Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679878
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Cofnod: Gweler isod |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Cofnod: Dim i’w nodi |
|
MATERION BRYS Cofnod: Dim i’w nodi |
|
CAIS AM DRWYDDED EIDDO PDF 136 KB CLWB RYGBI Y BALA, MAES GWYNIAD, HEOL TEGID, BALA LL23 7DZ I ystyried
y cais Penderfyniad: PENDERFYNIAD:
Caniatáu Oriau
agor Dydd
Sul: 09:00 - 23:30 Dydd
Llun: 09:00 – 23:30 Dydd
Mawrth: 09:00 – 23:30 Dydd
Mercher: 09:00 – 23:30 Dydd
Iau: 09:00 – 23:30 Dydd
Gwener: 09:00 – 23:30 Dydd
Sadwrn: 09:00 – 23:30 Cyflenwi
Alcohol Ar yr Eiddo Dydd
Sul: 09:00 - 23:00 Dydd
Llun: 09:00 – 23:00 Dydd
Mawrth: 09:00 – 23:00 Dydd
Mercher: 09:00 – 23:00 Dydd
Iau: 09:00 – 23:00 Dydd
Gwener: 09:00 – 23:00 Dydd
Sadwrn: 09:00 – 23:00 Cynnwys
y mesurau ychwanegol a gyflwynwyd yn rhan M o’r cais, fel amodau i’r drwydded. Nodyn: Derbyn cyngor ar fesurau
lliniaru sŵn Cofnod: Eraill
a wahoddwyd: Huw Dylan
(Cadeirydd Clwb Rygbi Y Bala) John Williams
(Is-gadeirydd Clwb Rygbi Y Bala) Harry Guttridge –
Clwb Rygbi Y Bala Mike a Manon Dodd
– preswylwyr lleol Derbyniwyd ymddiheuriadau gan Eluned Jones (preswylydd lleol), Eifion a
Christine Roberts (preswylwyr lleol), Huw Antur (Clerc Cyngor Tref Y Bala),
Elisabeth Williams (Swyddog Trwyddedu Heddlu Gogledd Cymru) a’r Cynghorydd
Dilwyn Morgan (Aelod Lleol) Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. a)
Adroddiad yr Adran
Trwyddedu Cyflwynwyd adroddiad y Rheolwr Trwyddedu yn manylu ar gais am drwydded
eiddo ar gyfer
Clwb Rygbi Y Bala, Maes Gwyniad, Heol Tegid, Y Bala. Bwriad y cais yw cael gwerthu
alcohol yn ystod gemau drwy’r tymor rygbi rhwng Medi a Mai gyda’r mwyafrif o
ddefnydd dros y penwythnos. Nodwyd bod gan
Swyddogion yr Awdurdod Trwyddedu tystiolaeth ddigonol bod y cais wedi ei
gyflwyno yn unol â gofynion Deddf Trwyddedu 2003 a’r rheoliadau perthnasol. Cyfeiriwyd at y mesurau yr oedd yr ymgeisydd yn ei argymell i hyrwyddo’r
amcanion trwyddedu ac amlygwyd y byddai’r mesurau hyn yn cael eu cynnwys ar y
drwydded. Derbyniwyd sylw
gan Heddlu Gogledd Cymru oedd yn adrodd na dderbyniwyd unrhyw ddigwyddiad o
drosedd ac anrhefn yn gysylltiedig â’r Clwb Rygbi yn ystod cyfnodau defnyddio
rhybuddion digwyddiadau dros dro, ac felly nid oedd gwrthwynebiad ganddynt.
Ategwyd bod Cyngor Tref y Bala yn gefnogol i’r cais, ond yn argymell i’r oriau
gael eu cyfyngu I 13:00 - 21:00. Adroddwyd bod
sylwadau ychwanegol oedd yn gefnogol i’r cais wedi eu derbyn a hynny tu allan
i’r cyfnod ymgynghori. Nodwyd y byddai angen Cyngor cyfreithiol os dylid
ystyried y llythyrau ai peidio. Roedd y Swyddog yn
argymell bod yr Is-bwyllgor yn ystyried sylwadau / pryderon yr ymatebwyr a
dderbyniwyd ynghyd ag ymateb yr ymgeisydd i’r sylwadau / pryderon hynny.
Amlygwyd na dderbyniwyd cwynion gan yr Awdurdod Trwyddedu nac Uned Gwarchod y
Cyhoedd yn dilyn sawl digwyddiad a ganiatawyd drwy ddefnydd Hysbysiad
Digwyddiadau Dros Dro. O ganlyniad roedd y Swyddog yn argymell caniatáu’r cais
gydag amodau. b)
Wrth ystyried y cais dilynwyd y drefn ganlynol-: · Cyfle i Aelodau’r
Is-bwyllgor ofyn cwestiynau i gynrychiolydd y Cyngor. · Ar ddisgresiwn y
Cadeirydd, yr ymgeisydd neu ei gynrychiolydd i ofyn cwestiynau i gynrychiolydd
y Cyngor. · Rhoi cyfle i’r
ymgeisydd a/neu ei gynrychiolydd ymhelaethu ar y cais a galw tystion · Rhoi cyfle i
Aelodau’r Is-bwyllgor ofyn cwestiynau i’r ymgeisydd a/neu ei gynrychiolydd · Ar ddisgresiwn y
Cadeirydd gall cynrychiolydd y Cyngor ofyn cwestiynau i’r ymgeisydd neu ei
gynrychiolydd · Rhoi gwahoddiad i
bob Ymgynghorai gefnogi unrhyw sylwadau ysgrifenedig · Rhoi cyfle i
gynrychiolydd y Cyngor a’r ymgeisydd neu ei gynrychiolydd grynhoi eu hachos. c)
Wrth ymhelaethu ar y cais, nododd Cadeirydd y Clwb
Rygbi y sylwadau canlynol; · Bod rygbi yn ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 4. |