Lleoliad: Siambr Hywel Dda - Swyddfeydd y Cyngor, Caernarfon. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Eirian Roberts 01286 679018
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb. Cofnod: Ymddiheuriad:
Y
Cynghorydd Anwen Davies. |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Derbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol. Cofnod: Datganodd y Cynghorydd Lesley
Day fuddiant personol yn eitem 5 ar y rhaglen – Ymgynghoriad i’r Cyfarwyddiadau
Drafft gan Lywodraeth Cymru i’r Adolygiad gan y Comisiwn Ffiniau a
Democratiaeth Leol Cymru - oherwydd bod nifer uchel o fyfyrwyr yn ei ward. Nid oedd o’r farn ei fod
yn fuddiant sy’n rhagfarnu a chymerodd ran lawn yn y drafodaeth ar yr eitem. |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried. |
|
Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod blaenorol o’r Pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 9 Mehefin, 2015 fel rhai cywir (ynghlwm). Cofnod: Llofnododd y Cadeirydd
gofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 9 Mehefin, 2015
fel rhai cywir. |
|
Derbyn adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd (ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cyflwynwyd
– adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd yn nodi, fel rhan o’r rhaglen
diwygio llywodraeth leol, y byddai Llywodraeth Cymru yn gofyn i Gomisiwn
Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru gynnal adolygiad o drefniadau etholiadol ar
gyfer ardaloedd awdurdod lleol newydd arfaethedig. Gofynnwyd i’r pwyllgor gyflwyno eu sylwadau
ar fanylion y Cyfarwyddiadau Drafft er mwyn eu pasio ymlaen i’r Cyngor llawn,
gan hefyd annog eu cyd-aelodau i ymateb i’r ymgynghoriad. Yn
ogystal ag ymateb i gwestiynau penodol yr ymgynghoriad, trafodwyd y newidiadau
sydd dan sylw ar gyfer etholiadau 2017 fyddai’n golygu lleihad tebygol o 75
aelod etholedig i 66 aelod. Er bod rhai
aelodau’n gefnogol i hynny ar y sail bod yna ddiffyg cydbwysedd rhwng maint yr
etholaethau presennol a’r gymhareb cynghorwyr i etholwyr, bod y lleihad wedi’i
nodi fel toriad posib’ y bwriedir ceisio barn y cyhoedd yn ei gylch ac y
byddai’n well bod rhan o’r newid wedi’i wneud yn 2017, ’ roedd mwyafrif yr
aelodau o’r farn y byddai newid tymor byr o’r fath yn
anaddas gyda newid mor sylfaenol o ran ffiniau i ddilyn mor fuan yn sgil yr
ad-drefnu. PENDERFYNWYD argymell i’r
Cyngor:- (a)
Gyflwyno’r sylwadau ar gynnwys y Cyfarwyddiadau Drafft
i’r Comisiwn Ffiniau sydd wedi eu crynhoi yn Atodiad A i’r cofnodion hyn. (b) Ysgrifennu at Lywodraeth Cymru i ddatgan
y farn y byddai’n anaddas gweithredu’r newidiadau sydd dan sylw ar
gyfer etholiadau 2017 gyda newid mor
sylfaenol o ran ffiniau i ddilyn mor
fuan yn sgil
yr ad-drefnu. |
|
DATBLYGIADAU TECHNOLEGOL Derbyn adroddiad yr Uwch Reolwr Gwasanaeth Comisiynu Corfforaethol a’r Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd (ynghlwm). Cofnod: Cyflwynwyd
– adroddiad yr Uwch Reolwr Democratiaeth a Chyflawni a’r Rheolwr Gwasanaethau
Democrataidd yn diweddaru’r aelodau ar faterion technoleg gwybodaeth, gan
gynnwys y newidiadau diweddar i systemau electroneg y Cyngor, hyfforddiant
pellach ar yr i-pad a Moderngov. Nododd
yr Uwch Reolwr fod 12 aelod y tu allan i’r Cabinet wedi cyflwyno sylwadau yn
sgil y newidiadau i systemau electroneg y Cyngor, a olygai mai trwy’r i-pad yn unig y gall aelodau gael mynediad i’w
e-byst ‘cynghorydd’ ar hyn o bryd, ac
awgrymodd gysylltu’n ôl â’r aelodau hynny i sefydlu
beth yn union yw eu hanghenion, ond os ydynt yn parhau’n anhapus, y dylid
darparu trwydded ar eu cyfer. Manylodd
yr Uwch Reolwr
Technoleg Gwybodaeth a Thrawsnewid ar y rhesymau diogelwch defnyddwyr dros
weithredu’r newid i’r systemau electroneg.
Eglurodd hefyd fod angen edrych ymhellach ar fynediad i e-byst oddi ar
ffonau symudol gan nad oedd yn glir eto sut bod modd caniatáu hynny’n eang heb dramgwyddo rheolau diogelwch. Yn ystod y drafodaeth,
cyfeiriodd aelodau at rai o’r anawsterau a wynebir yn sgil cyflwyno’r drefn
newydd, sy’n cynnwys:- ·
Anodd
ymateb yn ysgrifenedig i ddogfen ymgynghorol. ·
Dim
3G ar yr i-pad. ·
Oes
i-pad yn fyrrach nag oes cyfrifiadur? ·
Datblygiad
ac esblygiad parhaus y systemau Apple a Microsoft. ·
Anhawster
agor atodiadau. ·
Methu
defnyddio USB gyda’r i-pad. ·
Straen
llygaid. Mewn ymateb i sylw gan
aelod na chafodd yr aelodau rybudd bod y newid yn mynd i ddigwydd, nododd yr
Uwch Reolwr Democratiaeth a Chyflawni y
cyhoeddwyd dwy neges yn Rhaeadr, sef y prif gyfrwng cysylltu â’r aelodau. Mynegwyd anfodlonrwydd na chaniateid i’r aelodau ddefnyddio ail gyfrif e-bost ar
wefan y Cyngor, ond awgrymodd yr Uwch Reolwr Democratiaeth a Chyflawni fod hynny’n derbyn
sylw ar wahân fel bod gan y pwyllgor yr holl wybodaeth berthnasol o’i flaen cyn
gwneud unrhyw benderfyniad. Ymatebodd y rheolwyr i rai
o’r anawsterau a grybwyllwyd drwy nodi:- ·
Y
buddsoddwyd yn helaeth mewn hyfforddiant dros y misoedd diwethaf er mwyn ehangu
gymaint â phosib’ ar y defnydd o’r i-pad. ·
Y dylai dyfodiad yr App Moderngov ddatrys llawer o’r rhwystrau, e.e. byddai
dogfennau’n mynd yn syth ar y peiriant, heb orfod eu llawrlwytho. ·
Bod
yr i-pads yn sicr o barhau am weddill oes y Cyngor
hwn, ond y byddai’n rhaid ystyried beth fydd yn digwydd adeg y Cyngor newydd yn
2017. ·
Er
nad yw’r i-pad yn gwneud popeth, ei fod yn gwneud llawer o bethau yn dda iawn. O ran sylw bod aelodau’r
Cabinet yn cael eu trin yn wahanol, eglurodd yr Uwch Reolwr Democratiaeth a
Chyflawni fod achos busnes wedi’i gyflwyno ar ran aelodau’r Cabinet yn nodi eu
bod angen mynediad a gweithio ar ddogfennau, ac ati, oherwydd eu cyfrifoldeb
penodol, ond bod modd ymateb i’r achosion dros yr aelodau eraill hefyd. Mynegodd rhai aelodau eu
parodrwydd i dalu eu hunain am y drwydded er mwyn cael mynediad i’w e-byst oddi
ar gyfrifiadur, ond eglurwyd y byddai hynny’n groes i
ganllawiau Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol. Rhoddodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd ddiweddariad ar y peilot o hyfforddiant ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6. |
|
Derbyn adroddiad
y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd (ynghlwm). Cofnod: Cyflwynwyd
– adroddiad y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd yn diweddaru’r aelodau ar waith
yr Is-grŵp hyd yma a’r camau nesaf.
Nodwyd y byddai’r is-grŵp yn cyfarfod yn fuan i ystyried
gweithredu’n lleol ar argymhellion cenedlaethol yn y maes. PENDERFYNWYD derbyn a nodi
cynnwys yr adroddiad. |
|
Derbyn adroddiad
y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd (ynghlwm). Cofnod: Cyflwynwyd – adroddiad y
Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd yn diweddaru’r aelodau am benderfyniadau
cyhoeddi tabl lwfansau aelodau ar gyfer y cyfnod 2014/15. Holwyd a gafwyd hawl y
Cadeirydd i fynd yn groes i benderfyniad y pwyllgor y tro diwethaf i gyflwyno
gwybodaeth am y lwfansau yn Newyddion Gwynedd.
Atebodd yr Uwch Reolwr Democratiaeth a Chyflawni y cymerwyd penderfyniad
golygyddol i beidio cynnwys yr wybodaeth y tro hwn er mwyn rhoi’r flaenoriaeth
i Her Gwynedd. PENDERFYNWYD derbyn a nodi cynnwys yr adroddiad. |
|
ADRODDIADAU BLYNYDDOL AELODAU 2014/15 Derbyn adroddiad
y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd (ynghlwm). Cofnod: Cyflwynwyd - adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau
Democrataidd yn diweddaru’r aelodau am yr adroddiadau a gyhoeddwyd yn 2014/15. Nododd ei bod wedi gobeithio cynnal
trafodaeth yn y cyfarfod hwn ynglŷn â’r
rhwystrau a’r cyfleoedd er mwyn hwyluso’r drefn at 2015/16, ond gan ei bod wedi
mynd yn hwyr, awgrymodd roi’r mater gerbron y cyfarfod nesaf. PENDERFYNWYD cynnal trafodaeth yn y cyfarfod nesaf
ar y rhwystrau a’r cyfleoedd ar gyfer adroddiadau blynyddol aelodau yn 2015/16. |
|
RHAGLEN WAITH Y PWYLLGOR GWASANAETHAU DEMOCRATAIDD Ystyried rhaglen waith y pwyllgor (ynghlwm). Cofnod: Cyflwynwyd – rhaglen waith y pwyllgor. PENDERFYNWYD
nodi a derbyn y rhaglen waith. |