Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679878
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU I dderbyn unrhyw
ymddiheuriadau am absenoldeb Cofnod: Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorydd
Elfed P Roberts (Aelod Lleol) Daniel Preston ac Ian
Page (ymatebwyr) |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL I dderbyn unrhyw
ddatganiad o fuddiant personol Cofnod: Dim i’w nodi |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau
sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Cofnod: Dim i’w nodi |
|
CAIS AM DRWYDDED EIDDO CAFFI A BAR
PARC GWYLIAU TRAWSFYNYDD I ystyried y cais Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Cofnod: CAIS AM DRWYDDED
EIDDO – CAFFI A BAR PARC GWYLIAU TRAWSFYNYDD, BRONABER, TRAWSFYNYDD Ymgeisydd Mr David Owen (ar ran Pure
Leisure Group) Ymatebwyr Michael Sawyer, David Meech, Ric Taylor,
Kathryn Hawker, Jamie a Clare Kerrigan,
Jane Dinnell a Rachel Jones Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod.
Amlygodd y Cadeirydd y byddai gan bob parti hawl i hyd at 5 munud i gyflwyno eu sylwadau a)
Adroddiad yr Adran
Trwyddedu Cyflwynwyd adroddiad y Rheolwr Trwyddedu yn manylu ar gais am drwydded
eiddo ar gyfer caffi a bar Parc Gwyliau Trawsfynydd – cynllun llawr agored gyda
deciau i eistedd tu allan. Amlygwyd y byddai defnydd y caffi / bar ar gyfer
defnyddwyr y parc yn unig. Gwnaed y cais mewn perthynas â gwerthu alcohol ar ac
oddi ar yr eiddo; chwarae cerddoriaeth wedi recordio ar yr eiddo a darparu
lluniaeth hwyr y nos. Nodwyd bod gan Swyddogion yr Awdurdod Trwyddedu tystiolaeth ddigonol bod
y cais wedi ei gyflwyno yn unol â gofynion Deddf Trwyddedu 2003 a’r rheoliadau
perthnasol. Cyfeiriwyd at y mesurau yr oedd yr ymgeisydd yn ei argymell i
hyrwyddo’r amcanion trwyddedu ac amlygwyd y byddai’r mesurau hyn yn cael eu
cynnwys ar y drwydded. Tynnwyd sylw at yr
ymatebion a dderbyniwyd yn ystod y cyfnod ymgynghori. Nodwyd bod sawl
gwrthwynebiad wedi ei dderbyn gan berchnogion cabanau yn y Parc oedd yn
berthnasol i’r amcanion trwyddedu o sŵn yn creu niwsans cyhoeddus a
phryderon o gynnydd mewn trosedd ac anrhefn o ganlyniad i or-yfed. Amlygwyd bod
sylwadau Adran Gwarchod y Cyhoedd yn nodi bod y cais yn mynd yn groes i amodau
caniatâd cynllunio NP5/78/519/A a oedd yn gosod
goblygiadau i’r ymgeisydd. Nodwyd nad oedd gan Heddlu Gogledd Cymru dystiolaeth i wrthwynebu’r cais
Argymhellwyd i’r Pwyllgor ganiatáu’r
cais yn unol â gofynion Deddf Drwyddedu 2003.
Wrth ystyried y
cais dilynwyd y drefn ganlynol-: · Rhoi cyfle i
aelodau’r Is-bwyllgor a’r ymgeisydd ofyn cwestiynau i’r Rheolwr Trwyddedu · Gwahodd yr ymgeisydd
i ymhelaethu ar y cais · Rhoi cyfle i’r ymgynghorai gyflwyno eu sylwadau · Gwahodd deilydd y drwydded neu ei gynrychiolydd i ymateb i’r
sylwadau · Rhoi cyfle i
aelodau’r Is-bwyllgor ofyn cwestiynau i ddeilydd y
drwydded. · Rhoi cyfle i
aelodau’r Is-bwyllgor ofyn cwestiynau i’r ymgynghorai Wrth ymhelaethu ar
y cais, nododd yr ymgeisydd: ·
Bod y cais yn cael ei gyflwyno mewn ymateb i amryw
o geisiadau gan ddefnyddwyr cabanau i ddatblygu caffi a bwyty yn dilyn colled
Rhiw Goch ·
Cyflwynwyd cais cynllunio i Awdurdod Parc
Cenedlaethol Eryri ·
Bod camgymeriad wedi ei wneud ar y ffurflen gais am
drwydded a bod bwriad diwygio’r drwydded i gyd-fynd ag amodau’r caniatâd
cynllunio – oriau agor dyddiol o 9:00 – 22:00 ·
Byddai ceisiadau am ddigwyddiadau arbennig yn cael
ei gwneud drwy hysbysiad digwyddiadau dros dro ·
Mai at ddefnydd perchnogion cabanau a’u gwestai
oedd pwrpas y caffi/bwyty ac y byddai
alcohol yn cael ei weini gyda bwyd. ·
Nad oedd bwriad iddo fod yn dafarn lleol · Bod cais am gerddoriaeth wedi ei recordio yn unig (yn bennaf cerddoriaeth gefndirol) o fewn yr adeilad. Petai cais gan ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 4. |