Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol - Zoom
Cyswllt: Eirian Roberts 01286 679018
Rhif | eitem |
---|---|
ETHOL CADEIRYDD Ethol Cadeirydd
ar gyfer 2021/22. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: PENDERFYNWYD ethol
y Cynghorydd Beth Lawton yn
gadeirydd y pwyllgor hwn am 2021/22. |
|
ETHOL IS-GADEIRYDD Ethol Is-gadeirydd
ar gyfer 2021/22. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Ethol y
Cynghorydd Cai Larsen yn Is-gadeirydd y pwyllgor hwn am 2021/22. Cofnod: PENDERFYNWYD ethol
y Cynghorydd Cai Larsen yn is-gadeirydd y pwyllgor hwn am 2021/22. |
|
YMDDIHEURIADAU Derbyn unrhyw
ymddiheuriadau am absenoldeb. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorwyr Rheinallt Puw a Dewi Roberts. |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Derbyn unrhyw
ddatganiadau o fuddiant personol. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Ni dderbyniwyd unrhyw
ddatganiadau o fuddiant personol. |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw
eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Dim i’w nodi. |
|
Bydd y Cadeirydd
yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn a
gynhaliwyd ar 15 Ebrill, 2021 fel rhai cywir. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor
hwn a gynhaliwyd ar 15 Ebrill, 2021 fel rhai cywir.
|
|
Aelod Cabinet – Y Cynghorydd Cemlyn Williams Ystyried
adroddiad ar yr uchod. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Derbyn yr
adroddiad a gofyn i’r Adran a’r Aelod Cabinet Addysg gymryd sylw o sylwadau’r
pwyllgor, a bod y pwyllgor craffu yn derbyn adroddiad pellach ar hyn pan fydd
mwy o fanylder ar gael. Cofnod: Croesawyd yr Aelod Cabinet Addysg, ynghyd â
swyddogion yr Adran Addysg i’r cyfarfod. Cyflwynwyd - adroddiad yr Aelod Cabinet
Addysg yn gwahodd y craffwyr i gyflwyno sylwadau ar y weledigaeth arfaethedig
ar gyfer cyfundrefn addysg drochi tuag at 2032 a thu
hwnt. Gosododd yr Aelod Cabinet y cyd-destun, gan
nodi mai bwriad y weledigaeth newydd oedd adeiladu ar y gwaith da a gyflawnwyd
gan y canolfannau iaith dros y degawdau diwethaf, cydnabod gwaith caled y
staff, a chyfoesi a moderneiddio’r ddarpariaeth. Nododd y Pennaeth Addysg:- ·
Y
credai fod hon yn weledigaeth gyffrous, oedd yn gosod seiliau i wasanaeth sydd
wedi’i glodfori i fod yn gwneud rhagor o waith da, gan gyfoesi’r gwasanaeth i
fod yn rhan o gyfundrefn yr unfed ganrif ar hugain ar gyfer ysgolion. ·
Bod
yr Adran a staff y canolfannau iaith yn awyddus i beidio colli gafael ar y
gwersi a ddysgwyd yn sgil ail-bwrpasu’r gwasanaeth a chyrraedd mwy o blant mewn
ffordd wahanol yn ystod cyfnod y pandemig, ac y dymunid adeiladu ymhellach ar y
cryfderau a’r dulliau gweithredu hynny. ·
Bod
yr aelodau eisoes wedi derbyn copi o lythyr Estyn at y Prif Weithredwr oedd yn
amlygu gwaith yr Awdurdod yn cefnogi ysgolion a phlant yn ystod cyfnod y
pandemig, ac yn rhoi canmoliaeth arbennig i waith y canolfannau iaith wrth
iddynt fynd ati i ail-bwrpasu’r gwasanaeth. Rhoddwyd cyfle i’r aelodau ofyn cwestiynau a
chyflwyno sylwadau. Yn ystod y
drafodaeth, cyflwynwyd y sylwadau a ganlyn:- ·
Rhoddwyd
cydnabyddiaeth i lwyddiant y canolfannau iaith dros y blynyddoedd i sicrhau bod
dysgwyr yn caffael y Gymraeg. ·
Cytunwyd
gyda’r bwriad i gryfhau’r atebolrwydd fel rhan o’r weledigaeth newydd. ·
Cefnogwyd
y bwriad i arfogi gweithlu’r ysgolion i gefnogi’r dysgwyr i wneud cynnydd
pellach i feithrin hyder a chaffael y Gymraeg. ·
Cefnogwyd
y bwriad i sefydlu darpariaeth addysg drochi ym Mangor. ·
Gofynnwyd
i’r Adran Addysg gyflwyno rhagor o fanylder am y gyfundrefn addysg drochi pan
fydd ar gael. ·
Cafwyd amrywiaeth barn ar ffynhonnell gyllido’r
gyfundrefn addysg drochi, gyda rhai aelodau yn gefnogol i’r bwriad y byddai
ysgolion yn cyfrannu gan gynyddu atebolrwydd a chydberchnogaeth o’r gyfundrefn
rhwng yr Adran Addysg a’r ysgolion, ond mynegwyd hefyd ddymuniad i’r Cyngor yn
gorfforaethol fod yn ariannu’r bwlch cyllidol yn sgil y ffaith fod y Gymraeg yn
un o brif flaenoriaethau’r Cyngor. Mewn ymateb i’r sylwadau, ac i gwestiynau
gan aelodau, nodwyd:- ·
O
safbwynt mewnbwn a chyfraniad yr ysgolion i’r weledigaeth a’r gwasanaeth ar ei
newydd wedd, y bwriedid ymgysylltu’n anffurfiol â phenaethiaid yr ysgolion ar y
weledigaeth newydd. Hefyd, petai’r
gyfundrefn newydd yn dod i rym, roedd yn debygol y byddai bwrdd rheoli yn cael
ei sefydlu ar gyfer y gyfundrefn newydd, fyddai’n cynnwys cynrychiolaeth o
blith y gyfundrefn ysgolion. Golygai
hynny y gallai’r ysgolion gyfrannu a chyd-berchnogi a siapio’r ddarpariaeth, er
mwyn sicrhau bod y gyfundrefn yn ymateb i anghenion yr ysgolion, ac yn cyfoesi
ar yr un pryd â datblygiadau addysgol sy’n digwydd ar lawr dosbarth. · O safbwynt addysg gydol oes, a’r cyfleoedd allai godi o ran cynnig gwasanaethau i’r gymuned, bod bwriad ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7. |
|
GRANTIAU COVID I FYD ADDYSG I GYNORTHWYO DISGYBLION Aelod Cabinet – Y Cynghorydd Cemlyn Williams Ystyried
adroddiad ar yr uchod. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Derbyn yr adroddiad gan
nodi’r sylwadau a godwyd, gan hefyd obeithio cael diweddariad ar hyn ymhellach
ymlaen yn y flwyddyn. Cofnod: Croesawyd swyddogion yr Adran Addysg
a GwE i’r cyfarfod. Cyflwynwyd – adroddiad yr Aelod Cabinet Addysg yn manylu
ar y Grant Rhaglen Dysgu Carlam a dderbyniwyd gan ysgolion i gynorthwyo
disgyblion yn sgil Covid. Manylodd yr Uwch Reolwr Ysgolion
ar gefndir ac amodau’r grant, gan nodi bod cyfanswm yr arian
a neilltuwyd i ysgolion Gwynedd tua
£2,220,440. Cyfeiriodd Arweinydd Craidd – Cynradd, GwE at y Dangosfwrdd Cynllunio Grantiau Rhanbarthol a luniwyd gan GwE er
mwyn cefnogi ysgolion i gynllunio’n
effeithiol ar gyfer gwario’r grantiau, gan hefyd
roi trosolwg o’r cynlluniau ysgolion cynradd. Yna rhoddodd Arweinydd Craidd – Uwchradd, GwE drosolwg o’r
cynlluniau ysgolion uwchradd. Rhoddwyd cyfle i’r aelodau ofyn
cwestiynau a chyflwyno sylwadau. Awgrymwyd, unwaith y bydd yr ysgolion
wedi cael cyfle i ddefnyddio’r
grant yn llawn, y byddai’n fuddiol derbyn crynodeb o farn penaethiaid, athrawon a disgyblion sydd wedi elwa
o’r gefnogaeth ychwanegol, fel bod modd mesur effaith
y grant. Awgrymwyd
hefyd y byddai’n fuddiol cael crynodeb
o’r arferion da a danlinellwyd gan Arweinyddion Craidd – GwE. Mewn ymateb, eglurwyd bod disgwyl i’r penaethiaid gyflwyno gwybodaeth i’r Adran Addysg
a GwE yn nhymor yr hydref
am effaith y grantiau, a gellid dod
â hynny gerbron y craffwyr ar yr
adeg hynny. Nodwyd hefyd bod Llywodraeth Cymru yn awyddus
i gael
enghreifftiau o’r arferion da y cyfeiriwyd atynt fel bod modd
eu rhannu’n genedlaethol. I gloi, pwysleisiodd yr Aelod Cabinet Addysg bwysigrwydd sicrhau cysondeb o ran y ddarpariaeth ar draws y sir. Mynegodd ei werthfawrogiad
o’r gwaith a gyflawnwyd, ond cytunodd nad
oedd GwE na’r Adran mewn
sefyllfa i roi diweddariad llawn ar hyn
o bryd. Nododd ymhellach ei fod yn
ymwybodol o’r gweithgareddau sydd wedi mynd ymlaen,
a bod rhannu arferion da yn elfen bwysig
iawn o hyn. PENDERFYNWYD
derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a godwyd, gan hefyd obeithio cael
diweddariad ar hyn ymhellach ymlaen yn y flwyddyn. |
|
RHAGLEN WAITH DDRAFFT CRAFFU 2021/22 Cyflwyno rhaglen
waith ddrafft craffu 2021/22 i’w mabwysiadu. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Mabwysiadu
rhaglen waith craffu 2021/22. Cofnod: Cyflwynwyd rhaglen waith
ddrafft craffu 2021/22 i’w mabwysiadu. Nodwyd bod un eitem wedi
llithro o’r cyfarfod hwn. PENDERFYNWYD mabwysiadu rhaglen waith craffu 2021/22. |