Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679878
Rhif | eitem | ||
---|---|---|---|
YMDDIHEURIADAU Cofnod: Derbyniwyd
ymddiheuriadau gan y Cynghorwyr Goronwy Edwards (Cyngor Sir Bwrdeistrefol
Conwy), Simon Glyn, Peredur Jenkins, John Pughe Roberts a Robin Williams
(Cyngor Sir Ynys Môn) |
|||
DATGAN BUDDIANT PERSONOL I dderbyn unrhyw
ddatganiad o fuddiant personol Cofnod: Dim i’w nodi |
|||
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Cofnod: Amlygwyd bod
cwestiwn wedi ei dderbyn gan aelod o’r cyhoedd oedd yn bresennol yn y cyfarfod.
Nodwyd nad oedd eitem bwrpasol wedi ei raglennu ar gyfer trafod buddsoddi
cyfrifol ond bod Adroddiad Blynyddol Cronfa Bensiwn 2020/21, fydd yn cael ei
drafod yng Nghyfarfod Blynyddol y Gronfa Bensiwn 25-11-21 yn crybwyll materion
buddsoddi cyfrifol. Nodwyd y byddai modd gwahodd yr unigolyn i’r cyfarfod
blynyddol. |
|||
Cofnod: Bu i’r Cadeirydd dderbyn cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 14 Hydref
2021 fel rhai cywir. |
|||
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Derbyn yr adroddiad Cymeradwyo ·
Datganiad o’r Cyfrifon
2020/21 (ôl-archwiliad) ·
Adroddiad 'ISA260’ gan
Archwilio Cymru ar gyfer Cronfa Bensiwn Gwynedd ·
Cadeirydd y Pwyllgor
(17-11-21) ynghyd a’r Pennaeth Cyllid i ardystio’r Llythyr Cynrychiolaeth yn
electroneg Cofnod: Croesawyd Yvonne
Thomas a Garmon Williams o Archwilio Cymru i’r cyfarfod. Cyflwynwyd
adroddiad ynghyd a Datganiad o Gyfrifon Cronfa Bensiwn Gwynedd 2020/21 (ôl
archwiliad), gan y Pennaeth Cyllid yn darparu manylion gweithgareddau ariannol
y Gronfa Bensiwn yn ystod y flwyddyn a ddaeth i ben Mawrth 31ain 2021.
Atgoffwyd yr Aelodau bod drafft o’r cyfrifon wedi eu cyflwyno i gyfarfod 24ain
Mehefin 2021 ac nad oedd newidiadau arwyddocaol yn dilyn archwiliad gan
Archwilio Cymru Gwahoddwyd Yvonne
Thomas (Archwilio Cymru) i gyflwyno adroddiad ‘ISA260’. Adroddwyd bod yr
archwilwyr yn bwriadu cyhoeddi barn archwilio ddiamod ar gyfrifon eleni,
unwaith y byddai’r Llythyr Cynrychiolaeth wedi ei arwyddo. Eglurwyd na all archwilwyr fyth roi sicrwydd cyflawn
bod cyfrifon wedi’u datgan yn gywir ond yn hytrach yn gweithio i lefel o
‘berthnasedd’. Pennwyd lefel perthnasedd o £25.3 miliwn ar gyfer archwiliad
eleni i geisio adnabod a chywiro camddatganiadau a all arwain fel arall at
gamarwain rhywun sy’n defnyddio’r cyfrifon. Tynnwyd sylw at y
penawdau isod: ·
Effeithiau Covid-19 ar archwiliad eleni ·
Nad oedd camddatganiadau wedi eu canfod yn y
cyfrifon nas cywirwyd ·
Er rhai gwallau yn y datganiad ariannol drafft bod
y rhain bellach wedi eu cywiro ·
Bod y wybodaeth a gyflwynwyd o ansawdd uchel ac yn
bositif iawn Diolchwyd i’r
Archwilwyr am eu cydweithrediad a’u gwaith trylwyr. Gwerthfawrogwyd ymroddiad a
chywirdeb y gwaith a diolchwyd i’r Rheolwr Buddsoddi a’r tîm am baratoi’r
cyfrifon. Yn ystod y drafodaeth
ddilynol nodwyd y sylw canlynol: ·
Bod yr adroddiad yn un calonogol a phositif – yn
rhoi hyder bod pethau yn dda Mewn ymateb i
gwestiwn ynglŷn â Chyfraniadau Gwirfoddol Ychwanegol (AVC - Nodyn 3) ar
rhesymeg dros fuddsoddi asedau’r cynllun yma ar wahân i asedau’r Gronfa
Bensiwn, nodwyd bod allanoli’r elfen yma yn fater cyffredinol ac mai dewis
aelodau’r gronfa yw’r cyfraniadau. Er hynny, adroddwyd bod y nifer aelodau sydd
yn ymaelodi gyda AVC yn cynyddu a’r gwaith cynghori yn drwm. O ganlyniad, bydd
cais am gyllideb i ariannu swydd i gefnogi’r elfen yma yn cael ei gyflwyno i’r
Pwyllgor yn 2022. PENDERFYNWYD: Derbyn yr adroddiad Cymeradwyo ·
Datganiad
o’r Cyfrifon 2020/21 (ôl-archwiliad) ·
Adroddiad
'ISA260’ gan Archwilio Cymru ar gyfer Cronfa Bensiwn Gwynedd ·
Cadeirydd y Pwyllgor
(17-11-21) ynghyd a’r Pennaeth Cyllid i ardystio’r Llythyr Cynrychiolaeth yn
electroneg |
|||
ADOLYGU AMCANION I YMGYNGHORWYR BUDDSODDI I ystyried yr adroddiad, nodi cynnydd a chymeradwyo
amcanion y dyfodol Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNIAD Derbyn y wybodaeth gan
nodi’r cynnydd Cymeradwyo amcanion yr ymgynghorwyr buddsoddi am y cyfnod nesaf -
Cadeirydd y Pwyllgor i arwyddo’r datganiad cydymffurfio cyn 7fed o Ionawr 2022 Cofnod: Cyflwynwyd adroddiad gan y Rheolwr Buddsoddi yn adrodd ar y cynnydd yn
erbyn yr amcanion cyfredol ynghyd a chais i’r Pwyllgor adolygu a chymeradwyo’r
amcanion ar gyfer 2022. Adroddwyd, yn dilyn adolygiad o’r marchnadoedd
ymgynghori buddsoddi a rheoli ymddiriedol bu i’r Awdurdod Cystadleuaeth a
Marchnadoedd nodi’r angen i Ymddiriedolwyr Cronfeydd Pensiwn osod amcanion i’w
ymgynghorwyr buddsoddi gan nodi yn glir yr hyn ddisgwylir ganddynt. Cyfeiriwyd at yr
amcanion cyfredol ynghyd a’r cynnydd a wnaed yn erbyn yr amcanion hynny yn
ystod 2020/21. Tynnwyd sylw at amcan newydd a ychwanegwyd ar gyfer 2022 mewn
ymateb i gynnydd mewn diddordeb byd-eang yn y maes - Datblygu dealltwriaeth y
Pwyllgor am risg hinsawdd a Meini Prawf Amgylcheddol, Cymdeithasol a Llywodraethiant (ESG - Environmental, Social,
and Governance (ESG)
Criteria). Nod yr amcan yw sicrhau bod yr ymgynghorwyr buddsoddi yn adeiladu
dealltwriaeth y Pwyllgor ar ystyriaethau ESG a risg hinsawdd, gan gefnogi
gweithredu gofynion llywodraethu’r Tasglu ar Ddatgeliadau Ariannol sy'n
Gysylltiedig â'r Hinsawdd (Task Force
on Climate-related Financial
Disclosures - TCFD) a helpu’r Pwyllgor i ddeall a
rheoli risgiau yn gysylltiedig â’r hinsawdd o fewn y strategaeth. Cafwyd hyfforddiant yn Hydref 2021 a bydd hyfforddiant
pellach yn cael ei drefnu fel bo’r angen. Adroddwyd bod Hymans yn cyflawni gwaith da, yn darparu adroddiadau
chwarterol, adroddiadau cynhwysfawr ar gyfer y paneli buddsoddi, yn cynnig
cyngor ymarferol, ymatebion a gohebiaeth amserol ac yn perfformio yn unol â’r
amcanion. Eglurwyd bod gan Hymans gyfrifoldebau i’r
Gronfa fel cynghorwyr ac fel actiwari a’u bod wedi
sicrhau canlyniadau a dychweliadau allweddol dros y blynyddoedd. Nodwyd bod y
drefn yn sicrhau bod y bartneriaeth rhwng Hymans ar
Gronfa yn un dryloyw. Ategodd yr
Is-gadeirydd bod y cwmni yn darparu gwasanaeth da ac yn cyfarch yr amcanion
sydd yn cael eu gosod gan y Pwyllgor. Diolchwyd am yr
adroddiad. PENDERFYNWYD ·
Derbyn y wybodaeth
gan nodi’r cynnydd ·
Cymeradwyo amcanion yr ymgynghorwyr buddsoddi am y
cyfnod nesaf - Cadeirydd y Pwyllgor i arwyddo’r datganiad cydymffurfio cyn 7fed
o Ionawr 2022 ·
Ystyried blaen raglen ffurfiol o eitemau’r Pwyllgor
Pensiynau ar gyfer y flwyddyn |
|||
RHEOLAETH TRYSORLYS 2021-22 ADOLYGIAD CANOL BLWYDDYN I ystyried yr adroddiad er gwybodaeth Penderfyniad: Derbyn a nodi’r wybodaeth Cofnod: Cyflwynwyd, er gwybodaeth adroddiad yn amlygu
gwir weithgarwch Rheolaeth Trysorlys y Cyngor yn ystod y flwyddyn
ariannol gyfredol. Amlygwyd, yn ystod
y chwe mis rhwng y 1af o Ebrill a 30 Medi 2021 bod gweithgarwch
benthyca’r Cyngor wedi aros o fewn cyfyngiadau
a osodwyd yn wreiddiol ac nad oedd unrhyw
fanciau lle'r oedd y Cyngor wedi adnau arian wedi
methu ad-dalu. Ategwyd yr amcangyfrifir
bod incwm buddsoddi’r
Cyngor yn uwch na’r incwm disgwyliedig
yng nghyllideb 2021/ 22. Penderfynwyd yn y Pwyllgor Pensiynau, 25 Mawrth 2021 i ganiatáu i
gronfeydd dros ben y Gronfa Bensiwn gael eu cyfuno
a’u cyd-fuddsoddi â llif arian cyffredinol
y Cyngor ar gyfer y flwyddyn ariannol 2021/22. Eglurwyd bod rhaglen lwyddiannus
i gyflwyno brechiadau yn bositif
o ran credyd yn gyffredinol i'r sector gwasanaethau ariannol, ac o ganlyniad i'r rhagolwg
economaidd gwell bod rhai sefydliadau wedi gallu lleihau'r
darpariaethau ar gyfer benthyciadau gwael. Adroddwyd bod y cyfnod wedi bod yn un heriol, ond
gyda’r cyfyngiadau yn llacio gwelwyd
mwy o weithgaredd yn ail chwarter y flwyddyn. Nodwyd hefyd bod Arlingclose wedi estyn uchafswm
cyfnod rhai buddsoddiadau i 100 diwrnod. Eglurwyd bod £10m o fuddsoddiadau’r Cyngor mewn cronfeydd eiddo ac ecwiti cyfun strategol sydd yn cael
eu rheoli yn allanol lle
mae diogelwch a hylifedd tymor byr yn llai
o ystyriaeth. Er bod y gwerth cyfalaf cyfun o £9.243m yn llai na’r buddsoddiad
cychwynnol o £10m, gwnaed y
buddsoddiadau gan wybod y byddai gwerthoedd cyfalaf yn ansefydlog ar
fisoedd, chwarteri a hyd yn oed
blynyddoedd; ond gyda'r hyder y bydd cyfanswm yr
enillion dros gyfnod o dair i
bum mlynedd yn uwch na chyfraddau
llog arian parod. O ganlyniad gwireddir yr amcanion
drwy sefydlogrwydd prisiau tymor canolig. Cyfeiriwyd at ddefnydd Swyddfa Rheoli Dyledion fel cerbyd buddsoddi
sydd yn talu
ychydig mwy nag eraill ac yn hyblyg,
hawdd a diogel i’w ddefnyddio. Er bod y cyfraddau yn isel a’r
rhagolygon yn wan ac ansefydlog, adroddwyd bod y
Cyngor yn buddsoddi cymaint ag y gallent o fewn cyfnod heriol;
yn parhau i wneud eu
gorau i geisio
enillion drwy wasgaru risg, ond
hefyd yn gweithredu yn ofalus
yn unol â chyngor Arlingclose. Cadarnhawyd bod gweithgareddau rheoli
trysorlys a gynhaliwyd yn ystod y cyfnod
yn cydymffurfio’n llawn gyda Chod Ymarfer CIPFA a Strategaeth Rheoli Trysorlys ac yng nghyd-destun hyfforddiant buddsoddi bod swyddogion, yn ystod y cyfnod, wedi mynychu hyfforddiant
buddsoddi gydag Arlingclose a CIPFA sy’n berthnasol i’w swyddi. Amlygwyd bod Arlingclose yn disgwyl i'r Gyfradd
Banc gynyddu yn Ch2 2022 a hyn oherwydd dymuniad Banc Lloegr i symud
o lefelau argyfwng gymaint ag ofn pwysau chwyddiant. Mae buddsoddwyr wedi cynnwys sawl cynnydd
yn y Gyfradd Banc i 1% erbyn 2024 yn eu prisiadau.
Er bod Arlingclose yn credu y bydd
y Gyfradd Banc yn codi, ni fydd
mor uchel â disgwyliadau'r marchnadoedd. Adroddwyd bod £25m o arian parod y Gronfa Bensiwn wedi ei ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7. |