Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679878
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Cofnod: Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorwyr Richard Medwyn Hughes a Robin
Williams (Cyngor Sir Ynys Môn) |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Cofnod: Dim i’w
nodi |
|
MATERION BRYS Cofnod: Hysbyswyd yr
aelodau bod Mr Huw Trainor wedi derbyn swydd newydd gyda Grŵp Llandrillo
Menai ac o ganlyniad bydd angen ethol cynrychiolydd cyflogwr newydd i’r Bwrdd
Pensiwn. Yn unol â threfn
statudol o ethol aelodau i’r Bwrdd, amlygwyd bod tymor cyntaf rhai o aelodau’r
Bwrdd yn dod i ben, ac er gellid ail-benodi unrhyw gynrychiolydd am gyfnod
pellach yn y swydd, yn amodol ar eu hail-enwebu yn ôl yr angen, bod angen
gwneud hynny yn ffurfiol. Yn sgil cyhoeddiad Mr Huw Trainor, ystyriwyd mai
amserol fyddai dechrau’r broses o ail benodi yn ehangach yn Chwefror / Mawrth
2023. Ategwyd y byddai’r aelodau presennol yn cael eu hysbysu o drefniadau’r
broses gyhoeddus ac o’r bwriad i benodi pum aelod (nodwyd eithriad i
gynrychiolydd Cyngor Gwynedd gan fod y penodiad yn un diweddar iawn ac wedi ei
warchod). Yr Aelod Cabinet (Cyllid), y Pennaeth Cyllid a’r Swyddog Monitro fydd
y panel cyfweld. |
|
Cofnod: Bu
i’r Cadeirydd dderbyn cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 21 Tachwedd 2022 fel
rhai cywir. |
|
CYMERADWYO CYLLIDEB 2023/24: UNED GWEINYDDU PENSIYNAU A'R UNED BUDDSODDI PDF 212 KB I ystyried a chymeradwyo cyllideb yr Uned Gweinyddu Pensiynau a’r Uned Buddsoddi ar gyfer y flwyddyn ariannol 2023/24 Penderfyniad: PENDERFYNIAD:
Cofnod: Cyflwynwyd
adroddiad gan y Rheolwr Buddsoddi yn ceisio cymeradwyaeth y Pwyllgor i gyllideb
ar gyfer yr Uned Gweinyddu Pensiynau a’r Uned Buddsoddi ar gyfer y flwyddyn
ariannol 2023–2024 Adroddwyd bod y
gyllideb bellach yn cael ei chymeradwyo yn flynyddol gan y Pwyllgor
Pensiynau. Cyfeiriwyd at un addasiad i
Gyllideb yr Uned Gweinyddu Pensiynau o ailraddio 1 swydd ac incrementau
staff eraill. Nodwyd nad oedd y gyllideb yn cynnwys ffioedd Rheolwyr Buddsoddi
nac Ymgynghorwyr, gan ei fod yn wariant newidiol. Er hynny, nodwyd y byddai’r
gwariant yn cael ei adrodd yn llawn o fewn y cyfrifon terfynol ac Adroddiad
Blynyddol y Gronfa. Ategwyd bod bwriad dechrau cofnodi costau’r gronfa gan
lunio cynllun busnes erbyn cyllideb 2024/25. Diolchwyd am yr
adroddiad. Ystyriwyd fod y bwriad o gofnodi costau’r gronfa yn gam positif –
bod cadw cofnod o drefniadau bilio a chostau’r gronfa yn bwysig iawn. PENDERFYNWYD ·
Derbyn
yr adroddiad ·
Cymeradwyo
Cyllideb yr Uned Gweinyddu Pensiynau a’r Uned Buddsoddi ar gyfer y flwyddyn
ariannol 2023/24 |
|
ADOLYGU AMCANION STRATEGOL AR GYFER YMGYNGHORWYR BUDDSODDI'R GRONFA PDF 195 KB I nodi’r adroddiad
cynnydd a chymeradwyo amcanion yr Ymgynghorwyr Buddsoddi am y cyfnod nesaf. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNIAD
‘... gallai cyngor ‘amgen’
weithiau fod yn fwy rhagweithiol, pendant ac amserol ...’ Cofnod: Cyflwynwyd adroddiad gan y Rheolwr
Buddsoddi yn adrodd ar y cynnydd yn erbyn yr amcanion cyfredol, ynghyd a chais
i’r Pwyllgor adolygu a chymeradwyo’r amcanion ar gyfer 2023. Adroddwyd, yn dilyn adolygiad o’r marchnadoedd
ymgynghori buddsoddi a rheoli ymddiriedol, bu i’r Awdurdod Cystadleuaeth a
Marchnadoedd nodi’r angen i Ymddiriedolwyr Cronfeydd Pensiwn osod amcanion i’w
ymgynghorwyr buddsoddi gan nodi yn glir yr hyn ddisgwylir ganddynt. Adroddwyd bod Hymans yn
cyflawni gwaith da, yn darparu adroddiadau chwarterol (sy’n cynnwys gradd
buddsoddi cyfrifol ar gyfer pob rheolwr), adroddiadau cynhwysfawr ar gyfer y
paneli buddsoddi, yn cynnig cyngor ymarferol ac yn perfformio yn unol â’r
amcanion. Eglurwyd bod y flwyddyn ddiwethaf wedi bod yn un prysur gyda’r
ymgynghorwyr yn darparu cyngor pellach ar y strategaeth buddsoddi wrth ail
strwythuro dyraniad asedau strategol y Gronfa yn dilyn y prisiad. Ategwyd bod hyn wedi bod yn ddarn o waith
pwysig a manwl iawn a bu cydweithio
da. Adroddwyd hefyd, gyda buddsoddi cyfrifol bellach yn faes blaenllaw,
bod Hymans wedi cyd weithio gyda swyddogion
y Gronfa i adolygu’r polisi buddsoddi cyfrifol, darparu cyngor ar fuddsoddiadau newydd a darparu ateb i’r ymgynghoriad
TCFD. Er nad yw Hymans yn darparu hyfforddiant
drwy gytundeb uniongyrchol gyda Chronfa Gwynedd, bod hyfforddiant
amserol ar gael drwy Bartneriaeth
Pensiwn Cymru, gyda chyfraniadau sylweddol gan Hymans. Er derbyn hefyd bod y ffioedd yn uchel (sydd
yn wir hefyd
am rai cwmnïau eraill yn y farchnad), amlygwyd dymuniad o dderbyn amcangyfrifad o gost y gwaith sy’n
cael ei gytuno
arno ymlaen llaw. Cyfeiriwyd at yr amcanion cyfredol
ynghyd a’r cynnydd a wnaed yn erbyn yr amcanion
hynny yn ystod 2022. Amlygwyd bod dwy amcan newydd
weid eu hychwanegu.
Er nad oedd dymuniad i newid
ymgynghorwyr buddsoddi’r Gronfa, bod rhaid er hynny herio eu
perfformaid a sicrhau nad yw’r berthynas
yn rhy ‘gyfforddus’.
Yn dilyn rhwystredigaeth o sefydlu trefniadau rhagfantoli arain cyfred ac o ganlynaid colli cyfle i
fanteisio ar y gyfradd gyfnewid gyda phosibilrwydd o ychwanegu gwerth, ystyriwyd yr angen am anogaeth a chyngor mwy rhagweithiol ac amserol, fel bydd
modd ymateb i gyfleoedd heb
rwystredigaeth i’r dyfodol. Ategodd yr Cadeirydd bod y cwmni
yn darparu gwasanaeth da ac yn cyfarch yr amcanion sydd yn cael
eu gosod gan y Pwyllgor. Diolchwyd am yr adroddiad. Mewn ymateb i
gwestiwn ynglŷn a’r angen i gyflymu prosesau, e.e. rhagfantoli
arian cyfred, a’r risgiau posibl wrth wneud hynny, nodwyd bod rhwystredigaeth o
beidio gweithredu yn gynt ac efallai i’r dyfodol y gall yr ymgynghorwyr
buddsoddi dynnu sylw at gyfleoedd posib. Er hynny, amlygodd Cyfarwyddwr y
Gronfa bod mabwysiadu’r drefn rhagfantoli arian
cyfred yn gam sylweddol i’r Gronfa a bod cymeradwyaeth y Pwyllgor yn hanfodol
wrth symud i’r drefn honno. Ategodd bod trothwyon i’r dyfodol bellach wedi eu
sefydlu a chytundebau gyda BlackRock yn barod i
weithredu o fewn diwrnod os daw cyfle. Mewn ymateb i gwestiwn atodol ynglŷn â’r budd o sefydlu proses ymateb brys, nodwyd, mewn argyfwng, bod ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6. |
|
DATGANIAD STRATEGAETH CYLLIDO PDF 210 KB I ystyried a chadarnhau'r
rhagdybiaethau a'r polisïau a amlinellir yn yr adroddiad Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNIAD:
Cofnod: Cyflwynwyd adroddiad gan y Rheolwr Buddsoddi
yn egluro’r gofyn sydd ar y Gronfa i adolygu’r Datganiad Strategaeth Cyllido
pob tair blynedd, a hynny ar ôl y prisiad teirblynyddol;
y bwriad yw cyhoeddi’r Datganiad Strategaeth Cyllido erbyn 31 Mawrth 2023. Nodwyd mai prif bwrpas y datganiad yw
adlewyrchu ffactorau’r prisiad gan bwyso a mesur fforddiadwyedd
y cyflogwyr gyda amcanion hylifedd hir dymor y gronfa. Cyflwynwyd y datganiad
(drafft) i’r Pwyllgor am gadarnhad o’r rhagdybiaethau a’r polisïau fel bod modd
rhyddhau’r datganiad am ymgynghoriad gyda’r holl gyflogwr cyn mabwysiadu’n
ffurfiol yn y pwyllgor nesaf. Eglurwyd mai sail y ddogfen yw’r prisiad actiwaraidd. Ategwyd bod y cyflogwyr wedi derbyn cyflwyniad
gan yr actiwari ym mis Hydref lle datganwyd bod y canlyniadau yn bositif ar y
cyfan gyda mwyafrif o’r cyflogwyr yn derbyn gostyngiad yn ei cyfraniadau. Nodwyd bod y datganiad yn
ddogfen faith a thechnegol wedi ei pharatoi mewn ymgynghoriad manwl gyda Hymans a swyddogion y gronfa. Cyfeiriwyd at y datganiad
ynghyd a’r polisïau ategol. Eglurwyd bod y polisïau ategol fel arfer wedi eu
hymgorffori yn y ddogfen ond cytunwyd, gyda chymeradwyaeth Hymans,
i osod cyfeiriad at y polisïau yn y strategaeth, ond eu bod yn eistedd ar wahân
ac felly’n haws i’w canfod / addasu pe byddai angen cyrraedd at wybodaeth neu
ddiweddaru’r polisïau heb orfod addasu’r strategaeth i gyd. Diolchwyd am yr adroddiad Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y sylwadau
canlynol gan Aelodau: ·
Er yn ddogfen faith a
thechnegol, y cynnwys yn fanwl ac wedi ei osod allan mewn modd hawdd i’w ddilyn ·
Bod yr iaith a ddefnyddir
yn ddealladwy PENDERFYNWYD: ·
Derbyn a chadarnhau'r tybiaethau
a’r polisïau yn y Datganiad Strategaeth Cyllido (drafft) ·
Cymeradwyo’r
Datganiad Strategaeth Cyllido (drafft) ar gyfer ymgynghoriad gyda holl
gyflogwyr y Gronfa |
|
I hysbysu’r Aelodau o ddigwyddiadau 2023 Penderfyniad: PENDERFYNIAD:
Cofnod: Cyflwynwyd rhestr
o ddyddiadau ar gyfer 2023 oedd yn cynnwys dyddiadau pwyllgorau, paneli
buddsoddi, sesiynau hyfforddi, fforymau gwybodaeth, seminarau a chynadleddau.
Amlygwyd yr angen i enwebu Aelodau i fynychu’r fforymau, y seminarau a’r
cynadleddau. Nodwyd, bod
dyddiad y Panel Buddsoddi oedd wedi ei drefnu ar gyfer 25ain o Fai bellach wedi ei ail drefnu ar gyfer 15eg o
Fehefin 2023, oherwydd gwrthdaro gyda chyfarfod arfaethedig o’r Pwyllgor
Llywodraethu ac Archwilio ar y 25ain o Fai. Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y sylwadau
canlynol gan Aelodau: ·
Bod angen cysylltu a chynnig lle i’r ddau aelod
oedd wedi ymddiheuro ·
Os na fydd enwebiad gan Aelod o’r Pwyllgor, bydd
gwahoddiad yn cael ei ymestyn i aelodau’r Bwrdd Pensiwn PENDERFYNWYD
·
Derbyn
a chadarnhau enwebiadau ar gyfer mynychu digwyddiadau 2023 gan gysylltu a chynnig lle i’r aelodau oedd wedi ymddiheuro. ·
Ymestyn
gwahoddidau i Aelodau’r Bwrdd Pensiwn os bydd llefydd gwag. |