Lleoliad: Siambr Hywel Dda, Swyddfa'r Cyngor, Caernarfon LL55 1SH
Cyswllt: Eirian Roberts 01286 679018
Rhif | eitem |
---|---|
GWEDDI Cofnod: Agorwyd y cyfarfod gyda gweddi gan y Cynghorydd Paul Rowlinson. |
|
ETHOL CADEIRYDD Cymeradwyo
argymhelliad y cyfarfod blaenorol i ethol y Cynghorydd Paul Rowlinson yn
Gadeirydd y pwyllgor hwn ar gyfer 2018/19. Cofnod: Ethol y Cynghorydd Paul Rowlinson yn Gadeirydd i’r
Pwyllgor hwn am y flwyddyn 2018/19. |
|
ETHOL IS-GADEIRYDD Cymeradwyo
argymhelliad y cyfarfod blaenorol i ethol y Cynghorydd Elin Walker Jones yn
Is-gadeirydd y pwyllgor hwn ar gyfer 2018/19. Cofnod: Ethol y Cynghorydd Elin Walker Jones yn
Is-gadeirydd i’r Pwyllgor hwn am y flwyddyn 2018/19. |
|
YMDDIHEURIADAU Cofnod: Derbyniwyd yr
ymddiheuriadau uchod. |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Cofnod: Ni dderbyniwyd
unrhyw ddatganiad o fuddiant personol. |
|
MATERION BRYS Cofnod: Ni dderbyniwyd
unrhyw faterion brys |
|
Bydd y Cadeirydd yn cadarnhau cofnodion y cyfarfodydd o’r Pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 8 Tachwedd 2017 a 20 Mehefin 2018 fel rhai cywir. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Llofnododd y
Cadeirydd gofnodion cyfarfodydd y Pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 8 Tachwedd 2017
a 20 Mehefin 2018 fel rhai cywir. |
|
CYNHADLEDD MAES LLAFUR CYTUN Nodyn o gyfarfod
CYSAG, 20 Mehefin 2018 ‘Roedd bwriad i
gynnal Cynhadledd Maes Llafur Cytûn yn dilyn cyfarfod CYSAG i benderfynu i gadw
Maes Llafur Cytûn Gwynedd hyd nes derbynnir fwy o wybodaeth gan y Llywodraeth
ynglyn â chwricwlwm newydd yn deillio o adroddiad Yr Athro Donaldson. Oherwydd nad oedd
cwrowm i’r cyfarfod argymhellwyd i gynnal trafodaeth ar ddechrau cyfarfod nesaf
CYSAG sydd i’w gynnal ar 7 Tachwedd 2018. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Adroddodd Miriam Amlyn ar ei siom bod y deunydd yn
dal ddim ar gael yn y Gymraeg er ei fod ar gael yn y Saesneg. Nodwyd ei fod yn
broblem mewn pynciau eraill hefyd.
Cadarnhawyd bod llythyr eisoes wedi ei ysgrifennu at Kirsty Williams yn
nodi y pryder uchod. Amlygwyd pryder ymysg yr Aelodau unwaith eto fod y deunydd yn uniaith
Saesneg. Awgrymwyd y dylai’r Cadeirydd
ystyried ysgrifennu llythyr clir a chryf eto, at sylw Yr Aelod Cabinet, Kirsty
Williams, Y Comisiynydd Iaith, Siân Gwenllian, Garem Jackson, gyda chopi i
Dyfrig Siencyn, Eluned Morgan a Dilwyn Williams. Nodwyd y bydd newidiadau pellach o bosib yn 2020 ac
yn wyneb hynny y dylid ystyried cadw at y Fframwaith enghreifftiol ar hyn o
bryd. Argymhellwyd: Gofyn
i’r Cadeirydd ysgrifennu at yr uchod i gyfleu pryder CYSAG am y diffyg mewn
deunyddiau Cymraeg, gan gadw at y Fframwaith bresennol ar hyn o bryd. |
|
Er gwybodaeth gefndirol i’r eitem, gweler y
ddolen isod ar gyfer cylchlythyr rhif 10/94 a gyhoeddwyd gan yr hen Swyddfa
Gymreig yn 1994: http://www.wasacre.org.uk/publications/wag/W-cylchlythyr10-94.pdf Dogfennau ychwanegol:
Cofnod: (a) Derbyniwyd cais gan y Dyneiddwyr
i wasanaethu fel aelodau gyda
phleidlais ar CYSAG
Gwynedd. (b) Esboniodd yr Uwch Gyfreithiwr
bod cyfrifoldeb statudol ar awdurdodau lleol
i greu CYSAGau
ac mai cyfrifoldeb Cabinet yr Awdurdodau ydoedd
y cyfansoddiad, ond wrth gwrs, gall y CYSAG gyfethol Aelodau. Cyfeiriwyd at lythyr dyddiedig 3 Mai 2018 gan Kirsty Williams oedd yn nodi mai
barn Llywodraeth Cymru erbyn hyn oedd
“er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth â Deddf Hawliau
Dynol 1998, dylid dehongli bod y darpariaethau yn ymwneud â chyfansoddiad CYSAG
a CMLIC yn Neddf 1996 yn caniatáu penodi personau sy’n cynrychioli’r rhai â
chredoau anghrefyddol yn yr un modd ag y maent yn caniatáu penodi personau sy’n
cynrychioli’r rhai â chredoau crefyddol …”
Aiff ymlaen i nodi “mae penodiad yn dibynnu ar farn yr Awdurdod Lleol
perthnasol ynglŷn ag a fyddai cynrychiolydd o’r fath yn helpu i sicrhau
bod y traddodiadau perthnasol yn ardal yr Awdurdod Lleol yn cael eu
hadlewyrchu’n briodol yn Grŵp A.” (c)
Nodwyd nad
oedd adolygiad o’r aelodaeth / cyfansoddiad wedi digwydd ers 1996. Cwestiynwyd a yw traddodiadau
perthnasol yn yr ardal yn
cael eu hadlewyrchu
yn briodol yn Grŵp A, a beth yw’r farn
am gais y Dyneiddwyr i fod yn
rhan o Grŵp A. (ch) Codwyd y pwyntiau canlynol wrth drafod yr
uchod: i.
Beth
sydd yn digwydd mewn Awdurdodau eraill? ii.
Yr arweiniad yn y cwrs TGAU yw bod modd gwahodd
Dyneiddwyr i ysgolion i siarad iii.
Onid sustem gred yn hytrach
na chrefydd
yw Dyneiddiaeth? iv.
Onid croesawu cymaint o amrywiaeth â phosib yn Grŵp
A y dylem, o gofio’r sefyllfa ddiweddar o ddiffyg cworwm yn y cyfarfod blaenorol? Cyfeiriwyd at y sylwadau canlynol hefyd – -
Byddai’r
Pwyllgor yn manteisio o glywed lleisiau gwahanol grefyddau yn eu trafodaethau sydd
yn greiddiol i gwricwlwm y maes dysgu -
Byddai
yn hybu cyswllt rhwng Penaethiaid, Athrawon a Disgyblion o wahanol gredoau yn
uniongyrchol wyneb yn wyneb -
Byddai yn gyfle i greu
pontydd a hybu cymdeithas fwy goddefgar o gredoau amrywiol - Cadarnhawyd fod Dyneiddiaeth yn cael ei
gyflwyno yn rhai o ysgolion Gwynedd Cadarnhawyd bod Cymdeithas CYSAGau
Cymru wedi penodi Dyneiddwraig ar eu Pwyllgor Gwaith
ac oni ddylai CYSAG adlewyrchu yr hyn
sydd yn cael
ei addysgu? Rhaid bod yn ofalus rhag gosod blaenoriaeth i rai
credoau ac mae angen rheoli ceisiadau o’r fath yn ofalus. A oes meini prawf? Mae cyfle yma i ddysgu a rhannu arbenigedd Argymhellwyd: Y byddai Pwyllgor CYSAG yn ffafriol i
geisiadau ar sail tystiolaeth, gyda amod fod credoau anghrefyddol yn cael eu
dysgu yn Ysgolion Gwynedd. Gan gyfeirio at y cais penodol, cadarnhawyd o blaid cynnwys y Dyneiddwyr i
Grŵp A. Adroddwyd bod trafodaeth wedi codi yn y cyfarfod blaenorol ynglŷn â’r posibilrwydd o wahodd disgybl/disgyblion ysgol i fod yn rhan o’r aelodaeth bresennol er mwyn clywed llais y disgybl. Trafodwyd yr egwyddor er mwyn bod yn gynhwysol ond nodwyd bod materion ymarferol oedd yn golygu ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 9. |
|
HUNAN ARFARNIAD YSGOLION GWYNEDD Adroddiad
llafar gan Mr Rhys Glyn, Pennaeth Ysgol Cefn Coch, Penrhyndeudraeth. Cofnod: Croesawyd Mr Rhys Glyn (Pennaeth Ysgol Cefn Coch ac
Ysgol Penrhyndeudraeth) i’r cyfarfod i drafod y berthynas mae wedi ei datblygu
rhwng y cwricwlwm, addysg bersonol ac addysg grefyddol. Rhannodd enghreifftiau o waith y disgyblion a chadarnhaodd nad yw Addysg Grefyddol yn cael ei
ddysgu fel pwnc, ond mae’r
ysgol yn datblygu plant yn holistaidd, gydag Addysg Grefyddol
yn treiddio yn naturiol. Derbyniwyd sylwadau positif iawn gan y Pwyllgor a
llongyfarchwyd Rhys Glyn ar y gwaith.
Nodwyd bod llawer o faich gwaith i wneud pob dim ar wahân a bod
profiadau aml-synhwyrol gyda phlant yn arwain y gwaith. Nododd bod rôl y llywodraethwyr wedi ei
ddatblygu gyda’r llywodraethwyr yn cymryd rhan ym mhob agwedd gan gynnwys
craffu’r gwaith unwaith mae portffolio wedi ei gasglu. Nodwyd, ers Donaldson bod angen datblygu ym mhob
maes, ond
bod croeso i’r elfen greadigol a llais y plant a phwyslais ar brofiadau. |
|
TROSOLWG O HUNAN ARFARNIADAU YSGOLION GWYNEDD Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Argymhellwyd: Nodi
a derbyn cynnwys yr Adroddiad. |
|
SWYDDOG PROFFESIYNOL AG I CYSAG Cofnod: Nodwyd cynnwys
llythyr Libby Jones yn gofyn am gynrychiolydd o Wynedd. Gofynnwyd i Miriam Amlyn ystyried. Argymhellwyd: Rhoi
cyfle i Miriam Amlyn ystyried y cais. |
|
GWEITHDAI'R CYNULLIAD I YSTYRIED ADDYSG GREFYDDOL A'R CWRICWLWM NEWYDD AR GYFER CYMRU Cofnod: Cadarnhawyd bod y Cynradd,
ar y cyfan yn edrych ymlaen
at y cyfnod newydd, ond nodwyr pryder
mawr o’r uwchradd. Amlinellwyd yr argymhelliad newydd fel cyfuno Addysg
Grefyddol, Hanes, Daearyddiaeth
a Busnes i’r maes dyniaethau,
gydag un wers i bob pwnc ond
nid oedd yn eglur ar
hyn o bryd faint o oriau fyddai hyn
yn ei olygu. Cwestiynwyd yn syth sut
fyddai CYSAG yn monitro'r dyniaethau? Os oes
bwriad newid erbyn 2020, nodwyd bod llawer iawn o waith
paratoi - mae’r ddogfen bresennol yn eang ond
yn sôn am gysyniadau a sgiliau sydd yn gofyn
am gydweithio rhwng adrannau. Ar hyn o bryd,
nodwyd nad
yw yn glir
a fydd y cwrs yn plethu neu
a fydd y pynciau yn cael eu
trin fel pum pwnc ar
wahân? Pryder arall a nodwyd oedd y byddai
unigolyn heb arbenigedd yn y pwnc penodol yn
rhoi un o’r
gwersi o bosib. Holwyd a fydd statws cyfartal
i’r pum pwnc,
yn enwedig os oes Pennaeth
sydd ddim yn gweld gwerth
mewn pwnc arbennig? Cwestiynwyd hefyd yr oriau fyddai
yn cael eu
neilltuo ar gyfer pob pwnc. Cwestiynwyd beth fyddai modd i CYSAG ei
wneud gan fod y broses yn mynd rhagddi? Libby Jones yw’r unig ymgynghorydd Addysg Grefyddol yng Nghymru. Argymhellwyd: Derbyn
a nodi’r uchod. |
|
CYNNIG PRIFYSGOL BANGOR - RE-CONNECT Cofnod: Codwyd pryder yn sgil
adroddiad diweddar ynglŷn â phrinder athrawon a’r mater o ddysgu dwyieithog yng Ngwynedd. Nodwyd gwir bryder am yr uno rhwng
Prifysgolion Bangor a Chaer. Awgrymwyd efallai y byddai modd i’r Cadeirydd
lythyru gyda’r Brifysgol i holi
am y canlynol : i.
Onid oes linc ar goll
- mae gwir
bryder wedi ei nodi gan
CYSAG ynglŷn â’r diffyg ym maes
Addysg Grefyddol, a’r cysylltiad gyda Phrifysgol Caer, ac yn ychwanegol
y toriad rhwng TGAU a chwrs gradd. Angen nodi hefyd bod llythyr uniaith Saesneg wedi ei
dderbyn gan y Brifysgol. Cwestiynwyd a yw lefel A yn cael ei gynnig mewn Addysg Grefyddol yng
Ngwynedd? Ydy’r Coleg yn cynnig Addysg
Grefyddol? Beth am Goleg Meirion/Dwyfor? Argymhellwyd: Gofyn i’r Cadeirydd ysgrifennu at y Brifysgol yn unol â’r uchod. Gofyn i’r Swyddog Adnoddau Addysg Cynorthwyol
edrych i mewn i’r ddarpariaeth Lefel A Addysg Grefyddol yng Ngwynedd. |
|
COFNODION CYFARFOD BLYNYDDOL CYSAGAU CYMRU - YNYS MON 6/7/18 - ER GWYBODAETH Cofnod: Argymhellwyd: Derbyn a nodi’r cynnwys. |
|
AMRYWIAETH CREFYDD A CHRED - ER GWYBODAETH Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cyflwynwyd, er
gwybodaeth, gopi o’r ddogfen uchod
a gyhoeddwyd yn ddiweddar. Argymhellwyd: Derbyn a nodi’r cynnwys. Dechreuodd y cyfarfod am 2:00 pm a daeth
i ben am 4.10 pm |