Lleoliad: Hybrid - Siambr Dafydd Orwig, Swyddfeydd y Cyngor, Caernarfon LL55 1SH. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679 878 E-bost: lowrihafevans@gwynedd.llyw.cymru
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Dim i’w nodi |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL A MATERION PROTOCOL I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant
personol ac i nodi materion protocol. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Datganodd yr aelodau
canlynol eu bod yn aelodau lleol mewn
perthynas â’r eitem a nodir: ·
Y Cynghorydd Elwyn Jones
(oedd yn Aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.1 (C21/1028/18/LL) ar y
rhaglen ·
Y Cynghorydd Gareth A
Roberts (oedd yn Aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.2
(C22/1020/11/LL) ar y rhaglen |
|
MATERION BRYS Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Dim i’w
nodi |
|
Dogfennau ychwanegol: Cofnod: |
|
CEISIADAU AM GANIATÂD CYNLLUNIO Dogfennau ychwanegol: Cofnod: |
|
Newid
defnydd o gartref gofal (Dosbarth Defnydd C2 - sefydliadau preswyl) i hostel
gwasanaethol ar gyfer defnydd gwyliau (Defnydd Unigryw) ynghyd a llety byw
warden cysylltiedig. AELOD LLEOL: Cynghorydd
Elwyn Jones Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Gwrthod y cais yn
seiliedig ar y rhesymau isod:
Cofnod: Newid
defnydd o gartref gofal (Dosbarth Defnydd C2 - sefydliadau preswyl) i hostel
gwasanaethol ar gyfer defnydd gwyliau (Defnydd Unigryw) ynghyd a llety byw
warden cysylltiedig. Amlygodd
Arweinydd Tîm Rheolaeth
Datblygu mai cais llawn ydoedd ar gyfer newid
defnydd cyn-gartref nyrsio’r henoed (Defnydd Dosbarth C2) i ddefnydd hostel
gwyliau gwasanaethol (Defnydd Dosbarth C1 - gwestai) ynghyd a darparu llety byw
warden cyfannol ar safle ar gyrion dwyreiniol anheddle Penisarwaun. Eglurwyd bod yr
adeilad presennol yn cynnwys 30 ystafell wely; storfeydd; ceginau; ystafelloedd
eistedd; ystafell offer gwresogi; ystafelloedd ymolchi ynghyd ag ystafelloedd
gweinyddol/staff. Adroddwyd
bod nifer o bolisïau lleol a chenedlaethol yn ymwneud a’r egwyddor o ddarparu
llety gwyliau gwasanaethol gyda Pholisi TWR 2 o’r CDLl
yn hwyluso cynigion ar gyfer llety gwyliau gwasanaethol cyn belled fod y bwriad
yn cydymffurfio gyda nifer o feini prawf. Un o’r
meini prawf hynny yw, bod graddfa’r datblygiad arfaethedig yn briodol gan
ystyried y safle, y lleoliad a/neu anheddiad dan sylw a’i fod yn gallu cydweddu
a ffitio’n gyffyrddus i’w amgylchfyd. Mewn ymateb i’r maen prawf nodwyd, bod y
bwriad, ymysg defnyddiau cysylltiedig eraill, yn golygu darparu 30 ystafell
wely/cysgu o fewn yr adeilad presennol er nad oedd gwybodaeth bellach wedi ei
dderbyn gan yr ymgeisydd yn cyfeirio at faint o ddarpariaeth gwlâu sydd yn cael
eu cynnig o fewn yr ystafelloedd. Er nad oes bwriad i ymestyn yr adeiladwaith
presennol (ar wahân i osod to gwastad o raddfa fechan uwchben y brif fynedfa
bresennol), ystyriwyd y gallai’r bwriad, o’i ganiatáu, olygu byddai darpariaeth
ar gyfer rhwng 60 a 120 o ddeiliaid /preswylwyr yn bosibl o fewn y cyfleuster
ar yr un pryd ac, o bosib, yn barhaol drwy’r flwyddyn. Ystyriwyd
nad yw’r datblygiad wedi ei leoli mewn ardal sy’n ardal breswyl yn bennaf,
neu’n peri niwed sylweddol i gymeriad preswyl yr ardal, ond oherwydd graddfa’r
bwriad (yn nhermau’r nifer o bobol all aros yno ar yr un adeg) a’r mynd a dod
cyson o’r safle all deillio o’r defnydd, byddai caniatáu'r bwriad yn cael
effaith andwyol sylweddol ar fwynderau trigolion lleol. Amlygwyd bod y pryder
yma yn adlewyrchu’r sylwadau a dderbyniwyd gan wrthwynebwyr i’r cais. Yr ail
faen prawf yw nad yw’r datblygiad yn arwain at ormodedd o lety o’r fath yn yr
ardal. Mewn ymateb, ystyriwyd na fyddai caniatáu’r bwriad yn golygu gormodedd
o’r fath ddefnyddiau o fewn gymuned er gwaethaf pryderon y gwrthwynebwyr
ynglŷn â’r elfen yma o’r bwriad. Yng
nghyd-destun mwynderau cyffredinol a phreswyl, nodwyd bod Polisi TWR 2 ynghyd
a’r CCA: Cyfleusterau a Llety i Dwristiaid yn ategu amcanion y polisi gan y dylai unrhyw ddatblygiad ar gyfer llety
gwyliau warchod buddion preswyl ynghyd a bod yn ddefnydd a fyddai’n cydweddu a
defnyddiau eiddo cyffiniol (eiddo preswyl yn yr achos hwn) o ran sŵn;
aflonyddwch traffig a diffyg preifatrwydd ar gyfer unrhyw
eiddo/cyffiniol/gerllaw. Ategwyd bod natur llety gwyliau math hostel yn gallu creu ad-drawiad sylweddol ar draul mwynderau drwy greu aflonyddwch sŵn naill a’i ar ffurf symudiadau cerbydau/cyffredinol neu ar sail ymgynnull/cymdeithasu’n allanol yn ystod ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6. |
|
Cais Rhif C22/1020/11/LL Hen Ysgol Glanadda, Llwybr Yr Ysgol, Bangor, Gwynedd, LL57 4SG Adeiladu
ysgol gynradd unllawr newydd gyda 150 lle, meithrinfa 20 lle a Chylch Meithrin
30 lle a gwaith allanol cysylltiedig, gan gynnwys trin ffiniau, trefniadau
parcio newydd a darpariaethau mynediad gwell ar gyfer adleoli Ysgol Ein
Harglwyddes ar hen safle Ysgol Glanadda. AELOD LLEOL: Cynghorydd
Gareth A Roberts Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNIAD: Gohirio
er mwyn ymgynghori gyda’r holl aelodau lleol perthnasol Cofnod: Adeiladu
ysgol gynradd unllawr newydd gyda 150 lle, meithrinfa
20 lle a Chylch Meithrin 30 lle a gwaith allanol cysylltiedig, gan gynnwys trin
ffiniau, trefniadau parcio newydd a darpariaethau mynediad gwell ar gyfer
adleoli Ysgol Ein Harglwyddes ar hen safle Ysgol Glanadda. a)
Amlygodd y Pennaeth Cynorthwyol bod sefyllfa unigryw wedi codi fore
y Pwyllgor lle ymddengys nad oedd y swyddogion cynllunio wedi ymgynghori gyda’r
holl aelodau lleol perthnasol. Er bod mwyafrif o safle’r bwriad o fewn ward
Dewi cyfeiriwyd at ran fechan o’r safle o fewn ward Canol Bangor. Awgrymwyd gohiro’r penderfyniad fel bod modd ymgynghori gydag Aelodau
Lleol ward Canol Bangor – y Cynghorydd Huw Wyn Jones a’r Cynghorydd Medwyn
Hughes. b)
Cynigiwyd ac eiliwyd
caniatáu gohirio’r cais PENDERFYNWYD: Gohirio
er mwyn ymgynghori gyda’r holl aelodau lleol perthnasol |