sydd yn wynebu’r Cyngor yn arbennig felly o ganlyniad i’r
argyfwng Covid. TRAFODAETH Cyflwynwyd yr adroddiad
gan nodi fod yr adroddiad yn manylu ar yr adolygiad diweddaraf o gyllideb
refeniw Cyngor ynghyd a’r rhagolygon tuag at ddiwedd y flwyddyn ariannol.
Amlygwyd fod effaith ariannol sylweddol wedi bod i’r Cyngor o ganlyniad i Covid
19 gyda cyfuniad o gostau ychwanegol ynghyd â cholledion incwm. Eglurwyd fod y
Cyngor yn gwneud ceisiadau i ad-hawlio costau yn fisol o Gronfa Caledi
Llywodraeth Cymru. Mynegwyd yn ôl ym mis
Ionawr fod camau wedi ei gwneud i lunio rhaglen ddiwygiedig o arbedion ar gyfer
2021/22, ond eglurwyd fod oediad mewn gwireddu arbedion yn parhau mewn rhai
meysydd, gyda oediad o ganlyniad i’r argyfwng yn ffactor amlwg. Tynnwyd sylw at y prif
faterion gan nodi fod yr adran yn rhagweld gorwariant o £1.4miliwn yn yr Adran
Oedolion, gyda methiant i gyflawni arbedion gwerth £855k yn ffactor amlwg o’r
gorwariant. Mynegwyd fod covid wedi cael ardrawiad sylweddol ar yr adran ac fod
gwerth £1.3miliwn eisoes wedi ei hawlio gan Lywodraeth Cymru tuag at y costau
ychwanegol am y cyfnod. Eglurwyd yn dilyn
penderfyniad y Cyngor i ddyrannu £1.8miliwn o arian ychwanegol i’r Adran Plant
yng nghylch cyllidebu 2021/22 ynghyd â dileu gwerth £1.1miliwn o gynlluniau
arbedion amlygwyd fod y rhagolygon ar hyn o bryd yn addawol iawn i’r adran.
Mynegwyd fod problemau gorwariant yn y maes casglu a gwaredu gwastraff yn
parhau yn yr adran Briffyrdd a Bwrdeistrefol. Nodwyd fod trafferthion gwireddu
arbedion mewn nifer o feysydd gwerth £673k ac fod yr adran wedi wynebu costau
ychwanegol yn ymateb a covid, ond fod Llywodraeth Cymru eisoes oedi digolledu a
fod disgwyliad y byddant yn parhau i ddigolledu am weddill y flwyddyn. Yn Gorfforaethol nodwyd
fod rhagdybiaethau darbodus wrth osod cyllideb 2021/22 yn gyfrifol am gynhyrchu
treth ychwanegol ac yn cyfrannu at y tanwariant ar Ostyngiadau Treth Cyngor.
Nodwyd y penderfyniad. Sylwadau’n codi o’r drafodaeth: ¾ Eglurodd ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7. Awdur: Ffion Madog Evans |
|
RHAGLEN GYFALAF 2021/22 - ADOLYGIAD DIWEDD AWST 2021 Cyflwynwyd gan: Cyng. Ioan Thomas Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Derbyniwyd yr adroddiad ar adolygiad diwedd Awst (sefyllfa
31 Awst 2021) o’r rhaglen gyfalaf. Cymeradwywyd yr ariannu addasedig a gyflwynir yn rhan 4 o’r
adroddiad, sef: ·
defnydd o amryw ffynonellau i ariannu gwir
lithriadau gwerth cyfanswm o £25,837,000 o 2020/21, ·
cynnydd o £61,000 mewn defnydd o fenthyca, ·
cynnydd o £9,959,000 mewn defnydd o grantiau a
chyfraniadau, ·
cynnydd o £69,000 mewn defnydd o dderbyniadau
cyfalaf, ·
cynnydd o £1,482,000 mewn defnydd o gyfraniadau
refeniw, ·
cynnydd o £21,000 mewn defnydd o’r gronfa
gyfalaf, a ·
cynnydd o £807,000 mewn defnydd o gronfeydd
adnewyddu ac eraill. Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad
gan y Cyng. Ioan Thomas PENDERFYNWYD Derbyniwyd yr adroddiad ar adolygiad diwedd Awst
(sefyllfa 31 Awst 2021) o’r rhaglen gyfalaf. Cymeradwywyd yr ariannu addasedig a gyflwynir yn
rhan 4 o’r adroddiad, sef: ·
defnydd o amryw ffynonellau i ariannu gwir lithriadau gwerth cyfanswm
o £25,837,000 o 2020/21, ·
cynnydd o £61,000 mewn defnydd o fenthyca, ·
cynnydd o £9,959,000 mewn defnydd o grantiau a chyfraniadau, ·
cynnydd o £69,000 mewn defnydd o dderbyniadau cyfalaf, ·
cynnydd o £1,482,000 mewn defnydd o gyfraniadau refeniw, ·
cynnydd o £21,000 mewn defnydd o’r gronfa gyfalaf, a ·
cynnydd o £807,000 mewn defnydd o gronfeydd adnewyddu ac eraill. TRAFODAETH Cyflwynwyd yr adroddiad
gan nodi fod yr adroddiad yn cyflwyno’r rhaglen gyfalaf ddiwygiedig a gofyn am
gymeradwyaeth i’r ffynonellau ariannu perthnasol. Eglurwyd fod dadansoddiad i’w
gweld yn yr adroddiad o’r rhaglen gyfalaf o £124.0 miliwn am y dair blynedd
nesaf. Eglurwyd fod gan y
Cyngor gynlluniau pendant mewn lle i fuddsoddi tua £71.6 miliwn eleni gyda
£26.1 miliwn wedi ei ariannu drwy grantiau penodol. Mynegwyd fod argyfwng Covid
yn parhau ar y rhaglen Gyfalaf gyda dim ond 16% o’r gyllideb wedi ei wario hyd
at ddiwedd Awst, o’i gymharu a 13% dros yr un cyfnod y llynedd a 19% ddwy
flynedd yn ôl. Nodwyd fod £9.1m o
wariant arfaethedig wedi’i ail broffilio o 2021/22 i 2022/23 a 2023/24 ac
amlygwyd y prif gynlluniau a oedd yn cynnwys Ysgolion Ganrif 21, Cynlluniau
Ysgogi’r Economi ac Unedau Diwydiannol a Cynlluniau Rheoli Carbon y Cyngor.
Tynnwyd sylw at restr grantiau ychwanegol mae’r Cyngor wedi eu denu ers yr
adolygiad diwethaf a oedd yn cynnwys grant o’r Gronfa Trafnidiaeth Leol, Grant
Targedu Buddsoddiad i gynllun Nyth ym Mangor a Grantiau Llywodraeth Cymru i’r
Maes Gofal Plant. Sylwadau’n codi o’r
drafodaeth ¾ Nodwyd fod yr adroddiad yn amlygu cynlluniau
cyffroes megis Economi Gylchol sydd yn
nifer o grantiau. Amlygwyd balchder yn gweld cynllun Nyth sydd wedi derbyn
grantiau ac yn mynd i gynnig cyfleodd cyffroes a creadigol ym Mangor. ¾ Croesawyd
yr arian ar gyfer unedau diwydiannol gan fod llawer o alw am yr unedau. ¾ Amlygwyd
pryder am costau nwyddau adeiladu ynghyd a sgiliau yn y maes adeiladu. Holwyd
os oes unrhyw bryder am wario y buddsoddiadau o ganlyniad i’r pryderon yma.
Nodwyd fod tendrau yn dod yn ôl yn llawer uwch, ond eglurwyd fod y rhagolygon
yn amlygu eu bod dros dro ac felly fod rhai meysydd yn dal yn ôl ar gynlluniau
ac yn blaenoriaethu yn ôl yr angen. ¾ Mynegwyd
fod angen llongyfarch y Cyngor am y gwariant cyfalaf yn sefydlu asedau i’r
Cyngor. Pwysleisiwyd fod cynlluniau yn y Cynllun Gweithredu Tai yn wariant
aruthrol dros y tair blynedd nesaf. ¾
It was
stated that the Council should be congratulated for the capital expenditure to
establish assets for the Council. It was
emphasised that the schemes in the Housing Action Plans would be a huge
expenditure over the next three years. Awdur: Ffion Madog Evans |
|
TROSOLWG ARBEDION 2021/22 Cyflwynwyd gan: Cyng. Ioan Thomas Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Derbyniwyd y wybodaeth yn yr adroddiad a nodi’r cynnydd tuag
at wireddu cynlluniau arbedion 2021/22, 2020/21 a blynyddoedd blaenorol. Cytunwyd i gynnal adolygiadau ar y cynlluniau arbedion sydd
heb eu gwireddu ynghyd a chynlluniau y flwyddyn nesaf i sicrhau fod modd eu
cyflawni neu os oes angen chwilio am gynlluniau amgen. Nodwyd bod effaith
Covid19 wedi cyfrannu at lithriad yn y rhaglen arbedion, gan fod y Cyngor wedi
rhoi blaenoriaeth i ddiogelu iechyd a bywydau pobl Gwynedd mewn ymateb i’r argyfwng, a hynny wedi golygu na fu modd parhau
efo’r trefniadau herio perfformiad ac arbedion dros gyfnod yr argyfwng. Cofnod: Cyflwynwyd yr
adroddiad gan Cyng. Ioan Thomas. PENDERFYNIAD Derbyniwyd y
wybodaeth yn yr adroddiad a nodi’r cynnydd tuag at wireddu cynlluniau arbedion 2021/22,
2020/21 a blynyddoedd blaenorol. Cytunwyd i gynnal
adolygiadau ar y cynlluniau arbedion sydd heb eu gwireddu ynghyd a chynlluniau y
flwyddyn nesaf i sicrhau fod modd eu cyflawni neu os oes angen chwilio am
gynlluniau amgen. Nodwyd bod
effaith Covid19 wedi cyfrannu at lithriad yn y rhaglen arbedion, gan fod
y Cyngor wedi rhoi
blaenoriaeth i ddiogelu iechyd a bywydau pobl Gwynedd mewn ymateb i’r argyfwng, a
hynny wedi golygu na fu modd parhau efo’r trefniadau herio perfformiad ac arbedion
dros gyfnod yr argyfwng. TRAFODAETH Cyflwynwyd yr
adroddiad gan egluro ei fod yn crynhoi sefyllfa arbedion y Cyngor. Eglurwyd ers
2015/16 fod gwerth £35m o arbedion wedi eu cymeradwyo i’w gwireddu rhwng
2015/16 – 2021/22. Nodwyd bellach fod dros £32.7miliwn o arbedion wedi ei
gwireddu sydd yn 94% o’r swm gofynnol dros y cyfnod. Mynegwyd ym mis
Ionawr eleni, adolygwyd y cynlluniau arbedion i asesu pa gynlluniau hanesyddol
oedd bellach yn anghyraeddadwy, a lluniwyd rhaglen diwygiedig ar gyfer 2021/22
yn dilyn cymryd camau i ddileu, llithro a ail broffilio’r cynlluniau arbedion. Eglurwyd fod
adrannau wedi bod yn canolbwyntio ar ymateb i argyfwng covid ers Ebrill 2020 ac
fod yr effaith wedi cyfrannu at lithriad yn y rhaglen arbedion. Mynegwyd o
gynlluniau arbedion 2021/22 fod 42% eisoes wedi ei gwireddu gyda 22% bellach ar
drac i gyflawni’n amserol erbyn diwedd y flwyddyn ariannol. Pwysleisiwyd ei bod
anorfod fod gwireddu gwerth £32.7m o arbedion ers Ebrill 2015 wedi bod yn
heriol. Mynegwyd fod oediad wedi bod ar rai cynlluniau arbedion gwerth £1m ond
eu bod yn symud yn eu blaen ond fod angen trafod risgiau i gyflawni gwerth
£0.9m o gynlluniau. Sylwadau’n codi o’r
drafodaeth: ¾
Mynegwyd
fod effaith covid wedi bod yn yr adran Briffyrdd a Bwrdeistrefol ond fod gwaith
yn cael ei wneud i edrych ar gynlluniau i’r dyfodol. Ychwanegwyd fod yr adran
yn parhau i dalu am yr offer Cylch Cyfyng ond bydd arbedion unwaith fydd y gost
wedi ei dalu. Eglurwyd yn ogystal fod astudiaeth allanol yn cael ei wneud gyda
cau Canolfan Ailgylchu Cilgwyn ac fod nifer o gynlluniau posib i’r safle. ¾ Nodwyd yr angen i
gynnal adolygiadau ar y cynlluniau arbedion sydd heb eu gwireddu ynghyd a
chynlluniau y flwyddyn nesaf i sicrhau fod modd eu cyflawni neu os oes angen
chwilio am gynlluniau amgen. Awdur: Dafydd L Edwards |
|
ADRODDIAD PERFFORMIAD YR AELOD CABINET DROS YR ADRAN ECONOMI A CHYMUNED Cyflwynwyd gan: Cyng. Gareth Thomas Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Derbyniwyd a nodwyd y wybodaeth yn yr adroddiad. Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Gareth Thomas PENDERFYNIAD Nodi a derbyn y
wybodaeth yn yr adroddiad. TRAFODAETH Cyflwynwyd yr
adroddiad gan nodi fod yr adran wedi gorfod addasu eu ffordd o weithio dros y
flwyddyn diwethaf a diolchwyd i’r staff am eu hyblygrwydd dros y cyfnod
argyfwng covid. Tynnwyd sylw at rai meysydd penodol megis Creu Swyddi Gwerth
Uchel fod cwmni Egnïo wedi ei sefydlu bellach yn Nghrawsfynydd i sicrhau
datblygiadau pellach ar y safle i’r dyfodol. Eglurwyd fod penderfyniad y
Llywodraeth i adolygu cynlluniau ffyrdd wedi creu ansicrwydd o ran safle
Llanbedr ond fod buddsoddiad y perchnogion y parhau yn galonogol. Eglurwyd o ran
Cynllun Rhoi Treftadaeth Llechi Gwynedd ar Waith fod yr adran wedi bod yn
llwyddiannus yn sicrhau Dynodiad Treftadaeth Byd i Dirlun Llechi Gogledd Orllewin
Cymru. Eglurwyd fod angen bellach i symud i’r roi cynlluniau ar waith. Tynnwyd sylw at
brosiect Llunio Cynllun Adfywio ar gyfer ein Hardaloedd gan nodi fod gwaith
ymgysylltu ac ymgynghori gyda cymunedau yn ganol i’r rhaglen ac y bydd
ymgysylltu manwl yn cael ei wneud ystod mis Tachwedd. O ran perfformiad
yr adran mynegwyd fod y Gwasanaeth Morwrol wedi bod y hynod brysur o ganlyniad
i nifer uchel o ymwelwyr wedi ymweld dros gyfnod yr haf. Diolchwyd i’r staff am
eu gwaith caled. Eglurwyd ei bod wedi bod yn gyfnod gwbl heriol i’r adran
ddigwyddiadau ond fod yr adran wedi parhau i gynnig cefnogaeth i drefnwyr.
Eglurwyd fod y gwasanaeth wedi mabwysiadu trefniadau i ymgynghori gydag Aelodau
Lleol a Chynghorau Cymuned cyn cefnogi unrhyw ddigwyddiadau ar diroedd y
Cyngor. Amlygwyd fod yr
adran yn rhagweld y bydd tanwariant o £203k erbyn diwedd y flwyddyn ariannol.
Eglurwyd oherwydd bod yr Adran yn rhagori ar y lefelau incwm eleni yn benodol
yn y meysydd traethau ac angorfeydd Hafan. Mynegwyd y bydd angen trafod
cyllideb 2022/23 yn wyneb y cynnydd yn yr incwm a’r galw am gyllideb uwch i
gwrdd a’r galw yn sgil Covid wedi i grantiau’r Llywodraeth ddod i ben. Sylwadau’n codi o’r
drafodaeth: ¾ Nodwyd fod y
gwasanaeth Gymorth i Fusnes wedi bod yn gweithio yn ddiwyd drwy’r cyfnod ac fod
llawer o staff wedi trosglwyddo i wneud y gwaith hwn. Eglurwyd fod gwaith
sylweddol wedi ei wneud i sicrhau cyfathrebu cyson rhwng y Cyngor a’r busnesau.
Nodwyd yr angen i ystyried sut mae’r Cyngor yn cefnogi busnesau i sicrhau
swyddi o safon uchel. ¾ Diolchwyd i’r
adran am eu gwaith ac mynegwyd llongyfarchiadau iddynt am y gwaith i gael
dynodiad UNESCO am safle Treftadaeth y Byd sydd am gynorthwyo i drawsnewid
ardaloedd. Awdur: Sioned Williams |
|
ADRODDIAD PERFFORMIAD YR AELOD CABINET DROS YR ADRAN CEFNOGAETH GORFFORAETHOL Cyflwynwyd gan: Cyng. Nia Jeffreys Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Derbyniwyd a nodwyd y wybodaeth yn yr adroddiad, a
chefnogi’r cynllun arbediad amgen. Cofnod: Cyflwynwyd yr
adroddiad gan Cyng. Nia Jeffreys PENDERFYNIAD Derbyniwyd a nodwyd y wybodaeth yn yr
adroddiad, a chefnogi’r cynllun arbediad amgen. TRAFODAETH Cyflwynwyd yr
adroddiad gan nodi fod yr Aelod Cabinet am dynnu sylw at rai gynlluniau
penodol. Nodwyd fod gwaith yn cael ei wneud ar prosiect Cadw’r Budd yn Lleol
gan nodi fod yr adran wedi bod yn treialu asesu tendrau ar sail gwerth
cymdeithasol ac effaith Lleol. Mynegwyd fod y peilot wedi galluogi’r adran i
ddeall sut mae trefniadau yn gweithio yn ymarferol a’r cyfleon a risgiau sydd
yn gysylltiedig. Eglurwyd fod y
cynllun Merched mewn Arweinyddiaeth yn parhau i geisio denu mwy o ferched i
ymgeisio a cyrraedd swyddi uwch o fewn y Cyngor rwy adolygu’r amodau a’r
amgylchedd gwaith. Amlygwyd fod cynnydd wedi bod yn y prosiect Sicrhau Tegwch i
Bawb. Nodwyd fod llawer i’w gyflawni ond nodwyd fod ymwybyddiaeth ac angerdd i
weld gwahaniaeth. O ran cynllunio’r
gweithlu i’r dyfodol amlygwyd fod buddsoddiad wedi ei wneud i barhau a’r gwaith
y rhaglen o ddenu a datblygu talent drwy gynllun Prentisiaethau a Cynllun
Arweinwyr ac Arbenigwyr Yfory. Eglurwyd fod angen gwneud gwaith ychwanegol i
geisio cadw staff o fewn y Cyngor ac i sicrhau parhad gwasanaeth. Tynnwyd sylw at
waith dydd i ddydd yr adran gan amlygu fod yr adran Cefnogaeth Gorfforaethol
wedi cadw’r wobr Lefel Aur o’r Safon Iechyd Corfforaethol. Amlygwyd y bydd
addasiadau yn cael ei wneud i Ganolfan Galw Gwynedd ym Mhenrhyndeudraeth fel
bod modd darparu gwasanaeth cyswllt cwsmer cynhwysfawr wyneb i wyneb newydd yn
yr ardal. Amlygwyd y gwaith arbennig
mae’r Gwasanaeth Cofrestru wedi ei wneud i ddygymod yn arbennig o dda o dan
amgylchiadau anodd tu hwnt. Mynegwyd o ran
arbedion fod yr adran ers 2015 wedi adnabod £2.5miliwn o arbedion sydd cyfystyr
a chwarter cyllideb yr adran tan yn cynnal ac yn ymestyn y gwasanaeth. Mynegwyd
o ran arbedion i’w gwireddu gan yr adran fod cynlluniau amgen wedi ei hadnabod. Sylwadau’n codi o’r
drafodaeth ¾ Nodwyd balchder
fod Swyddog Prosiect wedi ei benodi ar gyfer y Cynllun Enwau Llefydd a nodwyd
yr angen i weithio a sefydliadau eraill yn ogystal megis y Swyddfa Bost fel bod
gwedd fwy Cymreig yn cael ei ddefnyddio mewn gweithgareddau bob dydd. ¾ Mynegwyd fod y
cynllun Cadw’r Budd yn Lleol yn un cyffroes yn un pellgyrhaeddol. ¾ Mynegwyd o ran
recriwtio a cadw y gweithlu fod angen amlygu problemau sydd i’w gweld i benodi
staff yn y maes gofal ynghyd a cadw staff proffesiynol mewn meysydd eraill.
Amlygwyd cynlluniau sydd i’w gweld o fewn y Cyngor gan gynnwys y cynllun
Datblygu Potensial sydd i’w gweld yn datblygu swyddogion i arbenigeddau er mwyn
cadw unigolion o fewn y Cyngor. Awdur: Geraint Owen |