Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679878
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Cofnod: Dim i’w nodi |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol Cofnod: Dim i’w nodi |
|
MATERION BRYS Cofnod: Dim i’w nodi |
|
CAU ALLAN Y WASG A'R CYHOEDD Cofnod: PENDERFYNWYD cau’r wasg a’r cyhoedd allan o’r
cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitemau canlynol
gan ei fod yn debygol y datgelir
gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym mharagraffau 12 ac 13, Rhan 4, Atodiad 12 A, Deddf Llywodraeth Leol 1972. Mae’r paragraffau yma yn berthnasol oherwydd
bod gan yr unigolion dan sylw'r hawl i breifatrwydd
ac nad oes
unrhyw fudd cyhoeddus sy’n gofyn am ddatgelu
gwybodaeth bersonol am yr unigolion nac yn gofyn
am eu hadnabod. O ganlyniad mae’r budd cyhoeddus
o gadw’r wybodaeth yn eithriedig yn
gorbwyso’r budd
cyhoeddus o’i datgelu. |
|
CAIS AM DRWYDDED HACNI/HURIO PREIFAT Penderfyniad: Cofnod: Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Amlygodd
y byddai'r penderfyniad yn cael ei
wneud yn unol â pholisi trwyddedu Cyngor Gwynedd. Nodwyd
mai pwrpas y polisi oedd gosod canllawiau
ar y meini prawf wrth ystyried
cais yr ymgeisydd gyda’r nod o ddiogelu’r
cyhoedd drwy sicrhau: • Bod
yr unigolyn yn unigolyn addas a phriodol • Nad yw'r unigolyn yn
fygythiad i'r cyhoedd • Bod
y cyhoedd wedi'u diogelu rhag pobl
anonest • Bod
plant a phobl ifanc wedi'u diogelu • Bod pobl ddiamddiffyn wedi'u diogelu • Bod
y cyhoedd yn gallu bod yn
hyderus wrth ddefnyddio cerbydau trwyddedig Cyflwynodd y Swyddog Trwyddedu adroddiad
ysgrifenedig ar gais a dderbyniwyd gan Mr A am drwydded gyrru cerbyd hacni/hurio
preifat. Gofynnwyd i’r Is-bwyllgor ystyried y cais yn unol â’r
cofnod DBS, y canllawiau ar droseddau a chollfarnau perthnasol, adroddiad yr Asiantaeth Trwyddedu
Gyrwyr a Cherbydau (DVLA) Roedd yr Awdurdod Trwyddedu yn
argymell i’r Is-bwyllgor ganiatáu y cais. Gwahoddwyd yr ymgeisydd i ymhelaethu
ar y cais gan roi gwybodaeth am gefndir
y pwyntiau cosb ar ei drwydded
a’i amgylchiadau personol. PENDERFYNWYD bod yr ymgeisydd
yn berson addas a phriodol ar gyfer trwydded
gyrrwr cerbyd hacni/hurio preifat
gyda Chyngor Gwynedd. Wrth gyrraedd eu penderfyniad,
roedd yr Is-bwyllgor wedi ystyried y canlynol: ·
Gofynion ‘Polisi Trwyddedu ar gyfer Hurio Preifat
a Cherbydau Hacni Cyngor
Gwynedd’ ·
ffurflen gais yr ymgeisydd ·
adroddiad yr Adran Drwyddedu ynghyd a’r datganiad
DBS ac adroddiad Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau ·
sylwadau ar lafar gan yr ymgeisydd Rhoddwyd ystyriaeth benodol i’r materion canlynol Cefndir Yn Medi 2022 derbyniodd yr ymgeisydd
6 pwynt cosb arnodedig ar ei
drwydded am Dorri Gofynion (Breach of Requirements) rheoli cerbyd, ffôn symudol ac
ati. CYMALAU PERTHNASOL Y POLISI Mae rhan
12 o’r Polisi yn ymwneud â chollfarnau moduro gyda pharagraff 12.3 yn nodi y bydd cais yn cael
ei wrthod os oes collfarn
yn erbyn yr ymgeisydd ac nad yw wedi bod yn
rhydd rhag collfarn am 6 mis o leiaf. Mae paragraff 13.3 yn nodi y “Gallai mwy nag un gollfarn am fân drosedd traffig
neu fater arall i'w ystyried arwain
at wrthod cais, yn enwedig os
oes sawl collfarn neu faterion eraill i’w hystyried
ar gyfer yr un drosedd, e.e. goryrru.
Mae’n bosibl y caiff gyrrwr trwyddedig
ei gyfeirio at sylw'r Pwyllgor Trwyddedu os oes mwy
na dwy drosedd
ac/neu gyfanswm o 6 phwynt ar ei drwydded” CASGLIADAU Ystyriodd yr Is-bwyllgor esboniad yr ymgeisydd o’r amgylchiadau a arweiniodd at y gollfarn ynghyd ag argymhelliad y swyddogion o ganiatáu y cais. Er mai codi ffôn
oedd wedi disgyn a wnaeth yr ymgeisydd, amlygwyd bod defnyddio / gafael mewn ffôn wrth
yrru yn fater
difrifol a bellach yn anghyfreithlon. Serch hynny, derbyniwyd
esboniad yr ymgeisydd o amgylchiadau penodol y digwyddiad yma. Roedd yr Is-bwyllgor yn falch o nodi bod yr ymgeisydd yn derbyn cyfrifoldeb am y ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5. |