Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Lowri Haf Evans  01286 679878

Eitemau
Rhif eitem

1.

ETHOL CADEIRYDD

I ethol Cadeirydd ar gyfer 2022 / 2023

Cofnod:

Penderfynwyd ethol y Cynghorydd Hywel Eifion Jones yn Gadeirydd y Bwrdd ar gyfer 2022-23

 

Diolchwyd i’r cyn gynghorydd Aled Evans am ei waith fel Cadeirydd y Bwrdd dros y flwyddyn ddiwethaf

2.

ETHOL IS-GADEIRYDD

I ethol Is gadeirydd 2022 / 2023

 

Cofnod:

PENDERFYNWYD ethol Mr Huw Trainor yn Is-gadeirydd y Bwrdd ar gyfer 2022-23

 

3.

YMDDIHEURIADAU

Cofnod:

Dim i’w nodi

 

Amlygodd Cyfarwyddwr y Gronfa, yn dilyn ymadawiad y Cyng Aled Evans, bod swydd wag ar gyfer cynrychiolydd cyflogwyr ar y Bwrdd. Ategodd bod hysbyseb wedi mynd allan i’r Aelodau am enwebiad. Nododd bod tri ymateb wedi ei dderbyn hyd yma ac mai’r dyddiad cau oedd y 1af o Awst 2022

4.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol

 

Cofnod:

Dim i’w nodi

5.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

 

Cofnod:

Dim i’w nodi

6.

COFNODION pdf eicon PDF 200 KB

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod blaenorol y pwyllgor hwn a gynhaliwyd 04 Ebrill 2022 fel rhai cywir.

 

 

7.

CYFRIFON DRAFFT CRONFA BENSIWN GWYNEDD AM Y FLWYDDYN A DDAETH I BEN 31 MAWRTH 2022 pdf eicon PDF 104 KB

I ystyried yr adroddiad

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

a)    Cyflwynwyd, er gwybodaeth, adroddiad gan y Rheolwr Buddsoddi yn darparu manylion gweithgareddau ariannol y Gronfa Bensiwn yn ystod y flwyddyn a ddaeth i ben Mawrth 31ain 2022. Amlygwyd bod y Pennaeth Cyllid, Mr Dewi Morgan, yn ei rôl fel Swyddog Cyllidol Cyfrifol, eisoes wedi ardystio’r cyfrifon drafft a bod y cyfrifon, a oedd wedi eu cwblhau o fewn amserlen heriol, bellach yn destun archwiliad gan Archwilio Cymru

 

Adroddwyd bod y cyfrifon yn dilyn ffurf statudol CIPFA gyda’r canllawiau yn dehongli beth sydd i’w gyflwyno yn y cyfrifon. Nodwyd bod y flwyddyn wedi bod yn un brysur i’r gronfa gyda throsglwyddiad marchnadoedd datblygol i Bartneriaeth Pensiwn Cymru, gosod targed sero net, a monitro effaith digwyddiadau megis rhyfel Wcráin. Tynnwyd sylw at Gyfrif y Gronfa gan nodi bod y ffigyrau yn eithaf cyson.  Cyfeiriwyd at leihad yn y costau rheoli o flwyddyn 2021/22 (oedd yn eithriad mewn gwirionedd) oherwydd ffioedd uchel gan Partners (oedd yn cyd-fynd a’u perfformiad) a chostau trosglwyddiadau i Bartneriaeth Pensiwn Cymru. Adroddwyd bod y sefyllfa bellach wedi sefydlogi.

 

Cyfeiriwyd at gynnydd yng ngwerth marchnad y gronfa o £247 miliwn oedd yn dod a gwerth y gronfa bellach i £2.7biliwn. Nodwyd, yn dilyn cwblhau’r archwiliad bydd y fersiwn derfynol yn cael ei chyflwyno am gymeradwyaeth i’r Pwyllgor Pensiynau

 

Diolchwyd am yr adroddiad.

 

b)    Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y sylwadau canlynol gan aelodau:

·         Bod cynnydd eto yng ngwerth y gronfa hyd ddiwedd Mawrth er gwaethaf ansefydlogrwydd

·         Awgrym i nodi perfformiad Gwynedd yn nhermau lefelau cyllideb yn unol â diweddariad annibynnol Hymans Robertson i feini prawf Prisiad Adran 13.

 

c)    Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â pherfformiad marchnad stoc siomedig, gydag effaith amlwg rhyfel Wcráin a chyfraddau chwyddiant, nodwyd mai dychweliadau  tymor hir yw prif amcan y buddsoddi, ac er gwaethaf perfformiad y farchnad stoc, bod cynnydd sylweddol wedi bod ers y prisiad diwethaf

 

PENDERFYNWYD derbyn y wybodaeth.

 

8.

PERFFORMIAD BUDDSODDI'R GRONFA BENSIWN 2021/22 pdf eicon PDF 349 KB

I ystyried yr adroddiad

Cofnod:

a)    Cyflwynwyd adroddiad gan y Rheolwr Buddsoddi yn hysbysu’r Aelodau o’r gwaith monitro chwarterol (a blynyddol) sydd yn cael ei wneud gan y Panel Buddsoddi ar berfformiad buddsoddiadau’r Gronfa Bensiwn. Adroddwyd bod Cronfa Bensiwn Gwynedd mewn sefyllfa gymharol iach gyda gwerth y gronfa bellach yn £2.7 biliwn ac wedi cynyddu yn raddol ers 2011.

 

Er cafwyd perfformiad o 10.0% gan y Gronfa, siom oedd bod hyn islaw'r meincnod am y flwyddyn. Er hynny, nodwyd bod sefyllfa fel hyn yn gyffredin i gronfeydd cynlluniau pensiwn llywodraeth leol, a bod perfformiad Cronfa Bensiwn Gwynedd yn parhau i fod o fewn chwartel uchaf cronfeydd Prydain a hynny yn safle 23 allan o 100.

 

Yng nghyd-destun perfformiad rheolwyr buddsoddi ecwiti lle gwelwyd canran uchel o fuddsoddiadau’r Gronfa wedi ei buddsoddi, amlygwyd bod y perfformiad, a oedd yn is na’r meincnod, yn cael ei yrru gan berfformiad negyddol Baille Gifford yng ngronfa Global Growth. Ategwyd bod Baillie Gifford wedi perfformio yn wych dros y blynyddoedd blaenorol a phwysleisiwyd pwysigrwydd yn yr angen i asesu dros gyfnod o oleiaf tair blynedd yn y maes yma cyn codi pryderon.

 

Yng nghyd-destun rheolwyr incwm sefydlog, eglurwyd bod y perfformiad yma hefyd wedi bod islaw’r meincnod gydag ansefydlogrwydd ym marchnad Rwsia. Ategwyd bod y buddsoddiadau hyn yn weddol newydd (wedi dechrau buddsoddi yn y ddwy flynedd diwethaf) ac felly’r sefyllfa yn cael ei monitro’n rheolaidd i sicrhau nad oes lleihad pellach.

 

Cyfeiriwyd at berfformiad hanesyddol y Gronfa dros y ddegawd ddiwethaf gan nodi pwysigrwydd asesu’r perfformiad dros nifer o flynyddoedd gan mai buddsoddi tymor hir yw’r amcan. Ategwyd bod gwerth y gronfa wedi cynyddu yn raddol ers peth amser, a bod y Gronfa yn safle 7 allan o holl gronfeydd Cynllun Pensiwn Llywodraeth Lleol, ac felly wedi perfformio’n dda.

 

Diolchwyd am yr adroddiad

 

b)    Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â pherfformiad Baille Gifford a phryd fydd Hymans yn camu i mewn petai perfformiad gwael yn gyffredin dros amryw o flynyddoedd, amlygwyd bod y mater wedi ei drafod yn ddiweddar mewn cyfarfod o Bartneriaeth Pensiwn Cymru lle daethpwyd i’r canlyniad y byddai rhaid ymgynghori gyda’r Bartneriaeth cyn cyflwyno’r farn i’r Cydbwyllgor am benderfyniad.  Ategwyd bod Baille Gifford wedi bod yn gyfrifol am berfformiad rhagorol yn flaenorol oedd yn rhoi hyder yn y cwmni. Nodwyd bod trafodaethau yn cael eu cynnal ac er bod y cyfnod yn un ansicr, bod hyder yn eu dewisiadau stoc a chred y daw pethau yn dda.

 

Ategodd Cadeirydd y Pwyllgor Pensiynau bod rhaid ystyried sicrwydd ansawdd a bod cynnal trafodaethau yn hanfodol.

 

c)    Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â chysylltiadau i droseddau hawliau dynol trafodwyd datblygiadau cenedlaethol ynghylch materion megis symudiad ‘Boycott, Divestment, Sanctions (BDS) gan sicrhau bod y Bwrdd yn ymwybodol o faterion neu honiadau sydd yn codi yn y wasg. Awgrymwyd gwneud cais i’r Rheolwyr, neu i’r Darparwr Pleidleisio ac Ymgysylltu (Robeco), am wybodaeth a bod trafodaeth ar y cyd gydag aelodau’r Pwyllgor Pensiynau mewn sesiynau chwarterol gyda Rheolwyr yn cael ei drefnu.

 

PENDERFYNWYD derbyn  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 8.

9.

DIGWYDDIADAU CRONFA BENSIWN pdf eicon PDF 189 KB

Penderfynu pwy fydd yn mynychu'r digwyddiadau

Cofnod:

a)    Enwebwyd yr aelodau isod i fynychu’r digwyddiadau

 

08-09-22 – 09-09-22 LGC Investments Summit, Leeds

Osian Richards

 

07-12-22 – 09-12-22 Cynhadledd LAPFF, Bournemouth

Osian Richards

 

19-01-23 – 20-01-23 LGA PF Governance, Caerdydd

Sioned Parry

 

Nodwyd bod dyddiadau Cynhadledd Carden Park Mawrth 2023 i’w cadarnhau cyn rhannu gwahoddiad

 

 

b)    Enwebwyd yr aelodau isod i arsylwi Pwyllgorau Pensiwn 2022-23

 

12-09-22 Huw Trainor

14-11-22 Eifion Jones

18-01-23 Sioned Parry

27-03-23 Sharon Warnes

 

Yn ychwanegol, bydd gwahoddiad i’r holl aelodau fynychu (Fforwm Cyflogwyr Cronfa Bensiwn Gwynedd (26-10-22) a Chyfarfod Blynyddol Cronfa Bensiwn Gwynedd (24-11-22)

 

10.

GWEINYDDIAETH PENSIYNAU pdf eicon PDF 468 KB

I ystyried yr adroddiad

Cofnod:

a)     Cyflwynwyd adroddiad cynhwysfawr gan y Rheolwr Pensiynau yn rhoi trosolwg cyffredinol o weinyddu pensiwn dros y 6 mis diwethaf ynghyd a gwybodaeth am y gwaith a gyflawnwyd dros y cyfnod, diweddariad ar amrywiol brosiectau ynghyd a rhestr o’r heriau yr oedd yr Uned Weinyddu yn eu hwynebu o ddydd i ddydd. Amlygwyd, yn unol â chais y Bwrdd, bod manylion cwynion a dderbyniwyd yn ystod y cyfnod wedi cael eu cynnwys

 

Diolchwyd am yr adroddiad.

 

b)     Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y sylwadau canlynol gan aelodau:

·         Er prinder staff a phroblemau recriwtio bod yr uned yn parhau i godi safon

·         Yn llongyfarch pedwar aelod o staff am gwblhau cwrs Gradd Sylfaen Mewn Gweinyddu a Rheoli Pensiynau

·         Yn llongyfarch y gwelliant ar yr hyn oedd yn dda yn y lle cyntaf

·         Bod y gwasanaeth hunanwasanaeth a’r cynllun i-connect yn derbyn sylwadau positif iawn

·         Bod yr adroddiad yn rhoi sicrwydd i’r Bwrdd bod pethau yn mynd i’r cyfeiriad cywir.

 

c)      Mewn ymateb i sylw bod staff wedi cael eu secondio allan o’r uned i gynorthwyo gyda chartrefu ffoaduriaid Wcráin yng Ngwynedd ac a fyddai modd cynnig secondiad i eraill ymuno a’r Tîm, nodwyd nad oedd dewis i ryddhau aelod ar secondiad, ond bod pob ymgais yn cael ei wneud i ddenu staff newydd.

 

  ch)     Mewn ymateb i sylw ynglŷn â bod oddeutu 3% o aelodau’r gronfa heb gyfeiriad penodol, awgrymwyd ymweld â’r cyfeiriad a chynnal sgwrs gyda’r aelod ynglŷn â’u cynllun pensiwn.

 

          PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad