Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679 878
Rhif | eitem |
---|---|
ETHOL CADEIRYDD I ethol Cadeirydd
ar gyfer 2020/21 Penderfyniad: AIL ETHOL Y CYNGHORYDD
ELFED WILLIAMS YN GADEIRYDD AR GYFER 2020/21 Cofnod: PENDERFYNWYD
AIL ETHOL Y CYNGHORYDD ELFED WILLIAMS YN GADEIRYDD AR GYFER 2020/21 |
|
ETHOL IS-GADEIRYDD I ethol Is
Gadeirydd ar gyfer 2020/21 Penderfyniad: AIL ETHOL Y CYNGHORYDD
ANNWEN HUGHES YN IS-GADEIRYDD AR GYFER 2020/21 Cofnod: PENDERFYNWYD AIL ETHOL Y CYNGHORYDD ANNWEN HUGHES
YN IS-GADEIRYDD AR GYFER 2020/21 |
|
YMDDIHEURIADAU I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb Cofnod: Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorydd John Brynmor Hughes a’r
Cynghorydd Dafydd Owen |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol Cofnod: Ni dderbyniwyd datganiad o fuddiant personol gan
unrhyw aelod oedd yn bresennol. |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau
sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Cofnod: Dim i’w nodi |
|
Bydd y Cadeirydd yn
cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd 2il o
Ragfyr 2019 fel rhai cywir Cofnod: Llofnododd y Cadeirydd
gofnodion cyfarfod o’r pwyllgor a gynhaliwyd Rhagfyr 2il 2019 fel rhai cywir |
|
COFNODION IS-BWYLLGOR TRWYDDEDU CYFFREDINOL Cyflwyno, er gwybodaeth, cofnodion yr Is Bwyllgor
Trwyddedu Cyffredinol a gynhaliwyd ar y dyddiau canlynol: 1. 26-01-2021 2. 08-12-2020 3. 22-10-2020 4. 06-10-2020 5. 09-07-2020 6. 09-03-2020 7. 12-02-2020 8. 18-12-2019 9. 21-11-2019 Dogfennau ychwanegol:
Cofnod: Derbyniwyd, er gwybodaeth gofnodion yr Is bwyllgorau a gynhaliwyd 26-01-2021, 08-12-2020, 22-10-2020,
06-10-2020, 09-07-2020, 09-03-2020 12-02-2020, 18-12-2019 a 21-11-2019 |
|
FFIOEDD ARFAETHEDIG TRWYDDEDAU TACSIS 2021/22 I ystyried yr
adroddiad a chymeradwyo ffioedd arfaethedig ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: GWRTHOD Y CYNNIG I GODI’R
FFIOEDD I’R LEFEL A ARGYMHELLWYD Cofnod: Cyflwynwyd adroddiad gan y Rheolwr Trwyddedu yn gofyn i’r
Pwyllgor gymeradwyo ffioedd arfaethedig trwyddedau tacsi 2021/22. Atgoffwyd yr Aelodau bod y Pwyllgor hwn, yn ôl yn
2013, wedi penderfynu y byddai ffioedd tacsi yn
cael eu hadolygu
yn flynyddol a hynny i adennill
costau yn llawn. Amlygwyd nad oedd
ffioedd Gwynedd wedi newid ers 2019. Wrth asesu’r sefyllfa ac ystyried sgil effeithiau
argyfwng covid 19 ar y diwydiant, awgrymwyd nad
oedd cyfiawnhad dros gynyddu’r ffioedd yn sylweddol
am y flwyddyn ariannol nesaf, ond i’r
Pwyllgor ystyried cynnydd chwyddiant dros y ddwy flynedd
diwethaf yn unig ar gyfer
pob ffi trwyddedu
tacsi. Amcangyfirifwyd y byddai hyn yn
gyfystyr a chynnydd o 2.56%
ar bob ffi trwydded. Argymhellwyd i’r Pwyllgor gymeradwyo
codi’r ffioedd i’r lefel arfaethedig
yn ddarostyngedig i ymgynghoriad gyda’r diwydiant tacsi ac ymgynghoriad drwy rybudd cyhoeddus. Diolchwyd am yr adroddiad ac hefyd am y gefnogaeth roedd yr Uned
Trwyddedu wedi ei roi i’r
diwydiant tacsi dros gyfnod yr
argyfwng Cynigiwyd ac eiliwyd i ohirio’r
penderfyniad i gynyddu’r ffioedd am flwyddyn gan wneud
cais i’r Adran Cyllid ddefnyddio
arian ychwanegol
mae wedi ei dderbyn gan
y Llywodraeth mewn ymateb i effeithiau
covid 19. Cynigiwyd ac eiliwyd gwelliant i godi’r ffioedd
gan y byddai angen torri arian o wasanaeth arall i gau’r
bwlch. Materion yn codi o’r
drafodaeth ddilynol: ·
Cydymdeimlwyd gyda’r diwydiant tacsi, a phob diwydiant
arall sydd wedi dioddef yn
sgil effaith covid 19 ·
Bod angen gwarchod ein cymunedau ·
O gynyddu’r ffioedd, £8 yw’r codiad mwyaf Mewn ymateb i gwestiwn
ynglŷn â chymharu’r ffioedd gyda chynghorau
eraill ar draws y Gogledd, ymddengys bod ffioedd Gwynedd, yn gyffredinol, yn gorwedd yn ‘y canol’. Ategodd Pennaeth Cynorthwyol - Amgylchedd bod yr egwyddor o adennill costau yn unig
wedi ei sefydlu
yn 2013 ac os nad yw’r gwasanaeth
yn adennill y costau hynny drwy
godi ffioedd, yna, byddai rhaid
ceisio arian o rywle arall. Adroddwyd
nad oedd
y ffioedd wedi codi ers 2019 a bod y diwydiant wedi derbyn cefnogaeth drwy ffynhonellau ariannol ychwanegol i fod yn
‘saff’ dros gyfnod yr argyfwng. Pleidleiswyd ar y cynnig i
godi’r ffioedd PENDERFYNWYD GWRTHOD
Y CYNNIG I GODI’R FFIOEDD I’R LEFEL A ARGYMHELLWYD |