Lleoliad: Hybrid - Siambr Dafydd Orwig, Swyddfeydd y Cyngor, Caernarfon LL55 1SH. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Annes Sion 01286 679490
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Croesawyd yr
Aelodau Cabinet a Swyddogion i’r cyfarfod. Derbyniwyd
ymddiheuriad gan Cyng. Dyfrig Siencyn, Beca Brown a Menna Trenholme. |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o fuddiant personol. |
|
MATERION BRYS Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Nid oedd unrhyw fater brys. |
|
MATERION YN CODI O DROSOLWG A CHRAFFU Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Nid oedd unrhyw fater yn codi o drosolwg a chraffu. |
|
COFNODION CYAFARFOD A GYNHALIWYD AR 20 CHWEFROR 2024 PDF 175 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Derbyniwyd cofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 20
Chwefror 2024 fel rhai cywir. |
|
CYNLLUN CYDRADDOLDEB STRATEGOL 2024-28 PDF 124 KB Cyflwynwyd gan: Cyng. Menna Trenholme Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Derbyniwyd a mabwysiadwyd y Cynllun Cydraddoldeb
Strategol er mwyn ei weithredu dros y pedair blynedd nesaf. Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Nia Jeffreys PENDERFYNIAD Derbyniwyd a mabwysiadwyd y Cynllun Cydraddoldeb Strategol er mwyn ei
weithredu dros y pedair blynedd nesaf. TRAFODAETH Cyflwynwyd yr adroddiad gan ddiolch yn fawr i’r Aelod Cabinet am ei
harweiniad yn y maes. Eglurwyd fod gofyniad statudol i greu Cynllun
Cydraddoldeb drwy Ddeddf Cydraddoldeb 2010 Cymru, ac ychwanegwyd fod diweddaru
amcanion yn rhan o’r gofyniad hyn. Mynegwyd fod dau ymgynghoriad cyhoeddus wedi
ei gynnal wrth greu’r Cynllun Cydraddoldeb a'i fod wedi ei drafod mewn Pwyllgor
Craffu. Esboniwyd yn dilyn derbyn sylwadau yn yr ymgynghoriadau cyhoeddus fod
addasiadau wedi eu gwneud i’r amcanion ac i’r cynllun er mwyn eu gwneud yn
llawer yn haws iawn i’w darllen. Pwysleisiwyd fod cydraddoldeb yn holl bwysig i’r Cyngor gan nad oes modd
cynnal gwasanaethau heb sicrhau tegwch i bawb. Ychwanegodd yr Ymgynghorydd Cydraddoldeb fod ymgysylltu wedi sicrhau fod y
cynllun yn addas i bobl Gwynedd. Mynegwyd fod y Cynllun yn adlewyrchu anghenion
pobl y Sir a tynnwyd sylw at y 5 amcan sef cyflogaeth, gwybodaeth - hynny yw
data am bobl gyda nodweddion cydraddoldeb, trefniadau mewnol y Cyngor,
Gwasanaethau – sef sicrhau cydraddoldeb o fewn gwaith bob dydd, a gwella
cydraddoldeb o fewn maes addysg. Eglurwyd fod y 5 amcan yma yn wraidd i’r
Cynllun Cydraddoldeb. Sylwadau’n codi o’r drafodaeth ·
Croesawyd y cynllun gan nodi balchder fod addysg
bellach wedi ei gynnwys fel un o’r 5 amcan. Ychwanegwyd fod amlygu’r gwir gost
ariannol ac emosiynol o fynychu’r ysgol i blant Gwynedd yn holl bwysig. Nodwyd
fod angen cefnogaeth athrawon i annog plant i’r ysgol. ·
Mynegwyd fod tuedd i feddwl fod cynlluniau o’r math
yma yn cael eu creu a’u gadael ar y silff ond fod y camau sydd i’w gweld yn yr
adroddiad yn amlygu nad yw hyn yn wir am yr adroddiad yma. Nodwyd er mai rôl y
gwasanaeth yw arwain y gwaith yma ond
amlygwyd fod cydraddoldeb yn holl bwysig i bawb o fewn y Cyngor. Pwysleisiwyd y
bydd cynllun gwaith yn cael ei greu yn draws adrannol dros y flwyddyn gynaf cyn
symud ymlaen i weithredu’r amcanion yn dilyn hyn. ·
Nodwyd fod y Cynllun hwn yn gosod cyfeiriad cywir ac
yn gosod arweiniad pendant i’r Cyngor. Awdur: Delyth G Williams |
|
CYLLIDO PROSIECTAU Y CYNLLUN ARGYFWNG HINSAWDD A NATUR PDF 233 KB Cyflwynwyd gan: Cyng. Dyfrig Siencyn Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: 1)
Cymeradwywyd i
flaenoriaethu £1,640,495 o’r gronfa hinsawdd ar gyfer y prosiectau canlynol: a) Cynllun
Fflyd Werdd - £1,048,400 b) Cynllun
Peilot Uwchraddio Goleuadau - £416,617 c) Cynllun
Pympiau Gwresogi - £175,478 2)
Dirprwyo’r hawl i flaenoriaethu gwariant
gweddill y gronfa cynllun hinsawdd i’r Prif Weithredwr mewn ymgynghoriad â’r
Arweinydd ac Aelodau’r Bwrdd Hinsawdd a Natur. Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Nia Jeffreys PENDERFYNIAD 1) Cymeradwywyd
i flaenoriaethu £1,640,495 o’r gronfa hinsawdd ar gyfer y prosiectau canlynol: a) Cynllun
Fflyd Werdd - £1,048,400 b) Cynllun
Peilot Uwchraddio Goleuadau - £416,617 c) Cynllun
Pympiau Gwresogi - £175,478 2) Dirprwyo’r
hawl i flaenoriaethu gwariant gweddill y gronfa cynllun hinsawdd i’r Prif
Weithredwr mewn ymgynghoriad â’r Arweinydd ac Aelodau’r Bwrdd Hinsawdd a Natur.
TRAFODAETH Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Prif Weithredwr gan nodi
fod yr adroddiad hwn yn gofyn i gyllido prosiectau Cynllun Argyfwng Hinsawdd a
Natur. Mynegwyd yn ôl ym mis Tachwedd 2022 fod y Cabinet wedi cytuno i
ddefnyddio arian o’r gronfa gyffredinol i ariannu cynllun buddsoddi mewn paneli
solar gyda’r arbedion refeniw yn cyfrannu at gynllun arbedion y Cyngor. Nodwyd fod y cais yma ar gyfer ariannu 3 prosiect
penodol sylweddol. Y cyntaf oedd Cynllun Fflyd Werdd. Nodwyd fod y Cabinet yn
Ionawr 2023 wedi mabwysiadu cynllun Fflyd Werdd gyda’i nod o ddarparu fflyd
ddiogel, effeithiol a di-allyriad i wasanaethau’r Cyngor. Nodwyd fod 67 o
gerbydau disel a phetrol yn cyrraedd diwedd eu hoes yn ystod 2023/24 a 2024/25
ac felly yn unol â’r Cynllun Fflyd Werdd byddant yn cael eu hamnewid am
gerbydau trydan yn eu lle. Yr ail gynllun yw Cynllun Peilot Uwchraddio Goleuadau.
Nodwyd fod newid goleuadau yn rhan fwyaf o adeiladau’r Cyngor yn gofyn am
fuddsoddiad sylweddol ac am gymryd blynyddoedd i’w gwblhau. Amlygwyd fod
uwchraddio goleuadau stryd wedi ei gynnal dros y blynyddoedd diwethaf ac mae ei
addasu yn lleihau allyriadau carbon. Esboniwyd mai’r bwriad yw cynnal peilot o
6 adeilad gwahanol cyn penderfynu os bydd yn symud ymlaen i’w ehangu ar draws y
Cyngor. Y trydydd cynllun yw gosod pympiau gwresogi, drwy
ddilyn yr un egwyddor o redeg cynllun peilot. Bu i’r Cyngor fod yn llwyddiannus
i dderbyn grant i osod pympiau gwresogi ar dri safle yng Ngwynedd. Er mwyn
hawlio’r grant, mae angen buddsoddi 10% o arian cyfatebol. Nodwyd ei bod yn
gyfle i dreialu dull gwresogi carbon isel a dysgu gwersi cyn ystyried
uwchraddio gweddill yr adeiladau. Mynegwyd fod cyfleoedd eraill wedi’u hamlygu yn yr
adroddiad a nodwyd fod y penderfyniad yn gofyn i ddirprwyo’r hawl i
flaenoriaethu’r gwariant i’r Prif Weithredu mewn ymgynghoriad â’r Arweinydd ac
Aelodau’r Bwrdd Hinsawdd a Natur. Sylwadau’n codi o’r drafodaeth ·
Nodwyd cefnogaeth i’r cynllun ond nodwyd yn
dilyn ariannu’r cynlluniau hyn bydd ychydig dros £1m ar ôl, ond gofynnwyd beth
fydd yn digwydd ar ôl i’r arian yma gael ei wario. Nodwyd fod £3m wedi ei roi
yn y Gronfa Hinsawdd ers 2022, ond eglurwyd o ganlyniad i grantiau ychwanegol
fod bron i £8m wedi ei wario. Yn dilyn gwario’r £3m o’r gronfa bydd angen i’r
Cabinet wneud penderfyniad o ran blaenoriaethu gwariant o fewn y Cyngor. ·
Codwyd amheuaeth am droi’r cerbydau yn llwyr i
gerbydau trydan. Nodwyd efallai fod angen camau llai ac efallai cerbydau hybrid
ar gyfer cefn gwlad. Pwysleisiwyd y bydd amser i staff arfer gyda’r cerbydau ac
i godi eu hyder. · Holwyd os oes digon o leoliadau gwefru ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7. Awdur: Dafydd Gibbard |
|
BIDIAU UN TRO / CRONFA TRAWSFFURFIO 2024/25 PDF 200 KB Cyflwynwyd gan: Cyng. Dyfrig Siencyn Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Cymeradwywyd y bidiau un-tro o £6,508,260 ar gyfer 2024/25 sydd i’w gyllido
o’r gronfa Trawsffurfio a’r gronfa Strategaeth Ariannol. Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Nia Jeffreys PENDERFYNIAD Cymeradwywyd y bidiau un-tro o £6,508,260 ar gyfer 2024/25 sydd i’w gyllido
o’r gronfa Trawsffurfio a’r gronfa Strategaeth Ariannol. TRAFODAETH Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod y Cyngor wedi gosod y gyllideb wythnos
diwethaf. Eglurwyd fod bidiau am adnodd un tro yn cael e cyflwyno mewn
adroddiadau ar wahân i’r gyllideb gan nad yw dyrannu adnodd un tro yn cael
effaith ar osod cyllideb refeniw blynyddol nac yn ystyriaeth wrth bennu cyfradd
y Dreth Cyngor. Nodwyd yn flynyddol fod adrannau’n cyflwyno bidiau am adnodd un
tro ar gyfer materion megis ymdopi a phwysau dros dro, cyflawni projectau
Cynllun y Cyngor, trawsffurfio gwasanaethau neu arbrofi. Eglurwyd eleni fod
mwyafrif o’r ceisiadau ar gyfer ymdopi â phwysau ychwanegol ar wasanaethau, gan
obeithio y bydd arian yn lleihau’r gorwariant o fewn adrannau. Er hyn, amlygwyd fod cynlluniau newydd yn ogystal megis parhau gyda’r
Cynllun Prentisiaethau a’r Cynllun Graddedigion sydd yn gynllun llwyddiannus tu
hwnt ac yn cynorthwyo gyda recriwtio staff. Amlygwyd y bydd modd ymestyn
cynllun Timau Tacluso'r Cyngor yn ogystal ac ail gychwyn swyddi glanhawyr stryd
ychwanegol mewn ardaloedd trefol. Sylwadau’n codi o’r drafodaeth ·
Nodwyd cefnogaeth i’r bidiau un tro yma ond amlygwyd
gofid am y sefyllfa ariannol gyda nifer o gronfeydd yn cael eu gwagio, a gyda’r
sefyllfa fel ac y mae hi amlygwyd y bydd angen defnyddio mwy ar gronfeydd. ·
Amlygwyd gwaith y cynllun prentisiaethau a’r cynllun
graddedigion gyda nodi fod yna bid am sefydlu academi gofal - plant ac oedolion
yn rhan o’r cynllun yn ogystal er mwyn edrych yn benodol ar yr heriau sy’n
wynebu penodi yn y maes iechyd a gofal. Awdur: Dafydd Gibbard |
|
PRYNIANT SWYDDFEYDD Y GORON, PENRALLT, CAERNARFON PDF 162 KB Cyflwynwyd gan: Cyng. Craig ab Iago Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Bu i’r Cabinet awdurdodi pryniant Swyddfeydd y
Goron ym Mhenrallt, Caernarfon, ar delerau ac amodau
i’w pennu gan y Pennaeth Tai ac Eiddo. Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Craig ab Iago PENDERFYNIAD Bu i’r Cabinet awdurdodi pryniant Swyddfeydd y Goron ym Mhenrallt,
Caernarfon, ar delerau ac amodau i’w pennu gan y Pennaeth Tai ac Eiddo. TRAFODAETH Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi mae un o brif bryderon yr Aelod Cabinet
dros Dai ac Eiddo yw ffigyrau uchel digartrefedd. Pwysleisiwyd fod cynnydd
sylweddol ers cyfnod covid, o ganlyniad i bolisïau
Llywodraeth San Steffan ynghyd â’r sefyllfa economaidd. Nodwyd fod angen ymateb
i’r niferoedd hyn ac mae’r cais hwn i newid defnydd o adeilad sydd ar gael ar
hyn o bryd. Nodwyd fod yr adran wedi ymweld â lleoliad tebyg yn Efrog, ble
maent wedi ymateb i’r angen. Eglurwyd fod y gofod ar gael yn mynd i fod yn holl
bwysig er mwyn delio â digartrefedd, a chadarnhawyd na fydd arian ar gyfer y
cynllun hwn yn tynnu oddi wrth gynlluniau eraill sydd i’w gweld ar draws y sir. Ychwanegodd y Pennaeth Adran mai cais yw hwn i brynu swyddfeydd a’i ail
bwrpasu ar gyfer unigolion a theuluoedd sydd angen llety argyfwng. Eglurwyd fod
250 o aelwydydd ar hyn o bryd mewn lleoliadau anaddas yng Ngwynedd ac y bydd
cynllun hwn yn cartrefu 100-120 o bobl. Nodwyd y bydd y pryniant yn gyfle i
gael hwb cefnogol yn ogystal yn yr adeilad. Ategwyd fod yr adeilad mewn cyflwr da iawn a dim ond ychydig o fan
ddiffygion. Pwysleisiwyd y bydd y pryniant yn galluogi i’r adran weithredu un o
brif feysydd o fewn y cynllun weithredu tai.
Sylwadau’n codi o’r drafodaeth ·
Croesawyd y cynllun gan bwysleisio fod angen amlygu na
fydd yn digwydd dros nos ac na fydd yn amharu ar unrhyw gynlluniau eraill.
Croesawyd yr elfen o ran hwb i sicrhau cefnogaeth a fydd yn rhoi cymorth i
drigolion Gwynedd. Pwysleisiwyd yr angen i ddatblygu unedau ar gyfer amrywiol
bobl gan edrych ar anghenion trigolion lleol yno gystal. ·
Nodwyd fod cefnogi’r cynllun hwn hefyd am roi arbedion
refeniw i’r Cyngor yn ogystal gan na fydd angen talu am leoliadau dros dro.
Amlygwyd yn ogystal y bydd gwerth cymdeithasol i’r cynllun yn ogystal nid
ariannol yn unig. ·
Mynegwyd gyda gwariant o £6m wedi bod ar ddigartrefedd
mae hi yn holl bwysig i symud ymlaen. ·
Amlygwyd fod lleoliadau dros dro yn anaddas gyda nifer
o leoliadau heb gegin i goginio a all gael effaith fawr am ddiet pobl, a holwyd
pa gefnogaeth sydd ar gael. Eglurwyd y bydd yr Hwb yn gyfle i roi cefnogaeth
aml asiantaeth a traws adrannol i sicrhau fod cymorth i anghenion unigolion a
theuluoedd. Mynegwyd y bydd yn lleoliad canolog i un rhywun gael cefnogaeth tai
gan obeithio y bydd yn tynnu oddi wrth adrannau ac asiantaethau er mwyn sicrhau
fod pobl yn cadw a chynnal tenantiaeth. Awdur: Carys Fôn Williams |