Lleoliad: Ystafell Gwyrfai - Pencadlys Caernarfon. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679878
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Derbyn unrhyw
ymddiheuriadau am absenoldeb Cofnod: Derbyniwyd ymddiheuriadau
gan y Cynghorwyr Trevor
Edwards, Margaret Lyon (Cynrychiolydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy), John P. Roberts a Tudor Owen |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Derbyn unrhyw ddatganiad
o fuddiant personol Cofnod: Dim i’w nodi |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau sy’n
fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Cofnod: Dim i’w nodi |
|
Bydd y Cadeirydd yn cynnig
y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn
a gynhaliwyd 20.10.16 a 10.11.16 fel
rhai cywir Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod
o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar yr 20fed o Hydref a’r 10fed o Dachwedd 2016 fel rhai cywir. |
|
DATGANIAD STRATEGAETH CYLLIDO 2017/18 - 2019/20 Ystyried adroddiad y Rheolwr Buddsoddi Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Yn dilyn cyhoeddiad y Prisiad Actiwaraidd yn Tachwedd 2016, amlygodd y Rheolwr Buddsoddi
ei bod yn ofynnol i’r Cyngor adolygu a
chyhoeddi Datganiad Strategaeth Cyllido (DSC) teirblynyddol
erbyn 31 Mawrth 2017 (nodwyd bod DSC
cyfredol Gwynedd wedi ei gymeradwyo gan y Pwyllgor Pensiynau ar 17 Mawrth
2014). Cyflwynwyd adroddiad (drafft) gan y Rheolwr Buddsoddi oedd yn barod i’w
rannu am gyfnod ymgynghori gyda’r cyflogwyr sy'n rhan o'r cynllun, yr actiwari ac ymgynghorydd y gronfa. Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â
chyflwyno’r strategaeth, nodwyd mai ffurfioli'r trafodaethau a gynhaliwyd 10
Tachwedd 2017 oedd y strategaeth - yn crynhoi'r penderfyniadau a wnaed gyda’r
cyflogwyr. Adroddwyd, er bod y ddogfen yn un dechnegol a swmpus ei bod
wedi ei pharatoi mewn ymgynghoriad a chefnogaeth Hymans. PENDERFYNWYD
DERBYN YR ADRODDIAD A CADARNHAWYD Y
RHAGDYBIAETHAU A’R POLISÏAU A AMLINELLWYD YN YR ADRODDIAD AR GYFER YMGYNGHORI’N
BRIODOL |
|
DATGANIAD STRATEGAETH BUDDSODDI 2017/18 - 2019/20 Ystyried adroddiad y Rheolwr Buddsoddi Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cyflwynwyd adroddiad gan y Rheolwr Buddsoddi
yn gofyn i’r Pwyllgor gymeradwyo’r Datganiad (drafft) Strategaeth Buddsoddi
(sydd yn cymryd lle, mewn enw yn unig, y Datganiad o Egwyddorion Buddsoddi - yn
unol â gofynion deddfwriaeth newydd) ar gyfer ymgynghoriad gyda'r holl bartïon
a diddordeb erbyn Mawrth 31ain 2017. Adroddwyd bod y strategaeth yn seiliedig ar
drefniadau buddsoddi ar hyn sydd angen ei wneud i ddelio â Rheolwyr
Buddsoddiadau. Petai y trefniadau buddsoddi angen eu newid, byddai angen ail
adolygu'r strategaeth yma. Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â Phrydain yn gadael yr Undeb Ewropeaidd, a’r angen i addasu
dulliau buddsoddi, amlygwyd gyda portffolios byd-eang na fyddai angen addasu
dulliau buddsoddi gan mai'r cwmnïau fydd yn cael eu heffeithio yn uniongyrchol. Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â buddsoddiadau
moesegol, amlygwyd mai prif gyfrifoldeb ac amcan y gweinyddwr yw sicrhau’r
dychweliadau gorau i’r gronfa a bod angen rhesymau pendant ac amddiffynadwy am ddilyn strategaeth fuddsoddi ‘wleidyddol’
fyddai’n gallu peryglu hyn. Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â
buddsoddi mewn isadeiledd lleol, nodwyd nad oedd cyfleoedd rhanbarthol cyffrous
yn cynnig eu hunain i Ogledd Cymru a bod buddsoddi mewn isadeiledd nad oedd yn
cynnig ei hun, yn risg o ran enillion. Wrth ystyried cronfeydd Pŵl Cymru,
awgrymwyd y posibilrwydd o annog trafodaethau a chyfleu barn ar fuddsoddi mewn
isadeiledd, gan roi ystyriaeth lawn i fentrau posib yng Ngogledd Cymru.
Awgrymwyd y byddai Pŵl Cymru efallai, gyda’r hyblygrwydd i fuddsoddi mewn
isadeiledd mwy lleol gan fod maint yn galluogi buddsoddiad uniongyrchol mewn
isadeiledd. Nodwyd, petai yr angen yn codi i adolygu buddsoddiadau'r Gronfa, byddai angen
addasu cytundebau gyda Rheolwyr Buddsoddi. Y cam rhesymegol fyddai cynnig
sylwadau i gynrychiolwyr Pŵl Buddsoddi Cymru. Awgrymwyd cynnal trafodaeth
yn y panel buddsoddi cyn cynnig unrhyw beth ffurfiol. Gwnaed awgrym hefyd y dylai’r rheolwyr
buddsoddi barchu'r angen i gadw
buddsoddiadau yn gyfreithiol, ac ymddwyn yn gyfrifol. Atebwyd y gellid herio eu gweithredoedd i
sicrhau eu bod yn ddigon doeth i beidio â buddsoddi mewn rhywbeth amheus. PENDERFYNWYD DERBYN YR ADRODDIAD A
CHYMERADWYWYD Y DATGANIAD DRAFFT AR GYFER CYFNOD YMGYNGHORI |
|
PWL BUDDSODDI CYMRU Ystyried adroddiad y Pennaeth Cyllid Dogfennau ychwanegol:
Cofnod: Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Cyllid yn
hysbysu Aelodau’r Pwyllgor o’r cynnydd gyda datblygu Pŵl Buddsoddi Cymru i
reoli asedion buddsoddi'r wyth Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (CPLlL) yng Nghymru ar sail gydweithredol; ac i geisio cymeradwyaeth y Pwyllgor ar gyfer y Cytundeb
Rhwng-Awdurdodau i’w argymell i’r Cyngor llawn dderbyn, er mwyn ymrwymo i
sefydlu Pŵl Cymru Gyfan a llywodraethu'r Cydbwyllgor perthnasol. Nodwyd mai cwmni Burges
Salmon oedd wedi llunio’r Cytundeb Rhwng
–Awdurdodau gyda chyfraniad gan
swyddogion cyllid a swyddogion cyfreithiol yr wyth gronfa. Roedd y cytundeb yn
adlewyrchu'r hyn oedd wedi ei drafod dros y misoedd diwethaf. Amlygwyd nad oedd y ddogfen yn derfynol, ond
gofynnwyd i’r aelodau ddirprwyo hawl i’r Pennaeth Cyllid, mewn ymgynghoriad a’r
Pennaeth Cyfreithiol â’r Cadeirydd i gytuno unrhyw
newidiadau i’r Cytundeb Rhwng-Awdurdod cyn ei gyflwyno i’r Cyngor llawn am
gymeradwyaeth ar 2 Mawrth 2017. Nodwyd bod angen gwneud mân addasiadau cyn ei
gyflwyno, ond bod y cytundeb, o ran ffurf, yn eithaf agos i’w le. Yn ystod y drafodaeth ddilynol, amlygwyd y
sylwadau canlynol gan Aelodau unigol: ·
Dylid anelu i sicrhau bod y Gymraeg yn ganolog i waith
y Pŵl ·
Bydd angen i’r awdurdod lletya drefnu bod dogfennau
ar gael yn ddwyieithog a bydd cyfarfodydd ffurfiol, cyhoeddus yn cael eu cynnal
yn ddwyieithog ·
Bod angen lleoliad addas ar gyfer cyfarfodydd
Cydbwyllgor y Pŵl Mewn ymateb i’r sylw, nodwyd bod y materion
iaith wedi eu hamlygu mewn cyfarfod o Gadeiryddion y Pŵl ar 11/1/2017 ac
wedi ei ‘dderbyn fel dealltwriaeth’. Amlygodd y Cyfreithiwr bod posib ychwanegu
hyn i’r cytundeb. Cydnabuwyd bod safonau darpariaeth iaith yn amrywio dros Gymru. Cynigiwyd ac eiliwyd y dylid sicrhau bod
cyfarfodydd swyddogol ffurfiol Cydbwyllgor y Pŵl yn dilyn trefn
dwyieithrwydd llawn, ac y dylid cynnwys cymalau priodol yn y cytundeb. Wrth fynegi diolch am y gwaith oedd wedi ei
wneud i lunio’r cytundeb, gwnaed cais i'r swyddogion nodi, pe byddent yn
anghyfforddus gydag unrhyw sefyllfa, eu bod yn adrodd yn ôl i’r Pwyllgor. Mewn ymateb i’r sylwadau nododd y
Cyfreithiwr, wrth sefydlu Partneriaethau, rhaid peidio gosod elfennau caeth.
Amlygwyd bod materion allweddol, lefel uchel yn parhau ar lefelau lleol a bod
hyn yn rhan o’r cytundeb. Nodwyd hefyd y byddai’r cydbwyllgor yn mabwysiadu
rheolau lleol. Mewn ymateb i sylw ynglŷn â
gwahaniaethau mewn rheoliadau cynghorau mewn aelodaeth pwyllgorau, ac yn
benodol y cyfnod Cadeiryddiaeth, nodwyd na fyddai trefniadau Gwynedd yn cael eu
haddasu i gydymffurfio â rheolau a threfniadau cynghorau eraill. Mewn ymateb i sylw ynglŷn â Gwynedd yn cynnig eu hunain fel awdurdod lletya, derbyniwyd bod y sylw yn fater trafodaeth a bod modd cynnig hyn i’r cydbwyllgor petai hyn oedd dymuniad y Pwyllgor. Amlygodd y Cyfreithiwr bod Gwynedd yn arwain ar nifer o brosiectau, ac felly byddai angen sicrhau bod adnoddau yn eu lle cyn mentro - byddai angen adolygu hyd a lled y gwaith i gyfarch y gofynion. Eglurwyd y byddai’r adnodd lletya yn cael ei gyllido gan yr wyth gronfa ac felly gellid ystyried y sylw fel ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7. |