Lleoliad: Siambr Hywel Dda - Swyddfeydd y Cyngor, Caernarfon. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Rhonwen Jones 01286 679780
Rhif | eitem | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
GWEDDI Adfyfyrio tawel neu weddi. Cofnod: Agorwyd y cyfarfod gyda gweddi gan y
Cynghorwr Paul Rowlinson. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
ETHOL CADEIRYDD I ethol Cadeirydd i’r pwyllgor hwn am y flwyddyn 2019-20. Cofnod: Penderfynwyd ail-ethol y Cynghorydd Paul
Rowlinson yn Gadeirydd i’r Pwyllgor hwn am y flwyddyn 2019/20. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
ETHOL IS-GADEIRYDD I ethol Is-gadeirydd
i’r pwyllgor hwn am y flwyddyn 2019-20. Cofnod: Penderfynwyd ail-ethol y Cynghorydd Elin Walker
Jones yn Is-gadeirydd i’r Pwyllgor hwn am y flwyddyn 2019/20. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
CROESO A CHYFLWYNIADAU Cofnod: Croesawyd Edward Pari-Jones (Dyneiddiwr) yn
aelod newydd i’r cyfarfod, gan y Cadeirydd. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
YMDDIHEURIADAU Cofnod: Y Cyng. R. Medwyn Hughes, Judith Mary Humphreys, Anest Gray Frazer (Yr Eglwys yng Nghymru), Alwen Watkin (ASCL), Cathryn Davey (UCAC). |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Cofnod: Datganodd y Cynghorydd Menna Baines fuddiant
personol yn eitem wyth (8) - Cynnig Prifysgol Bangor - ‘Re-connect’, gan fod
chwaer ei chymar yn gweithio yn yr adran Addysg Prifysgol Bangor. Oherwydd bod yr eitem yn fater cyffredinol,
nid oedd o’r farn ei bod yn fuddiant sy’n rhagfarnu, ac ni adawodd y cyfarfod
yn ystod y drafodaeth ar yr eitem. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cofnod: Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfodydd
y Pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar y 7fed Dachwedd 2018 fel rhai cywir. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
MATERION YN CODI O’R COFNODION · Cynnig Prifysgol Bangor ‘Re-connect’. · Ymateb llythyr gan Kirsty Williams. Cofnod: CYNNIG PRIFYSGOL BANGOR –‘RE-CONNECT’: Mynegodd y Cynghorydd Menna Baines,
ddiddordeb yn y newidiadau sydd ar droed yn yr Adran Addysg yn y Brifysgol ym
Mangor. Materion sy’n creu pryder yn y Sir am ddyfodol hyfforddi athrawon sy’n
addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg ac yn ddwyieithog yng Ngwynedd. Ymatebodd y Cadeirydd bod y wybodaeth bellach
yn gyhoeddus a bod ymddiswyddiadau athrawon yn dilyn yn brifysgol, bydd hyn yn
cael effaith mawr ar Addysg yn gyffredinol, yn enwedig drwy gyfrwng y Gymraeg. Nododd y Cadeirydd, mae yn y cyfarfod
diwethaf gofynnwyd am ystadegau ar nifer o ddisgyblion yn y Sir sydd yn sefyll
TGAU a lefel A, mewn Addysg Grefyddol.
Mae posibilrwydd o ddefnyddio'r ystadegau hyn i fedru monitro a chael
gweld y nifer o fyfyrwyr a all symud ymlaen i ddilyn y pwnc i addysgu. Gweler
yr ystadegau isod:
Mynegodd y Cadeirydd i’r Swyddog Adnoddau Addysg Gynorthwyol a Chlerc CYSAG,
yrru'r ystadegau hyn i’r Aelodau er gwybodaeth. Nododd y Cadeirydd a’r Cynghorydd Menna Baines, eu bod wedi ymweld â
Joshua Andrews, a’i gydweithiwr yn y Brifysgol ym Mangor yn Rhagfyr 2018. Gwaith yn dilyn ar ddarparu deunyddiau ar
hyfforddi cyrsiau i athrawon o fewn y pwnc Addysg Grefyddol, wedi eu cwblhau yn
y Gymraeg a Saesneg, roeddynt hefyd ar fin lansio gwefan gyda’r manylion. Maent
wedi cysylltu â Phenaethiaid ysgolion uwchradd gyda’r wybodaeth yma, er mwyn
i’r deunyddiau gael eu rhannu ymlaen i’r athrawon. PENDERFYNWYD: Cadw golwg ar y mater gan adrodd yn nôl i’r
pwyllgor yn Nhachwedd 2019. YMATEB LLYTHYR KIRSTY WILLIAMS: Ymateb i lythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, gyda
chyfarwyddion gan y Gweinyddwr Addysg a Chadeirydd y pwyllgor, ynglŷn â
phryderon am ddiffyg deunyddiau adolygu yn y Gymraeg ar gyfer y cwrs TGAU
Astudiaethau Crefyddol newydd. Sylwadau a godwyd: Nodwyd gan yr Aelodau bod y ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 8. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
ADRODDIAD NEWID CYFANSODDIAD I'R CABINET AR Y 02/04/19 Cofnod: Codwyd yr ymateb gwreiddiol i lythyr a
dderbyniwyd gan y Dyneiddwyr ym Mangor, i ymuno fel aelod/a’u o Grŵp A, ym
mhwyllgor CYSAG. Mae’r angen i CYSAG fod yn gynhwysol, gan gynnwys
amrywiaeth ehangach o draddodiadau crefyddol nag sydd gennym ar hyn o bryd, a’r
manteision o dderbyn amrywiaeth ehangach yw datblygu cwricwlwm addysg grefyddol
sy’n paratoi ein pobl ifanc i fod yn ddinasyddion egwyddorol a gwybodus yng
Nghymru a’r byd. Argymhelliad: i’r Adran Addysg a Phwyllgor CYSAG Gwynedd
fyddai newid aelodaeth Grŵp A, fel y nodir: ·
Grŵp A – Cristnogaeth – cadw yn 6 Cynnig gwahodd un (1), cynrychiolydd o’r
credoau Bwdïaeth, Islam, Hindŵaeth, Iddewiaeth, Siciaeth a’r Dyneiddwyr. ·
Grŵp B – cynrychiolaeth Athrawon a
Phenaethiaid – cadw yn 5. ·
Grŵp C – Aelodau Etholedig – cadw yn 7. ·
Cyfetholedig - Pwyllgor CYSAG i gadw’r hawl i
gyfethol aelodau. ·
3 pleidlais sydd, sef 1 i bob grŵp, nid oes
pleidlais gan yr aelodau Cyfetholedig. Nododd y Swyddog Adnoddau Addysg Gynorthwyol a Chlerc CYSAG, yn Ebrill 2019
cynigwyd gwahoddiad drwy ysgrifennu at y credoau i ymestyn croeso iddynt fod yn
aelodau o’r pwyllgor, ond ni dderbyniwyd ymateb ganddynt. Cynigiodd y Cynghorydd Dr Elin Walker Jones, gysylltu â Mosg Bangor. Cynigiodd Heledd Jones (Aelod Athrawon) gysylltu â Nathan Abrahms yn y
Brifysgol ym Mangor, gyda’r gobaith o greu diddordeb yn y pwyllgor gan dderbyn
aelodau Iddewiaeth. PENDERFYNWYD: Derbyn y cynigion. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
CYFLWYNIAD AR Y CWRICWLWM I GYMRU 2022 Cofnod: Cyflwynwyd y drafodaeth ddilynol gan Helen
Bebb, (Swyddog Proffesiynol Dros Dro), gan roi mewnbwn ar sut mae Addysg
Grefyddol o fewn y cwricwlwm newydd yn gallu bod yn weithredol (paratowyd y
cwricwlwm gan yr Athro Donaldson). Mae’r Dyniaethau yn cwmpasu daearyddiaeth,
hanes, addysg grefyddol, astudiaethau busnes ac astudiaethau cymdeithasol. Mae’r disgyblaethau hyn yn rhannu llawer o
themâu, cysyniadau a sgiliau trosglwyddadwy cyffredin, ac mae ganddynt eu corff
eu hunain o wybodaeth a sgiliau. Yn yr
un modd, gall dysgwyr ac athrawon gyfeirio at ddisgyblaethau ategol eraill,
megis y clasuron, economeg, y gyfraith, athroniaeth, gwleidyddiaeth, seicoleg a
chymdeithaseg, os a lle y bydd hynny’n briodol. Y
Rhesymeg o Blaid Newid: ·
Mae ymreolaeth, hyblygrwydd a chreadigrwydd yn
arwain at ddysgu dilys. ·
Mae dull gweithredu rhyngddisgyblaethol yn cefnogi
datblygu gwybodaeth a sgiliau. ·
Mae cysylltu profiadau, gwybodaeth a sgiliau yn
arwain at gyfleoedd cyfoethog. ·
Mae’n ymgorffori astudiaethau busnes ac astudiaethau
cymdeithasol. ·
Mae addysg grefyddol yn y cwricwlwm yn caniatáu ar
gyfer cydraddoldeb. Sut
mae’n wahanol? ·
Holistaidd a rhyngddisgyblaethol. ·
Disgyblaethau yn fwy gweladwy o Gam gynnydd 4. ·
Mwy o bwysigrwydd ar brofiadau dilys. ·
Canolbwyntio ar ddinasyddiaeth fyd-eang a chymryd
rhan mewn gweithredu cymdeithasol. ·
Ymwneud gydag astudiaethau busnes ac astudiaethau
cymdeithasol yn gynt mewn addysg. ·
Cydbwysedd rhwng astudiaethau lleol,
Cymreig/Prydeinig a byd-eang. ·
Cynnwys addysg grefyddol a’i wneud yn statudol ar
gyfer dysgwyr 3 i 16 oed. Nodwyd mai’r elfennau pwysicaf i’w cofio
wrth addysgu'r pwnc yw'r 4 diben gan gynnwys y 12 egwyddor addysgol y cwricwlwm
i geisio sicrhau bod plant a phobl ifanc yn datblygu: ·
Yn ddysgwyr uchelgeisiol a galluog sy’n barod i
ddysgu drwy gydol eu hoes. ·
Yn gyfranwyr mentrus a chreadigol sy’n barod i
chwarae eu rhan yn llawn yn eu bywyd a’u gwaith. ·
Yn unigolion iach a hyderus sy’n barod i fyw
bywydau boddhaus fel aelodau gwerthfawr o gymdeithas. ·
Yn ddinasyddion egwyddorol a gwybodus sy’n barod i
fod yn ddinasyddion Cymru a’r byd. Y 12 Egwyddor addysgol:
Nodwyd bod Ysgol David Hughes wedi treialu'r
pwnc Dyniaethau dros y flwyddyn ddiwethaf ar themâu: Addysg
Grefyddol o fewn yr unedau: Gwesty Cymru
Themâu yn gysylltiedig â Dyniaethau:
Asesu
ar gyfer Dysgu ar bob uned:
Mae yn parhau i fod yn statudol i adrodd ar lefelau
diwedd CA3 hyd 2021. PENDERFYNWYD: Derbyniwyd a diolchwyd am y wybodaeth. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
YMATEBION AR GYFER YR YMGYNHORIAD I'R CWRICWLWM I GYMRU 2022 Cofnod: Codwyd pryder gan Aelodau’r pwyllgor ar y
posibilrwydd o golli addysg grefyddol o fewn y cwricwlwm newydd, mae angen
cyfiawnhad i gyfarch hyn. Mynegwyd bod
angen edrych ar faint o wersi addysg grefyddol sydd yn cael eu cyflwyno yng
nghyfnod allweddol 3 a 4 ar hyn o bryd, fel y cawn gadw llygad ar y cydbwysedd
a chodi ymwybyddiaeth ar fonitro oriau'r gwersi addysg grefyddol o fewn
ysgolion Gwynedd. Mynegwyd bod angen model ar sut i rannu'r
gwersi o fewn y pwnc heb golli arbenigedd yr athrawon. Nodwyd nad oes canllawiau cadarn ar
addysgu'r pwnc Dyniaethau, rhaid i’r ysgol ddod i benderfyniad ar sut i’w
fodelu ac i weithio heb ddiwahaniaeth. Nodwyd bod yn haws cyfarch y pwnc yn yr
ysgolion cynradd, ychwanegwyd ei fod yn fwy heriol i’w addysgu yn yr uwchradd,
oherwydd newidiadau holistaidd o fewn y ddogfen. Mynegodd Aelod o’r Dyneiddwyr ar faint o
sylw sydd ar addysg grefyddol: ·
Oes mwy o bwyslais ar addysgu crefyddau nag digrefydd? ·
Cwestiynwyd ar adlewyrchiad o fewn
cymdeithasau? ·
Mae angen rhywun i gynrychioli pobl ddigrefydd. Mynegodd y Cadeirydd ar i’r Aelodau ymateb
i’r ymgynghoriad ar y canllawiau drafft ar gyfer y Cwricwlwm i Gymru 2022. Mae’r cyfnod adborth yn gorffen ar y 19eg
Gorffennaf 2019. Defnyddir y wybodaeth i
wneud gwaith mireinio pellach ar y canllawiau drafft, cyn eu cyhoeddi ym mis
Ionawr 2020. PENDERFYNWYD: ·
Cytunwyd ar y pryder o addysgu addysg grefyddol o
fewn ysgolion. ·
Angen archwiliad i faint o wersi ac oriau
neilltuwyd i addysg grefyddol yng nghyfnod allweddol 3 a 4 yn 2018-19 a
2019-20. Y Swyddog Adnoddau Addysg Gynorthwyol a Chlerc CYSAG i ddarparu'r
archwilio. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
TROSOLWG O'R HUNAN ARFARNIADAU - TYMOR Y GWANWYN 2019 Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cyflwynwyd yr eitem gan y Swyddog Adnoddau
Addysg Gynorthwyol a Chlerc CYSAG. Arolygiad Estyn
sydd yn cyfeirio
at y pwnc addysg grefyddol, addoli ar y cyd, datblygiad
moesol ac ysbrydol ond hefyd agweddau
eraill megis addysg bersonol, ddiwylliannol a chymdeithasol.
Darllenwyd paragraff
o’r adroddiad ar Ysgol Dolbadarn, arfarnwyd ar elfen
gynradd yn rhagorol: “ Mae’r
ysgol yn darparu cyfleoedd lluosog i ddisgyblion
leisio’u barn trwy amrywiol fforymau, yn arbennig wrth
gyfrannu syniadau am yr hyn y meant am ei ddysgu. Trwy wneud hyn, mae’r
staff yn annog disgyblion i fod
yn ddysgwyr cydwybodol sy’n cymryd cyfrifoldeb am eu dysgu eu
hunain. Maent yn rhoi
bri ar ddatblygu
dysgwyr sy’n ddinasyddion cyfrifol wrth eu hannog
i ddatblygu eu hymwybyddiaeth o anghenion eraill a chodi arian
at elusennau yn rheolaidd”. Nodir bod elfennau
moesol ac ysbrydegol yn ymddangos yn
gryf yn yr
ysgolion cynradd. Ychwanegodd y Swyddog
Adnoddau Addysg Gynorthwyol a Chlerc CYSAG, ei bod yn diolch
i’r ddau hunan-arfaniad a dderbyniwyd gan Ysgol Edmwnd Prys a Dolbadarn. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
TROSOLWG O'R HUNAN ARFARNIADAU - TYMOR YR HAF 2019 Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Nid yw
adroddiadau'r ysgolion i gyd wedi
eu gorffen, ond gweler tair
ysgol y cafwyd eu harfarnu.
Wrth gyfarch
sylwadau ESTYN, mynegwyd y byddai’r pwyllgor yn rhoi gwahoddiad
estynedig i Bennaeth Ysgol Brynaerau i’r cyfarfod nesaf
er mwyn ymhelaethu
ar y gwaith a gafwyd ei wneud
yno. Codwyd Sylwadau ar: Dair ysgol
yr Eglwys yng Nghymru ers
Nadolig 2018, mae
un ysgol wedi cael arolygiad adran 50 yn barod
a’r ddwy arall yn derbyn
cyn yr Haf 2019. PENDERFYNWYD: Mynegodd y Cadeirydd ei ddiolchiadau am y gwaith trylwyr a gofynnodd i’r Swyddog Adnoddau
Addysg Gynorthwyol a Chlerc CYSAG yrru'r gwahoddiad i Bennaeth
Brynaerau neu Maesincla i ddod
i’r cyfarfod nesaf o CYSAG, gan eu bod wedi derbyn
rhagoriaeth gan ESTYN. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
ADRODDIAD BLYNYDDOL CYSAG 2017-18 DRAFFT I ystyried adroddiad
blynyddol drafft ar gyfer 2017/18 cyn cyhoeddi copi
terfynol. Cofnod: Mynegwyd diolchiadau i
Bethan James, y cyn Swyddog
Proffesiynol cefnogi CYSAG am
ddod â’r adroddiad at ei gilydd, crynhoad o’r pwyllgorau a’r cyflwyniadau a gafwyd y llynedd. Ychwanegwyd mai'r pwysigrwydd yw darllen y cynllun
gweithredu yn y rhaglen ar dudalen
170. Ymhelaethwyd ar rai o bwyntiau ar y Cwricwlwm Newydd i Gymru
2022 cynllun, gan Helen Bebb, (Swyddog Proffesiynol Dros Dro) gan hefyd
dderbyn sylwadau’r Aelodau. ·
Sicrhau bod y Peneithiaid,
Athrawon, Llywodraethwyr ac
Aelodau CYSAG yn wybodus am
ofynion y cwricwlwm. ·
Angen codi'r cwestiwn, oes digon
o hyfforddiant ar gael i’r
athrawon? ·
Llawer o ysgolion wedi colli Peneithiaid
Dyniaethau, felly yn sicr nid yw
pob athro Dyniaethau yn gallu
mynd ar y cyrsiau. Ar hyn o bryd
mae’r newidiadau gan yr Athro
Donaldson ar ran staffio yn digwydd yn
yr ysgolion, mater i edrych mewn
iddo erbyn y pwyllgor nesaf. ·
Ystyried bod dogfen Addysg Grefyddol
yn cael Cefnogaeth CYSAG
Gwynedd, angen cysylltu â
GWE i roi darpariaeth ar hyn? ·
Mae angen Swyddog Proffesiynol ar draws y Gogledd i dderbyn y wybodaeth
gywir er mwyn hybu gwybodaeth
yr Aelodau. PENDERFYNWYD: Derbyn yr adroddiad. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
TYNNU SYLW I FATERION ER GWYBODAETH · Holiadur mynychu sesiwn addoli – Llanllechid. · Cofnodion CYSAGau Cymru 26/03/19. · Ymateb Panel Ymgynghorol Cenedlaethol ar Addysg Grefyddol i Arolwg thematig ESTYN. · Cylchlythyr Dyniaethau – diolch i’r aelodau aeth i’r gweithdai. Dogfennau ychwanegol:
Cofnod: Ni ychwanegwyd unrhyw
sylwadau ar y materion a gyflwynwyd er gwybodaeth. Dechreuodd y cyfarfod am 13:20 a daeth i ben am 14:55 |